Ysgrifennu Adolygiad llenyddiaeth
Mae'r tiwtorial hwn wedi'i baratoi i gynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw adolygiad llenyddiaeth a sut i fynd ati i ysgrifennu un. Bydd y tiwtorial hwn yn:
- Rhoi trosolwg o beth yw adolygiadau llenyddiaeth a pham rydyn ni'n eu hysgrifennu
- Esbonio'r broses o gynnal adolygiad llenyddiaeth gan gynnwys:
- chwilio am lenyddiaeth
- dewis papurau
- dadansoddi’r llenyddiaeth
- cyfosod y llenyddiaeth
- strwythuro eich adolygiad llenyddiaeth


