Myfyrwyr Rhyngwladol
Tudalen Thema Cynwysoldeb
Dechrau arni
Mae demograffeg newidiol ein poblogaeth myfyrwyr dros y 30 mlynedd diwethaf wedi’i hysgogi gan ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd, addysgol, cymdeithasol a thechnolegol. Mae ein poblogaeth o fyfyrwyr a staff yn cynnig cyd-destun byd-eang cyfoethog ac amrywiol sy’n cyfoethogi ac yn dod â gwerth i’n prifysgolion.
Awgrymodd Universities UK yn ddiweddar fod:
‘…addysg uwch ac ymchwil rhyngwladol yn hynod bwysig i’n prifysgolion ac er budd cenedlaethol hirdymor y DU. Maen nhw’n helpu i sicrhau ein henw da, ein dylanwad a’n heffaith ledled y byd. Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dathlu ein llwyddiannau – ac yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod cefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol i ryngwladoli yn cael ei chynnal.
Fodd bynnag, mae cyd-destun geo-wleidyddol cynyddol heriol – gan gynnwys effeithiau hirdymor y pandemig ac ymadawiad y DU â’r UE – wedi cael effaith sylweddol ar brifysgolion a’u hymgysylltiad byd-eang. Fel y dengys y data, rydym yn gweld newidiadau yng nghyfansoddiad y corff myfyrwyr rhyngwladol, tra bod symudedd myfyrwyr allanol wedi dioddef yn sylweddol ac yn parhau i fod yn brofiad lleiafrifol i fyfyrwyr y DU.’
Mae’r dirywiad hwn yn cael ei weld ar draws holl brifysgolion y DU, gan newid tirwedd addysg ryngwladol ac yn ysgogi’r cwestiwn beth yr ydym yn ei wneud ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol?
Mae’r dudalen hon yn canolbwyntio ar themâu pontio, ymsefydlu, ac ystyriaethau ieithyddol, diwylliannol ac academaidd ar gyfer rhyngwladoli AU. Mae’r adran Archwilio’n Ddyfnach yn archwilio’r themâu hyn yn fanwl, gyda llenyddiaeth allweddol, astudiaethau achos, ac adnoddau sy’n seiliedig ar ymchwil ar sail tystiolaeth a safbwyntiau staff a myfyrwyr.
Os nad oes gennych amser i ymchwilio i’r manylion ar hyn o bryd, dyma awgrym da ar gyfer addysgu myfyrwyr rhyngwladol i’ch helpu i roi cychwyn arni:
Myfyrwyr rhyngwladol
Defnyddir y term ‘myfyrwyr rhyngwladol’ fel arfer i ddisgrifio myfyrwyr nad ydynt yn hanu o’r DU sydd wedi teithio i astudio yn y DU. Ym Mhrifysgol Caerdydd, daw ein myfyrwyr rhyngwladol o dros 138 o wledydd, gan ddod â diwylliannau, ieithoedd a thraddodiadau newydd i’n cymuned ddysgu amrywiol a chyfoethog. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod cyfyngiadau labelu myfyrwyr fel rhai sy’n perthyn i un grŵp a pheidio â gwneud rhagdybiaethau ar sail y wlad mae myfyriwr yn hanu ohoni. Mae pob amgylchedd ystafell ddosbarth yn amrywiol, gyda myfyrwyr brodorol a rhyngwladol yn cofrestru gydag ystod o wahanol gefndiroedd ethnig, economaidd-gymdeithasol a chrefyddol, cyd-destunau addysg blaenorol, a ffyrdd o ddysgu. Mae bod yn fyfyriwr rhyngwladol ond yn un rhan o hunaniaeth amlochrog person.
Mae’r prosiect addysg gynhwysol yn defnyddio dull ar sail tystiolaeth ac mae’n deall bod amrywiaeth rhwng grwpiau o fyfyrwyr yn ogystal â nodweddion cyffredin ar draws y corff myfyrwyr. Rydym yn mabwysiadu ffordd gynhwysol o edrych ar amrywiaeth (Hockings 2010) ac yn lleoli ein gwaith, gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei ddwyn i gyfoethogi ein sefydliad a’n hamgylcheddau dysgu. Os ydych yn dymuno darllen mwy am y naratif diffyg a gwerth, cliciwch yma.
Cynllun Pontio ac Ymsefydlu
Awgrymiadau da ar gyfer ymsefydlu
- Cysylltwch cyn i fodiwlau neu raglenni ddechrau, gan gyflwyno'ch hun a rhannu gwybodaeth allweddol am y modiwl a'r disgwyliadau. Cyfeiriwch fyfyrwyr at y cymorth sydd ar gael iddynt.
- Yn ystod darlithoedd neu seminarau, anogwch fyfyrwyr i rannu profiadau, a rhowch gyfleoedd cymorth cymheiriaid ar gyfer y ddisgyblaeth a’r profiad ehangach yn y brifysgol.
- Cyfeiriwch fyfyrwyr at wasanaethau cymorth y brifysgol fel gwasanaethau academaidd yn ogystal â gwybodaeth ehangach am yr ardal leol a'r hyn sydd ar gael.
- Anogwch fyfyrwyr i gofleidio cymysgu ag eraill fel profiad dysgu naturiol a chadarnhaol (eto, gall hyn fod trwy gyfarfodydd anffurfiol e.e. cyfleoedd i ddod at ei gilydd ar ddiwedd tymor)
Mae prifysgolion yn cynnig ystod eang o brosesau sefydlu i fyfyrwyr gyda ffocws ar bontio’n llwyddiannus i’r diwylliant addysgol newydd. Fodd bynnag, nid wythnosau cyntaf y brifysgol yn unig yr ydym yn golygu ond sut mae myfyrwyr yn ymdopi â’u taith fel myfyrwyr a’r prosesau pontio yn y brifysgol, trwy gydol eu hamser ynddi a’r tu allan iddi.
Mae’r broses bontio yn yr ystyr ehangaf yn gymhleth ac yn cynnwys ystod enfawr o randdeiliaid a hunaniaethau croestoriadol. Mae myfyrwyr yn gweld y broses bontio yn heriol (Kift et al, 2010), ac mae ymchwil yn awgrymu bod y broses hyd yn oed yn anoddach mynd trwyddi i fyfyrwyr rhyngwladol (Wu & Hammond 2011). Mae’r cyfnod sefydlu yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant myfyrwyr i ymaddasu i’w cyd-destun newydd a lleihau effeithiau sioc diwylliant gwahanol. Gall hefyd helpu myfyrwyr i ffurfio rhwydwaith sy’n dod yn sylfaen ar gyfer gwaith tîm o fewn lleoliad academaidd, ac sy’n cynnig cymorth cymheiriaid er budd profiad ehangach y myfyriwr. Mae mwy o ddeunydd darllen ac adnoddau ar bwnc sefydlu a phontio i’w gweld yn yr adran Archwilio’n Ddyfnach trwy glicio yma .
Isod fe welwch gyngor ar sail dimensiynau Bell (2016) o’r model cymorth pontio rhyngwladol ‘. Os ydych yn dymuno ymchwilio’n ddyfnach i’r thema hon, cliciwch y ddolen hon i’r adran Archwilio’n Ddyfnach.
Ystyriaethau academaidd a diwylliannol
Isod mae rhai awgrymiadau da i’ch helpu i ddechrau .
Po fwyaf y byddwch chi’n dod i wybod am eich myfyrwyr a’u profiadau blaenorol amrywiol, eu cyd-destun diwylliannol a’u cefndir addysgol, y mwyaf y gallwch chi ragweld heriau a chynllunio a dylunio cyfleoedd dysgu sy’n chwalu’r rhwystrau hyn. Pan fyddwch chi’n cymhwyso Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (CAST, 2018) ac addysgeg sy’n ymateb yn ddiwylliannol i’ch ymarfer, rydych chi’n rhagweld heriau ac yn darparu ar gyfer carfan amrywiol o fyfyrwyr gan ddylunio i dynnu’r rhwystrau. Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r dull hwn o ddylunio yn gwella’r profiad dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig, mae’n gwella’r dysgu i bob myfyriwr. Os hoffech chi ddysgu mwy am y dulliau addysgol hyn, ewch i’n tudalen Grymuso Myfyrwyr i gyflawni eu potensial. I ddarllen safbwyntiau darlithydd a myfyrwyr ar sut mae integreiddio academaidd a diwylliannol yn effeithio ar brofiad myfyrwyr, cliciwch ar yr adran Archwilio’n Ddyfnach yma.
Dealltwriaeth Ieithyddol
Ni fydd pob myfyriwr rhyngwladol yn wynebu her ieithyddol, a bydd i raddau llai yn unig i rai (Bell, 2016). Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol, rhuglder iaith yw’r her fwyaf wrth addasu i fywyd prifysgol y DU (Sawir, 2005 a Burdett a Crossman, 2012). Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am sut i oresgyn her dealltwriaeth ieithyddol i fyfyrwyr rhyngwladol, cliciwch ar yr adran Archwilio’n Ddyfnach.
Awgrymiadau defnyddiol:
- Sicrhau bod adnoddau (e.e. sleidiau darlithoedd, darlleniadau, astudiaethau achos, cyfarwyddiadau gweithgareddau) yn cael eu darparu 48 awr ymlaen llaw fel y gall myfyrwyr eu cyfieithu/ymgyfarwyddo â nhw.
- Cynllunio sesiynau gydag amser meddwl/amser tawel gan alluogi myfyrwyr i brosesu'r wybodaeth.
- Darparu geirfa ar-lein y gall myfyrwyr ychwanegu ati a chael mynediad iddi. Gellir creu hon ar y cyd â myfyrwyr.
- Defnyddio delweddau ac iaith glir a syml.
- Ysgrifennu termau neu acronymau newydd a thalfyriadau ar y bwrdd neu ar sleidiau a'u nodi'n benodol a'u hesbonio.
- Ystyried eich cyflymder a'ch defnydd o drosiadau, idiomau a chyfeiriadau sy’n ddiwylliannol benodol, heb gynnig esboniadau am eu hystyr.
- Esboniwch gyfeiriadau sy’n benodol i’r DU at enghreifftiau neu arteffactau diwylliannol neu hanesyddol.
Yma cewch ganllawiau i helpu i leihau’r rhwystrau ieithyddol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu:
Darlithoedd
Darparu cwestiynau dan arweiniad ar gyfer darllen cyn sesiwn (i ganolbwyntio sylw ar faterion allweddol a rhoi pwrpas i’r darllen.
• Rhestru’r canlyniadau dysgu a fwriedir a pharhau i gyfeirio'n ôl atynt i esbonio pam mane nhw’n bwysig.
• Defnyddio cymysgedd o ddeunyddiau clywedol/gweledol a chyflwyniadau.
• Cynnwys seibiau.
• Defnyddio delweddau a siarad yn glir ac yn araf.
Defnyddio cwestiynau penagored i gynorthwyo trafodaeth.
• Darparu cyfleoedd ar gyfer trafodaeth â chydfyfyrwyr.
• Darparu tasgau a darlleniadau cyn sesiwn ymlaen llaw, fel y gall myfyrwyr baratoi ar gyfer cynnwys y ddarlith
Asesiadau
Trafod a dadansoddi'r cyfarwyddiadau/meini prawf asesu.
• Caniatáu i fyfyrwyr drafod a dadansoddi enghreifftiau (ochr yn ochr â meini prawf asesu)
• Cynnig cyfleoedd ar gyfer adborth ffurfiannol yn gynnar (adborth gan gymheiriaid a/neu ddarlithwyr)
• Peidio â chymryd yn ganiataol bod pawb yn gwybod beth yw ystyr 'bod yn feirniadol'.
• Esbonio beth yw ystyr marciau.
• Darparu rhestrau gwirio aseiniadau.
• Annog/cefnogi myfyrio/hunanasesu (beth aeth yn dda, beth gallaf ei wneud i wella y tro nesaf)
Gweithio’n rhan o dîm
Mae llawer o ymchwil ynghylch y dull gorau o weithio’n rhan o dîm mewn cyd-destun amlddiwylliannol. Bydd y dull y byddwch yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar eich myfyrwyr a'r ddisgyblaeth ond dylai:
- Trafod manteision gweithio gydag eraill, gan godi mater gwahaniaethau diwylliannol a chamddealltwriaethau posibl â myfyrwyr cyn y gweithgaredd.
- Gosod rheolau sylfaenol (wedi'u creu ar y cyd â myfyrwyr), rolau a disgwyliadau gwahanol, a sut beth yw llwyddiant.
- Grwpiau cymorth i ddod i gytundeb cyffredin ynghylch sut y byddant yn trin materion dadleuol a allai godi.
- Neilltuo grwpiau i helpu i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol rhwng diwylliannau (Burns, V 2013) ac osgoi’r tuedd i fyfyrwyr ddewis gweithio mewn grwpiau monodiwylliannol.
Seminarau
- Esboniwch beth yw pwrpas seminarau a beth rydych chi'n ei ddisgwyl gan y myfyrwyr.
- Rhowch dasgau paratoi cyn seminarau.
- Dewch o hyd i adnoddau/enghreifftiau o gyd-destunau myfyrwyr.
- Manteisiwch ar arbenigedd myfyrwyr a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr rannu o'u cyd-destun (ond peidiwch â'u gorfodi).
- Caniatewch amser meddwl cyn disgwyl ateb a gadael i fyfyrwyr orffen.•
- Anogwch fyfyrwyr i rannu eu meddyliau/syniadau â'i gilydd cyn adrodd yn ôl i'r dosbarth cyfan (mae’n creu lle diogel i'w rannu).
Materion dadleuol
Canolbwyntiwch ar fodel archwiliadol o drafod - chwilio am wybodaeth i gael persbectif newydd.
• Dylid rhagweld deunydd a allai fod yn ddadleuol a chynllunio i'w reoli.
• Modelwch ymddygiadau o ymateb gan ddefnyddio datganiadau niwtral.
• Byddwch yn glir ynghylch gwerth gwybod yr hyn nad ydych yn ei wybod.
• Defnyddiwch gwestiynau agored i lywio'r drafodaeth.
Hygyrchedd Digidol
Myfyrwyr rhyngwladol: Y naratif diffygion
Defnyddir y naratif diffyg yn helaeth, ac mae'n gweld athrawon ac addysgwyr yn canolbwyntio ar 'diffyg' iaith, dealltwriaeth ac integreiddio, yn hytrach na sut mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfoethogi'r profiad dysgu i bawb. Mae nifer o ymchwilwyr wedi archwilio'r ffenomen hon:
• Diffyg sgiliau iaith a sgiliau academaidd (Lower 2017)
• Diffyg integreiddio cymdeithasol (Cockrill 2017)
• Diffyg hyder i achub ar gyfleoedd dysgu a chwestiynu (Turner 2015)
• Diffyg sgiliau meddwl beirniadol neu allu i gymryd rhan ar lafar (Marline 2009)
• Diffyg gwybodaeth am faterion a sefydliadau lleol (Krall 2017)
Mae'r naratif diffygion wedi'i wreiddio mewn stereoteipiau o un math o fyfyriwr rhyngwladol ond yn cael ei gymhwyso i bob un. Y naratif 'diffygion' hwn sy’n gallu meithrin tensiynau rhyngddiwylliannol rhwng myfyrwyr brodorol a chreu'r teimlad o 'eraill' gan lunio perthnasoedd dysgu ac arferion addysgeg (Stroker 2015) Mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn gweld iaith wahaniaethol a thuedd gan eu cyd-ddisgyblion (Heloitt et al 2020) sy'n awgrymu bod angen i fyfyrwyr rhyngwladol gymathu i arferion addysgeg traddodiadol y DU. Mae hyn yn rhoi'r canfyddiad i fyfyrwyr rhyngwladol mai eu gwaith nhw yw addasu a chymhathu i 'ein ffordd ni'.
Mae ‘Internationalising HE Framework’ Advance HE (2024) yn amlygu cyfrifoldeb y brifysgol i gefnogi myfyrwyr gyda’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu,

an ddefnyddir naratif diffygion, collir cyfle hefyd i gydnabod a gwneud y gorau o'r persbectifau diwylliannol, deallusol a phrofiadol amrywiol y gall myfyrwyr rhyngwladol eu cynnig i brofiadau pob myfyriwr.
Myfyrwyr rhyngwladol: Y naratif gwerth
Mae llenyddiaeth ddiweddar yn cydnabod sut mae gallu unigol a’r gallu i addasu yn bwysig i ddeall sut mae myfyrwyr yn dysgu, ochr yn ochr â dimensiynau amrywiol amrywiaeth a stereoteipiau a thybiaethau traddodiadol grwpiau penodol o fyfyrwyr (Sanger a Gleason, 2020) Mae Lomer (2017) yn cymhwyso naratif gwerth sy'n portreadu myfyrwyr rhyngwladol fel cynnig ffenestr ar y byd, gan wella ansawdd addysg uwch trwy hwyluso rhyngwladoli. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cynnig persbectif gwahanol a phan gânt eu gwerthfawrogi, gallant wella profiad dysgu pob myfyriwr, gan ennill cymwyseddau diwylliannol a fydd yn paratoi pawb ar gyfer y byd sydd wedi’i globaleiddio. Mae sawl budd i bob myfyriwr pan fydd yr amgylchedd dysgu yn cydnabod, yn dathlu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth pawb:
Cyfoethogi diwylliannol
Mae carfan ryngwladol yn dod ag amrywiaeth o ddiwylliannau, safbwyntiau a phrofiadau i'r amgylchedd academaidd.
Rhwydweithio Byd-eang
Mae rhyngweithio â chydfyfyrwyr o bedwar ban byd yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr greu rhwydwaith rhyngwladol. Gall y rhwydwaith hwn ymestyn y tu hwnt i'r lleoliad academaidd a chyfrannu at gydweithrediadau a chysylltiadau proffesiynol/personol yn y dyfodol.
Profiad Dysgu Gwell
Mae bod yn agored i safbwyntiau gwahanol yn herio safbwyntiau traddodiadol ac yn meithrin meddwl beirniadol. Gall yr amrywiaeth hwn arwain at drafodaethau mwy cynhwysfawr a dealltwriaeth ddyfnach o faterion byd-eang.
Paratoi ar gyfer Gyrfaoedd Byd-eang
Mae ymgysylltu â charfan ryngwladol yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithleoedd byd-eang. Mae'r gallu i weithio'n effeithiol mewn timau amrywiol yn sgil y mae galw mawr amdano yn y byd rhyng-gysylltiedig sydd ohoni.
Felly, mae ffocysu ein ffordd o feddwl gan ddefnyddio'r naratif gwerth yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn myfyrio ar anghenion yr holl fyfyrwyr i wella'r amgylchedd dysgu i bawb
Pontio a sefydlu: Archwilio’n Ddyfnach
Mae pontio’n gallu digwydd trwy gydol taith y myfyriwr a phan fydd yn llwyddiannus mae’n gallu arwain at ddatblygu hunaniaeth a ffyrdd newydd o wybod (Beach 1999, yn Ecochard a Fotheringham 2017:101). Mae Ploner (2018) yn trafod lletygarwch academaidd sy'n canolbwyntio ar y cyfnewid cilyddol rhwng 'gwesteiwr' a 'gwestai'. Pan fyddwch yn cymhwyso'r cysyniad hwn i fyfyrwyr rhyngwladol, rydych yn ail-fframio'r naratif diffygion ac yn symud tuag at y syniad o werthfawrogi a dysgu o ddifri o wahanol ddiwylliannau.
Bydd gan fyfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol brofiadau a disgwyliadau cymysg. Mae myfyrwyr rhyngwladol sy'n teithio i astudio wedi dangos ymrwymiad eisoes i astudio mewn gwlad arall. Fodd bynnag, gall y realiti fod yn wahanol iawn i'r disgwyliad. I fyfyriwr brodorol, mae’r broses o fynd i mewn i gyd-destun newydd fod yn heriol mewn sawl ffordd. Mae dimensiynau ychwanegol addasu i ddiwylliant newydd o fewn y broses bontio yn creu her ychwanegol i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae angen ystyried y rhain wrth gynllunio prosesau sefydlu a throsglwyddo. Nid yw pontio’r bwlch rhwng profiad blaenorol a disgwyliadau i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu perfformio i’w botensial yn golygu newid yr hyn a ofynnwn i fyfyrwyr, ond mae’n golygu cydnabod graddfa’r pontio y mae rhai myfyrwyr yn ei wynebu (Scudamore 2013).
(Scudamore 2013: 10) yn nodi bod sawl cam i’r broses bontio sy’n gallu para dros ychydig fisoedd. Gaallai rhai neu bob un fod yn brofiadau gan fyfyrwyr:

Ffigur: Camau pontio (Scudamore 2013, t10)
Dimensiynau addasu
Yn fras, mae'r llenyddiaeth yn cyflwyno 3 dimensiwn addasu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol:

Dyma enghraifft o rai heriau y gall myfyrwyr rhyngwladol eu hwynebu wrth addasu i'r brifysgol:
Academaidd | Ieithyddol | Cymdeithasol-ddiwylliannol |
Arferion addysgu | Cyfathrebu â siaradwyr brodorol (cyflymder, acen, cywair, iaith y corff a llafaredd ac ati) | Dod o hyd i’w ffordd o gwmpas dinas newydd, ymgyfarwyddo â’r system drafnidiaeth gyhoeddus, dod o hyd i lety |
Deinameg ystafell ddosbarth | Diffyg cyfatebiaeth rhwng profion hyfedredd safonol a realiti | Gwneud cylch ffrindiau newydd |
Traddodiadau craidd dysgu ac addysgu (e.e. dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr) | Deall a chynhyrchu testunau academaidd | Ymuno â'r system gofal iechyd |
Gwerthoedd craidd (e.e. cysyniadau llwyddiant) | Addasu i fwyd, tywydd, confensiynau cymdeithasol | |
Aseiniadau a dulliau asesu | Delio â phwysau ariannol |
Dimensiynau'r model cymorth rhyngwladol (Bell 2016)
Mae'r adnodd canlynol yn dangos dimensiynau Bell (2016) o'r model cymorth rhyngwladol yn tynnu sylw at y math o gymorth y mae prifysgolion yn ei gynnig, ac yn nodi arferion allweddol i helpu i gefnogi'r broses bontio.

Integreiddio Academaidd a Diwylliannol
Mae integreiddio cymdeithasol-ddiwylliannol myfyrwyr rhyngwladol yn hollbwysig i sut mae myfyrwyr yn datblygu ymdeimlad o berthyn o fewn eu cyd-destun newydd. Mae pob myfyriwr yn mynd i'r brifysgol gyda ystod o ddimensiynau, cefndiroedd a phrofiadau bywyd amrywiol. I fyfyrwyr rhyngwladol, gall yr anghysondeb rhwng eu diwylliant brodorol a chyd-destun y DU effeithio ar eu profiad addysgol. Mae llenyddiaeth yn adrodd yn helaeth am yr addysgeg sy’n cael ei llywio gan gyd-destun (Quan et al 2016) ac yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng systemau o un wlad i’r llall. Mae arferion addysgu a disgwyliadau academaidd yn amrywio o wlad i wlad. Pan na chaiff y rhain eu hegluro a'u rhannu'n benodol, gall myfyrwyr deimlo wedi’u drysu gan iaith a gweithdrefnau academaidd (Burdett & Crossman 2012).
