Mae staff academaidd yn meithrin datblygiad galluoedd myfyrwyr i lunio cwestiynau yn eu disgyblaeth, er mwyn gweld patrymau yn y llenyddiaeth, er mwyn gwerthuso’r dadleuon a dod o hyd i’r bylchau. Gall llyfrgellwyr pwnc helpu i ddatblygu sgiliau myfyrwyr er mwyn dod o hyd i ble mae’r trafodaethau academaidd yn cael eu cynnal, o ran nodi adnoddau safonol a thystiolaeth gefndirol yn ogystal â dod o hyd i adnoddau ar gyfer tasgau eraill, megis ar gyfer creu cyflwyniadau neu ymchwilio i gyflogwyr posibl.
2.1. Arferion
Rwyf yn… |
2.1.1…defnyddio adnoddau chwilio a ffynonellau sydd fwyaf addas ar gyfer y dasg dan sylw |
2.1.2…nodi’r sgyrsiau a’r ymchwil allweddol yn y pwnc rwy’n ymchwilio iddo |
2.1.3…gofyn cwestiynau am yr hyn rwyf yn dod o hyd iddo er mwyn sicrhau bod y wybodaeth honno’n gywir, yn awdurdodol ac yn berthnasol i fy niben |
2.2 Sgiliau
Rwy’n gallu… | Gweithgarwch enghreifftiol |
2.2.1…dewis adnoddau ymchwilio gwybodaeth priodol ar gyfer fy nhasg, gan gydnabod y gwahaniaethau rhyngddynt a’u manteision a’u cyfyngiadau | Ystyried gweithgarwch adnoddau (tudalen 8) |
2.2.2… dadansoddi fy mhwnc a llunio geiriau allweddol | Mapio meddwl neu gynllunio geiriau allweddol (tudalennau 4 a 5) Tiwtorial dod o hyd i ffynonellau priodol (a addysgir ar lefel ôl-raddedig) (tudalennau 4-7) Templed map meddwl |
2.2.3…creu strategaethau chwilio a defnyddio technegau uwch, megis chwilio Boolean, cardiau gwyllt a chwtogiadau, a chyfyngu ar chwiliadau drwy baramedrau penodol | Mewn parau, ystyriwch effaith defnyddio’r technegau hyn ar berthnasedd y canlyniadau a gafwyd |
2.2.4…dod o hyd i ffynonellau testun gwybodaeth llawn, ar-lein ac mewn print | Gosodwch ymarfer ar gael gadael ar destun cyfan llyfrau electronig ac erthyglau mewn cyfnodolion mewn tasg chwilio (tudalen 12) |
2.2.5… tracio rhagor o ffynonellau priodol gan ddefnyddio dyfyniadau | Tasg ymarferol gan ddefnyddio Scopus neu Web of Science i dracio dyfyniadau. (Mae arddangosiad ar gael o ran Dewis ffynonellau o ansawdd da (tudalen 12) |
2.2.6…dewis gwybodaeth briodol ar gyfer fy nhasg, gan gymhwyso meini prawf gwerthuso i benderfynu ar ansawdd y wybodaeth a ddarganfuwyd | Rhoddir pwnc eang i fyfyrwyr mewn parau (e.e. newid yn yr hinsawdd) a gofynnir iddynt baratoi dadl ‘o blaid / yn erbyn’. Bydd y myfyrwyr yn dadlau’r mater a chymerir pleidlais. Rhoddir marciau am ddefnyddio tystiolaeth i ategu dadleuon Tiwtorial dewis ffynonellau o ansawdd da Gweithgaredd defnyddio rhestr wirio ar gyfer arfarnu’n feirniadol (tudalen 9) |
2.2.7…cynnal cofnod o chwiliadau a gynhelir a gwybodaeth a ddarganfuwyd | Mewn ymarferion chwilio cronfa ddata gofynnwch i fyfyrwyr greu cyfrifon personol mewn cronfeydd data i arbed hanes chwiliadau a/neu ebostio canlyniadau i’w hunain Beirniadwch a gwerthuswch enghreifftiau o lwybrau ymchwilio |
2.2.8…dod o hyd i gynnwys arbenigol sy’n briodol ar gyfer fy nhasg e.e. ystadegau, setiau data, adolygiadau systematig, gwybodaeth gyfreithiol, adroddiadau marchnad, mapiau, dogfennau hanesyddol, lluniau y gellir eu hailddefnyddio ac ati. | |
2.3.9… defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau rhybuddio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fy nisgyblaeth | Tiwtorial cadw eich ymchwil yn gyfredol |
2.3 Ymwybyddiaeth
Rwy’n ymwybodol o’r canlynol… | Gweithgarwch enghreifftiol |
2.3.1… pwysigrwydd ategu fy nadleuon a chanfyddiadau ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd o ansawdd da | Beth yw cyfuno? fideo (tudalen 5) |
2.3.2…yr angen i ystyried perthnasedd, cywirdeb, tuedd, enw da a hygrededd gwybodaeth a ddarganfuwyd | Cwis deall cyfuno (gwyddorau cymdeithasol) neu Cwis deall cyfuno (Biowyddorau) Tiwtorial gwerthuso gwybodaeth Llifsiart gwerthuso gwybodaeth |
2.3.3… natur ailadroddol y broses chwilio wrth i mi adolygu fy nghanfyddiadau ac ystyried llwybrau newydd | Yn ystod ymarfer chwilio gofynnwch i fyfyrwyr nodi ac adlewyrchu ar lwyddiant eu strategaethau chwilio Llun o’r cylch chwilio am lenyddiaeth (tudalen 3) |