Llythrennedd Asesu ac Adborth
Mae asesu ac adborth yn ganolog i ddysgu myfyrwyr, ond yn aml mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd dehongli disgwyliadau asesu a gall deall adborth a gweithredu arno fod yn heriol. Mae llythrennedd asesu ac adborth yn helpu myfyrwyr i ddeall beth yw llwyddiant, ymgysylltu’n ystyrlon â phrosesau asesu, a defnyddio adborth i wella perfformiad yn y dyfodol. Mae ymchwil yn awgrymu bod y galluoedd hyn yn datblygu’n raddol drwy weithgareddau dysgu pwrpasol, deialog a myfyrio, yn hytrach na thrwy sylwadau adborth yn unig.
Cynlluniwyd y dudalen hon i staff sy’n cynllunio asesiadau, yn rhoi adborth, yn cefnogi dysgu, neu sy’n arwain gweithgareddau gwella mewn modiwlau a rhaglenni. P’un a ydych chi’n newydd i addysgu neu’n arwain mentrau gwella asesu yn eich Ysgol, mae’r dudalen hon yn cynnig dulliau ymarferol y gellir eu haddasu i ystod eang o ddisgyblaethau a chyd-destunau.
Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2023)
A1, A2, A3, A4, K2, K3, K5, V1, V2, V3, V5.
Deall Llythrennedd Asesu ac Adborth
Deall Profiad y Myfyrwyr
Mae myfyrwyr yn adrodd yn rheolaidd am ansicrwydd ynghylch disgwyliadau asesu, safonau ac arferion adborth. Mae llawer yn disgrifio anawsterau wrth ddeall gofynion aseiniadau, cymhwyso meini prawf marcio a dehongli sylwadau adborth. Gall y profiadau hyn leihau hyder, ymgysylltiad ac yn y pen draw berfformiad.
Lleisiau Myfyrwyr: Profiad o Adborth
Beth mae Llythrennedd Asesu ac Adborth yn ei olygu?
Mae llythrennedd asesu ac adborth yn gysyniadau â chysylltiad agos.
Llythrennedd Asesu
Mae llythrennedd asesu yn helpu myfyrwyr i ddeall::
- gofynion asesu
- safonau a meini prawf
- prosesau marcio
- sut beth yw gwaith llwyddiannus
Price et al. (2012)
Llythrennedd Adborth
Mae llythrennedd adborth yn helpu myfyrwyr i::
- adnabod a gwerthfawrogi adborth
- rheoli ymatebion emosiynol
- gweithredu
- dod i farn werthusol
Carless & Boud (2018)
Mae ymchwil yn awgrymu bod llythrennedd asesu ac adborth yn gysylltiedig â gwell hunanreoleiddio, mwy o hyder a mwy o allu i gymhwyso adborth ar draws cyd-destunau dysgu. Mae myfyrwyr yn fwy tebygol o elwa o asesu ac adborth pan gânt gymorth i ddeall safonau, gwerthuso ansawdd a defnyddio adborth i wella gwaith yn y dyfodol. Mae datblygu llythrennedd asesu ac adborth yn helpu myfyrwyr i ddod yn gyfranogwyr gweithredol yn eu dysgu eu hunain (Carless a Boud, 2018).
BLWCH MYFYRIO
Ar hyn o bryd, sut mae myfyrwyr yn dysgu:
- beth yw llwyddiant?
- sut y caiff gwaith ei farnu?
- sut y gellir defnyddio adborth?
Datblygu Llythrennedd Asesu ac Adborth
Strategaethau Asesu ac Adborth
Mae llythrennedd asesu ac adborth yn datblygu’n raddol trwy weithgareddau dysgu pwrpasol, deialog a myfyrio. Mae’r diagram isod yn cyflwyno strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu rhoi ar waith a’u haddasu ar draws disgyblaethau a chyd-destunau addysgu. Mae’r gorgyffwrdd yn tynnu sylw at arferion a all helpu i ddatblygu’r ddau fath o lythrennedd.

Defnyddio’r strategaethau’n ymarferol
Does dim angen i chi ddefnyddio pob strategaeth ar unwaith. Dechreuwch drwy nodi un agwedd ar asesu neu adborth y mae myfyrwyr yn ei chael yn heriol, yna dewiswch un neu ddwy strategaeth berthnasol i’w hymgorffori mewn gweithgaredd addysgu, asesu neu adborth cyfredol.
Er mwyn archwilio’r strategaethau hyn yn fanylach, mae’r sesiwn DPP ategol ar Lythrennedd Asesu ac Adborth yn cynnig enghreifftiau ymarferol, trafodaeth strwythuredig a chyfleoedd i’w cymhwyso yn eich cyd-destun disgyblaethol chi. Gallwch ddefnyddio’r cynnwys anghydamserol neu gofrestru ar gyfer y sesiwn fyw yn yr adran Dysgu Pellach ar waelod y dudalen hon.
Cynllunio Adborth Y Gall Myfrwyr Ei Ddefnyddio
Adborth fel Proses Ddysgu
Mae adborth yn fwy na dim ond trosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr. Mae adborth effeithiol yn broses lle mae myfyrwyr yn gwneud synnwyr o wybodaeth ac yn ei defnyddio i wella dysgu yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl, dylai adborth gefnogi rhag-borth drwy helpu myfyrwyr i nodi sut i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd mewn un dasg i asesiadau a gweithgareddau dysgu yn y dyfodol.
Saith Nodwedd Adborth Effeithiol
Mae adborth effeithiol yn fwy na dim ond trosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr. Dylai helpu myfyrwyr i ddeall perfformiad, gwneud synnwyr o gyngor a chymhwyso dysgu i’w gwaith yn y dyfodol. Mae’r saith nodwedd isod yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer cynllunio fel bod myfyrwyr yn ymgysylltu ag adborth, yn ei ddeall a’i ddefnyddio.
Dylai adborth effeithiol fod yn:
✅ Canolbwyntio ar nodau
✅ Meddu ar ffocws
✅ Ymarferol
✅ Addas i fyfyrwyr
✅ Parhaus
✅ Cyson
✅ Amserol
Adborth sy’n Ystyried Llwyth Gwaith
Nid yw adborth gwell o reidrwydd yn golygu mwy o adborth.
Gall gwelliant ddod o wneud y canlynol:
- lleihau sylwadau ailadroddus
- gwella cysondeb
- gwella eglurder
- gweithredu cefnogol
- dewis dulliau adborth priodol
Dewis Fformatau Adborth Priodol
Gellir cyflwyno adborth mewn gwahanol ffyrdd. Bydd y fformat mwyaf priodol yn dibynnu ar bwrpas y dasg, anghenion y garfan, yr amser sydd ar gael a sut mae disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio’r adborth.
Mae adborth ysgrifenedig yn glir, yn hygyrch a gellir ailedrych arno'n rhwydd. Mae adborth ysgrifenedig yn dda ar gyfer nodi cryfderau, meysydd i'w gwella a chamau gweithredu penodol, yn enwedig pan gaiff ei gysylltu â meini prawf asesu.
Mae'n fwyaf addas ar gyfer:
- Sylwadau manwl sy'n cysylltu â'r meini prawf asesu
- Nodi cryfderau penodol a meysydd i'w gwella
- Cynnig y camau gweithredu ymarferol nesaf
- Adborth y gallai fod angen i fyfyrwyr edrych arno sawl gwaith
Sail tystiolaeth:
Mae myfyrwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu ag adborth pan fydd y sylwadau'n benodol, yn ddealladwy ac yn cysylltu'n glir â gwelliant yn y dyfodol yn hytrach na chyfiawnhau'r radd yn unig (Winstone a Carless, 2020).
Mae adborth sain yn ychwanegu tôn, naws ac anogaeth. Gall helpu i esbonio pwyntiau cymhleth yn fwy naturiol a gall deimlo'n fwy personol i fyfyrwyr.
Mae'n fwyaf addas ar gyfer:
- Esbonio pwyntiau neu faterion manwl neu gymhleth
- Cynnig anogaeth a sicrwydd
- Cynnig sylwebaeth gyfannol ar ddarn o waith
- Meithrin profiad o adborth sy'n fwy sgyrsiol
Sail tystiolaeth:
Mae ymchwil yn awgrymu bod myfyrwyr yn aml yn teimlo bod adborth clywedol yn fwy personol a chefnogol, ac yn cadw llawer o fanteision adborth ysgrifenedig (Ice et al., 2007).
Gall adborth fideo gyfuno esboniad llafar â dangosiad gweledol. Mae'n arbennig o ddefnyddiol wrth drafod arteffactau gweledol, gwaith dylunio, cyflwyniadau neu dasgau ymarferol.
Mae'n fwyaf addas ar gyfer:
- Aseiniadau gweledol neu greadigol
- Arddangos prosesau a thechnegau
- Adolygu penderfyniadau dylunio neu waith ymarferol
- Dangos enghreifftiau ochr yn ochr â sylwebaeth
Sail tystiolaeth:
Gall adborth fideo helpu myfyrwyr i ddeall cyd-destun yr adborth drwy gyfuno ciwiau gweledol ac esboniad, sy'n ei gwneud yn haws dangos cysyniadau a phrosesau (Mahoney, Macfarlane ac Ajjawi, 2019).
Mae adborth awtomataidd yn darparu ymatebion ar unwaith ar raddfa fawr ac mae'n arbennig o werthfawr mewn gweithgareddau dysgu ffurfiannol lle gall myfyrwyr gymhwyso'r adborth cyn cyflwyno'r gwaith yn derfynol.
Mae'n fwyaf addas ar gyfer:
- Gwiriadau gwybodaeth a chwisiau
- Gweithgareddau ymarfer
- Datblygu gwybodaeth weithdrefnol
- Cefnogi dysgu ar eich cyflymder eich hun
Sail tystiolaeth:
Gall derbyn adborth ar unwaith hyrwyddo dysgu hunanreoledig drwy helpu myfyrwyr i nodi unrhyw gamddealltwriaeth a chymryd camau adferol tra bod y dysgu yn dal i fynd rhagddo (Nicol a Macfarlane-Dick, 2006).
Mae adborth sy'n seiliedig ar y garfan yn ymdrin â chryfderau, camsyniadau a materion cyffredin sy'n codi dro ar ôl tro ar draws grŵp. Gall leihau ailadrodd a chynnal cysondeb ac effeithlonrwydd. Gall fod ar sawl ffurf; ysgrifenedig, sain, neu fideo.
Mae'n fwyaf addas ar gyfer:
- Carfannau mawr
- Amlygu camsyniadau cyffredin
- Rhannu enghreifftiau o arferion da
- Atgyfnerthu'r disgwyliadau asesu
Sail tystiolaeth:
Gall rhoi adborth i grwpiau annog cyd-fyfyrio, cefnogi cyd-ddealltwriaeth o safonau a helpu myfyrwyr i nodi dulliau cyffredin o wella (Nicol, 2010).
Ymgorffori arfer effeithiol
Mae datblygu llythrennedd asesu ac adborth yn fwyaf effeithiol pan gaiff ei gynnwys yn rhan o brofiad dysgu cydlynol yn hytrach na chasgliad o weithgareddau ynysig.
Egwyddorion Allweddol
- ✔Gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr ⇒ Trafod asesu ac adborth yn agored.
- ✔Canolbwyntio ar Asesu ar gyfer Dysgu ⇒ Defnyddio asesu fel cyfle i ddysgu, ac nid offeryn mesur yn unig. Rhoi cyfle i fyfyrwyr fethu.
- ✔Cynllunio adborth ar gyfer gweithredu ⇒ Sicrhau bod gan fyfyrwyr gyfleoedd i gymhwyso adborth o sylwadau rhag-borth.
- ✔Datblygu barn werthusol ⇒ Galluogi myfyrwyr i adnabod ansawdd a dod i farn wybodus.
- ✔Mabwysiadu dull ar lefel rhaglen ⇒ Adeiladu llythrennedd asesu ac adborth yn raddol ar draws modiwlau a blynyddoedd astudio.
Crynodeb Cyflym
- Mae llythrennedd asesu ac adborth yn datblygu trwy ymarfer.
- Mae angen cyfleoedd ar fyfyrwyr i ymgysylltu â safonau ac â meini prawf.
- Mae adborth yn fwyaf effeithiol pan fydd myfyrwyr yn gallu gweithredu arno.
- Gall newidiadau bach gael effaith sylweddol.
- Canolbwyntio ar ansawdd yr adborth yn hytrach na’r maint.
Cymorth Pellach
Mae'r Academi Dysgu ac Addysgu yn darparu cefnogaeth drwy:
- DPP Llythrennedd asesu ac adborth
- Ymgynghori ar gynllunio rhaglenni
- Cymorth i wella asesu
Gallwch hefyd archwilio'r adnodd anghydamserol Llythrennedd Asesu ac Adborth sydd ar gael trwy dudalen Dysgu Canolog DPP LTA .
Cyfeirnodau
Carless, D. and Boud, D. (2018) 'The development of student feedback literacy: enabling uptake of feedback', Assessment & Evaluation in Higher Education, 43(8), pp. 1315-1325. Available at: https://doi.org/10.1080/02602938.2018.1463354.
Ice, P., Curtis, R., Phillips, P. and Wells, J. (2007) 'Using asynchronous audio feedback to enhance teaching presence and students' sense of community', Journal of Asynchronous Learning Networks, 11(2), pp. 3-25.
Mahoney, P., Macfarlane, S. and Ajjawi, R. (2019) 'A qualitative synthesis of video feedback in higher education', Teaching in Higher Education, 24(2), pp. 157-179.
Nicol, D. (2010) 'From monologue to dialogue: Improving written feedback processes in mass higher education', Assessment & Evaluation in Higher Education, 35(5), pp. 501-517.
Nicol, D. and Macfarlane‐Dick, D. (2006) 'Formative assessment and self‐regulated learning: a model and seven principles of good feedback practice', Studies in Higher Education, 31(2), pp. 199-218.
Price, M., Rust, C., O'Donovan, B., Handley, K. and Bryant, R. (2012) Assessment literacy: the foundation for improving student learning. Wheatley, Oxford: Oxford Centre for Staff and Learning Development (OCSLD), Oxford Brookes University.
Tai, J., Ajjawi, R., Boud, D., Dawson, P. and Panadero, E. (2018) 'Developing evaluative judgement: enabling students to make decisions about the quality of work', Higher Education, 76(3), pp. 467-481.
Winstone, N. & Carless, D. (2020). Designing Effective Feedback Processes in Higher Education: A Learning-Focused Approach.
Awdurwyd gan: LTA, Michael Lang