Hygychedd Digidol
Tudalen Thema Cynhwysiant
Dechrau Arni gyda Hygyrchedd Digidol
Mae sicrhau bod hygyrchedd wrth wraidd ein haddysgu a’n dysgu yn hanfodol ar gyfer cefnogi anghenion ein cymuned amrywiol. Drwy wneud ein hadnoddau a’n hamgylcheddau ar-lein yn hygyrch, rydyn ni’n helpu pob myfyriwr a staff i gyflawni eu potensial llawn.
Pam mae hygyrchedd digidol yn bwysig
Mae hygyrchedd digidol yn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at wybodaeth a chyfleoedd. Yn y DU, mae gan oddeutu un o bob pump o bobl anabledd, gan gynnwys tua wyth miliwn o unigolion oedran gweithio (Cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae hyn yn cynnwys llawer o’n myfyrwyr a’n staff. Drwy greu amgylcheddau digidol hygyrch, rydyn ni’n sicrhau y gall pawb gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau academaidd a phroffesiynol.
Y model cymdeithasol o anabledd
Mae’r model cymdeithasol o anabledd yn cynnig nad nam yr unigolyn sy’n anablu, ond yn hytrach rhwystrau ac agweddau cymdeithasol (Oliver 1990, Scope 2024). Mae’r persbectif hwn yn symud y ffocws o’r hyn na all unigolion ei wneud i’r hyn y gall cymdeithas ei wneud i gael gwared ar rwystrau. Drwy wneud ein cynnwys digidol yn hygyrch, rydyn ni’n mynd ati i gael gwared ar rwystrau ac yn creu amgylchedd cynhwysol.
Rhwymiadau cyfreithiol a dyluniad hygyrch
Mae safonau hygyrchedd yn amlinellu’r arferion gorau sy’n gwella profiadau pawb ym mhob maes dysgu a gwaith. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r Brifysgol fodloni safonau hygyrchedd ar ei gwefannau, mewnrwydau, ac apiau symudol. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn gosod cyfrifoldeb cyfreithiol arnon ni i gyd nid yn unig wneud addasiadau rhesymol i unigolion ond hefyd i ddylunio ein hamgylcheddau digidol yn rhagweithiol i fod yn hygyrch. Mae rheoliadau diweddar, Gofynion Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (2020), yn atgyfnerthu’r rhwymedigaeth gyfreithiol hon drwy ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sector cyhoeddus, gan gynnwys prifysgolion, sicrhau bod yr holl ddeunyddiau digidol yn hygyrch. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i’r nod hwn, gan wneud hygyrchedd digidol yn amcan allweddol yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Egwyddorion hygyrchedd digidol
Mae hygyrchedd digidol yn golygu y gall pobl gael gafael ar wybodaeth, dysgu, a gwneud yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud o fewn cyfnod tebyg ac ag ymdrech debyg i bobl eraill, p’un a oes ganddyn nhw anabledd neu ddim. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i gynnwys a gweithgareddau fod yn:
- • Hygyrch: Rhaid i wybodaeth fod yn hawdd ei chyrraedd mewn fformatau amrywiol ar gyfer gwahanol synhwyrau (clyw, golwg, ac ati). Er enghraifft, defnyddiwch destun amgen (testun Alt) ar gyfer delweddau, is-deitlau ar gyfer fideos, a thrawsgrifiadau ar gyfer cynnwys sain.
• Dealladwy: Dylai gwybodaeth wneud synnwyr i unrhyw un sy’n cael mynediad ati. Mae hyn yn cynnwys defnyddio iaith glir a syml, rhoi cyfarwyddiadau, a sicrhau llywio rhagweladwy.
• Defnyddiadwy: Dylai defnyddwyr allu llywio drwy’r cynnwys, rhyngweithio ag ef, a phori drwyddo’n hawdd. Dylai fod yn gytûn â thechnolegau cynorthwyol, fel darllenyddion sgrîn, a rhoi digon o amser i ddefnyddwyr ymgysylltu â’r deunydd a’i ddeall.
