Cynllun Pontio ac Ymsefydlu
Awgrymiadau da ar gyfer ymsefydlu
- Cysylltwch cyn i fodiwlau neu raglenni ddechrau, gan gyflwyno'ch hun a rhannu gwybodaeth allweddol am y modiwl a'r disgwyliadau. Cyfeiriwch fyfyrwyr at y cymorth sydd ar gael iddynt.
- Yn ystod darlithoedd neu seminarau, anogwch fyfyrwyr i rannu profiadau, a rhowch gyfleoedd cymorth cymheiriaid ar gyfer y ddisgyblaeth a’r profiad ehangach yn y brifysgol.
- Cyfeiriwch fyfyrwyr at wasanaethau cymorth y brifysgol fel gwasanaethau academaidd yn ogystal â gwybodaeth ehangach am yr ardal leol a'r hyn sydd ar gael.
- Anogwch fyfyrwyr i gofleidio cymysgu ag eraill fel profiad dysgu naturiol a chadarnhaol (eto, gall hyn fod trwy gyfarfodydd anffurfiol e.e. cyfleoedd i ddod at ei gilydd ar ddiwedd tymor)
Mae prifysgolion yn cynnig ystod eang o brosesau sefydlu i fyfyrwyr gyda ffocws ar bontio’n llwyddiannus i’r diwylliant addysgol newydd. Fodd bynnag, nid wythnosau cyntaf y brifysgol yn unig yr ydym yn golygu ond sut mae myfyrwyr yn ymdopi â’u taith fel myfyrwyr a’r prosesau pontio yn y brifysgol, trwy gydol eu hamser ynddi a’r tu allan iddi.
Mae’r broses bontio yn yr ystyr ehangaf yn gymhleth ac yn cynnwys ystod enfawr o randdeiliaid a hunaniaethau croestoriadol. Mae myfyrwyr yn gweld y broses bontio yn heriol (Kift et al, 2010), ac mae ymchwil yn awgrymu bod y broses hyd yn oed yn anoddach mynd trwyddi i fyfyrwyr rhyngwladol (Wu & Hammond 2011). Mae’r cyfnod sefydlu yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant myfyrwyr i ymaddasu i’w cyd-destun newydd a lleihau effeithiau sioc diwylliant gwahanol. Gall hefyd helpu myfyrwyr i ffurfio rhwydwaith sy’n dod yn sylfaen ar gyfer gwaith tîm o fewn lleoliad academaidd, ac sy’n cynnig cymorth cymheiriaid er budd profiad ehangach y myfyriwr. Mae mwy o ddeunydd darllen ac adnoddau ar bwnc sefydlu a phontio i’w gweld yn yr adran Archwilio’n Ddyfnach trwy glicio yma .
Isod fe welwch gyngor ar sail dimensiynau Bell (2016) o’r model cymorth pontio rhyngwladol ‘. Os ydych yn dymuno ymchwilio’n ddyfnach i’r thema hon, cliciwch y ddolen hon i’r adran Archwilio’n Ddyfnach.

Mae pontio’n gallu digwydd trwy gydol taith y myfyriwr a phan fydd yn llwyddiannus mae’n gallu arwain at ddatblygu hunaniaeth a ffyrdd newydd o wybod (Beach 1999, yn Ecochard a Fotheringham 2017:101). Mae Ploner (2018) yn trafod lletygarwch academaidd sy’n canolbwyntio ar y cyfnewid cilyddol rhwng ‘gwesteiwr’ a ‘gwestai’. Pan fyddwch yn cymhwyso’r cysyniad hwn i fyfyrwyr rhyngwladol, rydych yn ail-fframio’r naratif diffygion ac yn symud tuag at y syniad o werthfawrogi a dysgu o ddifri o wahanol ddiwylliannau.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n mynd i’r brifysgol brofiadau a disgwyliadau cymysg. Mae myfyrwyr rhyngwladol sy’n teithio i astudio wedi dangos ymrwymiad eisoes i astudio mewn gwlad arall. Fodd bynnag, gall y realiti fod yn wahanol iawn i’r disgwyliad. I fyfyriwr brodorol, mae’r broses o fynd i mewn i gyd-destun newydd fod yn heriol mewn sawl ffordd. Mae dimensiynau ychwanegol addasu i ddiwylliant newydd o fewn y broses bontio yn creu her ychwanegol i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae angen ystyried y rhain wrth gynllunio prosesau sefydlu a throsglwyddo. Nid yw pontio’r bwlch rhwng profiad blaenorol a disgwyliadau i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu perfformio i’w botensial yn golygu newid yr hyn a ofynnwn i fyfyrwyr, ond mae’n golygu cydnabod graddfa’r pontio y mae rhai myfyrwyr yn ei wynebu (Scudamore 2013).
(Scudamore 2013: 10) yn nodi bod sawl cam i’r broses bontio sy’n gallu para dros ychydig fisoedd. Gaallai rhai neu bob un fod yn brofiadau gan fyfyrwyr:

Ffigur: Camau pontio (Scudamore 2013, t10)
Dimensiynau addasu
Yn fras, mae’r llenyddiaeth yn cyflwyno 3 dimensiwn addasu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol:

Dyma enghraifft o rai heriau y gall myfyrwyr rhyngwladol eu hwynebu wrth addasu i’r brifysgol:
Academaidd | Ieithyddol | Cymdeithasol-ddiwylliannol |
Arferion addysgu | Cyfathrebu â siaradwyr brodorol (cyflymder, acen, cywair, iaith y corff a llafaredd ac ati) | Dod o hyd i’w ffordd o gwmpas dinas newydd, ymgyfarwyddo â’r system drafnidiaeth gyhoeddus, dod o hyd i lety |
Deinameg ystafell ddosbarth | Diffyg cyfatebiaeth rhwng profion hyfedredd safonol a realiti | Gwneud cylch ffrindiau newydd |
Traddodiadau craidd dysgu ac addysgu (e.e. dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr) | Deall a chynhyrchu testunau academaidd | Ymuno â’r system gofal iechyd |
Gwerthoedd craidd (e.e. cysyniadau llwyddiant) | Addasu i fwyd, tywydd, confensiynau cymdeithasol | |
Aseiniadau a dulliau asesu | Delio â phwysau ariannol |
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol