Skip to main content

Datblygu Meddyliau Cynhwysol

A decorative image of a human head in profile facing to the left, stylised with bright pink. Behind the head is an array of floating cogs in pink, blue and yellow.

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc.


Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol

Yn y dudalen Cynwysoldeb hon byddwch yn dysgu gweithio gyda myfyrwyr i fanteisio ar amrywiaeth y gymuned ddysgu, cwestiynu tarddiad gwybodaeth bynciol, ac archwilio'r arferion y gallwch eu defnyddio i ddatblygu cymuned gynhwysol, gan gynnwys cefnogi myfyrwyr i ddod yn asiantau gweithredol mewn cynwysoldeb.

Yna gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth trwy gyrchu'r tudalennau neu'r gweithdai cysylltiedig ar bynciau Addysg Gynhwysol penodol.

Ar ddiwedd y dudalen hon, mae map o gyfleoedd a phynciau DPP pellach, i'ch cynorthwyo.

Darllen Allweddol ar gyfer y dudalen hon: Parsons, L ac Ozaki, C.C. 2020. Teaching and Learning for Social Justice and Equity in Higher Education. Swizerland: Springer


Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

Rydym wedi datblygu fframwaith ar gyfer y brifysgol gyfan ar gyfer hwyluso a chefnogi ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg gynhwysol yn ein darpariaeth addysgol. Mae Addysg Gynhwysol yn cysylltu â lles ein myfyrwyr, a boddhad a phrofiad myfyrwyr, ac mae’n cyd-fynd â’r flaenoriaeth ‘creu cymuned ddysgu gynhwysol’. Gallwch ddarllen mwy ar y Fframwaith ar dudalen Cynwysoldeb a’r CU Addysg gynhwysol


Datblygu Meddylfryd Cynhwysol

Ffigur 1: Y Fframwaith Addysg Gynhwysol

Datblygu Meddylfryd Cynhwysol

Mae datblygu meddylfryd cynhwysol yn un o dri dimensiwn y fframwaith, sy’n edrych i wynebu heriau i berthyn a chyflawniad trwy “fynd i’r afael â phryderon ehangach ynghylch hwyluso cyfiawnder cymdeithasol a sicrhau tegwch” (Stentford a Koutsouris 2020), a chefnogi myfyrwyr i ddod yn asiantau gweithredol wrth ddatblygu cynhwysiant.

Ein meysydd ffocws:

• Defnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi’r profiad dysgu
• Mynegi anghydraddoldebau a braint gan gynnwys beirniadu dealltwriaeth o darddiad gwybodaeth bynciol
• Ysbrydoli myfyrwyr i ddod yn hyrwyddwyr cynwysoldeb, gan roi’r sgiliau iddynt feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol

Bydd yr adrannau canlynol yn archwilio pob maes ffocws, gan roi trosolwg o lenyddiaeth allweddol, myfyrdodau ac awgrymiadau gorau. Mae’r adran archwiliad dyfnach (isod) yn darparu astudiaethau achos ac adnoddau i gefnogi ymarfer. I roi cychwyn arni, dyma’r awgrymiadau gorau ar sut i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cynhwysol:

Awgrymiadau gorau ar gyfer cefnogi myfyrwyr i fod gynhwysol

1. Annog myfyrwyr i ddod â'u safbwyntiau a'u meddyliau eu hunain i'r gofod dysgu.

2. Darparu cyfleoedd rheolaidd i fyfyrwyr drafod pynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn man diogel, er mwyn meithrin diwylliant o barch at ei gilydd.

3. Ymgorffori sgiliau cynhwysol, megis gweithio mewn grwpiau amrywiol, beirniadu tarddiad gwybodaeth, a defnyddio strategaethau i helpu i ddatrys trafodaethau dadleuol.

Dechrau arni

Mae addysg uwch yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen, ac felly mae sefydliadau’n chwarae rhan allweddol wrth roi’r sgiliau sydd eu hangen i fyfyrwyr ddod yn hyrwyddwyr cynhwysiant ar gyfer eu dyfodol. Gall yr amgylchedd dysgu amrywiol ddarparu lle i drafod, myfyrio, a beirniadu cysyniadau, ideolegau a hanesion disgyblaethau ac addysgeg. Gall hefyd alluogi myfyrwyr i dynnu ar eu profiadau diwylliannol eu hunain, a meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol o’r byd o’u cwmpas. Pan fyddwn yn mynd ati i addysgu o safbwynt meddylfryd cynhwysol, gan werthfawrogi amrywiaeth ein myfyrwyr a myfyrio ar ein rhagdybiaethau a’n rhagfarn ein hunain, dechreuwn osod anghenion amrywiol ein myfyrwyr yng nghanol dysgu. Trwy ystyried a gwerthfawrogi cefndiroedd, hunaniaethau a phrofiad amlweddog myfyrwyr, rydym yn cyfoethogi’r amgylchedd dysgu, a thrwy hynny alluogi myfyrwyr i gyrraedd eu potensial ac archwilio a datblygu eu meddylfryd a’u sgiliau cynhwysol eu hunain ar gyfer y dyfodol (H errez, N.J., McBrien, E.B., Scott, C., 2023).

Myfyrio

Sut ydych chi'n bwriadu galluogi myfyrwyr i ddod â'u profiadau, eu cefndiroedd a'u safbwyntiau eu hunain i'w dysgu?

Pan fydd myfyrwyr yn gweithio ar y cyd, gan ddod â safbwyntiau, meddyliau a chredoau gwahanol, a chan deimlo’n ddiogel i fod yn fersiynau dilys o’u hunain mewn mannau dysgu, gallant ddod yn asiantau gweithredol yn eu datblygiad eu hunain, gan weithredu cynhwysiant a symud yn weithredol tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Mae’n bwysig cydnabod y bydd gan fyfyrwyr lefel au amrywiol o ddealltwriaeth o bynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Felly mae’r cyfle i drafod a myfyrio yn feirniadol ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y cwricwlwm yn agwedd bwysig ar brofiad y myfyrwyr. Felly, sut rydym yn sicrhau ein bod yn creu cyfleoedd yn ein hymarferysbrydoli myfyrwyr i fod yn hyrwyddwyr cynhwysoldeb, gan roi sgiliau iddynt feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol?

Awgrymiadau:

Er mwyn darparu'r cyfleoedd hyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cynhwysol, mae angen i ni edrych arnom ein hunain a'r hyn rydyn ni'n dod ag ef i'r dysgu:

1. Byddwch yn gyfforddus â'r anghyfforddus: bydd adegau pan fyddwch yn teimlo'n anghyfforddus neu'n ansicr. Mae'n bwysig cydnabod y teimladau hynny a’u harchwilio.

2. Myfyriwch ar yr hyn nad ydych yn ei wybod: ystyriwch yr hunaniaethau rydych chi'n eu rhannu gydag eraill a cheisiwch ddysgu mwy am y rhai nad oes gennych brofiad  ohonynt. Gwyliwch y fideo hwn i archwilio mwy

3. Cymerwch amser i ddysgu o safbwyntiau a phrofiadau eraill, i'ch helpu i ddeall y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu o bosib.  Myfyriwch ar yr hyn rydych chi'n ei wybod eisoes, yr hyn yr hoffech ddysgu mwy amdano, a sut byddwch yn mynd ati.

4. Byddwch yn agored i adborth: gall gwahodd adborth a’i ystyried gyda meddylfryd twf wneud gwahaniaeth mawr i'ch ymarfer a'ch myfyrwyr.

 


1. Defnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi’r profiad dysgu

Syniad canolog o athroniaeth Affricanaidd Ubuntu yw cydnabod cydgysylltiad bodau dynol, wrth gydnabod gwerth cynhenid pob unigolyn. Mae’n awgrymu bod gan bob unigolyn rywbeth i’w gynnig, ac ni ddylai un math o arbenigedd drechu dros y llall. Ffynhonnell wybodaeth, felly, yw’r gymuned, nid yr unigolyn.

Mae tynnu ar amrywiaeth ein myfyrwyr i gyfoethogi’r profiad dysgu yn ganolog i weithio tuag at gymdeithas gymdeithasol gyfiawn. Mae arferion addys gegol cynhwysol yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr fyfyrio a defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, gan alluogi pawb i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Gall hyn gynyddu cydweithio ac arloesi. Gall amrywiaeth ddiwylliannol gael manteision ymarferol mewn mannau dysgu os ydym yn myfyrio arni o safbwynt diwylliannol sensitif (Attila Dobos, 2024). Gall wella ansawdd y trafodaethau ac arwain at ddealltwriaeth ddyfnach rhwng myfyrwyr.

Mae datblygu cymhwysedd diwylliannol o fewn y cwricwlwm yn meithrin gwerthoedd parch, a gwerthfawrogi a deall gwahanol gefndiroedd diwylliannol, a thrwy hynny alluogi pawb i weithio’n effeithiol yn ein byd wrth iddo globaleiddio fwyfwy. Mae adroddiad Advance HE, Creu Strategaethau Digidol Gynhwysol (2023) , er enghraifft, yn tynnu sylw at bwysigrwydd dylunio amgylcheddau dysgu sydd nid yn unig yn meithrin twf academaidd, ond sy’n cefnogi twf diwylliannol a chymdeithasol pob dysgwr.

