Darllen a Dadansoddi Erthygl Cyfnodolyn yn feirniadol
Bydd y tiwtorial hwn yn trafod sut i ddarllen a dadansoddi erthygl cyfnodolyn academaidd yn feirniadol. Mae'n bwysig gwerthuso'r holl ffynonellau gwybodaeth rydych chi'n dod ar eu traws yn ystod eich gwaith academaidd. Yn y brifysgol bydd disgwyl i chi ddatblygu'r sgiliau i ddarllen a gwerthuso llenyddiaeth academaidd yn feirniadol gan gynnwys erthyglau cyfnodolion. Bydd y tiwtorial hwn yn:
- Esbonio categoreiddio eang erthyglau cyfnodolion
- Esbonio/amlinellu'r broses adolygu gan gymheiriaid lle cyflwynir erthygl i'w gwerthuso'n ysgolheigaidd gan arbenigwyr
- Awgrymu cwestiynau y mae angen i chi eu gofyn wrth ddarllen a dadansoddi erthygl cyfnodolyn yn feirniadol
- Rhoi awgrymiadau ymarferol i hwyluso darllen a gwneud dadansoddiad beirniadol o erthygl

