Defnyddio Gen AI i gefnogi eich chwiliad llenyddiaeth
Croeso i ganllaw'r Llyfrgell i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen AI) i’ch helpu i chwilio am lenyddiaeth. Nod yr adnodd hwn yw eich helpu i ddeall manteision a chyfyngiadau Gen AI i ddod o hyd i lenyddiaeth i gyfeirio ati yn eich gwaith academaidd. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw offeryn AI i helpu eich gwaith a fydd yn cael ei asesu, gwiriwch ganllawiau'ch modiwl neu gwrs a darllen canllawiau'r Brifysgol i fyfyrwyr ar ddefnyddio AI yn rhan o’ch dysgu. Gall offer Gen AI cynhyrchiol fel Microsoft Copilot fod yn ddefnyddiol pan fydd angen i chi nodi pwnc i ymchwilio iddo a/neu ddiffinio cwestiwn ymchwil. Efallai bod gennych chi faes diddordeb yr hoffech chi ymchwilio iddo ond bod angen i chi ei fireinio i gwestiwn neu ddatganiad ymchwil. Neu efallai eich bod eisiau dysgu rhagor am bwnc, i roi syniadau i chi ar gyfer themâu neu bynciau i ymchwilio iddyn nhw mewn mwy o fanylder yn y llenyddiaeth gyhoeddedig. Gallwch chi greu ceisiadau ysgogi a fydd yn cyfeirio'r offeryn Gen AI i'ch helpu gyda'r tasgau hyn. I weld y tiwtorial, cliciwch ym
Unless otherwise indicated, this material is authored by Cardiff University Library Service, and is released under a Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International License. Any material which is identified as the copyright of a third party is not covered by this licence, and authorization to reproduce such material must be sought from the rightsholders.