Mae natur fwyfwy rhyngwladol prifysgolion wedi dangos sut y gall dysgu rhyngddiwylliannol ac ymdrechion o ran cynhwysiant gweithredol sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gorau o’u profiad addysgol a’u paratoi ar gyfer y byd wedi’i globaleiddio (Slater a Gleason 2022). Mae’r cyfle i ddatblygu cymwyseddau allweddol yn ystod eu profiad prifysgol, megis cymwyseddau diwylliannol, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu dyfodol proffesiynol a phersonol.
Rydym yn diffinio'r term cymwyseddau rhyngddiwylliannol fel yr wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau hynny sy'n ffurfio gallu person i gyd-dynnu â phobl o ddiwylliannau amrywiol, a gweithio a dysgu gyda nhw.
(Advance HE 2014)
Gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol daw'r angen i symud i ffwrdd o ragdybiaethau a deuoliaeth ddiwylliannol sydd wedi'u priodoli i grwpiau o fyfyrwyr. Pan fyddwch chi'n gwerthfawrogi'r amgylchedd amlddiwylliannol, mae'n helpu i herio'r stereoteipiau hynny a oedd yn gysylltiedig â diwylliannau o’r blaen. Un o'r rhwystrau mwyaf y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu yw'r diffyg ystyriaeth o ran cyd-destun diwylliannol a chefndir addysgol y myfyriwr. Felly, wrth weithio gyda myfyrwyr rhyngwladol, dylid rhoi ystyriaeth i’r ffaith fod system addysgol flaenorol y myfyrwyr a’u cefndir diwylliannol ac ieithyddol yn gallu gwneud wneud y broses o ddysgu yn fwy anodd (Slater ac Inagawa 2019:7)
Isod fe welwch amrywiaeth o safbwyntiau gan diwtoriaid a darlithwyr EAP :
Tiwtor EAP 1:
Roeddwn yn meddwl tybed sut mae'r brifysgol ar hyn o bryd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn ein hymdrechion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hyn yn cael ei ysgogi gan drafodaethau â rhai myfyrwyr rhyngwladol ynghylch faint y buont yn cael trafferth gyda dosbarthiadau lle e.e. mae'r darlithydd yn defnyddio iaith gymhleth iawn y mae myfyrwyr brodorol yn ei deall ond nad yw myfyrwyr rhyngwladol yn ei deall, ac effaith emosiynol teimlo'n ymylol mewn dosbarthiadau.
Efallai ei bod yn anochel y byddai rhai heriau yn y maes hwn, a byddai rhai yn dadlau mai cyfrifoldeb myfyrwyr yw sicrhau bod ganddynt y gallu ieithyddol i astudio yn y DU. Fodd bynnag, mae'r rhain yn fyfyrwyr sydd wedi cyrraedd y safonau iaith sy'n ofynnol gan y brifysgol, ond sy’n canfod nad yw hyn yn ddigonol ar gyfer lefel yr iaith a ddefnyddir gan rai darlithwyr. Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud cynnwys ‘yn haws’ - ond yn hytrach meddwl am y math o iaith a ddefnyddir (e.e. brawddegau cymhleth a hir, llawer o idiomau, cyfeiriadau diwylliannol sy'n hysbys i fyfyrwyr brodorol yn unig).
Tiwtor EAP 2:
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn aml yn ymddangos yn ymwybodol o'r angen i wneud rhywbeth 'beirniadol’ yn eu hysgrifennu ond yn gofyn cwestiynau am beth yn union y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol. Gall chwilio am y gair 'critical' mewn geiriadur Saesneg ychwanegu at yr ansicrwydd. Yn eu cwestiynau traethawd, gall darlithwyr ddefnyddio geiriau ac ymadroddion gwahanol er mwyn gofyn am ddull beirniadol. Rhai o'r rhain sy'n dod i'r meddwl yw:
o Gwerthuso
o Gwerthuso'n feirniadol
o Asesu
o Adeiladu dadl
o Dangos eich safiad/safbwynt/persbectif/cymhelliant
Ac weithiau, defnyddir y gair ‘trafod’ yn unig (efallai wrth dybio’r mewnbwn ‘beirniadol’)
Mae enghreifftiau o’r hyn sy’n cyfrif fel ‘beirniadol’ mewn cyd-destun/cwestiwn penodol yn anodd (ac yn beryglus) i diwtor cymorth ysgrifennu eu rhoi.
Tiwtor EAP 3:
Yn aml mae myfyrwyr rhyngwladol yn sôn am anhawster cymryd rhan mewn trafodaethau â myfyrwyr brodorol. Weithiau maen nhw'n cael trafferth deall - yn enwedig gyda Saesneg mwy llafar - ond hefyd i gael eu deall. Dywedodd un myfyriwr wrthyf yn ddiweddar ei bod yn teimlo bod myfyrwyr brodorol yn osgoi siarad â hi gan ei bod hi’n meddwl bod hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus os ydyn nhw’n cael trafferth gyda'i hacen. Rwy’n teimlo bod angen dybryd i staff academaidd ymgysylltu â myfyrwyr brodorol yn ogystal ag â myfyrwyr rhyngwladol wrth ddatblygu ystafell ddosbarth gynhwysol - ac, yn wir, greu rhaglen ac amgylchedd Ysgol cynhwysol. Mae angen i hyn ddigwydd o'r diwrnod cyntaf. Neu hyd yn oed cyn hynny. I ba raddau mae ein myfyrwyr brodorol yn deall beth mae'n ei olygu i astudio mewn prifysgol ryngwladol - os ydym wir yn rhyngwladol?
Mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol hefyd yn nodi bod y myfyrwyr brodorol wedi symud ymlaen i agwedd arall ar y pwnc erbyn iddynt feddwl am sut i gyfrannu rhywbeth at y drafodaeth. Mae hyn i mi yn awgrymu bod angen mwy o sgaffaldau ar gyfer gweithgareddau trafod – er enghraifft, yr angen i gynnwys amser meddwl a pharatoi ond hefyd ymarfer mwy preifat (e.e. gwaith pâr) cyn trafodaeth mewn grŵp mwy.
Darlithydd 1
Yn aml mae myfyrwyr rhyngwladol yn cael anhawster deall beth mae'r meini prawf marcio yn ei olygu mewn ystyr go iawn. Er enghraifft, gall y meini prawf gynnwys syniadau eithaf generig fel 'mae'n rhaid i waith ysgrifenedig fod â chyfeirnodau da, fod wedi’i strwythuro'n dda a dangos tystiolaeth o werthuso' ond mae'r sgiliau hynny'n anodd eu dangos os na chânt eu hesbonio'n iawn. Yn yr un modd, mae'n rhaid esbonio adborth am waith ffurfiannol yn eithaf manwl fel ei bod yn glir beth sydd angen ei newid.
Darlithydd 2
Mewn llawer o wledydd, mae myfyrwyr wedi arfer â system lle mae'n bosibl (ac yn nodweddiadol) i gael canrannau uchel iawn ar gyfer gwaith cwrs ac mewn arholiadau (e.e. 90-100%). Yn aml maen nhw’n cael sioc pan gânt farc yma tua 60% a dywedir wrthynt ei fod yn 'dda'. Yn aml maen nhw’n mynd i banig eu bod yn methu ac yn poeni am ddweud wrth eu rhieni. Argymhellir esbonio'r system raddio yma a bod 60-70%+ yn radd dda/da iawn.
Dealltwriaeth Ieithyddol
Fel y soniwyd uchod, mae hyfedredd ieithyddol yn chwarae rhan sylfaenol yng ngallu myfyrwyr i integreiddio'n llawn i'w cyd-destun newydd. Isod fe welwch ddetholiad o safbwyntiau myfyrwyr rhyngwladol ar ystyriaethau ieithyddol gan Jenkins a Wingate (2015).
Myfyriwr 1
Mae IELTS yn ymwneud â rhoi eich barn, fel bod gennych bwnc a'ch bod yn ysgrifennu cyflwyniad, corff a chasgliad, ac rydych chi'n meddwl am eich syniadau ac mae hynny'n iawn. Ac yna rydych chi'n meddwl y dylech chi wneud yr un peth yn eich traethodau prifysgol.
Myfyriwr 2
Roedd yr aseiniadau roedden nhw’n rhoi i ni bob amser ar gyfer gwerthuso, ar gyfer marcio. Ond efallai y byddan nhw'n rhoi mathau gwahanol o aseiniadau i ni, dim ond i roi adborth.
Myfyriwr 3
Ond y broblem yw’r amser […] a dydw i ddim yn edrych arno [h.y. problemau gramadeg] fel rhywbeth y mae gwir angen i mi ei wella oherwydd bod gen i flaenoriaethau eraill - mae angen i mi gyflwyno gwaith cwrs, mae angen i mi wneud fy aseiniad, - felly nid yw'r broblem honno'n cael ei datrys.
Myfyriwr 4
Os ydych chi'n anabl maen nhw'n rhoi peth ystyriaeth i hyn, maen nhw'n rhoi rhywfaint o empathi i chi, maen nhw'n rhoi rhai credydau [...]. Os ydych chi'n ddyslecsig, maen nhw'n gwneud rhywfaint o eithriad i chi hefyd, iawn? Pan rydych chi’n fyfyriwr tramor, rydych chi bron fel rhywun dyslecsig, hynny yw, nid yr un peth yn llythrennol ond rydych chi bron yn cyflawni’r meini prawf anabledd […], felly yr hyn y byddwn i’n ei awgrymu yw os yw prifysgolion yn edrych ar y pwynt y mae’r bobl hyn yn ei wneud [ …] a'r syniadau a'r wybodaeth y mae'n rhaid i fyfyrwyr tramor eu rhannu neu eu rhoi, y dylid eu marcio yn ôl meini prawf.
Ymchwil allweddol i rôl hyfedredd ieithyddol a'r heriau y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu (Gatwiri G. 2015)
• Ceir trafodaeth ynghylch a yw profion iaith safonol traddodiadol a dulliau gramadeg yn paratoi myfyrwyr yn ddigonol (Wu a Hammond 2011). Hyd yn oed pan fo sgiliau Saesneg myfyrwyr yn dda, pan fyddant yn cyrraedd y brifysgol, maen nhw’n canfod bod eu hyfedredd ieithyddol yn annigonol i ymdopi â gofynion amgylchedd Saesneg ei hiaith.
• Mae heriau hefyd ynghlwm wrth y cynildeb a geir mewn ysgrifennu academaidd. Gall lefel y cymhwysedd iaith i nodi'r gwahaniaethau hyn a'u modelu yn eu hysgrifennu fod yn feichus.
• Gall adolygu ffynonellau ar gyfer dibynadwyedd a dilysrwydd a'r iaith a ddefnyddir a'r cyd-destun fod yn llai hygyrch i fyfyrwyr gan greu rhwystrau i'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. (Ramachandran 2011: Ecochard a Fotheringham 2017).
Nid yr hyfedredd iaith academaidd yn unig sy’n gallu achosi her ond mae’r cyfathrebu â siaradwyr brodorol a chyflymder y siaradwr, y dafodiaith, yr acen, a’r defnydd o idiomau a throsiadau sy’n ddibynnol ar ddealltwriaeth ddiwylliannol yn gallu creu ymdeimlad o unigedd a all effeithio ar integreiddio academaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol. (Wu a Hammad 2011, Akanwa 2015).
Mae angen gwneud ystyriaethau ynghylch:
• Mae angen ystyried sut roedd Saesneg yn cael ei haddysgu yn y famwlad ac i ba lefel o gaffaeliad, y defnydd ar Saesneg anffurfiol yn y DU, y defnydd ar idiomau, trosiadau, a chyfeiriadau sy’n benodol i’r diwylliant ac, yn olaf, yr iaith academaidd benodol sy’n gysylltiedig â’r ddisgyblaeth.
• P'un a yw'r myfyriwr wedi dysgu Saesneg gan siaradwr Saesneg brodorol neu rywun sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol (Ramachandran 2011).
Mae llawer o ffactorau cynnil yn cyfrannu at sut mae myfyriwr yn caffael iaith a byddai’n afrealistig disgwyl i fyfyrwyr rhyngwladol gyrraedd y DU gan ddefnyddio Saesneg rhugl, a gwybodaeth o gyfeiriadau cyd-destunol, trosiadau, ac idiomau i gyfathrebu’n effeithiol (Ecochard a Fotheringham 2017). Mae’r safbwynt hwn yn tanseilio natur gymhleth ieithyddiaeth gymhwysol a chaffael iaith arall. Mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn dewis astudio yn y DU gan eu bod yn deall gwerth ymdrochi yn yr iaith i wella eu gallu ieithyddol. Felly, mae’n bwysig cydnabod her hyfedredd ieithyddol a bod yn ymwybodol o’i effaith ar yr amgylchedd dysgu
Tynnu Sylw at Gefnogaeth
Sgiliau Saesneg Academaidd i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Mae tîm Sgiliau Saesneg Academaidd Rhaglenni Iaith Saesneg yn darparu dosbarthiadau am ddim a thiwtorialau un-i-un i fyfyrwyr rhyngwladol presennol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Gallwn eich cefnogi gyda chyngor ar y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth academaidd yn y DU.
Dosbarthiadau a gweithdai
Tiwtorialau un-i-un
Adnoddau hunanastudio
Gwybodaeth bellach a chofrestru
Manylion cyswllt
Os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch ag:
Sgiliau Saesneg Academaidd i Fyfyrwyr Rhyngwladol
academicenglish@caerdydd.ac.uk
https://www.caerdydd.ac.uk/study/international/english-language-programmes/academic-english-skills-for-international-students
Ystyriaethau ymarferol
Rhagdybiaethau: Byddan nhw i gyd wedi gwneud yn dda yn eu system addysg, fodd bynnag, ni fyddan nhw i gyd yn rhannu'r un wybodaeth a sgiliau ac efallai y bydd ganddynt brofiadau bywyd gwahanol i'ch rhai chi. Peidiwch â disgwyl iddynt ddeall yr holl gonfensiynau academaidd y gallwch eu cymryd yn ganiataol o reidrwydd, nac iddynt wybod sut i baratoi ar gyfer seminar neu astudiaeth achos.
Cwestiynau Myfyrio:
• Pa ragdybiaethau rydych chi'n eu gwneud am wybodaeth eich myfyrwyr?
• Beth rydych yn ei ddisgwyl y gallant, ac na allant ei wneud?
• Pa ddisgwyliadau sydd gennych chi gan eich myfyrwyr?
Rheoli disgwyliadau: Lle bo modd, trwy wefannau, dogfennaeth cyn cyrraedd, briffio drwy e-bost, yr VLE a'r wythnos sefydlu; helpwch fyfyrwyr i ddeall beth i'w ddisgwyl o'ch cwrs neu fodiwl a hefyd yr hyn rydych yn ei ddisgwyl ganddynt.
Cwestiynau:
• Beth fydd maint y dosbarth?
• Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu?
• Sawl darlith fydd yna?
• Pa brofion ffurfiannol sydd yna?
• Faint o ddarllen rydych chi'n disgwyl iddyn nhw ei wneud bob wythnos?
• Beth yw strwythur y modiwl a pha bynciau fydd yn cael sylw?
Arddull y cyflwyniad: Defnyddiwch lais araf a chlir, rhowch gyfle i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â'ch defnydd ar iaith ac acen eich defnydd ar drosiadau, ac idiomau, byddwch yn glir!!
Cwestiynau Myfyrio:
• Oes gennych chi ymadroddion penodol rydych chi'n eu defnyddio a allai fod yn peri dryswch?
• Pa ymadroddion, geirfa academaidd benodol y bydd angen iddynt eu gwybod?
• Pa mor gyflym rydych chi'n siarad, uchder, y cyfeiriad rydych chi'n ei wynebu?
Anogwch siarad yn y dosbarth: Mae'r ffordd rydych chi'n derbyn yr ychydig gyfraniadau dosbarth cyntaf yn bwysig iawn i ddeinameg y dosbarth wrth i'r modiwl ddatblygu. Croesawch bob cyfraniad a cheisiwch beidio â bod yn feirniadol o unrhyw sylwadau a wnaed (gweler Buttner 2004). Os yw myfyriwr wedi camddeall y pwynt, diolchwch iddo am ei gyfraniad a cheisiwch annog myfyriwr arall i gynnig safbwynt arall. Byddwch yn eglur ynghylch annog pob cyfraniad ac atgoffwch y myfyrwyr bod cael ystod o safbwyntiau yn ddefnyddiol iddynt oherwydd bod angen iddynt ddeall bod dadleuon o blaid ac yn erbyn dulliau gwahanol bob amser. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy'n amharod i roi eu barn yn barod i roi adborth ar syniad y maen nhw wedi siarad amdano gyda chydfyfyrwyr.
Cwestiynau Myfyrio:
• Diolch i chi am y safbwynt hwnnw, a oes gan unrhyw un ddewis arall?
• Rwy'n hoffi'r hyn a ddywedasoch, a all unrhyw un ymhelaethu ar hyn?
• A oes safbwynt arall?
Cynrychiolaeth: Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch achosion sydd â chyd-destun amlwladol nad ydynt yn ffafrio gwybodaeth gyd-destunol y myfyrwyr cartref. Fel arall, defnyddiwch achos sy'n gorfodi myfyrwyr cartref i geisio dealltwriaeth gyd-destunol gan fyfyrwyr rhyngwladol.
Cwestiynau Myfyrio:
• A yw'r modiwl/rhaglen yn cynrychioli fy myfyrwyr?
• Llais pwy sydd ar goll? Beth mae hynny'n ei ddweud wrthym?
• Sut gallwch chi roi lle i drafod a beirniadu cyd-destun disgyblaeth?