Camau i wella hygyrchedd digidol:
1.Dewiswch offer priodol:
Creu a chyflwyno eich deunyddiau a'ch gweithgareddau drwy ddefnyddio offer sy'n cefnogi cynnwys hygyrch. Mae offer a ddefnyddir gan y brifysgol (ee, offer Microsoft Office, Panopto) fel arfer yn bodloni gofynion hygyrchedd. Sicrhewch fod unrhyw ddeunyddiau allanol rydych chi'n eu defnyddio hefyd yn bodloni safonau hygyrchedd.
2. Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch
a. Canllawiau Cyffredinol:
• Defnyddiwch dechnoleg yn feddylgar i leihau rhwystrau a gwella hygyrchedd.
• Cynnig deunyddiau'n electronig, ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl, er mwyn caniatáu i ddysgwyr addasu gosodiadau i'w hanghenion, megis maint ffont neu gyferbyniad lliw.
b. Dogfennau Word:
• Cadwch ddogfennau mewn fformatau hygyrch fel Fformat Testun Cyfoethog (.rtf) neu HTML.
• Defnyddiwch dabl cynnwys ar gyfer dogfennau hir er mwyn llywio'n hawdd drwyddyn nhw.
• Osgoi blychau testun fel y bo'r angen; gallan nhw amharu ar y dilyniant darllen ar gyfer darllenyddion sgrîn.
c. PDFs:
• Defnyddiwch Cydnabod Nodau Optegol (OCR) ar gyfer dogfennau wedi'u sganio i wneud testun yn ddarllenadwy.
• Sicrhewch fod tablau yn cael eu disgrifio mewn testun neu'n cynnwys testun amgen ('Alt text').
• Creu PDFs wedi'u tagio ar gyfer hygyrchedd gwell gan ddefnyddio offer fel Adobe Acrobat neu Microsoft Office.
d. Cyflwyniadau:
• Rhowch nodiadau manwl yn y maes 'Nodiadau' i ychwanegu at bwyntiau bwled.
• Disgrifiwch ddelweddau â thagiau neu nodiadau 'alt text'.
• Defnyddiwch animeiddiadau yn bwrpasol a sicrhau nad ydyn nhw’n tynnu sylw.
• Ystyriwch allforio cyflwyniadau i Word neu HTML er mwyn cael gwell hygyrchedd.
e. Tudalennau Gwe:
• Defnyddiwch feddalwedd sy'n cynhyrchu HTML hygyrch sy'n seiliedig ar safonau.
• Gwiriwch hygyrchedd gan ddefnyddio offer ar-lein megis WAVE.
f. Amlgyfrwng:
• Cyflwyno cynnwys mewn fformatau lluosog (testun, sain, fideo) i ddiwallu gwahanol anghenion.
• Sicrhewch fod sain a fideo yn cynnwys trawsgrifiadau a chapsiynau.
3. Gwella gwelededd, darllenadwyedd a chlywadwyedd
- Lliwiau: Sicrhau cyferbyniad da rhwng testun a chefndir, ond osgoi cyferbyniad eithafol (ee, dewiswch destun llwyd tywyll ar gefndir oddi ar wyn). Ceisiwch osgoi defnyddio lliw fel yr unig fodd i gyfleu gwybodaeth.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Dylunio sleidiau PowerPoint ar gyfer pobl â dyslecsia
- Testun: Defnyddiwch ffont sans serif syml (y ffont diofyn sydd orau yn aml). Osgoi fformatio fel priflythrennu, tanlinellu, neu italeiddio - yn enwedig ar gyfer rhannau mawr o destun. Defnyddiwch destun trwm ar gyfer pwyslais yn unig. Unionwch eich testun i’r chwith.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Arddulliau yn Microsoft Word
- Sain: Siaradwch yn araf ac yn glir a cheisiwch ddileu sŵn cefndir. Rhoi trawsgrifiadau a chapsiynau ar gyfer cynnwys sain.
4. Cynnig opsiynau a dewisiadau amgen
- Testun amgen: Ychwanegwch destun amgen disgrifiadol ('Alt text') at ddelweddau i ddisgrifio eu hymddangosiad a'u swyddogaeth. Mae testun amgen yn hanfodol i ddefnyddwyr â nam ar y golwg gan fod meddalwedd darllenydd sgrîn yn dibynnu ar y testun hwn i ddisgrifio cynnwys delwedd. Am ragor o wybodaeth, gweler: Ychwanegu testun amgen yn Word a Powerpoint a chanllaw Microsoft i ysgrifennu testun amgen da
- Fformatau lluosog: Cynnig dogfennau mewn amryw fformatau, megis Word a PDF - nodwch fod PDFs yn aml yn anhygyrch. Defnyddiwch offer fel SensusAccess a Blackboard Ally File Transformer i drosi dogfennau'n fformatau hygyrch.
- Trawsgrifiadau a chapsiynau: Cynhwyswch drawsgrifiadau disgrifiadol ar gyfer cynnwys sain ac ychwanegu capsiynau at fideos. Mae llawer o offer prifysgol, megis Panopto, yn cynnwys y swyddogaethau hyn.
5. Defnyddiwch iaith glir ac ystyrlon
- Dolenni disgrifiadol: Ar gyfer dolenni, yn lle “Cliciwch yma” defnyddiwch destun clir, disgrifiadol sy'n nodi cyrchfan neu bwrpas y ddolen yn glir.
- Iaith Seml: Ysgrifennwch mewn iaith seml ac osgoi iaith gymhleth neu ffigurol, homonymau a homoffonau lle bo hynny'n bosibl.
- Cyfarwyddiadau clir: Wrth rannu adnoddau, rhowch gyfarwyddiadau clir ar sut i'w defnyddio, cyn ac yn ystod y sesiwn. Cynnig disgrifiadau manwl o adnoddau, opsiynau a dewisiadau amgen, gan gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i helpu defnyddwyr i baratoi ac ymgysylltu'n effeithiol.
6. Strwythurwch eich deunyddiau'n glir ac yn gyson
- Penawdau: Defnyddiwch arddulliau pennawd cynhenid i ddiffinio strwythur dogfennau, gan gynorthwyo llywio a hygyrchedd. Mae hyn yn caniatáu i dechnoleg gynorthwyol wneud synnwyr o'ch deunyddiau, sy'n arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sydd â nam ar y golwg neu anawsterau echddygol.
- Tablau: Cadwch dablau yn syml; osgowch gelloedd wedi’u hollti neu’u huno pryd bynnag y bo modd.
- Gosodiad: Defnyddiwch osodiad cyson, gan wahaniaethu yn glir rhwng gweithgareddau, blociau testun, a gwybodaeth neu weithgareddau hanfodol yn erbyn dewisol.
7. Gwirio hygyrchedd eich gwaith
Gwiryddion Hygyrchedd: Defnyddiwch offer i sganio a gwella hygyrchedd eich cynnwys.
- Gwirydd hygyrchedd Microsoft: Dyma adnodd integredig ym Microsoft Office sy'n helpu i nodi a datrys problemau hygyrchedd mewn dogfennau.
- Blackboard Ally: Dyma adnodd integredig sy'n rhoi adborth ar hygyrchedd deunyddiau eich cwrs ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i'w gwella.
- Adnodd Hygyrchedd WAVE: Adnodd rhad ac am ddim sy'n gwerthuso tudalennau gwe ar gyfer materion hygyrchedd.
Drwy ymgorffori hygyrchedd digidol yn y gwaith o ddylunio deunyddiau addysgu a dysgu, gallwn ni greu amgylcheddau dysgu cynhwysol. Drwy ragweld anghenion amrywiol a defnyddio Fframwaith Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn ganllaw i gynnig dulliau lluosog o gynrychiolaeth, gweithredu a mynegiant, ac ymgysylltu, gallwn ni gael gwared ar rwystrau rhag dysgu a hyrwyddo tegwch. Mae cofleidio hygyrchedd nid yn unig yn cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol ond hefyd yn cyfoethogi’r profiad addysgol i bawb. Mae’n hanfodol i ni i gyd ddylunio ein cynnwys a’n gweithgareddau yn rhagweithiol i fod yn hygyrch, gan feithrin cymuned gefnogol a chynhwysol i’n dysgwyr a’n staff amrywiol.
I gael gwybod mwy am hygyrchedd digidol mae’r adnodd dysgu Xerte hwn yn cynnig rhai camau syml y gallwch chi eu cymryd i wneud eich cynnwys digidol yn fwy hygyrch:
Archwilio’n Ddyfnach
Ble Nesaf?
Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol
Pecyn cymorth
Gallwch nawr fynd ymlaen i ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol trwy gyrchu'r tudalennau cysylltiedig ar bynciau penodol, a amlinellir yn y map isod, sy'n ymwneud â'r Fframwaith Addysg Gynhwysol. Ar ôl cyrchu'r dudalen hon, rydym yn argymell eich bod yn symud i'r dudalen Meithrin Ymdeimlad o Berthyn.
Gweithdai
Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy fynychu sesiynau gweithdy sy'n ymwneud â phob pwnc. Gellir cymryd y gweithdai hyn drwy sesiwn wyneb yn wyneb fyw, os yw'n well gennych ddysgu rhyngweithiol cymdeithasol gyda'ch cyfoedion, neu gellir eu cwblhau yn eich amser eich hun, os yw hynny’n well gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithdai, a'r ddolen i archebu yma.
Darpariaeth Ysgol Bwrpasol
Rydym yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i Ysgolion ar Addysg Gynhwysol, drwy'r gwasanaeth Datblygu Addysg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i fynd i'r afael â phryderon lleol penodol, i uwchsgilio timau cyfan, neu i gefnogi'r broses cymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni. Cysylltwch â Thîm Datblygu Addysg eich Ysgol am ragor o wybodaeth.
Map o Bynciau
Isod mae map o'r pecyn cymorth a phynciau'r gweithdy, i'ch cynorthwyo. Bydd y rhain yn cael eu datblygu a'u hychwanegu atynt mewn iteriadau o'r pecyn cymorth hwn yn y dyfodol.

Rydych chi ar dudalen 6 o 8 tudalen thema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:
1.Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol y CU
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3.Grymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial
4.Datblygu meddylfryd cynhwysol
5.Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
Neu beth am thema arall?
Cyfeiriadau ac Adnoddau
Prifysgol Caerdydd, 2020 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24. Ar gael yn: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/equality-and-diversity/strategic-equality-plan. [Cyrchwyd 1/9/22].
Equality Challenge Unit, 2012 Equality Act 2010 Implications for colleges and HEIs. Ar gael ar: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/equality-act-2010-implications-colleges-and-heis-revised. [Cyrchwyd 1/9/22] .
Swyddfa Ddigidol a Data Ganolog Llywodraeth y DU, 2018. Deall gofynion hygyrchedd ar gyfer cyrff sector cyhoeddus. Ar gael ar: https://www.gov.uk/guidance/accessibility-requirements-for-public-sector-websites-and-apps#understanding-accessibility. [Cyrchwyd 1/9/22] .
Cyngor Sir Swydd Gaerwrangon, SCULPT for Accessibility. Ar gael ar: https://www.worcestershire.gov.uk/WCCSculpt. [Cyrchwyd 1/9/22].
The World Wide Web Consortium (W3C), 2018 Web Content Accessibility Guidelines. Ar gael ar: https://www.w3.org/WAI/standards-guidelines/wcag/. [Cyrchwyd 1/9/22].
The World Wide Web Consortium (W3C), 2021 Accessibility Fundamentals Overview. Ar gael ar: https://www.w3.org/WAI/fundamentals/. [Cyrchwyd 1/9/22].
Rhannu Eich Adborth