Astudiaeth Achos

Addydgegau Empathetig:

Defnyddio’r celfyddydau perfformio, dulliau ethnograffig a dylunio cyfranogol i ddatblygu ffyrdd cynhwysol o feddwl. Yn y prosiect hwn, gwahoddwyd myfyrwyr gan yr Ysgol Pensaernïaeth i archwilio'n uniongyrchol anghenion perfformwyr ag anableddau corfforol a/neu ddysgu trwy gymryd rhan mewn gemau ac arbrofion yn ymwneud â’r celfyddydau perfformio.  Buont yn gweithio ar friff byw, ymgysylltu â grŵp drama cynhwysol, a chynnig dyluniadau llwyfan. I ddarllen mwy am y prosiect, cliciwch ar y ddolen yma  neu ewch i'r adran archwiliad dwfn isod.

 

Mae’r cwricwlwm rhyngddiwylliannol (Advance HE, 2019) yn creu lle diogel i ddysgwyr gyd-fyw, lle caiff safbwyntiau gwahanol eu cydnabod a’u croesawu a lle dysgir ohonynt. Mae rhoi lle i fyfyrwyr drafod, cwestiynu a beirniadu mewn amgylchedd diogel a meithringar yn galluogi myfyrwyr, ni waeth am unrhyw rwystrau, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu llais yn cael ei glywed. eard.

Astudiaeth Achos

Yn y blogiad hwn, mae Maria Grimwood yn rhannu technegau y gellir eu defnyddio i herio problemau yn y cwricwlwm rhyngddiwylliannol.

Encouraging inclusive practice- a practical approach, Advance HE (advance-he.ac.uk)

Yma fe welwch ystyriaethau ymarferol wrth fyfyrio ar sut i dynnu ar amrywiaeth eich cymuned myfyrwyr:

Ydych chi'n defnyddio data i ddeall nodweddion amrywiol myfyrwyr ar eich modiwl neu'ch rhaglen? Mae data myfyrwyr yn werthfawr wrth roi darlun clir i chi o bwy yw eich myfyrwyr, a'r grwpiau amrywiol o fyfyrwyr rydych chi'n eu haddysgu

Ni allwch dynnu ar amrywiaeth eich myfyrwyr os nad ydych yn gwybod beth yw'r amrywiaeth honno. Treuliwch amser yn dod i adnabod eich gilydd. Gellid cyflawni hyn yn ystod tasgau cyn sesiwn, wrth ymsefydlu, neu yn ystod wythnosau cyntaf addysgu. Enghraifft braf yw gofyn i fyfyrwyr ddod â llun a/neu ddarn o gerddoriaeth sy'n gwneud iddyn nhw feddwl am adref. Gellid uwchlwytho hwn a gwneud collage yn yr wythnos gyntaf, yn dangos gwahanol ddiwylliannau, lleoedd a chefndiroedd.

Mae angen i fyfyrwyr ddathlu a pharchu eu cefndiroedd amrywiol eu hunain a rhai ei gilydd. Darparwch le o fewn sesiynau i fyfyrwyr ddysgu, gwerthfawrogi a myfyrio ar ddiwylliannau a chefndiroedd ei gilydd. Wrth i fyfyrwyr ddysgu am eu cefndiroedd a'u safbwyntiau amrywiol, cymerwch yr amser i dynnu sylw at yr hyn sy'n sarhaus a'r gwahaniaeth rhwng dathlu a chamfeddiannu diwylliannol.

Yn ystod y sesiynau, sicrhewch fod disgwyliadau ymddygiadol clir y cytunwyd arnynt gan bob myfyriwr ynghylch trafodaethau ac ymddygiadau amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n bwysig cael deialog agored ymysg myfyrwyr, ond mae yr un mor bwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn sensitif i ddiwylliant, credoau, caffael iaith a chefndiroedd ei gilydd. Cymerwch yr amser ar ddechrau modiwl neu raglen i gyd-lunio gyda myfyrwyr sut y byddwch yn gwerthfawrogi hunaniaethau croestoriadol eich gilydd ac yn delio â materion dadleuol. Yn yr adran archwiliad dyfnach isod, edrychwch ar yr awgrymiadau gorau ar gyfer delio â materion dadleuol.

Yn aml, dysgir y gwersi mwyaf gwerthfawr drwy brofiadau myfyriwr ei hun, felly mae darparu cyfleoedd i fyfyrwyr dynnu ar eu profiadau eu hunain yn y modiwl neu'r rhaglen yn annog cysylltiad â'r ddisgyblaeth a'r cwricwlwm. Caniatewch i fyfyrwyr ddarllen a chyflwyno deunyddiau sy'n ymwneud â'r wers sylfaenol. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr fynd at y pwnc o'u safbwynt ac mae'n dangos bod pwy ydyn nhw'n cael ei werthfawrogi mewn perthynas â'r ddisgyblaeth. Mae gwaith cymheiriaid a chyfleoedd i weithio mewn grwpiau amrywiol yn caniatáu i fyfyrwyr glywed safbwyntiau gwahanol ac yn helpu i'w paratoi ar gyfer y gweithlu byd-eang.

Cwestiynau Myfyrio

1. Pa ystyriaeth a roddir i hunaniaethau eich myfyrwyr wrth gynllunio eich modiwl neu'ch rhaglen?

2. Sut ydych chi'n darparu lle trwy gydol eich rhaglen neu'ch modiwl i fyfyrwyr fynd ati i archwilio, beirniadu a myfyrio ar eu profiadau, safbwyntiau a'u hunaniaethau croestoriadol eu hunain?

3. Sut mae myfyrwyr yn dysgu'n weithredol oddi wrth ei gilydd, gan werthfawrogi gwahanol gefndiroedd, profiadau a diwylliant?


2. Mynegi anghydraddoldebau a braint, gan gynnwys beirniadu dealltwriaeth o darddiad gwybodaeth bynciol

O fewn y sector, bu pwyslais cynyddol ar bwysigrwydd arallgyfeirio, dad-drefedigaethu a gweithredu cwricwlwm gwrth-hiliol a herio ein rhagfarnau diarwybod yn y ffordd rydym yn dylunio ac yn darparu addysgu.
Isod rydym yn trafod sut y gall y safbwyntiau a dulliau hyn ein helpu i fyfyrio ar ein harfer a’i wella. Fodd bynnag, mae’n werth nodi, er ein bod yn eu trafod ar wahân, bod tebygrwydd a gorgyffwrdd rhwng y dulliau hefyd.

Amrywio a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm a beirniadu dealltwriaeth o darddiad gwybodaeth bynciol

Ysgrifennwyd llawer o lenyddiaeth ar amrywio’r cwricwlwm a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm gyda llawer o safbwyntiau ar yr hyn y mae pob term yn ei olygu.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn cydnabod y gwahanol safbwyntiau hyn ac yn gwerthfawrogi’r safbwyntiau amrywiol. Mae’r adran ganlynol yn tynnu’n gyfannol ar y llenyddiaeth ar arallgyfeirio a dad-drefedigaethu addysgeg, gan werthfawrogi’r egwyddorion sydd wedi’u plethu sy’n cydnabod yr angen i arallgyfeirio, nodi, beirniadu a datgymalu tarddiadau presennol gwybodaeth o safbwynt ethnoganolog.

“Mae dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn cwestiynu effaith barhaus etifeddiaeth gwladychu ac imperialaeth ar gynhyrchu gwybodaeth. Mae dull dad-drefedigaethol yn ymwneud â dadadeiladu hierarchaethau presennol, o blaid defnyddio sawl system/dull gwybodaeth er mwyn integreiddio ystod o safbwyntiau, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymhelaethu ar y lleisiau a dangynrychiolir yn y cwricwlwm ar hyn o bryd” (UAL 2023: 3).

Nid yw disgyblaethau sy’n rhan o’r academi wedi bod yn imiwn i’r broses o wladychu. Bydd y ffordd yr ydym yn ennill dealltwriaeth o’r byd wedi’i seilio mewn bydolwg diwylliannol sydd naill ai wedi anwybyddu neu wedi bod yn wrthwynebus i systemau gwybodaeth sydd y tu allan i rai’r gwladychwyr. Defnyddiwyd ein methodolegau ymchwil ac addysgu, pob un yn offeryn cynhyrchu gwybodaeth, hefyd fel ffyrdd o ddosbarthu, trefnu a chynrychioli gwybodaeth.

