Canllawiau Cynllunio Asesiadau Prifysgol Caerdydd
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys offer ac ystyriaethau ymarferol i gefnogi Ysgolion a thimau rhaglenni i fabwysiadu dull cyfannol, ar lefel rhaglenni, o gynllunio asesiadau. Mae wedi’i drefnu yn ôl yr adrannau canlynol:
- Adran 1: Dull lefel rhaglen o gynllunio asesiadau
- Adran 2: Diagnosteg (EAT)
- Adran 3: Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a chynllunio asesiadau
- Adran 4: Datblygu Meini Prawf Asesu
Fe’i bwriedir ar gyfer yr holl staff sy’n ymwneud â Datblygu Rhaglenni, boed yn wasanaethau academaidd neu broffesiynol, a boed y datblygiad dan sylw yn rhaglen newydd neu’n welliannau i raglenni a/neu fodiwlau presennol.
Gyda’i gilydd, nod yr adnoddau hyn yw cefnogi timau rhaglenni i gynllunio asesiadau sy’n mapio’n glir yn erbyn deilliannau dysgu rhaglenni, osgoi gorddibyniaeth ar fathau penodol o asesiadau, a chefnogi datblygiad myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo strategaeth asesu strwythuredig, cytbwys ac academaidd gadarn sy’n gwella dysgu ac yn cyd-fynd ag egwyddorion addysg gynhwysol a strategaeth y brifysgol.
At hynny, mae’n annog timau rhaglenni i ystyried yn rhagweithiol rôl Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth gynllunio asesiadau, gan sicrhau bod tasgau’n parhau i fod yn ddilys, yn dryloyw o ran disgwyliadau, ac yn cyd-fynd â’r defnydd cyfrifol o dechnolegau sy’n dod i’r amlwg gyda Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Yn olaf, mae’n cefnogi staff i gymryd dull cadarn o ddatblygu meini prawf asesu
Egwyddorion allweddol dylunio ar lefel rhaglen
Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd yn nodi’r ymrwymiad i gefnogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial drwy arferion dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol. Rhan allweddol o’r ymrwymiad hwn yw sicrhau bod asesiadau wedi’u cynllunio mewn ffyrdd sy’n hygyrch, yn gydlynol, ac yn cyd-fynd â’r hyn mae angen i fyfyrwyr ei ddysgu a’i ddangos.
Nid yw’r Brifysgol yn rhagnodi sut y dylid cynllunio na rheoli asesiadau rhaglenni unigol; materion academaidd, yn briodol, yw’r penderfyniadau hyn sy’n cael eu dylanwadu gan ffactorau fel deilliannau dysgu’r rhaglen, strwythur y cwricwlwm, ystyriaethau adnoddau, anghenion myfyrwyr, ac unrhyw ofynion penodol a nodir gan gyrff proffesiynol a/neu reoleiddio.
Fodd bynnag, mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i gefnogi Ysgolion i gynllunio asesiadau sy’n adlewyrchu egwyddorion y Dull Strategol o Wella Asesu ac Adborth – 2023-2027. Mae mabwysiadu dull strategol yn galluogi staff a myfyrwyr i ddefnyddio eu hamser yn fwy effeithiol, yn gwella cysondeb, ac yn diogelu safonau academaidd.

1: Dull lefel rhaglen o gynllunio asesiadau
Mae dull lefel rhaglen o gynllunio asesiadau yn cynnwys cynllunio, gweithredu a rheoli asesu ac adborth ar draws rhaglen gyfan yn hytrach nag mewn modiwlau unigol (Jessop et al., 2013). Drwy ddylunio rhaglenni yn y ffordd gyfannol hon, gellir trefnu asesiadau ac adborth yn fwriadol i adeiladu sgiliau myfyrwyr yn raddol ac i sicrhau bod yr holl weithgarwch asesu yn cefnogi’r myfyrwyr i gyflawni deilliannau dysgu’r rhaglen yn glir.
Argymhellir bod pob rhaglen a addysgir yn mabwysiadu dull cynllunio asesiadau ar lefel rhaglen yn fwriadol. Bydd defnyddio dull mwy cyfannol o gynllunio asesiadau yn sicrhau bod ystod a lefelau priodol o asesiadau yn cael eu cynnig mewn rhaglen radd/modiwlau ac ar eu traws.
Cydbwyso asesu ar draws rhaglenni
Mae mabwysiadu dull lefel rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i dimau rhaglenni, fel ymarfer cychwynnol, ystyried sawl cwestiwn sylfaenol. Argymhellir bod arweinwyr rhaglenni a/neu dimau yn adolygu’r cydbwysedd cyffredinol o fathau o asesiadau ar draws y rhaglen, gan ystyried y berthynas rhwng asesu ar gyfer dysgu ac asesu dysgu, yn ogystal â dilysrwydd a dibynadwyedd yr asesiadau a ddefnyddir.
Pwyntiau ar gyfer myfyrio
Mathau o asesiadau

Asesu ar gyfer Dysgu ac Asesu Dysgu
- A yw’r rhaglen yn cynnwys asesiadau sydd o natur ffurfiannol, sy’n darparu adborth cyfoethog ac yn cefnogi cynnydd myfyrwyr (Asesu ar gyfer Dysgu)?
- A yw myfyrwyr yn cael adborth amserol ac ystyrlon sy’n eu helpu i wella cyn ymgymryd â thasgau pwysig?
- A oes cysylltiad clir a chydlynol rhwng gweithgareddau ffurfiannol a’r asesiadau crynodol sy’n dilyn?
- A yw’r asesiadau crynodol yn mesur cyflawniad cyffredinol yn deg ac yn effeithiol (Asesu Dysgu)?
- A yw’r cydbwysedd rhwng cydrannau ffurfiannol a chrynodol yn briodol ar gyfer y deilliannau dysgu a lefel y rhaglen?
Mae asesu ffurfiannol a’r adborth ffurfiannol dilynol yn rhoi adborth parhaus, ymarferol i fyfyrwyr sy’n eu helpu i ddeall eu cynnydd, nodi bylchau mewn dysgu, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn tasgau crynodol diweddarach. Mae’n cryfhau dysgu drwy annog myfyrio, hunanreoleiddio, a gwelliant parhaus wrth roi cipolwg i diwtoriaid ar berfformiad unigol.

Dilysrwydd a Dibynadwyedd
- A yw’r rhaglen yn cynnwys asesiadau sy’n mesur ystod eang o’r deilliannau dysgu a fwriedir yn effeithiol (h.y., a yw’r asesiadau’n ddilys)?
- A yw’r tasgau gwaith cwrs a ddewiswyd wedi’u halinio’n dda â’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwyseddau y disgwylir i fyfyrwyr eu dangos?
- A yw’r mathau hyn o asesiadau yn cynhyrchu canlyniadau cyson a dibynadwy ar draws gwahanol garfannau a marcwyr (h.y., a yw’r asesiadau’n ddibynadwy)?
- A yw’r tasgau asesu wedi cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn gadarn yng nghyd-destun Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys a ydynt yn lliniaru defnydd amhriodol o Ddeallusrwydd Artiffisial a/neu’n integreiddio llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial yn fwriadol lle bo’n briodol?
- A yw timau rhaglenni wedi ystyried y dull dwy lôn o gynllunio asesiadau, gan sicrhau cymysgedd priodol o (a) asesiadau diogel, rheoledig lle mae’n rhaid gwirio perfformiad annibynnol myfyrwyr, a (b) asesiadau dilys, sy’n wynebu’r dyfodol, wedi’u cynllunio i fod yn wydn i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol neu i’w ymgorffori’n ystyrlon?
- A yw asesiadau wedi’u cynllunio i fod yn wydn i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol neu’n ei ymgorffori’n ystyrlon?
Llwyth asesu
Ar draws rhaglenni, mae angen gwneud asesu’n haws ei reoli i staff a myfyrwyr, drwy’r camau canlynol:
Mapio asesu i Ddeilliannau Dysgu’r Rhaglen
Sicrhau bod yr holl asesiadau’n cyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen, gan ddiogelu safonau academaidd a mapio cyflawniad myfyrwyr yn erbyn y cymwyseddau a’r sgiliau a ddymunir. Yn ei dro, gall hyn helpu i osgoi dull lle mae paratoi ar gyfer arholiadau yn cael blaenoriaeth dros astudiaeth integreiddiol ehangach.
Rheoli llwythi gwaith
Dylai timau rhaglenni geisio dosbarthu tasgau asesu yn gyfartal ar draws y rhaglen er mwyn atal gorlwytho myfyrwyr a staff. Er y gall ymddangos bod angen mwy o fewnbwn gan staff ar dasgau mwy arloesol a dilys, nid yw hyn bob amser yn wir, yn enwedig lle mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr yn digwydd. Efallai y bydd angen ystyried mabwysiadu dulliau mwy hyblyg o ddyrannu llwyth gwaith sy’n cydnabod yr adnoddau cynyddol sydd eu hangen i reoli rhai o’n hasesiadau.
Rheoli cyfaint yr asesiadau
Yn ogystal â cheisio lleihau cyfanswm nifer yr asesiadau crynodol, dylai timau rhaglenni geisio osgoi gorlwytho dyddiadau cau (gan ddefnyddio’r Offeryn Gweld Asesiadau), sgaffaldio tasgau ffurfiannol sy’n bwydo ymlaen ac yn meithrin llythrennedd asesu ac adborth a sicrhau y gellir rheoli gwaith marcio ac adborth heb effeithio’n negyddol ar lesiant myfyrwyr a staff. Bydd canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na nifer yr asesiadau yn lleihau straen diangen ac yn caniatáu dysgu a myfyrio dyfnach.
Defnyddio Asesiadau ‘Capfaen’, ‘Conglfaen’ a Thraws-fodiwlau
Gall modiwlau conglfaen a chapfaen chwarae rhan hanfodol mewn rhaglenni a addysgir drwy ddarparu cyfleoedd strwythuredig i fyfyrwyr integreiddio a chymhwyso eu dysgu. Mae modiwlau conglfaen, a gynigir fel arfer yn gynnar yn y rhaglen, yn helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, gan baratoi’r ar gyfer astudiaeth fwy datblygedig. Mae modiwlau capfaen, sydd fel arfer ar ddiwedd y rhaglen, yn caniatáu i fyfyrwyr grynhoi a dangos eu dysgu cronnus trwy brosiectau neu ymchwil gynhwysfawr. Mae’r dull hwn nid yn unig yn atgyfnerthu cysyniadau allweddol ond hefyd yn gwella sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau, a chymhwyso yn y byd go iawn, gan baratoi myfyrwyr yn y pen draw ar gyfer llwyddiant proffesiynol a dysgu gydol oes.
Cynghorir ysgolion sydd â diddordeb mewn cyflwyno modiwlau Conglfaen a/neu Gapfaen, neu sydd â diddordeb mewn archwilio a/neu dreialu asesiadau rhaglennol traws-fodiwlau, i geisio cymorth gan y LTA.
Mathau o Asesiadau a Hyd yr Asesiadau
Er y dylai arholiadau ac asesiadau eraill sydd â chyfyngiadau amser fod yn gymharol debyg o ran hyd / amser ar draws rhaglen, ni ddylid defnyddio’r un cyfwerthedd ar gyfer tasgau gwaith cwrs, o ystyried yr anallu i gydnabod cymhlethdod gwahanol dasgau neu i ystyried yr amser gwahanol y gall gymryd i gwblhau gwahanol dasgau (e.e., gallai ysgrifennu crynodeb 300 gair gymryd mwy o amser na thraethawd byr 1,000 gair). Efallai na fydd cyfrif geiriau yn briodol ar gyfer pob math o asesiad chwaith, nac yn cydnabod llwyth gwybyddol na fformatau cyflwyno amgen. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y disgwyliadau Sefydliadol.
Awgrym Defnyddiol
Cynllunio trefn asesu rhaglen cytbwys
Mae creu trosolwg gweledol o’r drefn asesu arfaethedig ar draws rhaglen yn fan cychwyn effeithiol ar gyfer deall ac adolygu’r holl asesiadau a gynlluniwyd. Mae’r trosolwg hwn yn helpu i nodi cyfnodau prysur, gwrthdaro posibl rhwng dyddiadau cau, ac unrhyw orddibyniaeth ar ddull asesu penodol fel y gellir mynd i’r afael â’r rhain yn gynnar. Mae hefyd yn galluogi timau rhaglenni i bennu a yw’r patrwm asesu cyffredinol yn cynnig cydbwysedd priodol i gefnogi dilysrwydd a dibynadwyedd penderfyniadau asesu. Yn ogystal, gall y broses hon helpu timau i ystyried sut y gellid ymgorffori’r dull dwy lôn heb beryglu ein hegwyddor graidd o ddatblygu graddedigion sy’n feddylwyr annibynnol a beirniadol.
2. EAT Prifysgol Caerdydd
Argymhellir bod pob rhaglen a addysgir yn adolygu ac yn gwerthuso’n rheolaidd y ddarpariaeth gyfredol o ran asesu ac adborth. Drwy ddeall safbwyntiau staff a myfyrwyr yn glir, gall timau rhaglenni wneud penderfyniadau gwybodus sy’n meithrin gwelliant parhaus, yn cefnogi arloesedd ac yn gwella dilysrwydd, dibynadwyedd a hydrinedd rheoli asesiadau.
Heb ddealltwriaeth drylwyr o gryfderau a gwendidau’r asesiadau presennol, mae’n annhebygol y bydd newidiadau a gynlluniwyd ar frys yn gwella ansawdd cyffredinol y rhaglen, yn hyrwyddo tegwch, nac yn gwella boddhad a llwyddiant myfyrwyr. Isod ceir manylion am offeryn EAT Prifysgol Caerdydd, a ddefnyddir i werthuso arferion asesu presennol ar draws rhaglenni.

Figure 1. Image from: EAT FRAMEWORK | EAT Framework
Mae model EAT Prifysgol Caerdydd yn fframwaith asesu integredig sy’n seiliedig ar ymchwil, ac sydd wedi’i gynllunio i ystyried pob agwedd ar arferion asesu a’r cysylltiadau rhyngddynt ar y cyd â chydweithwyr.
