Ymchwilio a darllen yn feirniadol
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud gwaith ymchwil a darllen yn gritigol wrth baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd. Mae'n tywys myfyrwyr drwy'r broses o nodi'r hyn y dylent ymchwilio iddo, sut a ble y dylid ymchwilio iddo, a sut i ddarllen yn feirniadol a gwerthuso ansawdd y wybodaeth y byddent yn dod o hyd iddi. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