Mae rhai wedi mynegi pryderon bod dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn ymwneud ag anwybyddu neu ddileu’r hyn a fu. Ond nid dileu gwybodaeth neu hanesion a ddatblygwyd yn y gorllewin neu genhedloedd trefedigaethol yw dad-drefedigaethu; yn hytrach, mae’n golygu lleoli’r hanesion a’r wybodaeth nad ydynt yn tarddu o’r gorllewin yng nghyd-destun imperialaeth, gwladychiaeth a phŵer, ac ystyried pam mae’r rhain wedi’u gwthio i’r cyrion a’u hanwybyddu (Arshad, 2021). Mae rhoi sylw i gynrychiolaeth a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn ffocws mawr mewn llawer o sefydliadau Addysg Uwch.

Mae arweiniad gwych gan University of Arts London a all gynorthwyo eich myfyrdodau ar y mater arwyddocaol hwn mewn addysg gynhwysol.

Mae SOAS wedi cynhyrchu pecyn cymorth defnyddiol. Gwyliwch y fideo isod gan SOAS, a darllenwch yr Astudiaeth Achos (Y Brifysgol Agored, 2018), neu darllenwch fwy am brosiect De Montford ar ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm

Astudiaeth Achos

'Rwy'n dysgu ar un cwrs sy'n cynnwys tua 80% o fenywod, ac un arall sy'n cynnwys 50% o fenywod o gefndir BME. Mae'r ddau yn anelu at sector sydd wedi cael ei ddominyddu yn y gorffennol gan ddynion gwyn. Fe wnes yn siŵr fy mod yn cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr yn fy nghyfeirnodau, ac yn gwahodd darlithwyr gwadd sy'n adlewyrchu ethnigrwydd a rhywedd y myfyrwyr yn well. Mae'n gofyn am ymchwil sy'n anelu yn weithredol ac yn benodol at fynd i'r afael â'r angen hwn am amrywiaeth. '

Astudiaeth Achos y Brifysgol Agored (2018)

 

Mae Arshad (2021) yn awgrymu nifer o gamau wrth fynd i’r afael â dad-drefedigaethu:

    • Datblygu dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn bwysig
    • Archwilio ein disgyblaeth bynciol ein hunain i nodi a oes canonau gwybodaeth amgen sydd wedi’u gwthio i’r cyrion neu eu hanwybyddu o ganlyniad i wladychiaeth
    • Sicrhau bod amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau yn cael eu cynrychioli a ffyrdd y gallech ailgysyniadu’r cwricwlwm i adlewyrchu safbwyntiau byd-eang a hanesyddol ehangach.
    • Ystyried amrywiaeth ein grwpiau myfyrwyr a sicrhau bod cynnwys dysgu yn symud y tu hwnt i fframweithiau gorllewinol i fyd-eang.
    • Mae amrywio’r rhestr ddarllen wedi bod yn un llwybr y mae llawer wedi’i ddewis fel ffordd gyflym o ddechrau’r daith o ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm. Mae gwerth isganfyddol mewn amrywio’r rhestr ddarllen, oherwydd ei bod yn ffordd o gynefino dysgwyr â phresenoldeb ystod o awduron, boed hynny’n awduron o grwpiau ethnig amrywiol, awduron sy’n uniaethu fel LHDTC, neu’r rhai â nodweddion eraill.

O amrywio i ddad-drefedigaethu: darparwch gyfleoedd i’r myfyrwyr drafod etifeddiaeth hanesyddol trefedigaethu ar gyfer y maes pwnc hwnnw. Er enghraifft, mewn seryddiaeth pan fyddwn yn trafod bywyd, bydysawd, planedau a sêr, gallwn agor trafodaethau ar sut y gallai safbwyntiau gwahanol ddeall y pynciau hyn. Sut gallai gwahanol gymunedau brodorol ddeall a siarad am sêr? A fyddai drwy iaith archwilio a choncwest o’r gofod neu o ran mordwyo a goroesi? (Arshad 2021)

Pwyntiau i Fyfyrio Arnynt

Adolygu eich ymarfer i fynegi a herio arferion a allai gadw anghydraddoldebau a braint

1. Sut byddwch chi'n dod o hyd i gynnwys neu'n ysgrifennu cynnwys (gan gynnwys astudiaethau achos) gan dynnu o ffynonellau sy'n adlewyrchu ystod eang o amrywiaeth yn y gymuned ddysgu, yn hytrach na dibynnu ar gynnwys blaenorol a allai gynrychioli ystod fwy cul?

2. Sut byddwch chi'n herio normau disgyblu ac yn gwneud y cymhwyster yn berthnasol i gorff amrywiol o fyfyrwyr?

3. Sut byddwch yn sicrhau bod yr amgylchedd dysgu ac addysgu yn groesawgar ac yn gynhwysol ac yn annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan?

4. Sut byddwch yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio eu profiadau a'u cefndiroedd amrywiol eu hunain i gyfrannu at y gweithgareddau dysgu ac asesu?

5. A fydd y staff a fydd yn ymwneud â dylunio modiwlau unigol, cynhyrchu a chyflwyno addysgu wedi cael hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod a chydraddoldeb?

(Y Brifysgol Agored, 2018)

 

 

Addysgeg wrth-hiliol

Tri syniad i’ch rhoi ar ben ffordd

1. Defnyddio cynnwys pwnc i agor trafodaethau am hiliaeth a gwrth-hiliaeth, gan alluogi myfyriwr i gwestiynu tarddiad gwybodaeth.

2. Ymgysylltu, ymchwilio a dysgu am anghydraddoldebau hiliol ar draws cymdeithas yn weithredol. Adnabod anghydraddoldebau yw'r cam cyntaf o ran cydnabod yr angen am newid.

3. Cymryd yr amser i fyfyrio arnoch chi'ch hun a'ch rhagfarnau a'ch rhagdybiaethau eich hun.

 

3 overlapping circles An anti-racist Wales in the middle where the 3 circles overlap. Top left circle: Lived experiences Top right circle: Rights- based Bottom central circle: Open and Transparent

figure1: Anti-racist Wales Action Plan: 2022 | GOV.WALES

Bu cydnabyddiaeth o hiliaeth sefydliadol a systematig o fewn cymdeithas ers marwolaeth George Lloyd Floyd yn 2020 a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a daniodd alwad i weithredu i gymdeithas gyfan fynd ati i fod yn wrth-hiliol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cymdeithas wrth-hiliol yng Nghymru erbyn 2030, gyda chamau allweddol i addysg uwch o sicrhau bod profiad pob myfyriwr yn gydradd, a bod gwahaniaethu hiliol a hiliaeth sefydliadol yn cael sylw a’i ddatgymalu. Yn 2020, lansiodd Advance HE yr ymgyrch Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldeb Hil Strwythurol mewn Addysg Uwch. Ei phwrpas oedd cefnogi sefydliadau addysg uwch y DU i ‘ddeall a mynd i’r afael ag … anghydraddoldeb hil strwythurol ym mhob agwedd ar addysg uwch’.

Mae Prifysgol Caerdydd (strategaeth ‘Ein dyfodol, gyda’n gilydd’, 2024) wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad sy’n wrth-hiliol yn weithredol erbyn 2030, gyda llawer o waith eisoes ar y gweill ar draws y sefydliad ac wrth ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru a’r sector.

Beth yw cwricwlwm gwrth-hiliol?

Lle mae dad-drefedigaethu ac amrywio’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar yr angen i fyfyrio yn feirniadol, amrywio, cwestiynu a dadadeiladu systemau gwybodaeth hierarchaidd presennol, mae addysgeg wrth-hiliol yn dechrau gyda chi’ch hun a phwysigrwydd myfyrio ar ein haddysgeg, ein hymddygiadau a’n credoau ein hunain.

Wrth ystyried beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dysgu ac addysgu, mae ymarfer gwrth-hiliol yn canolbwyntio ar archwilio ein harferion, ein haddysgeg, ein cwricwlwm a’n hymddygiadau ein hunain er mwyn cydnabod rhagfarnau a gweithredu newid yn weithredol. Mae’r broses o hunanfyfyrio yn allweddol i ymarfer gwrth-hiliol ac mae’n symud i ffwrdd o ymgorffori cynnwys hil yn unig mewn modiwlau a rhaglenni sydd â ffocws hil neu ethnigrwydd, tuag at ddadadeiladu mathau o addysgeg a ddefnyddir i addysgu ac ymchwilio, gan gwestiynu ein safle ein hunain o fewn yr amgylchedd dysgu (Kendi 2019). Pan fyddwn yn myfyrio ar ein rhagdybiaethau a’n rhagfarnau ein hunain ac yn cymryd rhan weithredol mewn addysgeg wrth-hiliaeth, rydym yn effeithio ar sut rydym yn dylunio, addysgu ac asesu ein myfyrwyr gyda’r nod o ddarparu cwricwlwm sy’n galluogi pob myfyriwr i ymgysylltu a datblygu yn eu taith gwrth-hiliaeth eu hunain.

Myfyrio

Ble ydych chi ar y daith i ddod yn wrth-hiliol?

• Sut ydw i'n bod yn hunanymwybodol?

• Beth yw fy rhagfarnau?

• O ble mae ein myfyrwyr yn dod, beth yw eu straeon, a sut alla i ddysgu eu straeon?

