Cymhwyso arfer
Cymhwyso Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i’ch Ymarfer Addysgu
UDL mewn addysg uwch:
Mae trawsgrifiad o’r fideo hwn a gwybodaeth fanylach am UDL mewn Addysg Uwch ar gael ar wefan UDL on Campus. Disgwylir diweddariadau sy’n adlewyrchu Canllawiau UDL 3.0 2024 yn fuan.
Cymhwyso UDL i’ch Ymarfer Addysgu

Felly, sut y gallwch wneud UDL yn rhan o’ch ymarfer? Cliciwch ar y penawdau ar gyfer awgrymiadau, sydd wedi’u haddasu o fersiwn 2022 i adlewyrchu Canllawiau UDL 3.0 2024.
Dulliau Lluosog o Gynrychioli
Mae dysgwyr yn wahanol o ran sut maent yn canfod ac yn deall gwybodaeth. Rhaid i ni ystyried sut mae pobl yn cael gwybodaeth, a sut mae pobl, diwylliannau, hunaniaethau a safbwyntiau unigol a chyfunol yn cael eu cynrychioli yn y cynnwys. Mae dysgu, a throsglwyddo dysgu, yn digwydd pan fydd nifer o safbwyntiau a dulliau o gynrychioli’n cael eu defnyddio. Nid oes un dull o gynrychioli a fydd yn gweithio i bob dysgwr; mae rhoi opsiynau ar gyfer sicrhau cynrychiolaeth yn hanfodol.
Cwestiynau Allweddol
Meddyliwch sut mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i ddysgwyr. Opsiynau cynllunio sydd:
- Yn galluogi mynediad at wybodaeth gan ddefnyddio opsiynau a ffefrir ar gyfer canfyddiad, boed destun, sain neu fideo, ac sy’n cael ei chyfleu drwy wahanol fathau o gyfryngau
- Yn cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau a hunaniaethau mewn ffyrdd dilys ac yn datblygu sawl ffordd o wybod a deall
- Yn meithrin dealltwriaeth a pharch ar draws ieithoedd a thafodieithoedd ac yn mynd i'r afael â rhagfarnau wrth ddefnyddio iaith a symbolau
- Yn rhoi opsiynau ar gyfer iaith a symbolau, yn egluro geirfa, symbolau a strwythurau iaith ac yn cefnogi dadgodio testun, nodiant mathemategol a symbolau
- Yn cysylltu gwybodaeth flaenorol â dysgu newydd ac yn amlygu ac yn ymchwilio i batrymau, nodweddion hanfodol, syniadau mawr a chysylltiadau
- Yn gwneud y mwyaf o drosglwyddo a chyffredinoli
Myfyrio: A ydych yn cynllunio ar gyfer:
- Fersiynau testun o sain, drwy drefnu bod capsiynau neu drawsgrifiadau ar gael, ac i'r gwrthwyneb, fersiynau sain o destun, drwy fideo neu bodlediad? Opsiynau neu amrywiaeth mewn adnoddau megis testun, fideo, a sain?
- Amrywiaeth yn y gynrychiolaeth ar ffurf testun, delwedd a sain o safbwyntiau a hunaniaeth, gan gydnabod safbwyntiau byd-eang?
- Eglurder ac esboniad yn y defnydd o iaith a symbolau, gan fynd i'r afael â rhagfarn?
- Amlinelliadau, mapiau neu fodelau sy'n dangos y berthynas rhwng dysgu blaenorol a dysgu newydd, patrymau dangos, nodweddion neu syniadau mawr?
Dulliau Lluosog o Ymgysylltu
Mae dysgwyr yn amrywio’n sylweddol o ran yr hyn sy'n tanio eu cymhelliant a'u brwdfrydedd dros ddysgu, a sut maent yn gallu cymryd rhan y broses ddysgu. Rhaid i ddysgwyr hefyd allu dod â phwy ydynt go iawn i'r amgylchedd dysgu a nodi cysylltiadau â'r hyn sydd bwysicaf yn eu bywydau. Gall diddordebau dysgwyr a’r hyn sy’n eu cymell amrywio, gan ddibynnu ar y cyd-destun a’u hymdeimlad o’r hunan, dilysrwydd, diogelwch a pherthyn. Nid oes un dull o ymgysylltu a fydd yn gweithio i bob dysgwr ym mhob cyd-destun; mae rhoi sawl opsiwn ar gyfer ymgysylltu’n hanfodol.
Cwestiynau Allweddol
Meddyliwch am sut y bydd dysgwyr yn cymryd rhan yn y broses ddysgu. Opsiynau cynllunio sydd:
- Yn croesawu diddordebau a hunaniaethau, drwy gynnig dewis mewn dulliau ymgysylltu a dewis o bynciau neu astudiaethau achos, gan wneud ymreolaeth yn bosibl a chynnal perthnasedd, gwerth a dilysrwydd
- Yn meithrin llawenydd a chwarae wrth ddysgu ac yn mynd i'r afael â rhagfarnau, bygythiadau a phethau sy’n tynnu sylw, er mwyn gwella diogelwch a’r ymdeimlad o berthyn
- Yn cynnal ymdrech a dyfalbarhad drwy egluro ystyr a diben nodau, gwneud y gorau o heriau a chefnogaeth, a chynnig adborth sy'n canolbwyntio ar weithredu
- Yn meithrin cydweithredu, cyd-ddibyniaeth a dysgu ar y cyd, drwy ymdeimlad o berthyn a chymuned, a myfyrdod unigol ac ar y cyd
- Yn datblygu gallu emosiynol drwy gydnabod disgwyliadau, credoau a chymhellion, datblygu ymwybyddiaeth o'r hunan ac eraill a meithrin empathi ac arferion adferol
Myfyrio: A ydych yn cynllunio ar gyfer:
- Opsiynau ar gyfer pynciau, meysydd astudio neu bynciau modiwlau?
- Eglurder ynghylch dilysrwydd a pherthnasedd pynciau neu feysydd astudio?
- Opsiynau ar gyfer ymgysylltu, megis rhai cydamserol (yn fyw wyneb yn wyneb neu ar-lein) ac anghydamserol (wedi’u cwblhau’n annibynnol)? I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Fframwaith Dysgu Cyfunol Prifysgol Caerdydd.
- Amrywiaeth, hyblygrwydd ac opsiynau ar gyfer dysgu a myfyrio unigol ac ar y cyd?
- Cymorth i ddatblygu myfyrwyr drwy feithrin ymwybyddiaeth a pharch at amrywiaeth, gan gynnwys amrywiaeth mewn profiadau, credoau a chymhellion?
Dull Gweithredu a Mynegiant Lluosog
Mae dysgwyr yn wahanol o ran sut maent yn llywio amgylchedd dysgu, yn mynd ati i ddysgu, ac yn mynegi'r hyn y maent yn ei wybod. Felly, mae'n hanfodol cynllunio ar gyfer y gwahanol fathau hyn o weithredu a mynegi. Er enghraifft, mae pob unigolyn yn ymgymryd â thasgau dysgu mewn ffordd wahanol iawn, ac efallai y byddai'n well ganddynt fynegi eu hunain yn ysgrifenedig yn hytrach nag ar lafar, ac i'r gwrthwyneb. Efallai na fydd bob amser yn ymarferol cynnwys opsiynau neu ddewisiadau lluosog ar gyfer pob gweithgaredd neu asesiad os bydd angen cyrraedd safon cymhwysedd, ond dylai fod dull asesu amrywiol cyn belled ag y bo modd. Dylid cydnabod hefyd bod gweithredu a mynegi’n gofyn bod yn strategol ac yn drefnus iawn ac ymarfer cryn dipyn, a dyma faes arall lle bydd dysgwyr yn wahanol. Mewn gwirionedd, nid oes un ffordd o weithredu a mynegi a fydd yn gweithio i bob dysgwr; mae opsiynau ar gyfer gweithredu a mynegi’n hanfodol.
Meddyliwch sut mae disgwyl i ddysgwyr weithredu a mynegi eu hunain. Opsiynau cynllunio sydd:
- Yn galluogi amrywiaeth mewn rhyngweithio, ymateb, llywio a symud ac yn galluogi opsiynau rhyngweithio gan ddefnyddio deunyddiau hygyrch a thechnolegau ac offer cynorthwyol a hygyrch
- Yn cynnig opsiynau a hyblygrwydd i fyfyrwyr ar gyfer mynegi a chyfleu eu dysgu, drwy gyfryngau ac offer lluosog ar gyfer dehongli, cyfansoddi a bod yn greadigol, gan herio arferion sy’n allgáu
- Yn meithrin rhuglder gyda chymorth cynyddol ar gyfer ymarfer a pherfformiad, gan fynd i'r afael â rhagfarnau sy'n gysylltiedig â dulliau o fynegi a chyfathrebu
- Yn helpu myfyrwyr i ddatblygu strategaeth a gosod nodau ystyrlon, gan alluogi myfyrwyr i ragweld a chynllunio ar gyfer heriau a threfnu gwybodaeth ac adnoddau
Myfyrio: A ydych yn cynllunio ar gyfer:
- Dewis neu hyblygrwydd wrth ymateb, rhyngweithio, cyflawni gweithgareddau a chydweithio o fewn sesiynau?
