4. Cynhyrchu a chyfathrebu

Mae ymgysylltu â sgyrsiau academaidd ehangach i ddatblygu gwybodaeth yn rhan allweddol o bwrpas prifysgolion. Gall staff academaidd annog dysgwyr i gymryd rhan yn y sgyrsiau hyn wrth iddynt ddysgu rhannu a chyfuno syniadau, trefnu eu meddyliau ac ysgrifennu’n gydlynol. Mae llyfrgellwyr pwnc yn cyfrannu drwy roi arweiniad ar pam a sut i gydnabod syniadau pobl eraill, drwy ddyfynnu a chyfeirio a bod yn ystyriol o eiddo deallusol a, lle y bo’n briodol, cynghori ar ble y gellir cyfleu eu syniadau orau.

4.1 Arferion

Rwyf yn…

4.1.1… cynnwys syniadau pobl eraill gan eu cydnabod yn briodol
4.1.2… rhannu beth rwy’n ei ddarganfod a’i gynhyrchu’n briodol, gan ystyried problemau eiddo deallusol
4.1.3… cyhoeddi fy ngwaith gyda barn i wneud yr effaith fwyaf

4.2 Sgiliau

Rwy’n gallu…

Gweithgarwch enghreifftiol

4.2.1… cydnabod syniadau a geiriau pobl eraill drwy ddyfynnu yn fy nhestun a darparu cyfeirnod llawn, gan ddefnyddio arddull briodolDarparwch luniau o dudalennau teitl llyfrau, a/neu luniau o erthygl mewn cyfnodolyn, a/neu URL fel y gall myfyrwyr edrych ar wefan benodol. Gofynnwch i fyfyrwyr ddewis yr elfennau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer cyfeirnodi ac ysgrifennwch hyn yn yr arddull gyfeirnodi gywir (gan ddefnyddio canllaw neu diwtorial i helpu).

Darparwch ddyfyniadau dienw o draethodau blaenorol a rhestrau cyfeirnodau ac mewn parau/grwpiau gofynnwch i fyfyrwyr nodi camgymeriadau. Yna rhowch adborth i’r grŵp cyfan / trafodwch.

Mae rhagor o enghreifftiau o weithgareddau ar gael yn y Ganolfan Adnoddau
4.2.2… dewis llwybrau priodol i gyhoeddi fy ngwaith fel mynediad agored
4.2.3… penderfynu ar effaith cyfnodolionDefnyddiwch ISI Journal Citation Reports er mwyn dod o hyd i’r cyfnodolion gorau yn eich maes
4.2.4… dewis trwyddedau priodol ar gyfer fy ngwaithHawlfraint gêm gardiau (mae dec cardiau Cymraeg ar gael yma)

4.3 Ymwybyddiaeth

Rwy’n ymwybodol o’r canlynol…

Gweithgarwch enghreifftiol

4.3.1…y gellir rhannu gwahanol fathau o wybodaeth mewn ffyrdd gwahanol Collating sources template (page 11)

Keeping your research up to date tutorial
4.3.2…yr hyn sy’n gyfystyr â llên-ladrad a phwysigrwydd ei osgoiDarparwch enghraifft/enghreifftiau o destun gwreiddiol ac yna testun myfyriwr yn seiliedig ar hyn ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Myfyrwyr i edrych ar ddarnau o destun mewn parau/grwpiau o 3 a thrafod p’un a yw’r gwaith yn llên-ladrad ai peidio. Yna rhowch adborth i’r grŵp cyfan / trafodwch.

Ai llên-ladrad yw hwn? cwis

Gweithgaredd osgoi llên-ladrad
4.3.3…problemau eiddo deallusol a diogelu data mewn perthynas â rhannu cynnwys fy hun a chynnwys pobl eraill Hawlfraint gêm gardiau (mae dec cardiau Cymraeg ar gael yma)

4.2.4…manteision a chyfyngiadau modeli cyhoeddi gwahanol ar gyfer lledaenu fy ngwaith er mwyn creu effaith a bodloni gofynion unrhyw gyllidwr