Gwneud i’ch hunaniaeth ar-lein gyfri: Adeiladu eich proffil ar-lein
Bydd yr ail diwtorial yn ystyried sut y gallwch chi ddatblygu hunaniaeth ar-lein sydd wedi'i theilwra ar gyfer amgylchedd proffesiynol a sut mae rheoli’r hunaniaeth honno’n effeithiol. Bydd y tiwtorial yn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar-lein er mwyn creu a datblygu eich proffil proffesiynol. Bydd hefyd yn ystyried sut i greu rhwydweithiau proffesiynol defnyddiol, sut i ryngweithio mewn cymunedau ar-lein yn effeithiol, a sut i reoli, trefnu a chysylltu eich proffiliau ar-lein i'w cadw'n gyfoes.
![Creative Commons License](https://i.creativecommons.org/l/by/4.0/88x31.png)