Mae bod yn systematig wrth storio a rheoli’r wybodaeth a ddarganfuwyd yn arbed amser ac yn golygu y gellir neilltuo mwy o amser ac ymdrech i ddarllen, meddwl a llunio syniadau. Wrth i ni addysgu’r sgiliau gweithredol hyn, rydym yn annog y dysgwr i ystyried sut y gallai eu defnyddio ochr yn ochr â’i arferion gwaith presennol ac i adolygu’r prosesau hyn dros amser.
3.1 Arferion
Rwyf yn… |
3.1.1… trin, trefnu ac yn storio fy ngwybodaeth mewn ffordd y gellir ei hadfer a’i defnyddio’n hawdd, ac wrth ystyried eiddo deallusol |
3.2 Sgiliau
Rwyf yn gallu… | Gweithgarwch enghreifftiol |
3.2.1…rheoli, trefnu a choladu gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau a thechnegau priodol | Templed Coladu Ffynonellau (tudalen 11) Tiwtorial cadw eich ymchwil yn gyfredol |
3.2.2… defnyddio meddalwedd llyfryddol i gofnodi a rheoli cyfeirnodau | Tiwtorialau EndNote Tiwtorialau EndNote Ar-lein |
3.3 Ymwybyddiaeth
Rwy’n ymwybodol o’r canlynol… | Gweithgarwch enghreifftiol |
3.3.1… pwysigrwydd bod yn systematig wrth drefnu’r wybodaeth a ddarganfuwyd | Templed Coladu Ffynonellau (tudalen 11) |
3.3.2…yr angen i gofnodi manylion llyfryddol neu drwyddedu am y wybodaeth a ddarganfuwyd a gwneud nodiadau cywir er mwyn helpu i osgoi llên-ladrad damweiniol | Ymarfer sy’n gofyn i fyfyrwyr gofnodi manylion llyfryddol deunyddiau y maent yn darganfod, drwy gadw cofnodion a ddarganfuwyd wrth ddefnyddio LibrarySearch / cronfeydd data neu drwy ysgrifennu’r elfennau sydd eu hangen ar gyfer cyfeirnod llyfryddol Tiwtorial nodiadau effeithiol |
3.3.3… problem gorlwytho gwybodaeth | Gofynnwch i fyfyrwyr sawl tudalen o ganlyniadau y maent yn edrych arnynt wrth iddynt chwilio ar Google. Gofynnwch i fyfyrwyr drafod pa strategaethau y maen nhw’n eu defnyddio mewn bywyd bob dydd i reoli faint o wybodaeth sydd ar gael iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol. E.e. gallent gyfyngu ar yr amser y maent yn treulio arno, gosod hidlyddion, dilyn eu hoff themâu yn unig ac ati. |