Skip to main content

Cyflwyno

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.

Cefnogi pob myfyriwr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu 

‘Dyluniad dysgu cynhwysol yw dyluniad sy’n ystyried yr ystod lawn o amrywiaeth ddynol gyda’i ryngdoriad cymhleth.  Mae’n dylunio amgylcheddau dysgu, profiadau, gweithgareddau, tasgau, asesu ac adborth gyda llais a dewis myfyrwyr wrth ei wraidd, fel y gall myfyrwyr dyfu’n academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.’ (Rossi, 2023) 

Mae gan Fodel Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd gyfres o dargedau allweddol ar gyfer gwella cyflwyno sy’n defnyddio ymchwil ac argymhellion y sector. Gallech ddefnyddio hyn fel sail ar gyfer myfyrio a chynlluniau ar gyfer gwelliannau. 

Targedau’r model gwella ar gyfer cyflenwi:  

  • Ar draws y rhaglen, ceir cyfleoedd ar gyfer sawl dull o ymgysylltu, boed wyneb yn wyneb, ar-lein neu’n anghydamserol. 
  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol, ac yn adeiladu ar alluoedd, diddordebau, profiadau a dyheadau addysgol myfyrwyr.    
  • Cyflwynir gwybodaeth, adnoddau a deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau a chyfeirir atynt yn rheolaidd ar draws y rhaglen. Mae llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael eglurhad neu adborth mewn sawl ffordd. 
  • Mae ymweliadau a lleoliadau yn ystyried anghenion pob myfyriwr ac yn adlewyrchu amrywiaeth y garfan myfyrwyr. 
  • Mae pob amgylchedd dysgu rhithwir yn gwbl hygyrch, yn rhagweithiol, ac yn hyblyg i ddiwallu holl anghenion myfyrwyr. Mae’r amgylchedd ffisegol yn gwbl hygyrch a rhoddir ystyriaeth i hygyrchedd dulliau cyflwyno’r cwricwlwm. Mae adborth myfyrwyr yn llywio hygyrchedd y mannau hyn yn flynyddol. 
  • Mae pob modiwl yn darparu rhestrau darllen sydd wedi’u digideiddio’n bennaf, ac sydd â deunyddiau darllen gofynnol a dewisol. 
  • Ar draws y rhaglen, mae’r Polisi Recordio yn cael ei ddilyn yn gyson. Mae pob deunydd yn cael ei lanlwytho o leiaf 48 awr ymlaen llaw ac mae recordiadau ar gael cyn y pum diwrnod diofyn. Darperir nodiadau cryno i fyfyrwyr o sesiynau nad ydynt yn cael eu recordio.  
  • Mae cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio ac ymgyfarwyddo â therminoleg anghyfarwydd ac mae terminoleg a chysyniadau newydd wedi’u hymgorffori mewn modiwlau craidd ar draws y rhaglen. 

Ystyriaethau ymarferol a chymdeithasol-ddiwylliannol ar gyfer addysgu  

Mae ystod eang o ystyriaethau ar gyfer trefnu a darparu mannau addysgu:

Sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn hygyrch. Gwiriwch y canlynol:

  • bod mynediad ffisegol i adeiladau a mannau, a seddi, yn diwallu pob angen
  • bod yr ystafell yn gwneud y gorau o oleuadau da a chyferbyniad lliw
  • mae rhwyddineb symud o amgylch yr ystafell, er enghraifft, yn ystod trawsnewidiadau corfforol i weithgareddau
  • anghenion corfforol, galluoedd ac anableddau myfyrwyr wrth ddylunio tasgau ac arbrofion ymarferol

Sicrhewch fod yr amgylchedd digidol yn hygyrch (gweler mwy am hyn yn ein hadran Hygyrchedd Digidol ar y dudalen Anabledd a Dyslecsia). Gwiriwch y canlynol:

