Myfyrwyr yn cyd-greu a chydweithio
Ymgysylltu â myfyrwyr wrth gyd-greu
Mae cyd-greu profiadau dysgu gyda myfyrwyr yn cynyddu perchnogaeth a pherthyn. Mae dulliau addysgu a dysgu cydweithredol yn caniatáu i fyfyrwyr gyfrannu eu cefndiroedd a’u safbwyntiau unigryw, gan gyfoethogi ein cymuned academaidd. Er mwyn creu amgylchedd cynhwysol, mae angen i ni gymhwyso strategaethau addysgu diwylliannol ymatebol, megis cydnabod a gwerthfawrogi cefndiroedd a phrofiadau unigryw myfyrwyr, ac effaith hyn ar eu dysgu.
Mae gwerthoedd partneriaeth addysg uwch yn arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried manteisio ar amrywiaeth y gymuned:

Ffigur 2: Advance HE’s values of partnership ( Advance HE 2019)
Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ymgysylltu â myfyrwyr o ran cynyddu lefelau rheolaeth myfyrwyr, fel y nodir gan Healey ac eraill (2016):

Figur 3: Lefelau Asiantaeth mewn Gweithgareddau Ymgysylltu â Myfyrwyr (Healey and Healey 2019, from Student Voice Australia)
Mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr yn galluogi staff i ddefnyddio ystod o ddulliau, gan weithio gydag unigolion ag anghenion penodol, grwpiau o fyfyrwyr sy’n profi rhwystrau penodol i ddysgu, neu garfanau cyfan o fyfyrwyr i ddatblygu ymarfer. Mae’r ffigur isod yn rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o bartneriaethau myfyrwyr-staff mewn perthynas â dylunio, addysgu ac asesu’r cwricwlwm.

Strategaethau ymarferol ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr yn gynhwysol:
- Offer fel Mentimeter: Casglu adborth amser real yn ystod darlithoedd, gan hyrwyddo cyfranogiad gweithredol.
- Paneli cynghori myfyrwyr: Sianeli adborth rheolaidd sy’n ymgorffori safbwyntiau myfyrwyr amrywiol.
- Asesiadau wedi’u creu ar y cyd: Mae cynnwys myfyrwyr mewn dylunio asesu yn meithrin cynhwysoldeb ac yn parchu arddulliau dysgu amrywiol (Nelson a Kift, 2005).
- Gwrando’n astud ar fyfyrwyr
Mae adborth aml yn hyrwyddo ymdeimlad a rennir o gymuned a gwelliant parhaus. Mae gwrando yn weithredol ar adborth myfyrwyr yn ein galluogi i fireinio ein dulliau addysgu a chefnogi.
Offer a gweithgareddau myfyriol:
- Dulliau adborth: Defnyddio dulliau fel “Stopio, Cychwyn, Parhau” neu “Papurau Cofnod” i gael adborth ar unwaith.
- Arolygon dienw: Annog gonestrwydd a chynhwysoldeb trwy gasglu mewnwelediadau’n gyfrinachol.
Gwerthuso
Mae gwerthuso yn hanfodol ar gyfer meithrin cynhwysoldeb a gwella arferion addysgu yn barhaus. Drwy gasglu adborth amrywiol trwy offer ffurfiol ac anffurfiol, mae addysgwyr yn mynd i’r afael â rhwystrau gwirioneddol yn hytrach na heriau tybiedig (King a Evans, 2007).
Offer gwerthuso anffurfiol:
- Dwy seren a dymuniad Dwy agwedd gadarnhaol ac un awgrym ar gyfer gwella.
- Stopio, dechrau, parhau: Nodi camau gweithredu i stopio, dechrau a pharhau.
- Papurau cofnodion: Myfyrdodau cyflym ar ddysgu a chwestiynau heb eu hateb.
- Pwynt mwyaf amwys: Nodi agweddau dryslyd i dargedu eglurhad.
- Meddwl – Paru – Rhannu: Trafodaethau cydweithredol sy’n gwella ymgysylltiad.
Argymhellion ar gyfer ystyried amrywiaeth mewn gwerthusiadau:
1. Dylunio cwestiynau cynhwysol:
- Sicrhau bod cwestiynau’n benagored ac yn caniatáu ar gyfer safbwyntiau amrywiol.
- Osgoi jargon neu gyfeiriadau sy’n benodol yn ddiwylliannol na fydd pob myfyriwr yn eu deall efallai.
2. Bod yn ddienw a chyfrinachedd:
- Defnyddio offer adborth dienw i annog ymatebion gonest gan bob myfyriwr, yn enwedig y rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
3. Sianeli adborth lluosog:
- Darparu ffyrdd amrywiol i fyfyrwyr roi adborth (e.e. ysgrifenedig, llafar, digidol) i ddarparu ar gyfer gwahanol ddewisiadau a galluoedd cyfathrebu.
4. Sensitifrwydd diwylliannol
- Bod yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol mewn arddulliau cyfathrebu a dewisiadau o ran rhoi adborth.
- Addasu dulliau gwerthuso i fod yn barchus ac yn gynhwysol o bob cefndir diwylliannol.
5. Myfyrio ac addasu rheolaidd:
- Myfyrio yn barhaus ar yr adborth a dderbyniwyd ac addasu dulliau addysgu er mwyn diwallu anghenion corff myfyrwyr amrywiol yn well.
- Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ar arferion addysgu cynhwysol.
Ymchwil Gweithredu
Mae ymchwil weithredol yn fethodoleg ar gyfer ymchwil ar raddfa fach sy’n seiliedig ar ymchwiliadau, gyda llais myfyrwyr yn ganolog i’r broses, ac felly mae’n fodel delfrydol ar gyfer chwilio am leisiau amrywiol, gwrando arnynt ac ymateb iddynt, er mwyn gwneud gwelliannau i ymarfer. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y tudalennau hyn ar fyfyrio a gwerthuso.
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol