Cydweithio a chyfathrebu

Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch cydweithio a chyfathrebu ag eraill. Mae’r adnoddau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Resource title and description Type
Bibliometrics 4 – Helpu i ddewis cyfnodolion gan ddefnyddio cronfeydd data, offer ar-lein a metrigau
Mae cronfeydd data cyhoeddi fel Scopus, Web of Science a Dimensions yn ddelfrydol ar gyfer cynnal chwiliad llenyddiaeth mewn pwnc penodol. Mae ganddynt hefyd gyfoeth o offer dadansoddol ychwanegol a gwybodaeth sy'n ddefnyddiol wrth helpu i ddewis cyfnodolion. Dyma’r math o gwestiynau y gellir eu hateb:
  • Pa gyfnodolion sydd eisoes yn cyhoeddi erthyglau yn y pwnc hwn?
  • Ble mae fy nghydweithwyr yn cyhoeddi?
  • Faint o erthyglau mae'r cylchgrawn hwn yn eu cyhoeddi bob blwyddyn?
  • Pwy sy'n cyhoeddi'r cylchgrawn hwn?
  • Faint o sylw mae erthyglau yn y cyfnodolyn hwn yn ei gael gan y cyfryngau cymdeithasol?
  • Pa mor aml mae adroddiadau polisi yn cyfeirio at y cyfnodolyn hwn?
  • A yw'r cyfnodolyn yn un sydd â mynediad agored?
  • Beth yw'r polisi mynediad agored ar gyfer y cyfnodolyn hwn?
Tutorial
Bibliometrics and altmetrics
These tutorials will introduce you to bibliometric and altmetric data and explain how they are used in research evaluation. Researchers and academics will find this resource useful for finding appropriate citations and altmetric data for research evaluation. This may be for an individual's publications, but also for research groups, or at school or university level. The tutorials also guide you in using metrics responsibly and ensuring that you are following principles laid out in DORA (San Francisco Declaration on Research Assessment).
Tutorial
Bibliometreg ac altmetreg
Bydd y tiwtorialau hyn yn eich cyflwyno i ddata bibliometreg ac altmetrig ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio wrth werthuso ymchwil. Bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i ymchwilwyr ac academyddion ar gyfer dod o hyd i ddyfyniadau a data altmetrig priodol ar gyfer gwerthuso ymchwil. Gall hyn fod ar gyfer cyhoeddiadau unigolyn, ond hefyd ar gyfer grwpiau ymchwil, neu ar lefel ysgol neu brifysgol. Mae'r tiwtorialau hefyd yn eich tywys wrth ddefnyddio metrigau yn gyfrifol a sicrhau eich bod yn dilyn egwyddorion a nodwyd yn DORA (Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil). Cliciwch ar un o ddolenni’r adrannau er mwyn dechrau.