Chwilio a darganfod

Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch dod o hyd i wybodaeth o ansawdd da ac yn cadw i fyny â chyhoeddiadau newydd. Mae rhai o’r adnoddau ar gael yn Gymraeg.

I ddefnyddio adnodd unigol yn eich deunyddiau addysgu (yn unol â thelerau’r drwydded) cysylltwch ef yn uniongyrchol drwy’r botwm Rhagolwg neu glicio ar fotwm lawrlwytho’r ffeil. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael sesiynau tiwtorial a rhai adnoddau eraill hefyd drwy’r adran Sgiliau Astudio ar y fewnrwyd.

Resource title and description Type
Defnyddio Gen AI i gefnogi eich chwiliad llenyddiaeth
Nod yr adnodd hwn yw eich helpu chi i ddeall manteision a chyfyngiadau defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i ddod o hyd i lenyddiaeth i gyfeirio ati yn eich gwaith academaidd. Mae'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar ofyn y cwestiynau cywir i adnoddau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, i helpu i ddatblygu chwiliadau o gronfeydd data, ac mae’n rhoi trosolwg o rai o'r adnoddau cyfredol.  
Bibliometreg 3 – Dod o hyd i ddata bibliometrig ac altmmetrig ar gyfer cyhoeddiadau
Bydd y tiwtorial hwn yn eich cyflwyno chi i rai o'r cronfeydd data sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer adfer data bibliometrig. Dyma'r drydedd fideo yn y gyfres Bibliometreg ac Altmetreg sy'n eich cyflwyno i ddata bibliometreg ac altmetreg ac yn egluro sut maen nhw'n cael eu defnyddio wrth werthuso ymchwil.
Tutorial
Bibliometreg 1 – Trosolwg o ddata bibliometreg ac altmetreg
Mae'r tiwtorial hon yn rhoi cyflwyniad i ddata bibliometrig. Mae'n amlinellu'r prif fathau o ddata y gallwch ddod o hyd iddynt ac yn dangos rhai defnyddiau allweddol ar gyfer y data. Mae'n cynnwys pam mae’r data'n bwysig a'r hyn y gallech ei ddefnyddio ar ei gyfer.
Gwneud cais am fenthyg eitemau drwy’r post
Yn dangos sut y gall dysgwyr o bell wneud cais i fenthyg eitemau drwy’r post gan ddefnyddio LibrarySearch. Os hoffech chi ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion allweddair drwy Google Scholar
Cyflwyniad fideo am sut i set up keyword alerts in Google Scholar. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion dyfynnu Scopus
Cyflwyniad fideo am sut i set up citation alerts on Scopus. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Video
Rhybuddion allweddair SCOPUS
Cyflwyniad fideo am sut i set up Rhybuddion allweddair SCOPUS. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion allweddair Web of Science
Cyflwyniad fideo am sut i set up Rhybuddion allweddair Web of Science Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio hidlyddion yn LibrarySearch
Cyflwyniad fideo ar sut i ddefnyddio hidlwyr yn LibrarySearch. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Mae fideos eraill ar y pwnc hwn i'w gweld ar restr chwarae LibrarySearch ar YouTube.
Ymchwilio i’ch pwnc drwy ddefnyddio LibrarySearch
Canllaw fideo am sut i ddefnyddio LibrarySearch i ymchwilio i'ch pwnc. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael  i'w lawrlwytho. Gallwch chi ddod o hyd i restr chwarae ar gyfer ein canllawiau LibrarySearch ar YouTube.
Defnyddio cronfeydd data: y camau sylfaenol
Cyflwyniad fideo ar sut i lywio gan ddefnyddio cronfeydd data. Mae’r fideo hefyd ar gael ar YouTube, fel y cyntaf mewn cyfres o dri. Y fideos eraill sydd ar gael yw - 'Defnyddio cronfeydd data: cyrchu testun llawn” a 'Defnyddio cronfeydd data: uwch'. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael. Os hoffech chi ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich gweithgareddau addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwyilrb@cardiff.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus
Cyflwyniad fideo ar sut i chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Gwerthuso’r dystiolaeth: dod o hyd i wybodaeth o safon uchel ar-lein
