Mendeley Reference Manager Gweithio gyda’ch cyfeiriadau
Hwn yw'r trydydd mewn cyfres o diwtorialau i'ch helpu i ddysgu sut i ddefnyddio’r feddalwedd rheoli cyfeiriadau, Mendeley. Mae'r tiwtorial hwn yn cymryd yn ganiataol bod eisoes gennych rai cyfeiriadau yn eich llyfrgell ar Mendeley. Os nad oes gennych unrhyw gyfeiriadau yn eich llyfrgell, gweithiwch drwy'r ail diwtorial sy'n cynnwys Ychwanegu cyfeiriadau at Mendeley. Bydd y tiwtorial hwn yn dangos i chi sut i wneud y canlynol:
- Trefnu, chwilio a golygu eich cyfeiriadau
- Anodi ffeiliau PDF a defnyddio Notebook