Mae’r model yn ymdrechu i roi lle blaenllaw i lais y myfyriwr, gan gynnig lle i ystyried llythrennedd asesu ymhlith myfyrwyr ac i fyfyrio ar brofiad y myfyriwr o asesu ar draws rhaglen.
Mae’n wahanol i’r Fframwaith EAT gwreiddiol (Evans, 2016) gan y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio ar lefel rhaglen ac mae’n cyd-fynd â Disgwyliadau Sefydliadol Prifysgol Caerdydd.
Beth gall EAT Prifysgol Caerdydd ei gynnig i ysgolion?
Mae EAT Prifysgol Caerdydd yn hyrwyddo cynllunio ar lefel rhaglen, sy’n ein galluogi i sicrhau bod profiad dysgu myfyrwyr yn un sy’n adeiladu drwy gydol y rhaglen, gyda dulliau asesu yn cyd-fynd â deilliannau dysgu a gweithgareddau dysgu. Mae cymryd golwg ar lefel y rhaglen yn hyrwyddo arferion asesu da a gall gyfrannu at ddatblygu strategaeth asesu gyson a chynhwysol.
Manteision adolygu asesu ar draws rhaglen:
- Atal gorasesu ac yn osgoi ‘clystyru’ asesiadau;
- Sicrhau aliniad rhwng deilliannau dysgu ar lefel rhaglen a modiwlau;
- Cynnig cyfle i fyfyrio ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (DA) Cynhyrchiol wrth ddylunio asesiadau;
- Hyrwyddo amrywiaeth mewn mathau o asesu;
- Annog asesiadau sy’n hygyrch i bob myfyriwr ac yn datblygu ystod o sgiliau;
- Galluogi cydlynu gweithgareddau dysgu ar draws rhaglen;
- Cyfrannu at ddatblygu sgiliau graddedigion;
- Bodloni gofynion proffesiynol neu reoleiddiol.
Sut mae EAT Prifysgol Caerdydd yn cael ei ddefnyddio?
Gellir defnyddio model EAT Prifysgol Caerdydd, yn hyblyg, mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd:
- Fel rhan o’r gwaith o ddylunio asesiadau mewn Ysgolion;
- Yn y gwaith ail-ddilysu, i lywio datblygiad strategaeth asesu ddiwygiedig;
- Mewn ymateb i gynlluniau gweithredu Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS)
Mae’r adnoddau’n cynnwys:
- Arolygon Menti ar gyfer myfyrwyr/staff y gellir eu haddasu i ddefnyddio set o gwestiynau pwrpasol, yn seiliedig ar fframwaith EAT Prifysgol Caerdydd.
- Cynllun gweithredu sy’n cyfuno gwybodaeth a gafwyd o’r broses EAT i greu cynllun clir ar sut y gellir gweithredu newidiadau ar lefel rhaglen a modiwl.
3. Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gyfer Dysgu ac Addysgu
Mae offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI) yn dylanwadu’n gynyddol ar sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn astudio ac yn cynhyrchu gwaith prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd eisoes yn defnyddio’r offer hyn, ac mae staff yn gweld eu heffaith mewn perthynas ag addysgu, asesu ac adborth.
Mae’r dudalen hon yn cynnig canllawiau ymarferol ysgafn i staff Prifysgol Caerdydd ar sut y gellir mynd i’r afael â GenAI wrth ddysgu, addysgu ac asesu. Mae wedi’i pharatoi i helpu cydweithwyr i wneud penderfyniadau addysgegol gwybodus, yn enwedig wrth ddylunio neu adolygu asesiadau.
I staff a myfyrwyr Caerdydd, mae Microsoft Copilot, Google Gemini a NotebookLM yn offer GenAI sydd ar gael ar draws y sefydliad. Dylid defnyddio cyfrifon prifysgol i ddefnyddio’r platfformau hyn, gan eu bod yn cyd-fynd â safonau diogelwch sefydliadol Prifysgol Caerdydd, yn diogelu data yn briodol, ac wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio o fewn amgylchedd offer digidol Caerdydd.
Mae’r canllawiau hyn yn:
- ategu (ond nid yn disodli) polisïau sefydliadol a chanllawiau’r fewnrwyd;
- canolbwyntio ar wella yn hytrach na gorfodi;
- cynorthwyo staff ar draws gwahanol ddisgyblaethau a lefelau profiad.
- Safbwynt Prifysgol Caerdydd ar GenAI
Mae canllawiau sefydliadol cyfredol Prifysgol Caerdydd ar ddeallusrwydd artiffisial mewn addysg ar gael ar fewnrwyd y staff a dylid cyfeirio at y rhain yn y lle cyntaf bob amser.
Er bod canllawiau ffurfiol y Brifysgol ar GenAI ym meysydd dysgu, addysgu ac asesu yn parhau i esblygu, anogir cydweithwyr i weithio mewn ffyrdd tryloyw, cymesur ac addysgegol sy’n cyd-fynd ag arferion sy’n dod i’r amlwg yn y sector ac egwyddorion Grŵp Russell.
Fframio’r defnydd o GenAI: dull dwy lôn
Gan nad oes dosbarthiadau asesu penodol ar gyfer Caerdydd, mae’r Brifysgol yn defnyddio model asesu dwy lôn Prifysgol Sydney ar hyn o bryd fel dyfais fframio defnyddiol wrth gyfathrebu disgwyliadau i fyfyrwyr.
Yn gryno:
| 01 Lôn 1
Sicrhau ansawdd dysgu · Safbwyntiau dibynadwy am gynnydd a chyrhaeddiad. · Uniondeb y dyfarniad a dysgu unigol wedi’i warchod. · Amodau rheoledig, dylunio tasg gyd-destunol, neu wirio. |
02 Lôn 2
Asesu agored ar gyfer dysgu ac asesu sy’n gyfystyr â dysgu · Asesiad agored a gefnogir y tu hwnt i leoliadau rheoledig. · Ni ellir gwahardd AI rhag cael ei defnyddio mewn cyd-destunau heb eu diogelu. · Pwyslais ar ddefnydd moesegol, beirniadol a disgyblaeth-benodol. |
Ni ddylid dehongli’r model dwy lôn fel caniatâd i wahardd neu ganiatáu GenAI yn gyffredinol ar draws modiwl neu raglen. Yn hytrach, mae’n helpu i wneud penderfyniadau cytbwys a arweinir gan ddeilliannau. Dylai staff ystyried pa ddeilliannau dysgu sy’n mynnu bod myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth, sgiliau neu farn yn annibynnol, a lle y gallai fod angen asesu hyn mewn cyd-destun diogel neu ddilys. Yn yr un modd, pan fo defnyddio GenAI yn briodol mewn cyd-destunau asesu agored, dylid helpu myfyrwyr i’w defnyddio yn feirniadol, yn dryloyw ac mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’r deilliannau dysgu arfaethedig. Dylai’r pwyslais fod ar yr hyn sydd angen ei dystiolaethu, nid ar gymhwyso rheolau cyffredinol i asesiadau cyfan.
Egwyddorion y sector
Mae dull Caerdydd yn cyd-fynd ag Egwyddorion Grŵp Russell, sef:
- Bydd prifysgolion yn helpu myfyrwyr a staff i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn fedrus.
- Dylai staff fod wedi’u paratoi i helpu myfyrwyr i ddefnyddio offer GenAI yn effeithiol ac yn briodol yn eu profiad dysgu.
- Bydd prifysgolion yn addasu dulliau addysgu ac asesu i ymgorffori’r defnydd moesegol o GenAI ac yn helpu i roi mynediad cyfartal.
- Bydd prifysgolion yn sicrhau bod trylwyredd ac uniondeb academaidd yn cael eu cynnal.
- Bydd prifysgolion yn cydweithio i rannu arferion gorau wrth i’r dechnoleg a’r defnydd ohoni ym maes addysg esblygu.
Galluoedd a Chyfyngiadau GenAI
Mae offer GenAI yn datblygu’n gyflym. Mae’r pwyntiau isod yn adlewyrchu eu galluoedd a’u cyfyngiadau nodweddiadol ar yr adeg yr ysgrifennwyd yr arweiniad hwn a dylid eu dehongli’n ofalus wrth i offer barhau i esblygu.
Gall offer GenAI gefnogi dysgu mewn sawl ffordd, yn enwedig pan gaiff eu defnyddio i archwilio, cwestiynu a datblygu dealltwriaeth yn hytrach na chynhyrchu gwaith gorffenedig yn unig. Er enghraifft, gall myfyrwyr a staff ddefnyddio GenAI er mwyn:
- cynhyrchu syniadau, cwestiynau neu grynodebau cychwynnol;
- edrych ar bynciau anghyfarwydd neu gael esboniadau amgen;
- crynhoi, ailadrodd neu gymharu cysyniadau;
- profi dealltwriaeth drwy ddeialog, awgrymiadau neu gwestiynau ymarfer;
- helpu gwaith codio, dadfygio neu ddatrys problemau;
- drafftio, ailddrafftio neu strwythuro dadleuon;
- cynhyrchu enghreifftiau, senarios neu esboniadau addysgu.
Fel gydag unrhyw ffynhonnell wybodaeth, dylid gwirio, cwestiynu a chyferbynnu ymatebion a gynhyrchir gan AI â ffynonellau academaidd, proffesiynol neu ddisgyblaethol dibynadwy.
