Beth yw Sgiliau Astudio Arbenigol?

Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr yma i roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr anabl a allai fod angen cymorth gyda gwahanol feysydd o'u dysgu. Rydym yn cynnig sesiynau un-i-un (ar-lein neu wyneb yn wyneb), gweithdai, modiwl Sgiliau Astudio Arbenigol ar Dysgu Canolog, a grŵp cymorth gan gymheiriaid i helpu i sicrhau bod gennych y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym Mhrifysgol Caerdydd. Edrychwch trwy'r cyflwyniad byr hwn i ddarganfod: •    beth i'w ddisgwyl o sesiwn sgiliau astudio arbenigol •    sut y gallai sgiliau astudio arbenigol eich helpu gyda gwahanol agweddau ar eich dysgu •    sut i ymuno â'n gweithdai a'n grŵp cymorth gan gymheiriaid •    sut y gallwch ymgysylltu ymhellach â'r gwasanaeth.