Mynediad Agored I’r rhai sy’n Derbyn Arian Allanol
Rhaid i holl staff ymchwil Prifysgol Caerdydd sy'n derbyn neu'n rhagweld derbyn cyllid allanol hefyd gwblhau’r tiwtorial ychwanegol hwn, yn ogystal â'r modiwl ymsefydlu ar Fynediad Agored. Mae’r modiwl hwn yn sicrhau y bydd ymchwilwyr yn ymwybodol o ofynion cyllidwyr, cymhwysedd ar gyfer grantiau bloc Mynediad Agored, cronfa Mynediad Agored Sefydliadol y Brifysgol, a’r cymorth sydd ar gael.
