Datblygu eich syniadau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut y gall myfyrwyr ddefnyddio eu gwaith ymchwil i ddatblygu eu syniadau a'u dadleuon eu hunain. Mae'n eu tywys drwy'r broses o gasglu eu syniadau, creu dadl gref, a threfnu a strwythuro eu syniadau i greu amlinelliad o draethawd. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