  • Eich bod yn defnyddio llwyfannau hygyrch (gwiriwch am ddatganiadau hygyrchedd)
  • Eich bod yn dilyn rheoliadau Hygyrchedd Digidol wrth ddylunio deunyddiau addysgu, offer ac asesiadau
  • Bod cyfleoedd dysgu cydamserol ac anghydamserol ar gael
  • Eich bod yn darparu ar gyfer sawl math o gynnwys (e.e. testun, sain, fideo)
  • Bod gan fyfyrwyr gymhwysedd a mynediad digidol, yn enwedig wrth ddefnyddio meddalwedd neu apiau newydd
  • Bod dogfennau PowerPoint a deunyddiau clyweledol eraill yn hygyrch (ffont, lliw cefndir, defnydd o ddelweddau, testun amgen, testun wedi’i alinio i’r chwith)
  • Defnyddiwch fideo a ddisgrifir gan sain
  • Lleisiwch ddyfyniadau hir ar y sgrin
  • Mynegi manylion mewn graffiau a diagramau (naill ai ar lafar neu drwy nodiadau)
  • Gwiriwch fod cydlyniad yn y ffordd y mae tudalennau ultra yn cael eu trefnu, ar draws modiwl a rhaglen
  • Ar gyfer dysgu ac asesu ar-lein, byddwch yn ymwybodol o wahaniaethau amser i ddysgwyr rhyngwladol
  • Cadwch at amser: peidiwch â rhedeg drosodd, a pheidiwch â charlamu os yw amser yn fyr — recordiwch wedyn neu gwmpaswch yn ddiweddarach

Dwy ystyriaeth ymarferol allweddol sy'n diwallu anghenion llawer o wahanol grwpiau o fyfyrwyr:

  • Darparu dogfennau PowerPoint neu offer clyweledol eraill sydd ar gael 48 awr ymlaen llaw
  • Sicrhau bod recordiadau o sesiynau ar gael

Creu diwylliant cynhwysol, cydweithredol sy'n cydnabod fersiynau dilys o’r myfyrwyr, ac yn eu galluogi i weld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm.

Mynegi arferion dysgwyr, academaidd a diwylliannol a allai fod wedi tybio gwybodaeth – er enghraifft, rhoi disgwyliadau o ymddygiadau dysgu cymdeithasol (er enghraifft, beth ydym yn ei WNEUD mewn gweithgareddau grwpiau bach)

Esbonio unrhyw gyfeiriadau diwylliannol, diwylliant pop neu wybodaeth hanesyddol sy'n canolbwyntio ar y DU.

Gosod rheolau sylfaen ar gyfer gwahaniaethau barn a bod yn ymwybodol o ddeinameg pŵer a rheolaeth, rhwng myfyrwyr, a chyda'ch hun a staff erail.

Defnyddio mannau ffisegol sy'n hyrwyddo cydweithio a dysgu cymdeithasol (e.e. cynllun yr ystafell).

Amrywio gweithgareddau i gefnogi dulliau lluosog o ymgysylltu ac i fynd i'r afael â rhychwantiau sylw.

Strategaethau Addysgu Cynhwysol 

Wrth gynllunio sesiwn addysgu neu gyfres o sesiynau addysgu, cynlluniwch ddefnyddio ystod o strategaethau addysgu: nid oes un dull sy’n gynhwysol i bob dysgwr, gan y bydd pob gweithgaredd o fantais i rai, ac yn rhoi eraill o dan anfantais. Rydym yn tueddu i ddefnyddio ‘addysgeg werin’ (Bruner, 1979), lle rydym yn addysgu yn yr un modd ag yr ydym wedi cael ein haddysgu, ac sydd wedi bod o fudd i ni fel dysgwyr. 

Er enghraifft, gweithgaredd cyffredin mewn sesiynau yw trafodaethau grwpiau bach gydag adborth i’r grŵp mwy, sy’n galluogi dysgu cymdeithasol, adeileddol, ac yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai dysgwyr yn cael trafferth rhyngweithio yn y broses hon, oherwydd niwrowahaniaeth, pryder neu brofiadau diwylliannol o ddysgu, os ydynt wedi dysgu mewn lleoliadau gwahanol, mwy didactig. Gallai rhai felly elwa o beth amser yn cwblhau gweithgareddau myfyrio distaw unigol, neu ddefnyddio mecanweithiau adborth digidol, fel Mentimeter neu Padlet. 

Wrth gynllunio eich sesiwn, neu gyfres o sesiynau, felly, cynlluniwch ar gyfer sawl dull o ymgysylltu: gallwch wneud hyn o fewn yr un gweithgaredd, er enghraifft, trwy groesawu adborth ar y gweithgaredd ar ffurf testun neu lafar, neu ar draws cyfres o weithgareddau, trwy gael un gwaith grŵp, un dasg unigol ac un gweithgaredd ymateb digidol o fewn sesiwn. Gallwch hefyd sicrhau ymgysylltiad anghydamserol i’r rhai na allant fynychu. Yn y modd hwn, gellir diwallu amrywiaeth anghenion eich dysgwyr amrywiol. 

Hyd/Amser  Strategaeth
addysgu a chynnwys 
Gweithgaredd
myfyriwr 
10 munud  Cyflwyniad: Sgwrs athro
 
Gwrando a chymryd nodiadau (addysgu didactig o gynnwys craidd, sleidiau, deunydd darllen a nodiadau ar gael ymlaen llaw ac wedi hynny) 
20 munud  Gweithgaredd grŵp: Cymhwyso’r sgwrs i ymarfer  Trafodaeth grŵp gydag adborth trwy gyflwyniad llafar neu Mentimeter (dysgu cymdeithasol gyda dewis modd adborth, ar gael yn anghydamserol) 
10 munud  Cyflwyno gweithgaredd unigol: Myfyrio tawel a chrynodeb un funud  Gwrando ar neu ddarllen cyflwyniad i’r dasg, myfyrio, ac ysgrifennu crynodeb un funud (dewis o ddulliau ar gyfer cyfarwyddiadau ar gyfer y gweithgaredd) 
10 munud  I gloi: Cwis a chrynodeb Mentimeter
 
Cwis cyflawn ar-lein (amlgyfrwng ar gyfer ystod o weithgareddau, gellir ei gwblhau’n anghydamserol) 

Ac ar gyfer darllen pellach: Mae Bale a Seabrook (2021) yn ystyried ystod o strategaethau addysgu cynhwysol yn eu llyfr ‘An introduction to university teaching‘, gan gynnwys addysgu mewn grwpiau bach a mawr, gwaith labordy, gwaith maes ac addysg ddigidol. 


Astudiaeth achos: Anna Richards, Biosciences

Pethau i’w hystyried ynghylch Addysg Gynhwysol wrth gynnal Arbrofion ac mewn Labordai:

  1. Strategaeth addysgu: Dangos techneg ymarferol yn y Labordy ac arsylwi arni

Gweithgaredd Myfyrwyr 

Darllen beth yw’r protocol a’i ddeall, arsylwi ar sesiwn ymarferol ar dechneg benodol, gwneud nodiadau, sefyll am sawl awr, trafodaeth mewn grwpiau bychain dan arweiniad hyfforddwr i ofyn cwestiynau

Rhwystrau rhag dysgu

Prosesu gwybyddol a/neu synhwyraidd, anghysur corfforol, diffyg gwelededd neu fynediad, materion iaith neu gyfathrebu

Myfyrwyr a allai gael eu heffeithio

Myfyrwyr â namau gweledol, clywedol neu wybyddol; Myfyrwyr â chyflyrau iechyd, yn enwedig problemau symudedd, poen cronig, neu anableddau; Myfyrwyr dyslecsig;

Myfyrwyr y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhy

Atebion

  • Mynd at wraidd y protocol a’r dechneg, a’u symleiddio i fod yn gamau bach, hylaw.
  • Dosbarthu deunyddiau darllen cyn y sesiwn sy'n egluro theori a chamau'r dechneg mewn modd symlach.
  • Defnyddio diagramau, fideos, neu animeiddiadau cyn y sesiwn arddangos er mwyn dangos camau cymhleth ar ffurf weledol.
  • Gwneud yn siŵr bod digon o amser wedi’i neilltuo i gael saib yn ystod arddangosiadau, a hynny er mwyn lleihau blinder wrth sefyll.
  • Cynnig opsiynau o ran seddi i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu sefyll am gyfnodau hir.
  • Defnyddio cymhorthion gweledol, megis camerâu uwchben neu sgriniau, er mwyn taflunio'r arddangosiad yn glir i bawb ei weld.
  1. Strategaeth addysgu: Efelychiadau neu Labordai Rhithwir