Mae’r tiwtorial Xerte hwn, ar gyfer disgyblion 6ed dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn cwmpasu: diffinio cwmpas eich pwnc ymchwil, technegau chwilio i fanteisio’n llawn ar Google ac offer chwilio, a gwefannau i gael gwybodaeth o ansawdd da sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
Mae'r fideo byr hwn yn awgrymu ystod o ffynonellau ar-lein o ansawdd da ac sydd ar gael am ddim ar gyfer dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae trawsgrifiad Cymraeg ar gael.
Video
Creu map meddwl
Sleid PowerPoint y gellir ei addasu sy’n cynnwys enghraifft o sut gallwch greu map meddwl er mwyn helpu i chwilio am wybodaeth am bwnc.
Image
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio LibrarySearch
Tiwtorial byr ar-lein â'r nod o gyflwyno technegau chwilio allweddol er mwyn ymchwilio i bwnc drwy LibrarySearch.
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio cronfeydd data cyfnodolion
Bydd y tiwtorial hwn yn eich tywys drwy'r broses o gynllunio chwiliad, datblygu strategaeth chwilio effeithiol a chwilio drwy gyfrwng cronfeydd data priodol.
Cadw eich ymchwil yn gyfredol
Mae ein tiwtorial am sut i gadw eich ymchwil yn gyfoes yn eich tywys drwy'r gweithdrefnau sylfaenol i wneud y gorau o ymwybyddiaeth gyfredol yn eich maes ymchwil. Mae'n dangos sut i sefydlu gwahanol fathau o rybuddion ac mae'n tynnu sylw at ystod o offer ac adnoddau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn effeithlon ac yn effeithiol.
Tutorial
Cyngor hanfodol ynghylch chwilio â Google
Bydd y fideo hwn yn dangos awgrymiadau syml i gael y gorau o Google. Mae'r fideo hefyd ar gael ar YouTube yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae trawsgrifiad ar gael. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Nodi’r prif syniadau i ymchwilio iddynt
Gweithgaredd i helpu nodi syniadau neu gysyniadau pwysig cyn dechrau ymchwilio.
Activity
Cylch chwilio am lenyddiaeth
Delwedd yn dangos y cylch chwilio am lenyddiaeth.
Image
Dod o hyd i Ffynonellau Priodol
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Cynllunio eich chwiliad am wybodaeth drwy ddiffinio geiriau allweddol perthnasol ar eich pwnc
  • Nodi’r adnoddau gwybodaeth allweddol ar gyfer eich pwnc drwy’r fewnrwyd i fyfyrwyr
  • Mynd ati i chwilio am lenyddiaeth ar eich pwnc gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau chwilio
  • Cyrchu testun llawn y dogfennau fel erthyglau o gyfnodolion ar-lein
  • Defnyddio cronfeydd data er mwyn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau ar bwnc
Dod o hyd i wybodaeth
Fideo llawn gwybodaeth ar y ffyrdd gorau i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich pwnc. Mae’r fideo ar gael hefyd ar YouTube yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae trawsgrifiad ar gael.
Sut i gael mynediad i gyfnodolion oddi ar y campws gan ddefnyddio Google Scholar
Dyma fideo fyr ar weld testun llawn erthyglau i ffwrdd o'r campws gan ddefnyddio Google Scholar.
Google Scholar – Awgrymiadau hanfodol
Bydd y fideo yma yn dangos y prif awgrymiadau i gael y gorau o Google Scholar. Mae Google Scholar yn gronfa ymchwil i ddarganfod erthyglau, llyfrau, trafodion cynhadledd a gweithiau eraill academaidd.
  • Awgrym 1 - Manylwch wrth chwilio
  • Awgrym 2 - Mynediad i’r testun llawn
  • Awgrym 3 - Crëwch hysbysiad e-bost
  • Awgrym 4 - Defnyddiwch y dolenni "Cited by..."
  • Awgrym 5 - Crëwch ddolenni sefydlu eich meddalwedd rheoli cyfeiriadau
Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Dod o hyd i ddeunydd darllen a argymhellir yn LibrarySearch
Fideo gloi, addysgiadol ar sut i ddod o hyd i eitemau ar eich rhestr ddarllen. Mae’r fideo ar gael hefyd ar YouTube yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho.