Mae ymgysylltu â sgyrsiau academaidd ehangach i ddatblygu gwybodaeth yn rhan allweddol o bwrpas prifysgolion. Gall staff academaidd annog dysgwyr i gymryd rhan yn y sgyrsiau hyn wrth iddynt ddysgu rhannu a chyfuno syniadau, trefnu eu meddyliau ac ysgrifennu’n gydlynol. Mae llyfrgellwyr pwnc yn cyfrannu drwy roi arweiniad ar pam a sut i gydnabod syniadau pobl eraill, drwy ddyfynnu a chyfeirio a bod yn ystyriol o eiddo deallusol a, lle y bo’n briodol, cynghori ar ble y gellir cyfleu eu syniadau orau.
4.1 Arferion
Rwyf yn… |
4.1.1… cynnwys syniadau pobl eraill gan eu cydnabod yn briodol |
4.1.2… rhannu beth rwy’n ei ddarganfod a’i gynhyrchu’n briodol, gan ystyried problemau eiddo deallusol |
4.1.3… cyhoeddi fy ngwaith gyda barn i wneud yr effaith fwyaf |
4.2 Sgiliau
Rwy’n gallu… | Gweithgarwch enghreifftiol |
4.2.1… cydnabod syniadau a geiriau pobl eraill drwy ddyfynnu yn fy nhestun a darparu cyfeirnod llawn, gan ddefnyddio arddull briodol | Darparwch luniau o dudalennau teitl llyfrau, a/neu luniau o erthygl mewn cyfnodolyn, a/neu URL fel y gall myfyrwyr edrych ar wefan benodol. Gofynnwch i fyfyrwyr ddewis yr elfennau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer cyfeirnodi ac ysgrifennwch hyn yn yr arddull gyfeirnodi gywir (gan ddefnyddio canllaw neu diwtorial i helpu). Darparwch ddyfyniadau dienw o draethodau blaenorol a rhestrau cyfeirnodau ac mewn parau/grwpiau gofynnwch i fyfyrwyr nodi camgymeriadau. Yna rhowch adborth i’r grŵp cyfan / trafodwch. Mae rhagor o enghreifftiau o weithgareddau ar gael yn y Ganolfan Adnoddau |
4.2.2… dewis llwybrau priodol i gyhoeddi fy ngwaith fel mynediad agored | |
4.2.3… penderfynu ar effaith cyfnodolion | Defnyddiwch ISI Journal Citation Reports er mwyn dod o hyd i’r cyfnodolion gorau yn eich maes |
4.2.4… dewis trwyddedau priodol ar gyfer fy ngwaith | Hawlfraint gêm gardiau (mae dec cardiau Cymraeg ar gael yma) |
4.3 Ymwybyddiaeth
Rwy’n ymwybodol o’r canlynol… | Gweithgarwch enghreifftiol |
4.3.1…y gellir rhannu gwahanol fathau o wybodaeth mewn ffyrdd gwahanol | Collating sources template (page 11) Keeping your research up to date tutorial |
4.3.2…yr hyn sy’n gyfystyr â llên-ladrad a phwysigrwydd ei osgoi | Darparwch enghraifft/enghreifftiau o destun gwreiddiol ac yna testun myfyriwr yn seiliedig ar hyn ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Myfyrwyr i edrych ar ddarnau o destun mewn parau/grwpiau o 3 a thrafod p’un a yw’r gwaith yn llên-ladrad ai peidio. Yna rhowch adborth i’r grŵp cyfan / trafodwch. Ai llên-ladrad yw hwn? cwis Gweithgaredd osgoi llên-ladrad |
4.3.3…problemau eiddo deallusol a diogelu data mewn perthynas â rhannu cynnwys fy hun a chynnwys pobl eraill | Hawlfraint gêm gardiau (mae dec cardiau Cymraeg ar gael yma) |
4.2.4…manteision a chyfyngiadau modeli cyhoeddi gwahanol ar gyfer lledaenu fy ngwaith er mwyn creu effaith a bodloni gofynion unrhyw gyllidwr |