Adnoddau
UKCISA - Trafod gwahaniaethau, darganfod tebygrwydd:Pecyn cymorth i staff academaidd i wella rhyngweithio a dysgu trawsddiwylliannol rhwng myfyrwyr o gefndiroedd diwylliannol wahanol.
https://s3.eu-west-2.amazonaws.com/assets.creode.advancehe-document-manager/documents/hea/private/resources/language_1568037225.pdf : awgrymiadau ymarferol ar iaith i fyfyrwyr rhyngwladol
Sut gall prifysgolion helpu myfyrwyr rhyngwladol i deimlo'n gartrefol? | Profiad myfyrwyr | The Guardian : Enghreifftiau o arfer da mewn prifysgolion eraill.
Addysgu Myfyrwyr Rhyngwladol | Canolfan Addysgu | Prifysgol Vanderbilt: cyngor ymarferol ar gefnogi myfyrwyr rhyngwladol
7_steps_to_Internationalisation_2012.pdf (plymouth.ac.uk): rhyngwladoli Addysgu a Dysgu
Gall canolbwyntio ar brofiadau digidol myfyrwyr rhyngwladol wella addysg uwch i bawb | Wonkhe
Podlediadau:
https://www.timeshighereducation.com/campus/podcast-rethinking-internationalisation-higher-education
https://shows.acast.com/63030887e182680013984f2f/65bc17088c97ea0017a58214
Cyfeirnodau
Burns, V. (2013) Developing skills for successful international groupwork. AdvanceHE Ar gael yn: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/developing-skills-successful-international-groupwork
Ecochard, S. a Fotheringham, J. (2017). International students’ unique challenges – Why understanding international transitions to Higher Education matters. Journal of Perspectives in Applied Academic Practice, 5:2, 100-108
Gatwiri, G. 2015. The Influence of Language Difficulties on the Wellbeing of International Students: An Interpretive Phenomenological Analysis. Inquiries Journal/Student Pulse[Ar-lein], 7. Ar gael:http://www.inquiriesjournal.com/a?id=1042
Héliot, Y., Mittelmeier, J. a Rienties, B. (2020). Developing learning relationships in intercultural and multi-disciplinary environments: a mixed method investigation of management students’ experiences. Studies in Higher Education, 45(6), 695-721. 11
Hockings, C. (2010). Inclusive learning and teaching in higher education: a synthesis of research. AdvanceHE Ar gael yn:
https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/inclusive-learning-and-teaching-higher-education-synthesis-research
Jenkins, J. a Wingate, U. (2015). Staff and students’ perceptions of English language policies and practices in ‘International’ Universities: A case study from the UK. Higher Education Review, 47:2, 47-73
Lomer, S. a Mittelmeier, J. (2023). Mapping the research on pedagogies with international students in the UK: a systematic literature review. Teaching in Higher Education,28:6, 1243-1263,
Lomer, S., Mittelmeier, J. a Carmichael-Murphy, P. (2021). Cash cows or pedagogic partners? Mapping pedagogic practices for and with international students. Society for Research into Higher Education (Research Report). Prifysgol Manceinion.
Lomer, S. (2017). Recruiting International Students in Higher Education Representations and Rationales in British Policy. Basingstoke: Palgrave Macmillan
Marlina, R. (2009). ‘I Don’t Talk or I Decide Not to Talk? Is It My Culture?’- International students’ experiences of tutorial participation. International Journal of Educational Research 48:4, 235–44.
Newsome, L. a Cooper, P. (2016). International students’ cultural and social experiences in a British university: “Such a hard life [it] is here”. Journal of International Students, 6:1, 195-215(2), 362-383.
Rhoden, M. (2019). Internationalisation and intercultural engagement in UK Higher Education – Revisiting a contested terrain. Yn International Research and Researchers Network Event. Society for Research in Higher Education.
Scudamore, R. (2013) Engaging home and international students: A guide for new lecturers. The Higher Education Academy.
Straker, J. (2016) International student participation in Higher Education: Changing the focus from “International Students” to “Participation”. Journal of Studies in International Education, 20(4), 299-318.
UniversitiesUK (2023) International facts and Figures 2023. Ar gael yn: https://www.universitiesuk.ac.uk/universities-uk-international/insights-and-publications/uuki-publications/international-facts-and-figures-2023
Rhannwch eich adborth
Ble Nesaf?
Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol
Pecyn cymorth
Gallwch nawr ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol trwy gyrchu’r tudalennau cysylltiedig ar bynciau penodol, a amlinellir yn y map isod, sy’n ymwneud â’r Fframwaith Addysg Gynhwysol. Ar ôl cyrchu’r dudalen hon, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r holl dudalennau addysg gynhwysol, ac yn dechrau creu cynllun gweithredu ar gyfer newid. Fodd bynnag, gallwch neidio i unrhyw bwnc defnyddiol, yn ôl yr angen.
Gweithdai
Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy fynychu sesiynau gweithdy sy’n ymwneud â phob pwnc. Gellir cymryd y gweithdai hyn mewn sesiwn fyw wyneb yn wyneb, os yw’n well gennych ddysgu rhyngweithiol cymdeithasol, neu gellir eu cwblhau’n anghymesur yn eich amser eich hun, os yw’n well gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithdai, a’r ddolen i archebu yma.
Darpariaeth Ysgol Bwrpasol
Rydym yn cynnig cefnogaeth i Ysgolion ar Addysg Gynhwysol, drwy’r gwasanaeth Datblygu Addysg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i fynd i’r afael â phryderon lleol penodol, i uwchsgilio timau cyfan, neu i gefnogi’r broses cymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni. Cysylltwch â Thîm Datblygu Addysg eich Ysgol am ragor o wybodaeth.
Map o Bynciau

Isod mae map o’r pecyn cymorth a phynciau’r gweithdy, i’ch cynorthwyo. Bydd y rhain yn cael eu datblygu a’u hychwanegu atynt mewn iteriadau o’r pecyn cymorth hwn yn y dyfodol (yn Saesneg y unig):
Rydych chi ar dudalen 8 o 8 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:
1.Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol y CU
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3.Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr
4.Grymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial
5.Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dys cynfyfyrwyrgu
Neu beth am thema arall?