Prif gyfyngiadau a risgiau
Mae offer GenAI:
- yn cynhyrchu allbynnau ar sail tebygolrwydd, nid gwybodaeth sydd wedi’i gwirio;
- yn gallu cynhyrchu gwybodaeth hyderus ond anghywir (“rhithwelediadau”);
- yn gallu ffugio cyfeiriadau neu gynrychioli ffynonellau yn anghywir;
- yn cynnig barn sydd heb gyd-destun neu ddealltwriaeth o ddisgyblaeth;
- yn gallu atgyfnerthu rhagfarn neu eithrio safbwyntiau ymylol;
- yn aml yn cynhyrchu allbwn rhugl ond dealltwriaeth arwynebol.
Ystyriaethau academaidd
Mae offer GenAI yn cynnig cyfleoedd o bwys ar gyfer dysgu ac addysgu, yn ogystal â heriau pwysig mewn perthynas ag asesu. Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu risgiau allweddol a nodwyd mewn ymchwil ddiweddar ac mae’n tynnu sylw at oblygiadau i ymarfer.
Gall gor-ddibyniaeth atal sgiliau rhag datblygu
Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod dibynnu’n ormodol ar offer GenAI yn gallu effeithio ar i ba raddau y mae myfyrwyr yn defnyddio’r prosesau gwybyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer dysgu, gan gynnwys dadansoddi, cyfosod a datrys problemau. Pan fydd AI yn cyflawni elfennau pwysig o waith academaidd, gallai myfyrwyr osgoi "ymdrech gynhyrchiol", a gall hyn gyfyngu ar ddatblygiad arbenigedd disgyblaethol a barn annibynnol.
Nid yw allbwn a gynhyrchir gan AI yn dystiolaeth ddibynadwy o ddealltwriaeth myfyrwyr
Ni ellir tybio bod gwaith a gynhyrchir gan AI yn adlewyrchu dealltwriaeth, rhesymeg neu gyflawniad y myfyriwr ei hun, ac mae hyn yn tanseilio dilysrwydd yr asesiad. O ganlyniad, nid yw'r cynnyrch a gyflwynir ar ei ben ei hun bellach yn ddangosydd dibynadwy o’r hyn sydd wedi’i ddysgu.
Ymchwil Ategol
- Mae QAA (2023) yn pwysleisio bod AI yn tarfu ar y berthynas rhwng gwaith myfyrwyr a thystiolaeth o gyrhaeddiad, gan olygu bod angen ailasesu sut mae dysgu yn cael ei dystiolaethu.
- Mae Perkins, Roe a MacVaugh (2024) yn dangos bod GenAI yn gallu cynhyrchu allbynnau asesu sy'n bodloni meini prawf pasio heb ddangos dealltwriaeth myfyrwyr.
- Mae Sullivan et al. (2023) yn dangos bod addysgwyr yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng GenAI mewn gwaith myfyrwyr, gan godi pryderon am ddilysrwydd a chywirdeb tystiolaeth.
Gall defnydd anfeirniadol danseilio uniondeb academaidd a safonau mewn disgyblaeth
Gall defnydd anfeirniadol o GenAI danseilio uniondeb academaidd, normau awduriaeth, a dealltwriaeth o ddisgyblaeth benodol. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i gamymddwyn gan eu fod yn erydu safonau ysgolheigaidd a phroffesiynol.
4. Datblygu a Defnyddio Meini Prawf Asesu
Mae datblygu meini prawf asesu sydd yn bwrpasol eu cynllun hefyd yn cefnogi strategaeth Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd Prifysgol Caerdydd trwy hyrwyddo arferion asesu cynhwysol a thryloyw sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Gall helpu i ddarparu profiad addysgol rhagorol, meithrin partneriaeth â myfyrwyr a’u synnwyr o berthyn yn ogystal â chefnogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hunanreoleiddio sydd eu hangen ar gyfer dysgu gydol oes ac effaith gadarnhaol yn eu cymunedau a’u proffesiynau.
Ar y dudalen hon ceir canllawiau ymarferol ar ddatblygu, adolygu a defnyddio meini prawf asesu. Mae’n ystyried nodweddion meini prawf effeithiol, yn ystyried dulliau o gyd-greu meini prawf â myfyrwyr ac yn tynnu sylw at sut y gellir defnyddio meini prawf i gefnogi arferion marcio a chymedroli cyson mewn rhaglenni a modiwlau.
Sut i ddatblygu meini prawf a chyfarwyddiadau asesu da
Gwerthfawrogir meini prawf asesu da a chlir gan fyfyrwyr ac maent yn gymorth i sicrhau bod asesiadau'n cael eu hystyried yn deg, yn dryloyw ac yn gyson.
Dylai meini prawf asesu wedi'u cynllunio'n dda fod yn:
Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:
- Pa mor dda y mae’r meini prawf yn cyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen/modiwl?
Mae hyn yn golygu:
Dylai meini prawf cyffredinol yr Ysgol / Rhaglen gyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen, tra dylai meini prawf sy’n benodol i dasg gyd-fynd â deilliannau dysgu’r modiwl sy’n cael eu hasesu yn y dasg honno. Mae bod yn gyson wrth gyfateb y deilliannau dysgu i'r meini prawf asesu yn helpu i annog eglurder.
Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:
- Ydy’r meini prawf yn weladwy ac yn fesuradwy?
- Os bydd y meini prawf yn cael eu ddefnyddio ar gyfer tasgau tebyg ar draws y rhaglen, a oes cysondeb yn y defnydd o iaith, gan hybu gallu myfyrwyr i hunanasesu ar eu cynnydd?
- A fydd y meini prawf ar gael i’w drafod ym mriffiau’r aseiniad?
Mae hyn yn golygu:
Dylai'r meini prawf fod yn glir ac yn ddealladwy i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill. Dylech chi roi ystyriaeth i’r lefel o fanylder: bydd angen i fyfyrwyr ddeall yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw wneud, tra eu bod ar yr un pryd yn gallu rheoli’r baich gwybyddol. Dylech chi gyfyngu ar nifer y meini prawf sydd ynghlwm wrth dasg benodol, er mwyn sicrhau bod y rhain yn glir i fyfyrwyr a bod modd i farcwyr eu rheoli.
Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:
- Ydy’r nifer o feini prawf yn hawdd ei drin (mae rhwng 3 a 6 meini prawf yn cyrraedd cydbwysedd da i osgoi bod yn rhy gymhleth ac i sicrhau bod gwahaniaethau ystyrlon rhwng y meini prawf)?
- A oes gwahaniaeth amlwg rhwng y meini prawf neu ydyn nhw’n gorgyffwrdd?
- Ydy’r meini prawf yn berthnasol i natur y dasg/math ac amrywiaeth yr asesiadau ar draws y rhaglen?
Mae hyn yn golygu:
Bydd angen i’r meini prawf fod yn ddigon gwahanol i’w gilydd, i sicrhau, eu bod yn caniatáu dull mwy cyfannol o farcio. Mae angen i fyfyrwyr weld y meini prawf fel arwydd o gyflawniad yn hytrach na mesuriad manwl gywir.
Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:
- Ydy’r meini prawf yn osgoi disgrifyddion goddrychol? (e.e. 'Ardderchog', 'da iawn', 'gweddol')?
- Ydy’r meini prawf yn osgoi cyfeirio at ansawdd (e.e. yn rhesymegol, yn effeithiol)?
Mae hyn yn golygu:
Lle y bo modd, yn osgoi disgrifyddion cwbl oddrychol, gan fod y rhain yn agored i wahanol ddehongliadau a gallan nhw annog staff i ffitio marciau arfaethedig i feini prawf yn ôl-weithredol.
Mae hyn yn golygu:
Dylai’r meini prawf annog myfyrwyr i ddangos creadigrwydd, natur ddigymell a gwreiddioldeb. Yn arbennig o bwysig ar lefelau 6 a 7, gall meini prawf asesu sy'n osgoi'r rhain gyfyngu ar ddysgwyr neu eu hatal.
Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:
- Ydy’r meini prawf yn briodol ar gyfer y lefel astudio?
Mae hyn yn golygu:
Dylai’r meini prawf gael eu creu trwy ddatblygu'r disgrifydd ar gyfer y marc pasio sylfaenol yn gyntaf. Defnyddiwch hwn i ddangos beth sydd ei angen ar lefel pasio, ond mewn ffordd gadarnhaol. Ceisiwch osgoi termau fel 'annigonol', 'cyfyngedig', 'anghywir', sydd yn cael eu defnyddio’n fwy nodweddiadol i ddisgrifio gwaith nad yw wedi bodloni'r deilliannau dysgu.
O safbwynt ymarferol, gall fod yn ddefnyddiol i staff gynllunio meini prawf i ddechrau drwy greu grid gyda chydweithiwr/cydweithwyr. Gall cymryd rhan mewn trafodaeth helpu rhywun i fynegi syniadau anodd. Ar ôl drafftio eich set o feini prawf, mae'n ddefnyddiol gofyn y cwestiwn hollbwysig i chi'ch hun: a yw'r meini prawf yn galluogi myfyrwyr i nodi pa mor dda maen nhw wedi gwneud rhywbeth? Os byddwch yn ei chael hi'n anodd gwneud hyn, efallai y bydd angen rhywfaint o waith pellach ar y meini prawf.
Creu meini prawf asesu ar y cyd â myfyrwyr:
Sut y gallai hyn weithio:
- myfyrwyr yn darllen asesiadau sampl ac yn eu defnyddio i benderfynu ar feini prawf marcio
- pwyllgor o fyfyrwyr yn datblygu meini prawf marcio, a fyddai wedyn yn cael eu cymharu â fersiwn staff, ac fe gaiff fersiwn derfynol ei thrafod
- meini prawf marcio’r myfyrwyr yn cael eu defnyddio ar gyfer asesu gan gymheiriaid a hunanasesu
Darllenwch yma am brosiect ym Mhrifysgol Cumbria lle’r oedd staff a myfyrwyr yn cyd-greu meini prawf asesu, gan ddod i’r casgliad bod y fersiwn staff yn rhy gymhleth, gan ddefnyddio disgwrs academaidd, a fersiwn y myfyrwyr yn rhy syml, a bod angen gwneud y meini prawf yn hygyrch i fyfyrwyr - gan ystyried y cwestiwn, 'Ar gyfer pwy mae'r [meini prawf] hyn wedi'u creu?'
Defnyddio meini prawf ar gyfer marcio a safoni
Mae cael meini prawf clir da yn elfen bwysig o'r cymorth i farcio. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig ystyried sut y caiff y rhain eu defnyddio; mae hyn yn allweddol i farcio a chymedroli teg a chyson. Cyflawnir hyn drwy:
Cyn marcio
- Sicrhau bod pob marciwr yn rhannu dealltwriaeth o safonau academaidd, trwy gynnal ymarferion cymedroli cymdeithasol a/neu drwy brofi'r meini prawf yn erbyn sampl gychwynnol;
- Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod lle gellir cyrchu’r meini prawf, a’u hatgoffa o rôl barn academaidd wrth farcio.
Yn ystod y marcio cychwynnol
- Adolygu'r marciau yr ydych yn bwriadu eu dyfarnu i'r ychydig bapurau cyntaf a farciwyd er mwyn sicrhau bod eich barn yn gyson â'r meini prawf;
- Pan fyddwch hanner ffordd drwy'r marcio, drwy ddychwelyd at sampl fach ac adolygu'r rhain, sicrhau bod y marcio'n parhau i fod yn gyson â'r meini prawf ac nad yw barnau wedi newid yn ystod y broses farcio;
- (Wrth farcio fel tîm) adolygu'r canlyniadau a gafwyd ar unrhyw bapurau 'rheoli', naill ai i alluogi cymharu gwahanol farcwyr a/neu i 'ail-raddnodi' dealltwriaeth;
- Datblygu sylwadau adborth sy'n ymwneud â meini prawf penodol, er mwyn helpu myfyrwyr i ddefnyddio adborth yn well i lwyddo mewn meysydd penodol. (Cofiwch fodd bynnag, na chaiff adborth ei ddarparu ac na ddylid ei ddarparu fel sylwadau sy’n ceisio esbonio a/neu gyfiawnhau’r marc yn unig.)
Ar ôl marcio cychwynnol
- Cwblhau'r adrannau perthnasol yn y profforma safoni ac yna ei darparu, ynghyd â mynediad i'r sgriptiau sy'n cael eu safoni, i'r safonwr(wyr);
- Cael y safonwr/cymedrolwyr wedyn i lenwi’r ffurflen ac yna trefnu i gyfarfod a thrafod y canlyniadau o hyn gyda’r marciwr cyntaf, (mae llawer o astudiaethau ymchwil wedi dangos bod bodloni safonau a’u trafod yn agored ac yn onest yn allweddol i ddatblygu’r ddealltwriaeth gyffredin o safonau);
- Sicrhau bod y ffurflen wedi'i chwblhau ar gael i arholwyr allanol;
- Bod Byrddau Arholi yn adolygu, a lle bo’n berthnasol, yn diweddaru eu meini prawf yn flynyddol i sicrhau eu bod yn cyfleu disgwyliadau yn gywir, ac yn parhau i fod yn gyson â disgwyliadau’r sector;
[N.B. Mae llawer o'r ymchwil i gymedroli wedi amlygu'r angen i gynnal cyfarfodydd a thrafodaethau rhwng marcwyr mewn ffordd agored, barchus a thryloyw. Mae ymchwil wedi dangos ymhellach y gall 'marcio dall dwbl' arwain at amddiffyniad ar ran ail farcwyr; marcwyr yn osgoi marciau uchel iawn neu isel a allai awgrymu marcio nad yw'n cyd-fynd â'r meini prawf. Fodd bynnag, mae marciau isel iawn neu uchel iawn hefyd yn cael eu hosgoi gan ail farcwyr sydd eisoes yn gwybod y marc cyntaf; bod eu dyfarniad wedi cael ei ddylanwadu gan y dyfarniad gwreiddiol.]