Tudalen Dylunio Modiwlau a Sesiynau
Cyflwyniad
Mae’r dudalen hon yn eich cyflwyno i’r egwyddorion a’r gweithgareddau craidd wrth ddylunio modiwlau a sesiynau unigol. Mae’n dilyn ymlaen o’r tudalennau blaenorol am Gwmpasu a Dylunio Rhaglenni.
Mae’r adran gyntaf ar ddylunio modiwlau ar gyfer y rhai sy’n arwain modiwlau, neu’r rhai sydd am ddeall y broses o ddylunio cyfres o sesiynau unigol cysylltiedig; er enghraifft, ar gyfer Llyfrgelloedd, Dyfodol Myfyrwyr neu Gefnogi Myfyrwyr. Mae ail adran Dylunio Sesiynau ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu rhagor am broses strwythuredig o ddylunio sesiynau diddorol, cynhwysol ac effeithiol.
Mae’n cyd-fynd â gofyniad cyffredinol y Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) ar gyfer ‘arferion effeithiol a chynhwysol’, ac yn benodol â Gwerthoedd Proffesiynol Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal. Mae’n cyd-fynd hefyd â Maes Gweithgaredd A1: Dylunio a chynllunio gweithgareddau a/neu raglenni dysgu.
Mae’n ategu Strategaeth Prifysgol Caerdydd, ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd’ drwy gefnogi ‘profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir’.
1. Dylunio Modiwlau
Mae dylunio modiwl yn fraint ac yn gyfrifoldeb; mae hefyd yn gelfyddyd ac yn grefft. Mae’n cynnwys ystod o sgiliau a gwybodaeth am y broses ddysgu, ymwybyddiaeth o oblygiadau a heriau asesu ac adborth, yn ogystal â dylunio dulliau addysgu cynhwysol a chreadigol sy’n ymgysylltu, yn ysbrydoli ac yn helpu eich dysgwyr i ddatblygu a chyflawni.
Y cysyniad craidd sy’n sail i unrhyw broses ddylunio yw bod deilliannau dysgu’r modiwl a gynlluniwyd, y strategaethau asesu ac adborth, a’r dulliau addysgu a ddefnyddir mewn sesiynau unigol wedi’u halinio’n adeiladol: hynny yw, bod yn rhaid i addysgu, dulliau, gweithgareddau dysgu ac asesu i gyd gael eu halinio’n fwriadol â’r deilliannau dysgu a fwriadwyd (Biggs, Tang a Kennedy 2022). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod deilliannau dysgu’r modiwl cynnwys y modiwlau, a thasgau asesu yn cael eu datblygu ar yr un pryd, ac mae pob elfen yn atgyfnerthu ei gilydd.

Ffigur: Aliniad Adeiladol fel System Ryngweithiol Gyfannol. Addasiad o Biggs, Tang a Kennedy 2022: 97)
Cysylltu Deilliannau Dysgu ac Asesu: Aliniad Adeiladol
Mae deilliannau dysgu yn pennu beth sydd angen i ddysgwyr ei wneud, i ddangos beth maen nhw wedi’i ddysgu. Felly, rydym yn defnyddio ‘dylunio am yn ôl’ (Wiggins a McTighe, 2005): nodi’r nod terfynol cyn dylunio’r modiwl i helpu ein dysgwyr i gyflawni’r nod hwnnw.
Dylunio Deilliannau Dysgu Modiwlau
Mae deilliannau dysgu yn cynnwys tair elfen fel arfer:
- Berf, i ddiffinio'r cam penodol y bydd dysgwyr yn ei wneud i ddangos beth maen nhw wedi’i ddysgu.
- Pwnc, i nodi deunydd y pwnc yr ydych am i'r broses ddysgu ei gwmpasu.
- Cyd-destun y dysgu. Mae hyn yn adlewyrchu'r safon sydd ei hangen i basio'r modiwl fel y nodir yn y meini prawf asesu a/neu farcio.
Gadewch i ni weld hynny mewn termau ymarferol:
- Gweithred, y gellir ei gwirio'n empirig, drwy 'dystiolaeth eich llygaid a'ch clustiau';
- Pwnc: a roddir;
- Meini prawf perfformio sy'n gosod beth sy’n cael ei ddysgu yn ei gyd-destun (gall fod ymhlyg).
Enghreifftiau:
- Amlinellu strwythur, swyddogaethau a phrosesau ffisiolegol meinweoedd ac organau dynol lle bo'n berthnasol i ofal cleifion. (Modiwl Lefel 4)
- Adnabod effeithiau gorbryder ar ganfyddiad o boen ac ar allu'r unigolyn i ymdopi ag ymyriadau deintyddol. (Modiwl Lefel 5)
- Cyfathrebu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, naill ai'n unigol neu'n gydweithredol yn rhan o dîm. (Modiwl Lefel 6)
- Dangos dealltwriaeth systematig a beirniadol o sut y gellir esbonio canfyddiadau astudiaethau dysgu cysylltiol mewn anifeiliaid drwy ddamcaniaethau dysgu cysylltiol sy'n ddylanwadol ar hyn o bryd. (Modiwl Lefel 7)
Dylai bod modd asesu deilliannau dysgu modiwlau bob amser. Felly, mae angen i’w geiriad adlewyrchu’r sgiliau a’r ymddygiadau y dylai myfyrwyr allu eu dangos ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus: nid oes modd gwybod a yw dysgwyr yn ‘deall’ cysyniad, felly mae deilliannau dysgu yn disgrifio’r hyn y bydd dysgwyr yn ei wneud, i ddangos eu bod yn deall. Dylen nhw fod yn gynhwysol hefyd. Felly, ni ddylen nhw nodi unrhyw gamau na ellir eu haddasu’n rhesymol, a allai eithrio dysgwyr o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, fel dysgwyr anabl, ar wahân i’r rhai sy’n safon cymhwysedd ar gyfer y rhaglen. Er enghraifft, dim ond os yw hwn yn gymhwysedd craidd y byddech chi’n defnyddio ‘Cyflwyno gwybodaeth gymhleth ar lafar…’. Fel arall, efallai y byddech chi’n defnyddio ‘Cyfathrebu…’ a galluogi asesiad amgen fel addasiad rhesymol, fel darn ysgrifenedig. Cewch wybod rhagor yn ein gweithdy DPP, ‘Anabledd ac Addasiadau Rhesymol’.
Mae deilliannau dysgu’r modiwl yn adlewyrchu’r camau y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu cwblhau i basio’r modiwl: lefel y llwyddiant wrth gyflawni’r deilliant, a amlinellir yn y meini prawf marcio, sy’n pennu’r radd. Cewch hyd i ragor o fanylion am ddylunio asesiadau a meini prawf marcio ar ein tudalennau asesu ar gyfer dysgu.
Mae’r recordiad byr hygyrch hwn yn esbonio beth yw aliniad adeiladol:
Mae modiwl yn cynrychioli ‘Uned astudio hunangynhwysol sydd wedi’i strwythuro’n ffurfiol, ac mae’n cynnwys set gydlynol ac eglur o ddeilliannau dysgu a meini prawf asesu’. (QAA, 2022). Fodd bynnag, dim ond un elfen o raglen yw pob modiwl. Dylai pob modiwl gyfuno i wneud yn siŵr bod myfyrwyr ar draws rhaglen yn gallu cyflawni deilliannau dysgu’r rhaglen (cewch ragor o wybodaeth ar dudalen Datblygu’r Rhaglen). Trwy gyfres o dasgau asesu modiwlaidd, dylai myfyrwyr fod wedi dangos eu bod wedi cyflawni deilliannau’r rhaglen.
Cyfrifoldeb Arweinydd y Modiwl am wneud newidiadau
Efallai eich bod chi’n adeiladu modiwl newydd sbon, yn rhan obroses datblygu rhaglenni, ac yn gweithio gyda thîm ehangach y rhaglen. Fodd bynnag, efallai eich bod wedi ‘etifeddu’ modiwl sy’n bodoli eisoes. Os felly, byddwch yn ymwybodol na allwch chi wneud unrhyw newidiadau i nodweddion sylfaenol y modiwl, gan y bydd y rhain wedi bod yn destun prosesau Sicrwydd Ansawdd, a chan eu bod wedi’u cyhoeddi ar dudalen allanol y Chwiliwr Cyrsiau, maen nhw’n rhan o gontract cyfreithiol y cynnig i fyfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys deilliannau dysgu’r rhaglen a’r modiwl, yn ogystal â natur yr asesiadau.
Dim ond drwy ddilyn yr ‘Weithdrefn ar gyfer cymeradwyo rhaglenni, modiwlau, a darpariaethau eraill sy’n dwyn credydau’ y gellir newid cydrannau modiwl, sy’n ymddangos yn ‘Nisgrifiad y Modiwl’ ac sy’n cael eu cyhoeddi ar dudalen y Chwiliwr Cyrsiau ar y fewnrwyd. Mae hyn yn golygu, o leiaf, bod angen cymeradwyaeth y Bwrdd Astudiaethau priodol, neu bod angen i Ddeon Addysg y Coleg ystyried newidiadau i ddeilliannau dysgu neu asesiadau a ystyrir yn hanfodol i strwythur a chywirdeb y rhaglen, yn ogystal â bod yn destun proses sicrhau ansawdd ‘newidiadau mawr’.
Dylunio eich modiwl neu gyfres o sesiynau
Er mwyn gwneud yn siŵr bod dyluniad eich modiwl yn mynd i’r afael â’r holl gydrannau angenrheidiol, gall offeryn cynllunio cynhwysfawr, fel Cynllun Gwaith, helpu. Gall hyn eich cynorthwyo i wirio eich bod yn mynd i’r afael â’r themâu craidd: ei fod yn effeithiol a chynhwysol, ei fod yn mynd i’r afael ag Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a’i fod yn ymgorffori Sgiliau craidd ar gyfer Llwyddiant. Gall hefyd wneud yn siŵr ei fod wedi’i alinio’n adeiladol, yn ddiddorol ac yn effeithiol, ac yn dryloyw i’r holl fyfyrwyr a staff sy’n gysylltiedig.
Nid dogfen fiwrocrataidd yw cynllun modiwl, na Chynllun Gwaith, ond ‘offeryn sy’n eich helpu i feddwl. Gellir ei ddatblygu mewn cydweithrediad â staff perthnasol, fel Arweinydd y Rhaglen, staff addysgu a darlithwyr a myfyrwyr gwadd. Mae’n sicrhau cysondeb mewn arferion addysgu, a gall fersiwn symlach gynorthwyo tryloywder a helpu myfyrwyr i ddysgu. Gall fod yn ddewis wrth gefn hefyd rhag ofn y bydd arweinydd y modiwl yn absennol neu’n newid, ac fel offeryn adolygu a myfyrio ar ddiwedd y modiwl. Gall hefyd lywio’r gwaith cyffredinol o gynllunio rhaglenni drwy wneud manylion yn dryloyw i Arweinwyr Rhaglenni ac Arweinwyr Modiwlau eraill ar y rhaglen.
I gael gwybod rhagor am y broses o ddylunio modiwlau, ac i ddatblygu Cynllun Gwaith ar gyfer eich modiwl neu gyfres o ddigwyddiadau dysgu, cofrestrwch ar Dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ein gweithdy anghydamserol, neu fyw: ‘Dylunio eich modiwl ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol a chynhwysol’.
Cydrannau Cynllun Gwaith
Mae llawer o dempledi Cynllun Gwaith ar gael, a gallech addasu'r templed canlynol i gyd-fynd â'ch dibenion, ond mae'r adrannau yn y templed yn eich galluogi i ystyried cydrannau allweddol a llif y modiwl yn drylwyr, yn ogystal â sbarduno’r gwaith o ddylunio sesiynau unigol (gweler Adran 2, isod). Felly, gallai’r amlinelliad isod fod o ddefnydd ichi, fel man cychwyn. Gallwch lawrlwytho Cynllun Gwaith gwag yma, neu ddarllen Cynllun Gwaith enghreifftiol drwy ddefnyddio'r templed yma.
| Teitl a chôd y modiwl:
Lefel: Enw a chôd: |
Hyd: | Y rhaglenni sy'n cymryd y modiwl: |
| Nod: | Deilliannau Dysgu’r Modiwl: Ar ddiwedd y modiwl, bydd y dysgwyr yn gallu:
· Cysylltiadau â Deilliannau Dysgu'r Rhaglen: Yn bodloni Deilliannau Dysgu’r Rhaglen: · |
Manylion y Garfan: |
| Nodiadau ar gyfer arferion cynhwysol ac amrywiaeth:
|
Asesiad(au):
Ffurfiannol: Crynodol 1: Crynodol 2:
|
| Wythnos | Ffocws/Teitl y Sesiwn | Deilliannau Dysgu’r Sesiwn
|
Dull addysgu a Chynnwys y sesiwn
|
Gweithgareddau dysgwyr | Asesiad: Tasgau ffurfiannol / crynodol cysylltiedig
|
Gwerthuso |
| 1 | Cyflwyniad i'r cynnwys a'r modiwl | · | · |
|
|
|
| 2 | Cynnwys 1
|
· | · | |||
| 3 | Cynnwys 2
|
· | · | |||
| 4 | Cynnwys 3
|
· | · | Cyflwyniad ffurfiannol
|
Gwerthusiad ar ganol y modiwl | |
| Ac yn y blaen… | · | · |
2. Dylunio Sesiynau
Mae’r broses o ddylunio sesiynau yn dilyn llawer o’r un egwyddorion a phrosesau â dylunio modiwlau, uchod. Y cysyniad craidd, unwaith eto, yw aliniad adeiladol (Biggs, Tang a Kennedy 2022): bod deilliannau dysgu’r sesiwn, y strategaethau asesu ac adborth, a’r dulliau addysgu wedi’u cynllunio a’u halinio’n bwrpasol i gefnogi dysgwyr.
Os yw’r sesiwn yn rhan o gyfres o sesiynau, dylai’r rhain hefyd roi sylw i’r strwythur cyffredinol a chynllunio’r modiwlau. Dylai pob sesiwn ddefnyddio egwyddorion cynhwysiant, ymgorffori Cynaliadwyedd a Sgiliau ar gyfer Llwyddiant, a bod yn dryloyw i ddysgwyr. Dylai cynllunio hefyd wneud yn siŵr eich bod yn ystyried hunaniaethau ac anghenion penodol eich dysgwyr, yn ogystal â chynllunio ar gyfer amrywiaeth a rhagolygon fel gweithgareddau ‘ymestyn a herio’ ar gyfer dysgwyr uwch.
Dylai pob sesiwn gynnwys: cyflwyniad neu fachyn, gyda chysylltiadau â gwybodaeth flaenorol neu bresennol, a chrynodeb o’r sesiwn a’r deilliannau dysgu, i ymgysylltu â dysgwyr; prif adran sy’n ymgorffori ystod o weithgareddau dysgwyr i’w galluogi i ymgysylltu, cymhwyso ac adeiladu eu dysgu eu hunain, a sesiwn lawn neu fath arall o gasgliad i grynhoi’r sesiwn, eglurhad o’r cysylltiadau â sesiynau yn y dyfodol, a/neu weithgaredd i wirio a yw dysgwyr wedi bodloni’r deilliannau dysgu. Mae amseru’n hanfodol, ac yn aml yn cael ei ddysgu trwy brofiad: gall methu â chwblhau gweithgareddau a gynlluniwyd arwain at fylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau, a pheri rhwystredigaeth i fyfyrwyr. Mae ‘rhannu’r’ dysgu i ryw raddau drwy amseru’n ofalus yn osgoi gorlwytho gwybyddol ac mae’n helpu myfyrwyr i ddysgu hefyd.
Dylunio eich Sesiwn
Dechreuwch arni drwy bennu eich deilliannau dysgu a’r asesiad ffurfiannol o gyflawni’r deilliannau dysgu. Mewn sawl ffordd, dyma’r rhan fwyaf creadigol o’r broses: ‘beth ydw i am iddyn nhw ei wneud i ddangos eu bod nhw wedi dysgu’r hyn rydw i’n ei fwriadu?’. Mae’r math hwn o asesu ffurfiannol yn anffurfiol, ac ar raddfa fach: er enghraifft: ‘Bydd dysgwyr yn nodi tair her mewn perthynas â chynllunio gwersi, ac yn rhoi adborth ar lafar, fel grŵp’.
Nesaf, nodwch y dulliau addysgu y byddwch yn eu defnyddio i alluogi dysgwyr i gyflawni’r deilliant hwn. Fel mae’r blwch uchod yn ei ddangos, dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gadw at egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, i wneud yn siŵr nad yw un grŵp o ddysgwyr dan anfantais yn gyson o gymharu ag un arall. Gallech ddefnyddio dull ABC ar gyfer dylunio sesiynau, neu ddewis dulliau sydd fwyaf addas i’r pwnc, y dasg neu’r garfan. Cewch ragor o wybodaeth am yr ystod o ddulliau dysgu gweithredol arloesol sy’n seiliedig ar ymchwil ar y dudalen Dulliau Addysgu.
O ran Cynllun Gwaith modiwl (uchod), gall Cynllun Sesiwn fod o gymorth. Gall eich cynorthwyo i wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r afael â themâu craidd cynhwysiant, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd. Bydd hefyd yn eich helpu i wneud yn siŵr bod y sesiwn wedi’i halinio mewn modd adeiladol, diddorol ac effeithiol, a’i bod yn dryloyw i’r holl fyfyrwyr a staff sy’n cymryd rhan. Felly, mae’n ‘adnodd sy’n eich helpu i feddwl’: yn cynnig awgrymiadau wrth ichi baratoi, neu’n arweiniad i’w drosglwyddo fel cynllun wrth gefn rhag ofn bod absenoldeb.
Gellir ei rannu hefyd ag arweinydd y modiwl neu eraill sy’n ymwneud â phrosesau cynllunio a dylunio ehangach. Ar ben hynny, gall gynorthwyo wrth gynllunio ar gyfer asesu ffurfiannol o fewn y sesiwn, neu gyfrannu at baratoi ar gyfer asesiad crynodol. Gall fersiwn symlach a rennir ar-lein neu a drafodir ar ddechrau’r sesiwn helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau â’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu’n flaenorol, rhagweld gweithgareddau’r sesiwn, a deall y cysylltiad rhwng y sesiwn unigol a gofynion cyffredinol y modiwl.
I gael gwybod rhagor am y broses o ddylunio cynllun sesiwn ar gyfer eich modiwl neu gyfres o ddigwyddiadau dysgu, cofrestrwch ar Dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ein gweithdy anghydamserol, neu fyw: ‘Dylunio at ddibenion Dysgu Difyr a Gweithredol’
Cydrannau Cynllun Sesiwn
Mae llawer o dempledi cynllun sesiwn ar gael, a gallech addasu’r templed canlynol i gyd-fynd â’ch dibenion, ond mae’r adrannau yn y templed isod yn eich galluogi i ystyried cydrannau allweddol a llif y modiwl yn drylwyr. Gallwch ddarllen cynllun sesiwn enghreifftiol drwy ddefnyddio’r templed yma.
| Teitl: | Hyd:
|
Modiwl/Cyfres a Charfan:
|
| Nod:
|
Deilliannau Dysgu: Erbyn diwedd y gweithdy, bydd dysgwyr yn gallu:
|
|
| Nodiadau ar gyfer arferion cynhwysol ac amrywiaeth:
|
Dolen i’r asesiad | Lleoliad: |
| Hyd/Amser | Strategaeth addysgu a’r cynnwys (Tasg) | Adnoddau | Gweithgaredd Dysgwr | Nodiadau Tiwtor | Asesiad |
|
|
Cyflwyniad: Bachyn, cynllun sesiwn a deilliannau dysgu | ||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
| Casgliad |
|
|
Yn y recordiad isod, mae Ada yn egluro dyluniad sesiwn drwy ddefnyddio cynllun sesiwn:
Ein hawgrymiadau ar gyfer cynllunio darlithoedd mawr.
Ble nesaf?
Gallwch ddyfnhau eich dealltwriaeth o gynllunio ar gyfer dysgu drwy fynd i’n dau weithdy DPP cysylltiedig. Mae’r rhain ar gael yn anghydamserol, neu os oes digon o bobl wedi cofrestru, fel sesiynau rhyngweithiol byw: Cofrestrwch ar dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ‘Dylunio eich modiwl ar gyfer dysgu ac addysgu cynhwysol effeithiol’ a/neu ‘Dylunio eich sesiwn ar gyfer dysgu difyr a gweithredol’.
Dolen i dudalennau pecynnau cymorth eraill
Mae’r dudalen hon yn cysylltu’n agos â’r canllawiau ar ein tudalen Dylunio Cynhwysol. Cewch lawer rhagor o fanylion am ddylunio asesiadau (ffurfiannol a chrynodol) ar ein tudalennau Asesu hefyd.
Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol:
Biggs, JB, Tang, CS, Kennedy, G. ac EBSCOhost. 2022. Teaching for quality learning at university. Pumed argraffiad / John Biggs, Catherine Tang, Gregor Kennedy. Maidenhead: Open University Press. Ar gael yn: https://search.ebscohost.com/login.aspx?direct=true&scope=site&db=nlebk&db=nlabk&AN=3417540
Wiggins, G., a McTighe, J. 2005 Understanding by Design. Alexandra, Virginia: ASCD