3. Rheoli gwybodaeth

Mae bod yn systematig wrth storio a rheoli’r wybodaeth a ddarganfuwyd yn arbed amser ac yn golygu y gellir neilltuo mwy o amser ac ymdrech i ddarllen, meddwl a llunio syniadau. Wrth i ni addysgu’r sgiliau gweithredol hyn, rydym yn annog y dysgwr i ystyried sut y gallai eu defnyddio ochr yn ochr â’i arferion gwaith presennol ac i adolygu’r prosesau hyn dros amser.

3.1 Arferion

Rwyf yn…

3.1.1… trin, trefnu ac yn storio fy ngwybodaeth mewn ffordd y gellir ei hadfer a’i defnyddio’n hawdd, ac wrth ystyried eiddo deallusol

3.2 Sgiliau

Rwyf yn gallu…

Gweithgarwch enghreifftiol

3.2.1…rheoli, trefnu a choladu gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau priodol Templed Coladu Ffynonellau (tudalen 11)

Tiwtorial cadw eich ymchwil yn gyfredol
3.2.2… defnyddio meddalwedd llyfryddol i gofnodi a rheoli cyfeirnodauTiwtorialau EndNote

Tiwtorialau EndNote Ar-lein

3.3 Ymwybyddiaeth

Rwy’n ymwybodol o’r canlynol…

Gweithgarwch enghreifftiol

3.3.1… pwysigrwydd bod yn systematig wrth drefnu’r wybodaeth a ddarganfuwydTempled Coladu Ffynonellau (tudalen 11)
3.3.2…yr angen i gofnodi manylion llyfryddol neu drwyddedu am y wybodaeth a ddarganfuwyd a gwneud nodiadau cywir er mwyn helpu i osgoi llên-ladrad damweiniolYmarfer sy’n gofyn i fyfyrwyr gofnodi manylion llyfryddol deunyddiau y maent yn darganfod, drwy gadw cofnodion a ddarganfuwyd wrth ddefnyddio LibrarySearch / cronfeydd data neu drwy ysgrifennu’r elfennau sydd eu hangen ar gyfer cyfeirnod llyfryddol

Tiwtorial nodiadau effeithiol
3.3.3… problem gorlwytho gwybodaeth Gofynnwch i fyfyrwyr sawl tudalen o ganlyniadau y maent yn edrych arnynt wrth iddynt chwilio ar Google.

Gofynnwch i fyfyrwyr drafod pa strategaethau y maen nhw’n eu defnyddio mewn bywyd bob dydd i reoli faint o wybodaeth sydd ar gael iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol. E.e. gallent gyfyngu ar yr amser y maent yn treulio arno, gosod hidlyddion, dilyn eu hoff themâu yn unig ac ati.