- Amrywiaeth o adnoddau, offer a thechnolegau hygyrch ar gyfer mynegi dysgu
- Dewis neu hyblygrwydd yn y modd y gall myfyrwyr ddangos eu gwybodaeth neu sgiliau, megis yn ysgrifenedig, ar lafar neu’n amlgyfrwng?
- Cymorth dros dro i fyfyrwyr arddangos sgiliau hanfodol mewn modd penodol, er enghraifft ymarferion, tasgau ffurfiannol a meini prawf clir ar gyfer sgiliau yn ogystal â chynnwys?
- Cymorth i osod nodau, cynllunio’n strategol, rheoli amser a rheoli gwybodaeth, megis mapiau modiwlau ac asesiadau, cynlluniau sesiwn a chrynodebau o adnoddau gwybodaeth?
Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu – Pam Nawr?
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, bu newidiadau dramatig yn natur addysg uwch. Nid yn unig bod cyfraddau cyfranogiad yn uwch nag erioed, gan ddod â llawer mwy o amrywiaeth yn y boblogaeth myfyrwyr, ond bod y ffactorau hyn a ffactorau eraill wedi newid prif genhadaeth addysg uwch a dulliau darparu.
Yn y 1990au, y gyfradd cyfranogiad mewn addysg uwch oedd 15%. Erbyn hyn, mae’n agos at 50%, yn y DU ac yn fyd-eang (Biggs a Tang, 2011: 4). Yn ogystal, mae polisi a darpariaeth addysgol wedi mynd i’r afael ag anghydraddoldebau trwy gymorth anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd, ac agendâu ehangu cyfranogiad yn y sector addysg uwch (Thomas a May, 2010). Mae natur gyfnewidiol cyflogaeth yn golygu bod llawer mwy o bobl yn edrych i ailhyfforddi neu astudio yn ddiweddarach mewn bywyd, a bu symudiad byd-eang sylweddol mewn addysg, gan arwain at niferoedd cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae sefydliadau addysg uwch felly’n wynebu poblogaethau amrywiol o fyfyrwyr yn gynyddol, gyda dysgwyr o wahanol gefndiroedd sydd â phrofiad addysgol amrywiol ac amrywiaeth academaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac ymarferol (Jørgensen a Brogaard 2021).
Mae addysgu niferoedd sylweddol uwch o fyfyrwyr mwyfwy amrywiol yn gofyn am ddulliau newydd o gynllunio, cyflwyno ac asesu dysgu ac addysgu, sy’n galluogi athrawon i fodloni anghenion pob myfyriwr a sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i wireddu ei botensial, ond gyda pharamedrau realistig mewn perthynas â llwyth gwaith ac adnoddau. Unwaith y byddant yn rhan o gynllunio ac ymarfer, gall addysg gynhwysol a Chynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu gefnogi’r nodau hyn.
Egwyddorion ac Ymchwil UDL
Mae egwyddorion UDL yn seiliedig ar y model dysgu tri rhwydwaith sy’n ystyried y ffaith bod pob dysgwr yn amrywio – gan gynnwys dysgwyr a oedd gynt wedi’u diraddio i ‘ymylon’ ein systemau addysgol ond sydd bellach yn cael eu cydnabod yn rhan o’r sbectrwm amrywiad rhagweladwy. Mae’r egwyddorion hyn yn llywio cynllun amgylcheddau dysgu gyda dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dwfn o amrywioldeb unigol (Meyer et al. 2014).
Mae Canllawiau UDL (2024), y mae eu sylfaen yn cynnwys dros 800 o erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid, yn darparu meincnodau sy’n arwain addysgwyr wrth ddatblygu a gweithredu cwricwlwm UDL. Mae’r canllawiau hyn yn arf i feirniadu a lleihau rhwystrau sy’n gynhenid yn y cwricwlwm wrth i addysgwyr anelu at gynyddu cyfleoedd i ddysgu (UDL on Campus, 2022).
Mae’r fideo hwn yn esbonio hanes ac egwyddorion Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu:
Yn yr un modd â phob model addysgol, bu rhai beirniadaethau ar Ganllawiau UDL, a llawer o drafod ynghylch dulliau gweithredu, mewn perthynas â’r angen am newid cynhwysfawr neu gynyddol mewn prifysgolion, a hyfywedd y canllawiau ar gyfer grwpiau amrywiol o fyfyrwyr y tu hwnt i anabledd. Am drafodaeth fanwl ac ymchwil ar y materion hyn a materion eraill, darllenwch Bracken a Novak (2019).
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o Ganllawiau UDL, sef fersiwn 3.0, wedi datblygu’r ffocws i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n deillio o ragfarnau a systemau sy’n allgáu. Er bod y Canllawiau wedi dod yn offeryn gwerthfawr i helpu ymarferwyr i gynllunio ar gyfer amrywiadau ymhlith dysgwyr, mae’r fersiwn wedi’i diweddaru’n cydnabod bod bylchau a rhagfarnau’n bodoli. Galwodd ymarferwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd am fersiwn wedi’i diweddaru er mwyn gwneud cysylltiadau cryfach â hunaniaeth yng nghyd-destun amrywiaeth ac i fynd i’r afael â rhagfarn systemig.
Beth allwch CHI ei wneud i ddatblygu Dylunio Cyffredinol?
Lefel Sesiwn: Myfyriwch ar eich addysgu gan ddefnyddio Canllawiau UDL
Ewch i ganllawiau manwl yr UDL trwy glicio ar y ddolen hon, a nodwch ddwy agwedd ar eich addysgu neu drefniadaeth addysgu y byddech yn eu hail-ddylunio i sicrhau eich bod yn defnyddio dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu ar gyfer pob un o'r tri maes ymgysylltu, cynrychiolaeth, a gweithredu a mynegiant. Efallai yr hoffech glicio ar bob pwynt bwled i gael syniadau a allai atseinio i'ch addysgu.
Ffocws ar Asesu: A ydych yn cynnig dewis neu amrywiaeth o ran sut mae myfyrwyr yn rhoi adborth ar dasgau neu weithgareddau ffurfiannol, er enghraifft ar lafar neu drwy destun? A ydych yn cynnig hyblygrwydd o ran rolau mewn gweithgareddau grŵp bach, er enghraifft fel bod myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldebau ymchwil neu gyflwyno? A ydych yn darparu ar gyfer cwblhau tasgau yn anghydamserol, trwy daflenni gwaith neu weithgareddau Mentimeter neu Padlet?
Lefel Modiwl: Myfyrio ar drefniadaeth eich modiwl
- Defnyddiwch fap modiwl i nodi gweithgareddau'r myfyrwyr ar gyfer eich modiwl. A yw'r gweithgareddau'n rhoi bri ar ddulliau penodol, megis lleferydd, testun, neu ryngweithio cymdeithasol, dros eraill? Myfyriwch p’un a allwch chi ddylunio ar gyfer dulliau lluosog trwy amrywiaeth mewn gweithgareddau. A allent wylio fideo yn lle darllen? A allent weithio'n unigol ar gyfer rhai gweithgareddau?
- Ffocws ar Asesu: A allwch chi gynnig dewis yn y dull asesu (er enghraifft aseiniad ysgrifenedig neu gyflwyniad)? Neu a allech chi gynnig dewis o ran pwnc? A ydych chi'n sgaffaldio'r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithgareddau seminar neu weithdy, yn ogystal â'r cynnwys? A ydych yn egluro gofynion yr asesiad a'r meini prawf marcio? Allech chi gynllunio ar gyfer mwy o amrywiaeth y flwyddyn nesaf?
Lefel Rhaglen: Myfyrio ar brofiad myfyrwyr eich rhaglen o safbwynt amrywiaeth
- Mapiwch eich rhaglen ar draws y tair blynedd (gyda mapiau wythnosol o fewnbwn ac asesiadau modiwl, gan gynnwys gweithgareddau'r myfyrwyr sydd eu hangen), ac yna ystyriwch brofiad y rhaglen gan ddefnyddio personas myfyrwyr (Saesneg). Pa rwystrau rhag dysgu neu heriau sefydliadol y bydd grwpiau penodol o ddysgwyr yn eu profi?
- Nodwch y cyfleoedd a ddarperir gan bob modiwl ar gyfer hyblygrwydd a dewis wrth ymwneud â deunyddiau a gweithgareddau, cynrychioli dysgu, a gweithredu a mynegiant, a gweithio gydag arweinwyr eich modiwl i gydlynu darpariaeth.
- Ffocws ar Asesu: ystyriwch ddewis, hyblygrwydd, amrywiaeth a chefnogaeth asesu, o safbwynt profiad myfyrwyr. Mapiwch y dulliau asesu ar draws y rhaglen, yn erbyn yr wythnosau astudio, ac ystyriwch p’un a yw'r dull asesu yn rhoi grwpiau penodol o fyfyrwyr dan anfantais. Er enghraifft, a oes pwysoliad i waith ysgrifenedig? Hefyd, ystyriwch amseru a chlystyru asesiadau.
Archwilio’n Ddyfnach
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol