EndNote Desktop ar gyfer adolygiadau tystiolaeth
Mae'r tiwtorial hwn ar gyfer unrhyw un sy'n defnyddio EndNote i gynorthwyo gyda chynnal adolygiad tystiolaeth (e.e. adolygiad systematig, adolygiad cwmpasu, adolygiad cyflym ac ati). Felly, yn y tiwtorial hwn, rydym yn ymdrin â'r camau canlynol:
- Mewnforio eich cyfeiriadau i EndNote gyda'r holl ddata gofynnol
- Gweithio gyda'r cyfeiriadau o fewn eich llyfrgell EndNote at ddibenion cynnal adolygiad
- Defnyddio EndNote i sgrinio teitlau/crynodebau/testun llawn dwywaith