• A ydw i'n ymwybodol o’m grym ac i beidio â'i gam-drin?

• Ydw i'n bod yn gadarnhaol am fy myfyrwyr yn yr hyn rwy'n ei addysgu a sut rwy'n ei addysgu?

 

“The only way to undo racism is to consistently identify it and describe it – and then dismantle it.” – Dr. Ibram X. Kendi, How to Be an Antiracist (2019)
Gan ddefnyddio gwaith Kendi (2019), oherwydd bod hiliaeth yn sefydliadol a systematig, mae bod yn wrth-hiliol yn broses weithredol o adnabod a gwrthwynebu hiliaeth er mwyn newid yn weithredol y polisïau, yr arferion a’r ymddygiadau a’r credoau sy’n galluogi gweithredoedd hiliol i barhau. Cynhwysiant yw sylfaen ymarfer dysgu ac addysgu da ond, pan fyddwch yn edrych ar ddysgu drwy lens wrth-hiliol, rydych chi’n adeiladu ar arferion gorau ac yn archwilio’n feirniadol pwy, pam a sut yr ydym yn addysgu.

Mae addysgeg wrth-hiliaeth yn esblygu’n gyson, gydag adnoddau ar gael ar draws y sector sy’n rhoi arweiniad ar sut i ddatblygu ymarfer ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Mae Prosiect Cwricwlwm Gwrth-Hiliol gan Advance HE (2021) Anti-Racist Curriculum Project | Advance HE yn darparu cyfoeth o arweiniad ar wahanol agweddau ar gwricwlwm gwrth-hiliol. Os ydych yn dymuno archwilio mwy o becynnau cymorth a chanllawiau o bob rhan o’r sector, neidiwch i’r adran archwiliad dyfnach isod.

Wrth leoli eich disgyblaeth a’ch cwricwlwm gan ddefnyddio persbectif gwrth-hiliol, ystyriaeth allweddol yw’r angen i greu mannau diogel a dewr i staff a myfyrwyr ddod â’u hunain dilys iddynt a rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau. Bydd gan y ddau ddealltwriaeth amrywiol o addysgeg wrth-hiliaeth, ac mae’n bwysig cydnabod hyn a darparu cyfleoedd i holl aelodau’r gymuned ddysgu ddysgu a myfyrio. Isod fe welwch ystyriaethau wrth weithredu gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm.

Yn seiliedig ar waith Arao, B, a Clemens, K (2013):
• I ba raddau mae athrawon a myfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn a allai fod yn gyfystyr ag ymddygiad hiliol neu hileiddio mewn cyd-destun dysgu?
Gallai'r rhain gynnwys amlygiadau o amharch personol, megis torri ar draws myfyrwyr, chwerthin am eu pennau neu siarad drostynt; disgwyl i rywun weithredu fel 'llefarydd' ar gyfer grŵp neu farn benodol; stigmateiddio gwahanol lwybrau i addysg neu sgiliau ieithyddol a allai fod yn gysylltiedig ag ethnigrwydd; ffurfiau ddiarwybod o ragfarn o ran cydnabyddiaeth, disgwyliadau a rhyngweithio personol; yn ogystal â ffurfiau mwy amlwg o wahaniaethu a rhagfarn.

• A oes dealltwriaeth o sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain?

• A roddir lle ac amser mewn modiwlau, darlithoedd, seminarau ac oriau swyddfa i fyfyrwyr gydnabod ac wynebu hyn yn agored?

• A oes gan fyfyrwyr le i fynd i drafod y materion hyn?

  •  Rhagwelwch sut i fframio pynciau sy'n gysylltiedig â hil ac amrywiol fathau o anghydraddoldeb, gan y gallant fod o bwys emosiynol mewn gwahanol ffyrdd i fyfyrwyr ag ystod o brofiadau.
  •  Efallai y byddwch yn ychwanegu datganiad gwrth-hiliol i'ch maes llafur sy'n ddilys i'ch llais a thrafod ei oblygiadau ar gyfer eich cwrs gyda'ch myfyrwyr.
  •  Ystyriwch oedi i fyfyrio ac ystyried a fu adegau pan allech fod wedi bod yn fwy bwriadol neu'n benodol wrth-hiliol wrth arwain trafodaeth neu sesiwn ddosbarth. I adeiladu ar y myfyrio hwn, ceisiwch gasglu adborth gan eich myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall eu profiadau a'u safbwyntiau.
  • Ceisiwch ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr fyfyrio ar eu rhagfarnau eu hunain, er enghraifft drwy fyfyrio ysgrifenedig unigol neu drafodaeth grŵp bach. Efallai y bydd gan fyfyrwyr ystod o ymatebion emosiynol, a allai olygu cynllunio gofod iddynt brosesu'r emosiynau hynny.
  • Os ydych chi'n gyfforddus yn gwneud hynny, rhannwch eich taith eich hun gyda'ch myfyrwyr fel dysgwr sy'n gwneud camgymeriadau ond sy'n ymdrechu'n barhaus i wneud yn well. Fel eich myfyrwyr, efallai y bydd angen amser arnoch i brosesu'ch emosiynau yn seiliedig ar eich safleoldeb a'ch profiadau.

O Brosiect Cwricwlwm Gwrth-Hiliaeth Advance HE

Portffolio Pwysigrwydd Iaith ARC Mawrth 22.pdf

Mae Arbu-Arqoub ac Alserhan (2019) yn awgrymu'r meddyliau a chamau gweithredu canlynol i geisio goresgyn camliwio.

 

 

Rhagfarn Ddiarwybod a ‘Hygrededd Epistemig’

Gwyliwch y cyflwyniad byr hwn ar ragfarn ddiarwybod:

Yn aml, mae addysgwyr yn ceisio neu’n honni eu bod yn mynd ar drywydd niwtraliaeth a thegwch wrth addysgu. Ni waeth am fwriadau da, trwy fynd ar drywydd niwtraliaeth, gallai addysgwyr gyfrannu at anwybyddu dynameg pŵer bresennol a chynnal systemau anghyfartal. Mae asesiad addysgwr o bwy all ddysgu a phwy all gynhyrchu gwybodaeth dan ddylanwad ei ragdybiaethau am y myfyrwyr, yn seiliedig ar ei benderfyniad i ystyried neu eithrio agweddau ar eu hunaniaethau cymdeithasol.

Yn yr amgylchedd dysgu, hygrededd epistemig (neu hygrededd gwybodaeth) yw’r awdurdod a roddir i ddysgwr i dderbyn a chynhyrchu gwybodaeth. Mewn geiriau eraill, hygrededd epistemig yw’r awdurdod i fod yn ddysgwr yn ogystal ag aelod sy’n cyfrannu at y broses addysgu a dysgu (Parsons ac Ozaki, 2020).

Yn syml, mae addysgwyr yn rhoi neu’n gwrthod rhoi hygrededd epistemig i’w myfyrwyr. Maent yn gwneud hyn yn ymwybodol neu’n anymwybodol wrth iddynt fesur awdurdod gwybodaeth myfyrwyr (h.y., faint y maent/y gallant/y dylent ei ddysgu, faint y maent/y gallant/y dylent ei gyfrannu yn y dosbarth). Yn aml, pan fyddant yn brin o wybodaeth am unigolyn, fe all addysgwyr droi at farnu yn ôl ymddangosiad (er enghraifft, ymddangosiad sy’n awgrymu eu bod yn perthyn i grwpiau cysylltiedig), hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol o hynny. Mae addysgwyr yn aml yn gwneud y dyfarniadau hyn yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei weld, yn ei wybod, neu’n ei dybio am eu dysgwyr yn seiliedig ar ymddangosiad neu ryngweithio â nhw. Mae bod yn ymwybodol o hunaniaethau myfyrwyr a chredoau epistemig addysgwyr yn hanfodol i greu ystafelloedd dosbarth cynhwysol (Parsons ac Ozaki, 2020).

Globe

Gweithgaredd Myfyrio:

• I ba raddau y mae gennych gysyniad o'r 'myfyriwr nodweddiadol'?

• Allwch chi nodi meysydd lle gallech chi wneud rhagdybiaethau am ymddygiad myfyrwyr – er enghraifft, bod yn hwyr neu ddiffyg sylw?

• A oes gennych ddisgwyliadau gwahanol o fyfyrwyr yn ddiarwybod yn seiliedig ar ymddangosiad, neu iaith?

 


3: Ysbrydoli myfyrwyr i ddod yn hyrwyddwyr cynwysoldeb, gan roi’r sgiliau iddynt feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth greu a chynnal cymuned brifysgol barchus, amrywiol a chynhwysol, a thrwy hynny mae cymryd rhan mewn pynciau cynhwysiant, trafodaethau a materion byd-eang ehangach yn hanfodol mewn amgylchedd dysgu cynhwysol.
Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu mai anaml y bydd adrannau academaidd yn trafod cynhwysiant, oni bai ei fod yn ganolbwynt i’r ddisgyblaeth (Perez ac eraill, 2020). Heb hyfforddiant penodol neu gynefino mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a sgwrs barhaus ar oblygiadau hynny, gall myfyrwyr sydd â hunaniaethau lleiafrifol deimlo eu bod ar y cyrion ac yn symbolaidd, os nad wedi’u targedu’n amlwg, ar sail eu hunaniaethau.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ymgorffori arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Enghraifft yw’r modiwl ‘Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Myfyrwyr’, y mae gan bob aelod o staff academaidd fynediad iddo, ac amserlennir i bob myfyriwr newydd ei gwblhau yn ystod wythnosau cyntaf eu profiad prifysgol. Mae dwy fersiwn, ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Gallwch weld fideo rhagflas yma:

I gwblhau EDIAware, mewngofnodwch ar Dysgu Canolog ac, yn ‘Sefydliadau’, dewch o hyd i’r modiwl israddedig EDIAware-ORG-UG (cyfrwng Saesneg) neu EDIAware-ORG-UG-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg).
Fel arall, cyrchwch y modiwl ôl-raddedig a addysgir EDIAware-ORG-UG-PGT (cyfrwng Saesneg) neu EDIAware-ORG-UG-PGT-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg). Os oes angen mynediad arnoch, cysylltwch â’r tîm Addysg Ddigidol.

Mae’r modiwl cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhoi man cychwyn ar gyfer ymwybyddiaeth myfyriwr o egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fodd bynnag, mae angen i adrannau academaidd ddarparu cyfleoedd bwriadol yn gyson i unigolion ddysgu am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu disgyblaethau a’u meysydd os ydym am greu amgylcheddau dysgu cynhwysol a pharatoi myfyrwyr i gyfrannu at gymdeithas fyd-eang gymhleth a chyd-ddibynnol (Parsons ac eraill, 2020: 133).

Gweithgaredd Myfyrio

• A oes cyfleoedd ar gyfer trafodaethau uniongyrchol ar agweddau ar amrywiaeth a hunaniaeth?

• A oes cyfleoedd i greu parch a gwerthfawrogiad o werth gwahaniaeth?

 

Nid yw darparu datblygiad a hyfforddiant mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn golygu sicrhau bod ein prifysgol yn darparu amgylchedd cynhwysol i ddysgu ynddo yn unig; mae hefyd yn ymwneud â darparu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fyfyrwyr fod yn arweinwyr cynhwysol y dyfodol. Agwedd bwysig ar brofiad myfyrwyr yw’r enillion addysgol ehangach y mae myfyrwyr yn eu cyflawni o addysg uwch. Fel sector, rydym yn cael ein gyrru’n anecdotaidd gan ddata. Fodd bynnag, pan fyddwn yn canolbwyntio ar yr enillion addysgol y mae prifysgol yn eu darparu, nid yw hynny mor hawdd ei fesur. Cyfoeth y profiad ehangach a sgiliau cyfathrebu, gweithio gyda grwpiau amrywiol, trin sgyrsiau anodd, a chroesawu’r anghyfforddus sy’n arfogi myfyrwyr i ddod yn arweinwyr cynhwysol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y cwricwla, ein harferion, y deunyddiau a’r gweithgareddau a ddefnyddir i gefnogi dysgu, a’r diwylliannau ystafell ddosbarth sy’n cael eu meithrin gan ryngweithio myfyrwyr-staff (Advance HE 2018). Mae yna hefyd amrywiaeth o offer defnyddiol i’ch helpu i ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eich addysgu. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd ‘Mannau Dewr’ hwn gyda myfyrwyr.

Globe

Awgrymiadau Gorau ar gyfer rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cynhwysol:

• Darparwch gyfleoedd ar gyfer trafodaeth agored ac adborth dienw ar eich ymarfer addysgu, deunyddiau, a'r hyn yr hoffai myfyrwyr ei gynnwys mewn perthynas â chynhwysiant ('beth sy'n gweithio / ddim yn gweithio i chi')

• Gosodwch waith rhyngweithiol mewn timau amrywiol a chymysg (newidiwch a chymysgwch dimau mewn sesiynau – symudwch nhw!)

• Anogwch fyfyrwyr i weithredu fel partneriaid yn eu profiad dysgu (gosod disgwyliadau ar gyfer gwaith tîm)

• Rhowch gyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu cynnwys cwrs â'u profiadau eu hunain, gan annog rhannu safbwyntiau a dehongliadau amrywiol (dysgu dilys)

• Integreiddiwch themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb mewn deunyddiau a gweithgareddau dysgu (ymgorfforwch sgyrsiau am amrywiaeth a dad-drefedigaethu)

 

Fel y trafodwyd yn flaenorol, nid oes gennym ddyletswydd yn unig fel prifysgol i roi gwybodaeth am ein disgyblaeth, ond i arwain myfyrwyr a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt ar gyfer eu dyfodol, nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd fel dinasyddion byd newidiol wedi’i globaleiddio. Mae ein priodoleddau graddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi ffocws ar sgiliau allweddol sy’n cael eu cydnabod fel rhai na ellir eu gwahanu oddi wrth ryngweithio bob dydd, perthnasoedd, timau a sefydliadau, waeth beth fo’r sector neu’r yrfa. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hymgorffori fwyfwy yn y gweithle.

Priodoleddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd

I gael gwybod mwy am ein gwaith ar gyflogadwyedd, darllenwch ein tudalennau Cyflogadwyedd yn y Pecyn Cymorth.

Mae cysylltiadau clir rhwng priodoleddau graddedigion a’r gwerthoedd a’r sgiliau sy’n seiliedig ar gynhwysiant. Er enghraifft, gellir datblygu sgiliau craidd: bod yn gymwys yn ddiwylliannol er mwyn gweithio mewn grwpiau amrywiol a gallu ymgysylltu ac ymateb i bynciau anghyfforddus a dadleuol gyda meddylfryd agored a chynhwysol gyda gwerthoedd empathi a pharch.
Wrth feddwl am ddatblygu arweinwyr cynhwysol effeithiol, mae angen i ni ganolbwyntio ar yr ymddygiadau a’r nodweddion y mae angen iddynt eu harddangos. Felly, po fwyaf yr ydym yn cefnogi myfyrwyr i ymarfer yr ymddygiadau hyn ac yn eu hamlygu i sefyllfaoedd cadarnhaol yn ein hamgylchedd, y mwyaf y gallwn fireinio a meithrin ymddygiadau yr hoffem eu croesawu. Pan fyddwn yn ystyried ein cwricwlwm, mae angen i ni felly fyfyrio ar sut rydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ymarfer a gwella’r sgiliau hyn mewn amgylchedd sy’n ddiogel i bob myfyriwr.

Astudiaeth Achos

Rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol (ISLA)

Mae'r Ysgol Gofal Iechyd mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ddeintyddiaeth yn darparu cyfleoedd cwricwla ychwanegol i fyfyrwyr ddatblygu fel arweinwyr yn y dyfodol sy'n dangos egwyddorion cynhwysol arweinyddiaeth dosturiol yn benodol.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hadran archwiliad dyfnach.

 

Globe

Gweithgaredd Myfyrio

1. A yw myfyrwyr yn cael eu cefnogi i allu adnabod ac ymarfer y sgiliau mewn cyfathrebu a chydweithio cynhwysol mewn gweithgareddau a thasgau?

2. A yw myfyrwyr yn cael cymorth i ddeall amrywiaeth wrth weithio gyda'i gilydd?

 


Archwilio’n Ddyfnach

ADDYSGEGAU EMPATHETIG: Defnyddio’r celfyddydau perfformio, dulliau ethnograffig a dylunio cyfranogol i ddatblygu ffyrdd cynhwysol o feddwl.
Crynodeb o'r Prosiect
Roedd Addysgegau Empathetig yn brosiect gan Academi Addysgu a Dysgu Prifysgol Caerdydd yn y thema 'Datblygu Ffyrdd Cynhwysol o Feddwl', ac yn brosiect a ariannwyd gan y Gronfa Arloesedd Addysg.
Yn gyffredinol, eir ar drywydd hygyrchedd ym maes dylunio adeiladau am ei fod gyfystyr â chydymffurfio â rheoliadau adeiladu, ac felly hefyd y’i dehonglir, ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar anableddau corfforol. Mae anghenion defnyddwyr ag anableddau gweladwy ac anweledig yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae dylunio cynhwysol yn aml yn ôl-ystyriaeth yn y broses ddylunio, yn enwedig mewn gofodau celfyddydau perfformio.
Yn y prosiect hwn, gwahoddwyd y myfyrwyr i archwilio'n uniongyrchol anghenion perfformwyr ag anableddau corfforol a/neu ddysgu trwy gymryd rhan mewn gemau ac arbrofion yn ymwneud â chelfyddydau perfformio. Bu iddynt weithio ar friff byw, ymgysylltu â grŵp drama cynhwysol, a chynnig dyluniadau llwyfan ar gyfer sgript lle roedd mynediad a chynhwysiant yn offer creadigol ac yn ysgogi symudiadau ar y llwyfan.
Roedd y prosiect yn dadlau o blaid integreiddio strategaethau dysgu perfformio mewn addysg dylunio fel modd o gyflawni dealltwriaeth empathetig ymhlith rhanddeiliaid dylunio, ond hefyd fel cyfrwng addysgegol dros greu ffyrdd o feddwl cynhwysol mewn addysg dylunio a thu hwnt.

Roedd y prosiect yn ymhelaethu ar ymchwil blaenorol ac sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan y 2 ymgeisydd allweddol, ar bwnc creadigrwydd fel math o newidoldeb mewn dysgu dylunio (Ntzani 2020, Ntzani a Banteli 2023) ac roedd yn ymhelaethu ar arbrawf addysgegol Amalia Banteli yn uned Stiwdio Fertigol Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2020. : Mynediad a Chynhwysiant.

Canlyniadau ac effaith
Mae'r prosiect Addysgegau Empathetig, yn ogystal â’r Stiwdio Fertigol Mynediad a Chynhwysiant, wedi dangos bod creu cysylltiadau empathetig rhwng myfyrwyr ac aelodau o gymunedau anabl yn gwneud i fyfyrwyr fyfyrio'n feirniadol ar gynwysoldeb fel gwerth yn eu disgyblaeth. Bu i fyfyrwyr pensaernïaeth a gymerodd ran yn y prosiect ganfod bod eu hethos dylunio yn mynd y tu hwnt i’r cysyniad o bwrpas pensaernïol ac estheteg, tuag at greu gofod a ffurfiau o gyfathrebu sy'n cynnwys pawb. Fe wnaeth y cydweithrediad ar brosiect byw a’r cynllun cyfnewid adnoddau creadigol ganslo agweddau nawddoglyd tuag at ddylunio cyfranogol ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a chaniatáu i'r holl aelodau oedd yn gysylltiedig â’r prosiect gyfrannu'n hyderus at wahanol rannau ohono.
Fideo: Myfyrdodau myfyrwyr ar y prosiect Addysgeg Empathetig
Mae’n ddiddorol nodi bod y myfyrwyr wedi ehangu eu hystyriaethau ynghylch cynwysoldeb y tu hwnt i anableddau’r grŵp drama y buont yn gweithio ag ef, i gynnwys anableddau eraill nad oedd ganddynt brofiad ohonynt, yn ogystal ag ystyriaethau diwylliannol ac ieithyddol. Amlygwyd hyn trwy ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i’r testun a ddefnyddiwyd yn eu setiau llwyfan awgrymedig, ac ychwanegu Braille ar wrthrychau a grëwyd ganddynt yn rhan o'u dyluniad set lwyfan.
.
Nid trwy ddod â'r ddau grŵp at ei gilydd yn unig (y myfyrwyr a'r grŵp drama) y ffurfiwyd cysylltiadau empathetig, ond trwy brofiadau cyfnewid creadigol rhwng y ddau grŵp. Ymunodd y myfyrwyr â'r perfformwyr mewn ymarferion cynhesu ac ymarferion llawn, a chafodd y perfformwyr gymryd rhan mewn ymarferion dylunio a braslunio. Nod yr ymarferion 'rho dy hun yn fy esgidiau i' oedd meithrin dealltwriaeth pob unigolyn creadigol a hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth a rhannu heriau dechrau mentrau creadigol. Creodd yr arferion hyn gysylltiad empathetig, gan atgoffa pawb oedd yn cymryd rhan am natur ryfedd ac anghyfforddus cyfarfyddiadau creadigol.

Adeiladu Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Ymarferion braslunio lle bu myfyrwyr ac aelodau Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd, gwahanol hunaniaethau ysbrydion a mannau cysurus i weithwyr ffatrïoedd gael seibiant.

Meithrin Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Ymarferion braslunio lle bu myfyrwyr ac aelodau Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd, gwahanol hunaniaethau ysbrydion a mannau cysurus i weithwyr ffatrïoedd gael seibiant.

Meithrin Empathi trwy waith byrfyfyr theatrig: Ymarferion byrfyfyr gyda Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd.

Fideo: Meithrin Empathi trwy waith byrfyfyr theatrig gyda Hijinx Odyssey

 

Meithrin Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Myfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau cychwynnol ar ddyluniad y set i aelodau Hijinx Odyssey i gael eu hadborth.

Heriau

Rheoli Ymgysylltiad y Myfyrwyr ac Amseru gweithgareddau'r prosiect
Y brif her oedd yn ein hwynebu yn ystod y prosiect oedd ymgysylltiad y myfyrwyr ac amseru’r gweithgareddau gan ystyried eu llwyth gwaith academaidd. Nid oedd y prosiect yn rhan o'r cwricwlwm; roedd cyfraniad y myfyrwyr yn ddewisol ac nid oedd asesiad yn gysylltiedig â'r prosiect. O ganlyniad i hyn, roedd angen cynllunio amser gweithgareddau'r prosiect yn ofalus er mwyn osgoi cyfnodau prysur i'r myfyrwyr.
Pwysigrwydd Hyblygrwydd mewn Prosiectau Briff Byw gyda Phartneriaid Allanol
Roedd gweithio ar friff byw a chyda phartneriaid allanol yn wers werthfawr iawn i fyfyrwyr, ond roedd gofyn am hyblygrwydd wrth addasu gofynion y prosiect wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei bwysleisio fel rhan o’r broses ddysgu wrth weithio ar friff byw a gyda phartneriaid allanol, fel bod y myfyrwyr yn gwybod y gall hyn fod yn her. Serch hynny, bydd yn ychwanegu at y dysgu trwy’r prosiect.

Prif gasgliadau a'r camau nesaf

Er bod manteision uniongyrchol amlwg i bensaernïaeth fel cwrs creadigol/yn seiliedig ar ddylunio, ceir buddion trosglwyddadwy a mesuradwy i gyrsiau eraill ag elfennau tebyg o ymarfer. Wrth i’r prosiect ehangu i ymchwilio i berfformio a chyfryngau addysgeg creadigol fel ffyrdd o hybu dylunio empathetig a chynhwysol, gall yr allbynnau fod o fudd i gyrsiau ledled y brifysgol sy’n dymuno rhoi profiad dysgu mwy creadigol, arloesol a chynhwysol ar waith i fyfyrwyr.
O gymryd rhan gyda’i gilydd, ac o gyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a rhanddeiliaid anacademaidd mewn gweithgareddau creadigol, mae modd cynnig profiad dysgu boddhaus ac atyniadol iawn i bawb. Gall ymdreiddio i’r ffordd rydym yn rhannu ac yn dadlau gwerthoedd gyda’n myfyrwyr, a chreu newid sylweddol yn y ffordd y gallwn feithrin meddylfryd cynhwysol at ddibenion addysg ac ymarfer.
Mae’r prosiect Addysgeddau Empathetig eisoes wedi ein hysbrydoli i ailgynllunio ein rhaglenni. Mae myfyrwyr wedi cynnig y dylid cynnwys gwerthoedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn glir yn Amcanion Dysgu ein modiwlau newydd. Mae’n sbarduno sgwrs ar rwymedigaethau dinesig a chymdeithasol addysg uwch a phroffesiynau achrededig. Mae hefyd wedi rhoi bywyd i dîm ifanc o ymchwilwyr sy'n gweithio ar grantiau ymchwil a cheisiadau ariannu gyda’r nod o ledaenu gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y tu hwnt i ffiniau diogel addysg ddylunio a’r maes ymarfer cysylltiedig.

Ambell awgrym defnyddiol

1. Gweithio gyda gwerthoedd ac offer addysgegol clir
Un peth allweddol yw peidio â gweithio gydag amcanion dysgu mewn golwg, ond gyda gwerthoedd ac egwyddorion addysgeg pan fyddwch chi'n dewis neu'n llunio prosiect neu weithgaredd tebyg. Gall hyn eich helpu i weithio neu ddyfeisio prosiect sy'n cynnig mewnwelediadau a gwerth y tu hwnt i ffiniau eich disgyblaeth.
Ar yr un pryd, mae'n bwysig bod y gwerthoedd a'r egwyddorion hynny â ffocws penodol ac yn glir, yn hytrach na bod yn rhai cyffredinol ac eang. Mae'n anodd cael cydbwysedd, ond yn aml mae'r dewis o offer yn help i wneud pethau'n fanwl gywir. Er enghraifft, i ni, gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac addysgeg perfformio oedd yr egwyddorion i ddylunio’n effeithiol.
2. Cynllunio Astudiaethau Achos Cynhwysol i gael Aelodau Amrywiol ar y Prosiect
Mae angen i astudiaethau achos gynnwys staff a myfyrwyr sydd â dyheadau academaidd ac anghenion gyrfa amrywiol. Mae hyn yn gofyn i chi ddatblygu’r briff yn ofalus ac amserlennu'r prosiect i sicrhau bod holl aelodau'r prosiect yn deall ac yn gallu ymgysylltu â'r prosiect yn ôl eu gallu.
3. Ymgysylltu â Chymunedau Allanol i Wella Effaith y Prosiect ac Adeilad Empathi
Dylech ystyried y cymunedau allanol sy'n ymwneud â gwerthoedd y prosiect. Mae angen i chi ddiffinio a yw'r prosiect yn berthnasol i gynulleidfaoedd gwahanol, ac os nad ydyw, mae angen i chi ystyried pwy rydych chi'n dymuno i elwa o’r prosiect a sut bydd yn cael effaith gadarnhaol. Mae cynnwys cymunedau yr effeithir arnynt yn y prosiect yn cynyddu effaith y prosiect yn fawr, ac yn galluogi adeiladu cysylltiadau empathetig rhwng y cymunedau hyn a'r myfyrwyr.
4. Croesawu Dysgu Trwy Ganlyniadau Anfwriadol
Cofiwch fod prosiectau/gweithgareddau o'r fath yn gyfrwng dysgu i bawb, hyd yn oed pan nad yw'r canlyniadau a ragwelir yn rhai delfrydol. Roedd hyn yn sicr yn wir i ni pan welsom uchelgais ein myfyrwyr ym maes dylunio yn newid i greu lle ar gyfer moeseg a pholisi cyfranogiad.
5. Creu Amgylchedd Diogel ac Agored
Sicrhewch fod gofod ac amser eich prosiect/gweithgaredd yn un diogel i bawb dan sylw; i fynegi barn, i ymyrryd yn y broses a thrafod y targedau – yn enwedig wrth weithio gyda briff byw a phartneriaid allanol. Mae hyn yn gofyn am berthnasoedd dysgu sy’n seiliedig ar ddidwylledd a gonestrwydd. Pe tawn ni’n gwybod yn iawn ar beth rydym yn gweithio, fyddai dim rhaid i ni arbrofi arno.

Prif Ymchwilydd: Amalia Banteli, Darlithydd yn ARCHI
Cyd-arweinydd y prosiect: Dimitra Nzani, Uwch Ddarlithydd yn ARCHI
Cydweithiwr ar y prosiect: Ed Green, Uwch Ddarlithydd yn ARCHI

Prosiect ISLA – Rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol

Crynodeb o'r Prosiect

Beth oedd pwnc y prosiect?

Roedd gwerthuso effeithiolrwydd rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol (ISLA) yn brosiect a ariennir gan Arloesedd Addysg gan Academi Addysgu a Dysgu Prifysgol Caerdydd o fewn y thema 'Datblygu Meddyliau Cynhwysol'. Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ddeintyddiaeth wedi datblygu academi arweinyddiaeth ryngbroffesiynol ar gyfer myfyrwyr ar draws rhaglenni gofal iechyd a deintyddiaeth israddedig. Y nod yw darparu cyfleoedd allgyrsiol cynhwysol i fyfyrwyr ddatblygu fel arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol a bod yn hyderus wrth ddangos egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol. Datblygwyd y rhaglen mewn cydweithrediad â phartneriaid clinigol, myfyrwyr, cleifion a defnyddwyr cleifion, ac academyddion a chafodd ei harwain gan yr Athro Teena Clouston a Dr Alison H. James, Darllenydd mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd.
Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Gorffennaf 2024 ym mlwyddyn beilot y rhaglen. Ar ddechrau’r rhaglen ISLA, roedd saith myfyriwr wedi gwneud cais a chael eu derbyn ar y rhaglen a chwblhaodd pum myfyriwr. Gofynnwyd i fyfyrwyr gwblhau holiaduron adborth ar ddechrau, canol a diwedd y rhaglen, felly tra cafodd saith eu cwblhau i ddechrau, cwblhawyd yr holiaduron diwedd a chanol gan bum myfyriwr. Cyflwynwyd yr holl adborth yn ddienw a'i gasglu gan y cynorthwyydd gwerthuso cyflogedig, Anaxia Uthaya Kumar, a gyflogwyd trwy'r siop swyddi myfyrwyr.
Nod y prosiect gwerthuso oedd dal data er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn brofiad dysgu effeithiol i fyfyrwyr, gan alluogi a chefnogi eu datblygiad arweinyddiaeth gynhwysol. Darparwyd siaradwyr gwadd, Setiau Dysgu Gweithredu a hyfforddi unigol, yn ogystal â dulliau creadigol ar gyfer myfyrio a strategaethau dysgu, rhwng mis Hydref 2023 a mis Mehefin 2024. Trefnwyd hyfforddi gan y myfyriwr unigol a'i hyfforddwr, tra oedd sesiynau eraill yn cael eu cyflwyno ar y campws dros bedwar hanner diwrnod, gyda phrynhawn wedi’i neilltuo ar gyfer cyflwyniad terfynol prosiectau. Yr amcanion oedd casglu adborth gan fyfyrwyr ar wahanol bwyntiau o'r rhaglen, coladu ac adolygu'r data, ei ledaenu drwy gyflwyniad cynhadledd ac astudiaeth achos i'r brifysgol ac yn ehangach, a chymhwyso dysgu trwy adolygu cynnwys, cyflenwi a strwythur y rhaglen ar gyfer carfanau yn y dyfodol. Y canlyniadau a ddymunir a osodwyd ar ddechrau'r rhaglen oedd y byddai myfyrwyr yn datblygu ac yn dangos:

Mwy o ymwybyddiaeth o adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, hunanweithrediad a rhinweddau arweinyddiaeth unigol
Mwy o ymwybyddiaeth o nodau personol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth
Hunanymwybyddiaeth uwch a deallusrwydd emosiynol/cymdeithasol
Gwerthfawrogiad uwch o effeithiolrwydd gweithio rhyngbroffesiynol a chydweithredol
Mwy o hyder wrth gymhwyso dulliau arweinyddiaeth tosturiol a seiliedig ar werthoedd yn ymarferol

Yr edau sy'n rhedeg trwy gydol y canlyniadau a ddymunir yw datblygu sgiliau arwain cynhwysol a thosturiol a fydd yn arfogi myfyrwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol wrth weithio mewn cymunedau cleifion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol amrywiol.

Canlyniadau ac effaith

Beth oedd yr effaith?
Beth welsoch chi'n digwydd i ymgysylltiad, canlyniadau, cyrhaeddiad neu werthusiadau myfyrwyr? Beth weithiodd yn dda a beth oedd yn gweithio'n llai da?

Dechreuodd y rhaglen ym mis Hydref 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Gorffennaf 2024. Gan ddefnyddio model New World Kirkpatrick (2021), offeryn a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gwerthuso a dadansoddi canlyniadau rhaglenni addysgol, ystyriwyd pedair lefel werthuso: Adwaith, Dysgu, Ymddygiad, a Chanlyniadau.  Gan gymhwyso dull Bowen (2017), datblygwyd y rhaglen gan ddefnyddio'r 'dyluniad am yn ôl'.

Casglwyd adborth ar ddechrau, canol a diwedd y rhaglen. Cwblhaodd saith myfyriwr yr holiadur cyntaf ond pump yn unig a gwblhaodd yr holiadur canol a diwedd. Cyflwynwyd yr holl adborth yn ddienw, a dyluniwyd holiaduron i gasglu adborth mewn dau faes.

Yn gyntaf, gofynnwyd i fyfyrwyr roi sylwadau ar berthnasedd ac ymgysylltiad cynnwys a dulliau cyflwyno'r sesiynau a bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i adolygu'r rhaglen ar gyfer y garfan nesaf. Adolygwyd holl gynnwys sesiwn yn gadarnhaol, ond gwnaeth myfyrwyr sylwadau buddiol ar hyd a chyflwyniad rhai sesiynau, a bydd ymateb i hyn wrth ddylunio rhaglenni yn y dyfodol.

Yn ail, gofynnwyd i fyfyrwyr adborth ar eu hyder, eu dysgu a'u datblygiad mewn arweinyddiaeth drwy'r rhaglen.

O adborth a gafodd ei gasglu ar y pwynt canol, disgrifiodd pob myfyriwr drawsnewidiad yn eu safbwyntiau ar eu harweinyddiaeth bersonol trwy gydol y rhaglen, gan adrodd am dwf personol a chynnydd mewn hyder. Roedd hyn yn aml yn cael ei briodoli i bwyslais y rhaglen ar hunan-gred a sylweddoli bod arweinyddiaeth yn digwydd ar bob lefel o sefydliad, yn hytrach na safle hierarchaidd. Adroddodd myfyrwyr yn ymwneud ag arweinyddiaeth fel sgìl a chysyniad hygyrch, yn hytrach na rhywbeth pell, na ellir ei chyflawni neu a gedwir ar gyfer unigolion dethol.

Yn gyffredinol, adroddodd pob myfyriwr a gwblhaodd y rhaglen brofiad dysgu a datblygu cadarnhaol. Mae'r prosiect gwerthuso wedi darparu adborth gwerthfawr gan fyfyrwyr ar eu profiad, eu dysgu a'u heffaith wrth symud ymlaen fel myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol yn y dyfodol. Mae'r data hefyd wedi caniatáu inni ymateb i awgrymiadau myfyrwyr ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi darparu data gwerthfawr sy'n dangos profiadau dysgu myfyrwyr ar flwyddyn beilot y rhaglen ISLA ac mae'r data yn ei sefydlu fel profiad dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr.