Gweithgaredd Myfyrwyr

Ymgyfarwyddo â’r amgylchedd rhithwir, dilyn protocol rhithwir neu ymgymryd â thasg gychwynnol, casglu a dadansoddi data wedi’u hefelychu, gweithio ar y cyd mewn timoedd rhithwir

Rhwystrau rhag dysgu        

Anawsterau technegol neu ddiffyg hyfedredd technegol; Prosesu gwybyddol a/neu synhwyraidd; Cymhelliant ac Ymgysylltu gan ei bod yn sesiwn fwy haniaethol, llai rhyngweithio

Myfyrwyr a allai gael eu heffeithio

Myfyrwyr â namau gweledol, clywedol neu wybyddol; Myfyrwyr sydd â mynediad cyfyngedig at dechnoleg; Myfyrwyr dyslecsig; Myfyrwyr y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw.

Atebion

  • Trefnu tiwtorial cyn mynd i’r labordy neu sesiwn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r platfform labordy rhithwir (e.e. tiwtorialau fideo, canllawiau cam wrth gam, neu sesiwn gyflwyno ryngweithiol)
  • Cynnig cymorth technegol yn ystod sesiwn y labordy, megis desg gymorth bwrpasol neu gynorthwywyr addysgu fydd wrth law i ddatrys problemau.
  • Symleiddio protocolau drwy eu rhannu i gamau bach, hylaw, a chynnig cymhorthion gweledol neu animeiddiadau sy'n egluro pob cam o'r weithdrefn rithwir.
  • Cynllunio’r protocol rhithwir mewn modd sy’n caniatáu i fyfyrwyr gymryd saib ac ailymweld â’r adrannau os ydyn nhw wedi’u gorlethu, gan roi’r gallu iddyn nhw reoli cyflymder y dasg.
  1. Strategaeth addysgu: Gwaith grŵp Dysgu ar Sail Problemau

Gweithgaredd Myfyrwyr

Gweithio drwy broblem yn y byd go iawn sy’n ymwneud â gweithgarwch yn y labordy. Defnyddio meddwl critigol, gwaith tîm ac ymholi annibynnol er mwyn cynllunio a chynnal arbrawf sy'n mynd i'r afael ag achos a ddarperir gan yr hyfforddwr.

Rhwystrau rhag dysgu

Sgiliau technegol a chyflymder; Rhyngweithio’n gymdeithasol mewn grwpiau a gweithio'n effeithiol gydag eraill; Anghysur corfforol; diffyg gwelededd neu fynediad

Myfyrwyr a allai gael eu heffeithio 

Dysgwyr newydd/dibrofiad; Myfyrwyr â llai o hyder/sy’n dioddef o orbryder; Myfyrwyr â heriau gwybyddol neu brosesu (e.e. dyslecsia, ADHD, awtistiaeth); Myfyrwyr ag anableddau corfforol neu gyflyrau iechyd cronig; Myfyrwyr â namau gweledol, clywedol neu wybyddol

 

Atebion

  • Cynnig gweithdai neu diwtorialau cynhwysfawr cyn y sesiwn labordy a dosbarthu protocolau ysgrifenedig clir gyda chymhorthion gweledol, siartiau llif, neu fideos y gall myfyrwyr gyfeirio atyn nhw yn ystod y sesiwn labordy
  • Rhoi system fentora cyfoedion ar waith, er mwyn i fyfyrwyr mwy profiadol allu bod o gymorth i’r rheiny sy’n llai hyderus neu fedrus
  • Neilltuo rolau penodol oddi mewn i’r grwpiau er mwyn sicrhau bod pob aelod yn cymryd rhan ac er atebolrwydd.
  • Yn ystod y sesiynau labordy, sicrhau bod saib yn digwydd bob hyn a hyn er mwyn caniatáu i fyfyrwyr gael gorffwys ac ymestyn.
  • Trefnu seddi a gorsafoedd yn y labordy er mwyn sicrhau bod pob un myfyriwr yn gallu gweld yr arddangosiadau a’r offer yn glir


Ble Nesaf?

Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau 

Rydych chi ar dudalen 4 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd