Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos pwysigrwydd rheoli eich presenoldeb ar-lein er mwyn diogelu a gwella eich enw da proffesiynol a’ch cyflogadwyedd yn y dyfodol. Gall presenoldeb effeithiol ar-lein hefyd wella effaith eich ymchwil. Gall llyfrgellwyr pwnc dynnu sylw at fanteision hyrwyddo a rheoli eich hunaniaeth ddigidol a’r ystod o ddulliau sydd ar gael ar gyfer cyflwyno presenoldeb ar-lein, a gallant roi cyngor ar fesuriadau o effaith ymchwil drwy fibliometreg.
5.1 Arferion
Rwyf yn… |
5.1.1… rheoli fy mhresenoldeb ar-lein i ehangu effaith fy mhroffil proffesiynol a/neu wella fy nghyflogadwyedd |
5.1.2… monitro effaith fy ymchwil drwy fesurau priodol |
5.2 Sgiliau
Rwy’n gallu… | Gweithgarwch enghreifftiol |
5.2.1… gwerthuso’r lleoedd mwyaf priodol i sefydlu fy mhroffil ar-lein a’i gynnal yn weithredol yn y lleoliadau hyn | Tiwtorial adeiladu eich proffil ar-lein |
5.2.2…defnyddio adnoddau digidol, megis ebost, fforymau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau cyfathrebu cydamserol i ddod o hyd iddynt, i rwydweithio a chydweithio ag eraill Tiwtorial adeiladu eich proffil ar-lein | Tiwtorial adeiladu eich proffil ar-lein |
5.2.3…cyfrifo data llyfryddol ac altmetreg fel mesur o effaith ymchwil |
5.3 Ymwybyddiaeth
Rwy’n ymwybodol o’r canlynol… | Gweithgarwch enghreifftiol |
5.3.1… sut rwy’n ymddangos i eraill ar-lein a sut y gall hyn effeithio ar fy hunaniaeth broffesiynol neu fy nghyflogadwyedd yn y dyfodol | Gweithiwch mewn parau, chwiliwch am eich gilydd ar Google a lluniwch broffil o’r person arall, gan gynnwys unrhyw wybodaeth negyddol |
5.3.2… gwerth cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau proffesiynol | Tiwtorial adnabod eich ôl-troed digidol |
5.3.3…dyfynnu a metrigau eraill e.e. altmetreg a’u perthnasedd i fy mhroffil ymchwil | Adnabod eich ôl-troed digidol |