Adborth gan fyfyrwyr:

“Mae'r rhaglen wedi gwneud y cysyniad o 'fod yn arweinydd' yn llawer mwy hawdd ei ddeall, gan bwysleisio'r agwedd ddynol. Trwy hyn, rwyf wedi cael mewnwelediad i amrywiol ymddygiadau arweinyddiaeth a'r heriau sy'n gynhenid mewn rolau arweinyddiaeth. O ganlyniad, rwyf bellach yn teimlo'n fwy sicr am fy nghyfraniadau posibl, mewn theori ac ymarfer.”

“Roedd cymryd rhan ym mhrosiect ISLA wedi atgyfnerthu'n sylweddol fy hyder mewn cysyniadu a meithrin syniadau effeithiol.”

“Mae’r prosiect ISLA wedi bod yn gyfle gwych i dreulio amser ar hunanddatblygiad, ystyried syniadau newydd gyda phobl o’r un anian, a chlywed siaradwyr ysbrydoledig o wahanol feysydd gofal iechyd! Rydw i wedi mwynhau gwneud cysylltiadau personol a phroffesiynol gyda myfyrwyr a staff o wahanol ddisgyblaethau y gwn y byddant yn darparu rhwydwaith cefnogi anhygoel wrth i ni ddechrau ein gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Heriau

Ar y cyfan, cyflawnwyd y prosiect yn llwyddiannus o fewn yr amserlen. Roedd meysydd cyfyngu yn cynnwys dau fyfyriwr a roddodd y gorau i’r prosiect, a oedd yn lleihau ein sampl i bum myfyriwr, ac ymddeoliad aelod o staff, gan leihau faint o amser cwblhau a lledaenu. Fodd bynnag, mae'r prosiect wedi'i gwblhau, cyflwynwyd crynodebau i'w lledaenu, ac mae cynlluniau i'w gyflwyno i'w gyhoeddi erbyn diwedd 2024

Prif gasgliadau a'r camau nesaf

Mae canfyddiadau'r prosiect yn hawdd eu trosglwyddo ar draws disgyblaethau gan fod y prosiect wedi'i gynllunio ar theori a thystiolaeth a methodolegau addysgol cydnabyddedig megis dysgu drwy brofiad a myfyrio. Mae’r cefndir damcaniaethol i ddatblygiad ISLA yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ar ddatblygu arweinyddiaeth, pwysigrwydd hyn o fewn y gweithlu gofal iechyd, a gofynion rheoleiddio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (James, 2021; James ac eraill, 2022; West ac eraill, 2022). Gan adeiladu ar ymchwil Clouston (2017) a James (2021), mae'n cydnabod profiadau myfyrwyr o arweinyddiaeth, a gall y rhesymu emosiynol sy'n deillio o hynny lunio sut mae unigolion yn gweld eu datblygiad arweinyddiaeth eu hunain ac yn canolbwyntio ar fyfyrio a chysyniadoli.  Mae Setiau Hyfforddi a Dysgu Gweithredu (Revens, 1980) yn cefnogi myfyrwyr ac yn mynd i'r afael â'r meysydd canlynol, y canfuwyd eu bod yn ddylanwadol (James, 2021):

Disgwyliadau a nodweddion diffiniol arweinyddiaeth

Gwerthoedd proffesiynol a heriau arwain mewn diwylliannau gofal iechyd

Hunanymwybyddiaeth, deallusrwydd emosiynol ac atgyrchedd

Dwyn cyd-destunau dysgu ynghyd – clinigol a damcaniaethol

Patrymau ymddygiad a chynrychioli arweinyddiaeth

Cyd-destunau diwylliannol a chymdeithasol sefydliadau

I wneud y profiad dysgu yn ystyrlon ac yn newydd, anogir myfyrio i ddealluso a chreu dysgu trwy gysyniadoli a dadansoddi amodau diwylliannol a chymdeithasol i feithrin dysgu ystyrlon (Clouston, 2018, 2017). Mae pwysigrwydd profiad a dysgu drwy brofiad yn arwyddocaol gan ei fod yn effeithio ar ganfyddiadau myfyrwyr o'u hunan fel arweinwyr gofal cleifion. Gall creu amser ar gyfer gwerthuso a myfyrio ar brofiad gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu dull a'u datblygiad personol ymhellach (Dewey, 1989; James ac eraill, 2022).

Mae datblygu'r Academi Arweinyddiaeth wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at brofiad myfyrwyr ac mae ymgymryd â'r gwerthusiad wedi caniatáu inni fwrw ymlaen ag adborth myfyrwyr i wella'r Academi ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol. Mae'r garfan 24/25 wedi dechrau ac mae newidiadau a awgrymwyd wedi cael eu gweithredu. Mae allbynnau yn cynnwys cyflwyniadau rhyngwladol o'r gwerthusiad, ac mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r rhaglen wedi cyflwyno prosiectau mewn cynhadledd. Bydd gwerthusiadau parhaus yn cael eu cwblhau er mwyn parhau i wella'r profiad hwn i fyfyrwyr yn y dyfodol.

 

 


Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol

Pecyn cymorth

Gallwch nawr ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol trwy gyrchu'r tudalennau cysylltiedig ar bynciau penodol, a amlinellir yn y map isod, sy'n ymwneud â'r Fframwaith Addysg Gynhwysol. Ar ôl cyrchu'r dudalen hon, rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r holl dudalennau addysg gynhwysol, ac yn dechrau creu cynllun gweithredu ar gyfer newid. Fodd bynnag, gallwch neidio i unrhyw bwnc defnyddiol, yn ôl yr angen.

Gweithdai

Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy fynychu sesiynau gweithdy sy'n ymwneud â phob pwnc. Gellir cymryd y gweithdai hyn mewn sesiwn fyw wyneb yn wyneb, os yw'n well gennych ddysgu rhyngweithiol cymdeithasol, neu gellir eu cwblhau'n anghymesur yn eich amser eich hun, os yw'n well gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithdai, a'r ddolen i archebu yma.

Darpariaeth Ysgol Bwrpasol
Rydym yn cynnig cefnogaeth i Ysgolion ar Addysg Gynhwysol, drwy'r gwasanaeth Datblygu Addysg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i fynd i'r afael â phryderon lleol penodol, i uwchsgilio timau cyfan, neu i gefnogi'r broses cymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni. Cysylltwch â Thîm Datblygu Addysg eich Ysgol am ragor o wybodaeth.

Map o Bynciau

Isod mae map o'r pecyn cymorth a phynciau'r gweithdy, i'ch cynorthwyo. Bydd y rhain yn cael eu datblygu a'u hychwanegu atynt mewn iteriadau o'r pecyn cymorth hwn yn y dyfodol (yn Saesneg y unig):


Rydych chi ar dudalen 5 o 7 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1.Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol y CU

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol

3.Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr

4.Grymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial

5.Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dys cynfyfyrwyrgu

6.Hygyrchedd Digidol

7. Anabledd a Dyslecsia

8. Myfyrwyr Rhyngwladd

Neu beth am thema arall?

Cyflogadwyedd

Cynaliadwyedd

Arshad, R. 2021. Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm: Sut ydw i'n dechrau arni? https://www.timeshighereducation.com/campus/decolonising-curriculum-how-do-i-get-started
Bamford, J. And Pollard, L. 2019. Cultural Journeys in Higher Education: Student Voices and Narratives. Bingley: Emerald Publishing.
CAST. 2021. Universal Design for Learning Guidelines. Ar gael yn: https://www.cast.org/impact/universal-design-for-learning-udl
Healey, M. Flint, A. Harrington, K. 2016. Students as Partners: Reflections on a Conceptual Model Teaching and learning inquiry, Cyf.4 (2), t.1-13
Y Brifysgol Agored. 2018. Equality, Diversity and Inclusion in the Curriculum. (Ar-lein) Ar gael yn: https://www.open.ac.uk/equality-diversity/sites/www.open.ac.uk.equality-diversity/files/files/EDI%20in%20the%20curriculum%20final%20-%20Julie%20Young-28Feb19.pdf
Parsons, L ac Ozaki, C.C. 2020. Teaching and Learning for Social Justice and Equity in Higher Education. Swizerland: Springer
Perez, J., Robbins, K., Harris, LW & Montgomery, C. (2020). Exploring Graduate Students’ Socialization to Equity, Diversity, and Inclusion. Journal of Diversity in Higher Education, 13 (2), 133-145
UAL 2023. Decolonising Pedagogy and the Curriculum. (Ar-lein) Ar gael yn: https://www.arts.ac.uk/__data/assets/pdf_file/0035/228986/AEM-Decolonising-pedagogy-and-the-curriculum-PDF-224KB.pdf (cyrchwyd 30/3/23)