Darllen effeithiol
Ydych chi’n teimlo wedi'ch llethu gan eich rhestr ddarllen, neu faint o ddarllen a ddisgwylir ar gyfer eich gradd neu ymchwil? Mae'r tiwtorial hwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor ar 'ddarllen' testunau academaidd yn effeithiol ac yn effeithlon i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Erbyn diwedd yr adnodd hwn byddwch yn:
- Myfyrio ar eich strategaethau darllen eich hun ac yn nodi lle gallwch chi wella
- Archwilio strategaethau ar gyfer darllen effeithiol
- Adnabod ffyrdd y gall offer digidol gefnogi eich darllen.


