Ystyriaethau academaidd a diwylliannol
Ystyriaethau academaidd a diwylliannol
Isod mae rhai awgrymiadau da i’ch helpu i ddechrau .
Po fwyaf y byddwch chi’n dod i wybod am eich myfyrwyr a’u profiadau blaenorol amrywiol, eu cyd-destun diwylliannol a’u cefndir addysgol, y mwyaf y gallwch chi ragweld heriau a chynllunio a dylunio cyfleoedd dysgu sy’n chwalu’r rhwystrau hyn. Pan fyddwch chi’n cymhwyso Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (CAST, 2018) ac addysgeg sy’n ymateb yn ddiwylliannol i’ch ymarfer, rydych chi’n rhagweld heriau ac yn darparu ar gyfer carfan amrywiol o fyfyrwyr gan ddylunio i dynnu’r rhwystrau. Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r dull hwn o ddylunio yn gwella’r profiad dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig, mae’n gwella’r dysgu i bob myfyriwr. Os hoffech chi ddysgu mwy am y dulliau addysgol hyn, ewch i’n tudalen Grymuso Myfyrwyr i gyflawni eu potensial. I ddarllen safbwyntiau darlithydd a myfyrwyr ar sut mae integreiddio academaidd a diwylliannol yn effeithio ar brofiad myfyrwyr, cliciwch ar yr adran Archwilio’n Ddyfnach yma.
Mae integreiddio cymdeithasol-ddiwylliannol myfyrwyr rhyngwladol yn hollbwysig i sut mae myfyrwyr yn datblygu ymdeimlad o berthyn o fewn eu cyd-destun newydd. Mae pob myfyriwr yn mynd i’r brifysgol gyda ystod o ddimensiynau, cefndiroedd a phrofiadau bywyd amrywiol. I fyfyrwyr rhyngwladol, gall yr anghysondeb rhwng eu diwylliant brodorol a chyd-destun y DU effeithio ar eu profiad addysgol. Mae llenyddiaeth yn adrodd yn helaeth am yr addysgeg sy’n cael ei llywio gan gyd-destun (Quan et al 2016) ac yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng systemau o un wlad i’r llall. Mae arferion addysgu a disgwyliadau academaidd yn amrywio o wlad i wlad. Pan na chaiff y rhain eu hegluro a’u rhannu’n benodol, gall myfyrwyr deimlo wedi’u drysu gan iaith a gweithdrefnau academaidd (Burdett & Crossman 2012).
Mae natur fwyfwy rhyngwladol prifysgolion wedi dangos sut y gall dysgu rhyngddiwylliannol ac ymdrechion o ran cynhwysiant gweithredol sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gorau o’u profiad addysgol a’u paratoi ar gyfer y byd wedi’i globaleiddio (Slater a Gleason 2022). Mae’r cyfle i ddatblygu cymwyseddau allweddol yn ystod eu profiad prifysgol, megis cymwyseddau diwylliannol, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu dyfodol proffesiynol a phersonol.
Rydym yn diffinio’r term cymwyseddau rhyngddiwylliannol fel yr wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau hynny sy’n ffurfio gallu person i gyd-dynnu â phobl o ddiwylliannau amrywiol, a gweithio a dysgu gyda nhw.
(Advance HE 2014)
Gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol daw’r angen i symud i ffwrdd o ragdybiaethau a deuoliaeth ddiwylliannol sydd wedi’u priodoli i grwpiau o fyfyrwyr. Pan fyddwch chi’n gwerthfawrogi’r amgylchedd amlddiwylliannol, mae’n helpu i herio’r stereoteipiau hynny a oedd yn gysylltiedig â diwylliannau o’r blaen. Un o’r rhwystrau mwyaf y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu yw’r diffyg ystyriaeth o ran cyd-destun diwylliannol a chefndir addysgol y myfyriwr. Felly, wrth weithio gyda myfyrwyr rhyngwladol, dylid rhoi ystyriaeth i’r ffaith fod system addysgol flaenorol y myfyrwyr a’u cefndir diwylliannol ac ieithyddol yn gallu gwneud wneud y broses o ddysgu yn fwy anodd (Slater ac Inagawa 2019:7)
Isod fe welwch amrywiaeth o safbwyntiau gan diwtoriaid a darlithwyr EAP :
Integreiddio Academaidd a Diwylliannol
Mae integreiddio cymdeithasol-ddiwylliannol myfyrwyr rhyngwladol yn hollbwysig i sut mae myfyrwyr yn datblygu ymdeimlad o berthyn o fewn eu cyd-destun newydd. Mae pob myfyriwr yn mynd i'r brifysgol gyda ystod o ddimensiynau, cefndiroedd a phrofiadau bywyd amrywiol. I fyfyrwyr rhyngwladol, gall yr anghysondeb rhwng eu diwylliant brodorol a chyd-destun y DU effeithio ar eu profiad addysgol. Mae llenyddiaeth yn adrodd yn helaeth am yr addysgeg sy’n cael ei llywio gan gyd-destun (Quan et al 2016) ac yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng systemau o un wlad i’r llall. Mae arferion addysgu a disgwyliadau academaidd yn amrywio o wlad i wlad. Pan na chaiff y rhain eu hegluro a'u rhannu'n benodol, gall myfyrwyr deimlo wedi’u drysu gan iaith a gweithdrefnau academaidd (Burdett & Crossman 2012).
Mae natur fwyfwy rhyngwladol prifysgolion wedi dangos sut y gall dysgu rhyngddiwylliannol ac ymdrechion o ran cynhwysiant gweithredol sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y gorau o’u profiad addysgol a’u paratoi ar gyfer y byd wedi’i globaleiddio (Slater a Gleason 2022). Mae’r cyfle i ddatblygu cymwyseddau allweddol yn ystod eu profiad prifysgol, megis cymwyseddau diwylliannol, cydweithio, a meddwl yn feirniadol, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu dyfodol proffesiynol a phersonol.
Rydym yn diffinio'r term cymwyseddau rhyngddiwylliannol fel yr wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau hynny sy'n ffurfio gallu person i gyd-dynnu â phobl o ddiwylliannau amrywiol, a gweithio a dysgu gyda nhw.
(Advance HE 2014)
Gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol daw'r angen i symud i ffwrdd o ragdybiaethau a deuoliaeth ddiwylliannol sydd wedi'u priodoli i grwpiau o fyfyrwyr. Pan fyddwch chi'n gwerthfawrogi'r amgylchedd amlddiwylliannol, mae'n helpu i herio'r stereoteipiau hynny a oedd yn gysylltiedig â diwylliannau o’r blaen. Un o'r rhwystrau mwyaf y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu yw'r diffyg ystyriaeth o ran cyd-destun diwylliannol a chefndir addysgol y myfyriwr. Felly, wrth weithio gyda myfyrwyr rhyngwladol, dylid rhoi ystyriaeth i’r ffaith fod system addysgol flaenorol y myfyrwyr a’u cefndir diwylliannol ac ieithyddol yn gallu gwneud wneud y broses o ddysgu yn fwy anodd (Slater ac Inagawa 2019:7)
Isod fe welwch amrywiaeth o safbwyntiau gan diwtoriaid a darlithwyr EAP :
Tiwtor EAP 1:
Roeddwn yn meddwl tybed sut mae'r brifysgol ar hyn o bryd yn ystyried myfyrwyr rhyngwladol yn ein hymdrechion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae hyn yn cael ei ysgogi gan drafodaethau â rhai myfyrwyr rhyngwladol ynghylch faint y buont yn cael trafferth gyda dosbarthiadau lle e.e. mae'r darlithydd yn defnyddio iaith gymhleth iawn y mae myfyrwyr brodorol yn ei deall ond nad yw myfyrwyr rhyngwladol yn ei deall, ac effaith emosiynol teimlo'n ymylol mewn dosbarthiadau.
Efallai ei bod yn anochel y byddai rhai heriau yn y maes hwn, a byddai rhai yn dadlau mai cyfrifoldeb myfyrwyr yw sicrhau bod ganddynt y gallu ieithyddol i astudio yn y DU. Fodd bynnag, mae'r rhain yn fyfyrwyr sydd wedi cyrraedd y safonau iaith sy'n ofynnol gan y brifysgol, ond sy’n canfod nad yw hyn yn ddigonol ar gyfer lefel yr iaith a ddefnyddir gan rai darlithwyr. Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud cynnwys ‘yn haws’ - ond yn hytrach meddwl am y math o iaith a ddefnyddir (e.e. brawddegau cymhleth a hir, llawer o idiomau, cyfeiriadau diwylliannol sy'n hysbys i fyfyrwyr brodorol yn unig).
Tiwtor EAP 2:
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn aml yn ymddangos yn ymwybodol o'r angen i wneud rhywbeth 'beirniadol’ yn eu hysgrifennu ond yn gofyn cwestiynau am beth yn union y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol. Gall chwilio am y gair 'critical' mewn geiriadur Saesneg ychwanegu at yr ansicrwydd. Yn eu cwestiynau traethawd, gall darlithwyr ddefnyddio geiriau ac ymadroddion gwahanol er mwyn gofyn am ddull beirniadol. Rhai o'r rhain sy'n dod i'r meddwl yw:
o Gwerthuso
o Gwerthuso'n feirniadol
o Asesu
o Adeiladu dadl
o Dangos eich safiad/safbwynt/persbectif/cymhelliant
Ac weithiau, defnyddir y gair ‘trafod’ yn unig (efallai wrth dybio’r mewnbwn ‘beirniadol’)
Mae enghreifftiau o’r hyn sy’n cyfrif fel ‘beirniadol’ mewn cyd-destun/cwestiwn penodol yn anodd (ac yn beryglus) i diwtor cymorth ysgrifennu eu rhoi.
Tiwtor EAP 3:
Yn aml mae myfyrwyr rhyngwladol yn sôn am anhawster cymryd rhan mewn trafodaethau â myfyrwyr brodorol. Weithiau maen nhw'n cael trafferth deall - yn enwedig gyda Saesneg mwy llafar - ond hefyd i gael eu deall. Dywedodd un myfyriwr wrthyf yn ddiweddar ei bod yn teimlo bod myfyrwyr brodorol yn osgoi siarad â hi gan ei bod hi’n meddwl bod hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus os ydyn nhw’n cael trafferth gyda'i hacen. Rwy’n teimlo bod angen dybryd i staff academaidd ymgysylltu â myfyrwyr brodorol yn ogystal ag â myfyrwyr rhyngwladol wrth ddatblygu ystafell ddosbarth gynhwysol - ac, yn wir, greu rhaglen ac amgylchedd Ysgol cynhwysol. Mae angen i hyn ddigwydd o'r diwrnod cyntaf. Neu hyd yn oed cyn hynny. I ba raddau mae ein myfyrwyr brodorol yn deall beth mae'n ei olygu i astudio mewn prifysgol ryngwladol - os ydym wir yn rhyngwladol?
Mae llawer o fyfyrwyr rhyngwladol hefyd yn nodi bod y myfyrwyr brodorol wedi symud ymlaen i agwedd arall ar y pwnc erbyn iddynt feddwl am sut i gyfrannu rhywbeth at y drafodaeth. Mae hyn i mi yn awgrymu bod angen mwy o sgaffaldau ar gyfer gweithgareddau trafod – er enghraifft, yr angen i gynnwys amser meddwl a pharatoi ond hefyd ymarfer mwy preifat (e.e. gwaith pâr) cyn trafodaeth mewn grŵp mwy.
Darlithydd 1
Yn aml mae myfyrwyr rhyngwladol yn cael anhawster deall beth mae'r meini prawf marcio yn ei olygu mewn ystyr go iawn. Er enghraifft, gall y meini prawf gynnwys syniadau eithaf generig fel 'mae'n rhaid i waith ysgrifenedig fod â chyfeirnodau da, fod wedi’i strwythuro'n dda a dangos tystiolaeth o werthuso' ond mae'r sgiliau hynny'n anodd eu dangos os na chânt eu hesbonio'n iawn. Yn yr un modd, mae'n rhaid esbonio adborth am waith ffurfiannol yn eithaf manwl fel ei bod yn glir beth sydd angen ei newid.
Darlithydd 2
Mewn llawer o wledydd, mae myfyrwyr wedi arfer â system lle mae'n bosibl (ac yn nodweddiadol) i gael canrannau uchel iawn ar gyfer gwaith cwrs ac mewn arholiadau (e.e. 90-100%). Yn aml maen nhw’n cael sioc pan gânt farc yma tua 60% a dywedir wrthynt ei fod yn 'dda'. Yn aml maen nhw’n mynd i banig eu bod yn methu ac yn poeni am ddweud wrth eu rhieni. Argymhellir esbonio'r system raddio yma a bod 60-70%+ yn radd dda/da iawn.
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol