2. Darganfod ac adalw

Mae staff academaidd yn meithrin datblygiad galluoedd myfyrwyr i lunio cwestiynau yn eu disgyblaeth, er mwyn gweld patrymau yn y llenyddiaeth, er mwyn gwerthuso’r dadleuon a dod o hyd i’r bylchau. Gall llyfrgellwyr pwnc helpu i ddatblygu sgiliau myfyrwyr er mwyn dod o hyd i ble mae’r trafodaethau academaidd yn cael eu cynnal, o ran nodi adnoddau safonol a thystiolaeth gefndirol yn ogystal â dod o hyd i adnoddau ar gyfer tasgau eraill, megis ar gyfer creu cyflwyniadau neu ymchwilio i gyflogwyr posibl.

2.1. Arferion

Rwyf yn…

2.1.1…defnyddio adnoddau chwilio a ffynonellau sydd fwyaf addas ar gyfer y dasg dan sylw
2.1.2…nodi’r sgyrsiau a’r ymchwil allweddol yn y pwnc rwy’n ymchwilio iddo
2.1.3…gofyn cwestiynau am yr hyn rwyf yn dod o hyd iddo er mwyn sicrhau bod y wybodaeth honno’n gywir, yn awdurdodol ac yn berthnasol i fy niben

2.2 Sgiliau

Rwy’n gallu…

Gweithgarwch enghreifftiol

2.2.1…dewis adnoddau ymchwilio gwybodaeth priodol ar gyfer fy nhasg, gan gydnabod y gwahaniaethau rhyngddynt a’u manteision a’u cyfyngiadauYstyried gweithgarwch adnoddau (tudalen 8)
2.2.2… dadansoddi fy mhwnc a llunio geiriau allweddolMapio meddwl neu gynllunio geiriau allweddol (tudalennau 4 a 5)

Tiwtorial dod o hyd i ffynonellau priodol (a addysgir ar lefel ôl-raddedig) (tudalennau 4-7)

Templed map meddwl
2.2.3…creu strategaethau chwilio a defnyddio technegau uwch, megis chwilio Boolean, cardiau gwyllt a chwtogiadau, a chyfyngu ar chwiliadau drwy baramedrau penodolMewn parau, ystyriwch effaith defnyddio’r technegau hyn ar berthnasedd y canlyniadau a gafwyd
2.2.4…dod o hyd i ffynonellau testun gwybodaeth llawn, ar-lein ac mewn printGosodwch ymarfer ar gael gadael ar destun cyfan llyfrau electronig ac erthyglau mewn cyfnodolion mewn tasg chwilio (tudalen 12)
2.2.5… tracio rhagor o ffynonellau priodol gan ddefnyddio dyfyniadauTasg ymarferol gan ddefnyddio Scopus neu Web of Science i dracio dyfyniadau. (Mae arddangosiad ar gael o ran Dewis ffynonellau o ansawdd da (tudalen 12)
2.2.6…dewis gwybodaeth briodol ar gyfer fy nhasg, gan gymhwyso meini prawf gwerthuso i benderfynu ar ansawdd y wybodaeth a ddarganfuwydRhoddir pwnc eang i fyfyrwyr mewn parau (e.e. newid yn yr hinsawdd) a gofynnir iddynt baratoi dadl ‘o blaid / yn erbyn’. Bydd y myfyrwyr yn dadlau’r mater a chymerir pleidlais. Rhoddir marciau am ddefnyddio tystiolaeth i ategu dadleuon

Tiwtorial dewis ffynonellau o ansawdd da

Gweithgaredd defnyddio rhestr wirio ar gyfer arfarnu’n feirniadol (tudalen 9)
2.2.7…cynnal cofnod o chwiliadau a gynhelir a gwybodaeth a ddarganfuwyd Mewn ymarferion chwilio cronfa ddata gofynnwch i fyfyrwyr greu cyfrifon personol mewn cronfeydd data i arbed hanes chwiliadau a/neu ebostio canlyniadau i’w hunain

Beirniadwch a gwerthuswch enghreifftiau o lwybrau ymchwilio
2.2.8…dod o hyd i gynnwys arbenigol sy’n briodol ar gyfer fy nhasg e.e. ystadegau, setiau data, adolygiadau systematig, gwybodaeth gyfreithiol, adroddiadau marchnad, mapiau, dogfennau hanesyddol, lluniau y gellir eu hailddefnyddio ac ati.
2.3.9… defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau rhybuddio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fy nisgyblaethTiwtorial cadw eich ymchwil yn gyfredol

2.3 Ymwybyddiaeth

Rwy’n ymwybodol o’r canlynol…

Gweithgarwch enghreifftiol

2.3.1… pwysigrwydd ategu fy nadleuon a chanfyddiadau ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd o ansawdd daBeth yw cyfuno? fideo (tudalen 5)
2.3.2…yr angen i ystyried perthnasedd, cywirdeb, tuedd, enw da a hygrededd gwybodaeth a ddarganfuwydCwis deall cyfuno (gwyddorau cymdeithasol) neu Cwis deall cyfuno (Biowyddorau)

Tiwtorial gwerthuso gwybodaeth

Llifsiart gwerthuso gwybodaeth
2.3.3… natur ailadroddol y broses chwilio wrth i mi adolygu fy nghanfyddiadau ac ystyried llwybrau newyddYn ystod ymarfer chwilio gofynnwch i fyfyrwyr nodi ac adlewyrchu ar lwyddiant eu strategaethau chwilio

Llun o’r cylch chwilio am lenyddiaeth (tudalen 3)