Bibliometrics 4 – Helpu i ddewis cyfnodolion gan ddefnyddio cronfeydd data, offer ar-lein a metrigau

Mae cronfeydd data cyhoeddi fel Scopus, Web of Science a Dimensions yn ddelfrydol ar gyfer cynnal chwiliad llenyddiaeth mewn pwnc penodol. Mae ganddynt hefyd gyfoeth o offer dadansoddol ychwanegol a gwybodaeth sy'n ddefnyddiol wrth helpu i ddewis cyfnodolion. Dyma’r math o gwestiynau y gellir eu hateb:

  • Pa gyfnodolion sydd eisoes yn cyhoeddi erthyglau yn y pwnc hwn?
  • Ble mae fy nghydweithwyr yn cyhoeddi?
  • Faint o erthyglau mae'r cylchgrawn hwn yn eu cyhoeddi bob blwyddyn?
  • Pwy sy'n cyhoeddi'r cylchgrawn hwn?
  • Faint o sylw mae erthyglau yn y cyfnodolyn hwn yn ei gael gan y cyfryngau cymdeithasol?
  • Pa mor aml mae adroddiadau polisi yn cyfeirio at y cyfnodolyn hwn?
  • A yw'r cyfnodolyn yn un sydd â mynediad agored?
  • Beth yw'r polisi mynediad agored ar gyfer y cyfnodolyn hwn?

 


Copyright © Cardiff University. All rights reserved.