1. Tirlun gwybodaeth

Mae’r tirlun gwybodaeth yn newid yn ddramatig, gan gynnwys y ffordd y caiff gwybodaeth academaidd ei chyflwyno neu ei chyfathrebu. Gall llyfrgellwyr pwnc dynnu sylw at yr amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut mae eu dewis ar gyfer astudiaeth ac ymchwil academaidd, ar gyfer diddordeb personol, ar gyfer datblygu gyrfa neu i’w defnyddio yn y gweithle.

1.1 Arferion

Rwyf…

1.1.1…… yn archwilio’r tirlun gwybodaeth i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau
1.1.2…… yn nodi, dewis a defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau allweddol sy’n briodol i’r ddisgyblaeth, o’r Llyfrgell a thu hwnt
1.1.3….… darllen y ffynonellau rwy’n dod o hyd iddynt yn gritigol er mwyn penderfynu pa mor addas ydynt ar gyfer fy nhasg

1.2 Sgiliau

Rwy’n gallu

Gweithgarwch enghreifftiol

1.2.1… adnabod gwahanol fathau o wybodaeth o restr ddarllen, rhestr o ganlyniadau chwilio neu pan yn y llyfrgellUn ar y tro, arddangoswch gyfeirnod enghreifftiol a gofynnwch i fyfyrwyr bleidleisio ar ba fath o ffynhonnell ydyw, gan ddefnyddio clicwyr neu feddalwedd pleidleisio ar-lein

Gweithgaredd cwis i nodi’r mathau o gyfeirnodi
1.2.2… nodi pa fathau o wybodaeth sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r dasg dan sylw Cymharwch ymarferydd neu gyfnodolyn masnach â chyfnodolyn ysgolheigaidd – gofynnwch i fyfyrwyr edrych arnynt a thrafod eu rhinweddau cymharol ar gyfer eu gwaith academaidd, yna rhannwch eu barn â gweddill y dosbarth
1.2.3… cynllunio strategaeth er mwyn mynd i’r afael â fy anghenion o ran gwybodaethCynllunio eich ymarfer chwilio am lenyddiaeth. Mae enghreifftiau’n cynnwys Dod o hyd i Ffynonellau Priodol (a addysgir ar lefel ôl-raddedig) (tudalennau 4-7) a Chwilio y tu Hwnt i’ch Rhestr Ddarllen (lefel israddedig) (tudalennau 3-5)

1.3 Ymwybyddiaeth

Rwy’n ymwybodol o’r canlynol…

Gweithgarwch enghreifftiol

1.3.1… yr angen i ddefnyddio gwybodaeth i lenwi bylchau yn fy ngwybodaeth. Pa un o’r ffynonellau a roddwyd sy’n briodol ar gyfer gwahanol fathau a lefelau o ymchwil? Trafodaeth am nodweddion y ffynonellau hyn

Trafodaeth am ba wybodaeth o’u pwnc sydd gan fyfyrwyr eisoes
1.3.2… y mathau a fformatau gwahanol o wybodaeth a data sy’n amrywio o ran pa mor addas ydyn i’r dasg dan sylw Defnyddiwch ddulliau pleidleisio ar-lein i ffurfio barn a thrafod gwerth gwahanol fathau o ddeunydd (byw neu ragosodedig gyda dyddiad cau i gwblhau)

Nodwch a disgrifiwch nodweddion y prif fformatau gwybodaeth yn y pwnc

Trafodwch fanteision ac anfanteision gwahanol ffynonellau (gweler tudalen 8)

Nodwch eich 3 (neu 5) hoff ffynhonnell wybodaeth a gwerthuso eu haddasrwydd at y diben yn unol â disgwyliadau academaidd
1.3.3…y ffaith nad yw’r holl wybodaeth yn ddibynadwyCymharwch erthyglau o wefannau gwahanol, gan chwilio’n ochrol i weld manylion awduron

Gofynnwch i fyfyrwyr ddarllen ffynhonnell a ddewiswyd a thrafod a ydynt yn teimlo bod y cynnwys yn gytbwys
1.3.4…y ffaith nad yw’r holl wybodaeth ar gael yn agored a gall bod amodau ar gyfer eu defnyddioTynnwch sylw at bwysigrwydd defnyddio adnoddau a danysgrifiwyd gan Brifysgol Caerdydd drwy ein tudalennau gwe, er mwyn sicrhau y cydnabyddir manylion cymhwysedd myfyrwyr

Gofynnwch i fyfyrwyr ychwanegu dolenni Prifysgol Caerdydd mewn gosodiadau Google Scholar. Esboniwch i fyfyrwyr pam na fyddant yn gallu cael gafael ar ganlyniadau yn Scholar
1.3.5… rôl gweithwyr proffesiynol, megis rheolwyr data a llyfrgellwyr, a all cynghori, cynorthwyo a chefnogi.