Skip to main content

Cynllun Pontio

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.

Mae cefnogi myfyrwyr amrywiol wrth iddynt bontio i addysg uwch yn hanfodol, yn enwedig wrth i fwy o fyfyrwyr andraddodiadol ymuno â’n cymuned. Mae rheoli’r trawsnewidiadau hyn yn llwyddiannus yn gofyn am ddull cydlynol sy’n cydnabod amrywiaeth ein poblogaeth myfyrwyr. Mae pontio yn broses barhaus drwy gydol cylch bywyd y myfyrwyr (Thomas, 2012).

Pontio:

  • Yn: Cefnogir gan: Gweithgareddau cynefino, creu ymdeimlad o berthyn, ac archwilio a chyd-greu arferion, disgwyliadau ac arferion academaidd
  • Drwy: Cefnogir gan: Datblygiad academaidd a chymorth, ochr yn ochr â chymorth bugeiliol a chyfleoedd datblygiad personol
  • Allan: Cefnogir gan: Cyfleoedd datblygiad personol ac academaidd a chynllunio gyrfa

Roedd adolygiad mawr Thomas o ‘What Works’ (2012) o ran cadw myfyrwyr a’u llwyddiant yn awgrymu y dylai’r broses o ennyn diddordeb myfyrwyr ddechrau’n gynnar ac ymestyn drwy gydol cylch bywyd myfyrwyr. Canfu’r ymchwil ei bod yn hanfodol i ymgysylltu ddechrau cyn cofrestru. Dylai gweithgareddau cyn mynediad ac ymsefydlu fod ag ystod o swyddogaethau, ond yn benodol dylent hwyluso myfyrwyr i feithrin perthnasoedd cymdeithasol gyda myfyrwyr presennol a newydd ac aelodau staff (Thomas, 2012).

Gan ddefnyddio egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, dylai gweithgareddau cynefino a phontio ddefnyddio ‘sawl dull o ymgysylltu’. Dylent felly ymgorffori hyblygrwydd a dysgu sy’n canolbwyntio ar nodau i annog ymgysylltiad pob myfyriwr, er enghraifft, trwy gyfres o weithgareddau sy’n creu rhyngweithio cymdeithasol, ac amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cael mynediad at wybodaeth a deunyddiau. Mae hyn yn galluogi mynediad i bawb ac yn cynyddu cymhelliant a pherchnogaeth dysgu. Mae manteisio ar enghreifftiau o’r byd go iawn, cysylltu dysgu â phrofiadau myfyrwyr yn y gorffennol, a gwneud dysgu’n gêm hefyd yn cynyddu ymgysylltiad (CAST, 2023).

Isod ceir 5 awgrym gorau o safbwynt myfyriwr:

Myfyriwr 1: ‘Roedd gallu cysylltu â'r timau lles ac anabledd cyn dechrau fy astudiaethau wedi lleddfu llawer o'r pryderon oedd gen i’

 Myfyriwr 2: ‘Cyn ymuno â'r Brifysgol, rwy'n cofio cael llawer o wybodaeth mewn byr o dro. Pe bai'r ohebiaeth wedi cael ei hanfon dros gyfnod hirach, efallai y byddai hynny wedi fy helpu i deimlo fy mod i’n cael fy nghroesawu'n raddol i'r Brifysgol ac fy mod yn cael fy llethu lai oherwydd yr holl wybodaeth’

Myfyriwr 3: ‘Pan ddechreuais i fy astudiaethau israddedig, do’n i ddim yn deall y graddau y byddai cymorth y Brifysgol yn cymryd ‘sedd gefn’. Byddai wedi bod yn well gen i fod y Brifysgol yn sôn am hyn yn yr ohebiaeth cyn imi fynd yno, a bod cyfle wedi bod i fynd i sesiwn holi ac ateb, dyweder, am fywyd y brifysgol, gan nad o’n i’n gallu mynd i ddiwrnod agored.’

Myfyriwr 1: ‘Ro’n i'n gwerthfawrogi bod y darlithwyr wedi cymryd yr amser i ddysgu ein henwau - roedd y dosbarth yn fwy personol oherwydd hynny.’

Myfyriwr 2: ‘Pan ymunais i am y tro cyntaf, treuliodd un darlithydd y 5 munud cyntaf yn cerdded o amgylch y ddarlithfa, gan gyflwyno ei hun i bob myfyriwr a gofyn iddo ei enw ac o ble roedd yn dod. Ro’n i’n gwerthfawrogi hyn ac roedd yn llawer gwell na sefyll ar y blaen ac annerch yr ystafell.’

Myfyriwr 1: ‘Roedd trafodaethau grŵp a gweithgareddau torri iâ ar ddechrau'r semester wedi fy helpu i gysylltu â chyd-ddisgyblion a magu hyder.

Myfyriwr 1: ‘Sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau a'r cymorth cywir yn ystod yr wythnosau cyntaf gan diwtoriaid personol / pecyn croeso. Ceir hen ddigon o adnoddau defnyddiol -- fel gweithdai sgiliau astudio, gwasanaethau cymorth ariannol a chymorth iechyd meddwl - ond weithiau mae'n anodd dod o hyd i'r wybodaeth gywir pan fydd ei hangen arnoch chi. Pe bai'r rhain yn cael eu crybwyll yn amlach mewn darlithoedd ac yn rhan o becynnau croeso, rwy’n credu y byddai mwy o fyfyrwyr yn eu defnyddio mewn gwirionedd.’

Myfyriwr 1: ‘A minnau’n fyfyriwr y genhedlaeth gyntaf yn fy ardal lle bydd llai o bobl yn mynd i addysg uwch, ro’n i'n teimlo fy mod i ddim yn deall o hyd rai o brif normau diwylliannol y brifysgol. Efallai y byddai rhai sesiynau galw heibio i fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol (gan gynnwys y cefndiroedd uchod, myfyrwyr aeddfed, gofalwyr ifanc, a rhieni ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw) wedi bod yn fuddiol i ystod eang o fyfyrwyr, yn enwedig o ystyried yr amrywiaeth cynyddol ymhlith myfyrwyr israddedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.’

Mae trawsnewidiadau yn hanfodol i sefydlu perthyn. Gan adeiladu ar fodel “cylch bywyd myfyrwyr” Thomas (2012), mae strategaethau Prifysgol Caerdydd ar gyfer cefnogi trawsnewidiadau myfyrwyr wedi’u cynllunio i feithrin ymdeimlad o berthyn ar draws camau amrywiol o daith y myfyrwyr, gan gynnwys camau cyn mynediad, mynediad ac ôl-raddio. Nod strategaethau, fel y rhai a amlinellir isod, wedi’u lledaenu ar draws cylch bywyd y myfyrwyr, yw creu ymdeimlad cryf o berthyn o gyn cyrraedd hyd at raddio. Maent yn sicrhau bod myfyrwyr Caerdydd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi a’u hintegreiddio o fewn cymuned y brifysgol o’r diwrnod cyntaf.

Strategaethau ymarferol ar gyfer cefnogi trawsnewidiadau myfyrwyr:

Ymgysylltiad cyn cyrraedd

  • Cyfathrebiadau croeso wedi’u personoli: Defnyddiwch negeseuon e-bost croeso, fideos a chyfryngau cymdeithasol i gyflwyno myfyrwyr i gymuned Caerdydd. Mae anfon negeseuon e-bost wedi’u teilwra gan aelodau allweddol o staff a myfyrwyr (e.e. arweinwyr rhaglenni a llysgenhadon myfyrwyr) yn helpu myfyrwyr i deimlo’n gysylltiedig cyn cyrraedd. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am wasanaethau prifysgol, cyfleoedd cymdeithasol, ac adnoddau academaidd
  • Cyflwyniad i ddiwylliant ac adnoddau’r brifysgol: Gall fideos neu gynnwys cyfryngau cymdeithasol rhyngweithiol gyflwyno diwylliant Caerdydd a thynnu sylw at y systemau cymorth sydd ar gael, megis gwasanaethau llesiant, cymorth academaidd, a gweithgareddau allgyrsiol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pobl yn ymgyfarwyddo â gwerthoedd, disgwyliadau a chynigion cymunedol y brifysgol.
  • Cyfleoedd rhwydweithio ar-lein: Gall creu llwyfannau i fyfyrwyr gwrdd â chyfoedion ar-lein cyn iddynt gyrraedd, fel grwpiau preifat wedi’u hwyluso gan blatfform cyfryngau cymdeithasol, byrddau trafod, neu apiau negeseuon, feithrin cysylltiadau cynnar. Gellir trefnu’r rhain hefyd yn ôl meysydd rhaglen neu ddiddordeb er mwyn hwyluso ffurfio cwlwm.

Gweithgareddau ymsefydlu cynhwysol: Dylunio digwyddiadau sefydlu sy’n hwyluso cysylltiadau cymdeithasol ac yn egluro disgwyliadau academaidd, gan fynd i’r afael â normau heb eu dweud yn gynnar.

  • Digwyddiadau cymdeithasol dan arweiniad cymheiriaid: Mae cynnwys gweithgareddau a gynhelir gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd, fel teithiau, cyfarfodydd grŵp, neu sesiynau holi ac ateb anffurfiol, yn caniatáu i fyfyrwyr newydd gysylltu â chyfoedion profiadol sy’n gallu rhannu mewnwelediadau ar fywyd campws a disgwyliadau academaidd.
  • Gweithdai rhyngweithiol ar ddiwylliant prifysgol: Gall sesiynau sy’n dadrinio safonau academaidd, normau heb eu dweud, a disgwyliadau asesu leddfu trawsnewid academaidd. Gall defnyddio astudiaethau achos, senarios, neu weithgareddau chwarae rôl wneud y gweithdai hyn yn fwy deniadol a hygyrch.
  • Prosiectau grŵp neu weithgareddau torri’r iâ: Mae aseiniadau cydweithredol cynnar neu brosiectau grwpiau bach yn yr wythnos sefydlu yn annog integreiddio cymdeithasol ac yn gosod y sail ar gyfer dysgu grŵp yn y dyfodol, gan atgyfnerthu cymuned academaidd gefnogol.

Cymorth parhaus: Gall gwiriadau rheolaidd a mentora gan gymheiriaid drwy gydol taith academaidd myfyrwyr gynnal ymgysylltiad a chefnogaeth.

  • Gwiriadau rheolaidd gan gynghorwyr academaidd: Mae gwiriadau wedi’u trefnu drwy gydol y flwyddyn academaidd yn darparu cefnogaeth gyson i fyfyrwyr. Gall cynghorwyr drafod cynnydd academaidd, llesiant, a nodau yn y dyfodol, a chysylltu myfyrwyr ag adnoddau ychwanegol yn ôl yr angen.
  • Rhaglenni mentora gan gymheiriaid: Mae pennu mentoriaid o gefndiroedd neu ddisgyblaethau tebyg yn creu rhwydwaith cymorth lle gall myfyrwyr newydd ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor yn anffurfiol. Gall mentoriaeth strwythuredig helpu myfyrwyr i deimlo eu bod yn cael eu harwain a’u cefnogi wrth iddynt lywio heriau.
  • Digwyddiadau adeiladu cymunedau ar draws y flwyddyn: Mae cynnig digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd y tu hwnt i ymsefydlu, megis darlithoedd gwadd, trafodaethau thema, neu ddigwyddiadau cymdeithasol, yn helpu i gynnal ymdeimlad o gymuned. Mae digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag amseroedd academaidd critigol (e.e. cyfnodau arholiadau) yn darparu gwaith ymgysylltu a chymorth ymarferol pan fydd eu angen fwyaf ar fyfyrwyr.

Ble Nesaf?

Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau 

Rydych chi ar dudalen 2 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd