Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch cydweithio a chyfathrebu ag eraill. Mae’r adnoddau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Mynediad Agored – Sesiwn Ymsefydlu Nod y modiwl hwn yw:
| Tutorial |
| Mynediad Agored I’r rhai sy’n Derbyn Arian Allanol Rhaid i holl staff ymchwil Prifysgol Caerdydd sy'n derbyn neu'n rhagweld derbyn cyllid allanol hefyd gwblhau’r tiwtorial ychwanegol hwn, yn ogystal â'r modiwl ymsefydlu ar Fynediad Agored. Mae’r modiwl hwn yn sicrhau y bydd ymchwilwyr yn ymwybodol o ofynion cyllidwyr, cymhwysedd ar gyfer grantiau bloc Mynediad Agored, cronfa Mynediad Agored Sefydliadol y Brifysgol, a’r cymorth sydd ar gael. | |
| Bibliometrics 4 – Helpu i ddewis cyfnodolion gan ddefnyddio cronfeydd data, offer ar-lein a metrigau Dyma'r olaf mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno Bibliometreg ac Almetreg, sy’n esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Bydd y tiwtorial hwn yn tynnu sylw at yr adnoddau dadansoddol a'r wybodaeth a gynigir gan gronfeydd data megis Scopus a Dimensions, fydd o fudd ichi wrth ddewis pa gyfnodolyn i gyhoeddi ynddo. | Tutorial |
| Bibliometreg 2 – DORA a defynddio metrigau’n gyfrfiol Dyma'r ail mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno Bibliometreg ac Almetreg, sy’n esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Mae'r tiwtorial hon yn ymdrin â pham ei bod yn bwysig defnyddio data bibliometrig yn gyfrifol a chyflawni ymrwymiadau'r brifysgol a'r ymchwilydd unigol i DORA (Datganiad ar Asesiad Ymchwil). | |
| Bibliometreg 3 – Dod o hyd i ddata bibliometrig ac altmmetrig ar gyfer cyhoeddiadau Dyma'r trydydd mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno Bibliometreg ac Almetreg, sy’n esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Mae'r tiwtorial hwn yn eich cyflwyno i rai o'r cronfeydd data sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer adfer data bibliometrig. | |
| Bibliometreg 1 – Trosolwg o ddata bibliometreg ac altmetreg Dyma'r cyntaf mewn cyfres o bedwar tiwtorial sy'n cyflwyno Bibliometreg ac Almetreg, sy’n esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Mae'r tiwtorial hon yn rhoi cyflwyniad i ddata bibliometrig. Mae'n amlinellu'r prif fathau o ddata y gallwch ddod o hyd iddynt ac yn dangos rhai defnyddiau allweddol ar gyfer y data. Mae'n cynnwys pam mae’r data'n bwysig a'r hyn y gallech ei ddefnyddio ar ei gyfer. | |
| Bibliometreg ac altmetreg Bydd y tiwtorialau hyn yn eich cyflwyno i ddata bibliometreg ac altmetrig ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i ymchwilwyr ac academyddion ar gyfer dod o hyd i ddyfyniadau a data altmetrig priodol ar gyfer gwerthuso ymchwil. Gall hyn fod ar gyfer cyhoeddiadau unigolyn, ond hefyd ar gyfer grwpiau ymchwil, neu ar lefel ysgol neu brifysgol. Mae'r tiwtorialau hefyd yn eich tywys wrth ddefnyddio metrigau yn gyfrifol a sicrhau eich bod yn dilyn egwyddorion a nodwyd yn DORA (Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil). Cliciwch ar un o ddolenni’r adrannau er mwyn dechrau. |

