Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol. Mae’r adnoddau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
I ddefnyddio adnodd unigol yn eich deunyddiau addysgu (yn unol â thelerau’r drwydded) cysylltwch ef yn uniongyrchol drwy’r botwm Rhagolwg neu glicio ar fotwm lawrlwytho’r ffeil. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael sesiynau tiwtorial a rhai adnoddau eraill hefyd drwy’r adran Sgiliau Astudio ar y fewnrwyd.
Dewis Ffynonellau Ansawdd
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Pyramid tystiolaeth (Ym maes gofal iechyd) Wrth chwilio am wybodaeth am gwestiwn iechyd penodol, bydd y pyramid tystiolaeth yn helpu i bennu pa ddarnau o dystiolaeth sydd o’r ansawdd gorau. Gellir lawrlwytho’r pyramid tystiolaeth mewn taflen esboniadol neu fel delwedd. Gellir cael gafael arno drwy Xerte gan ddilyn y ddolen View. | Image |
| Gwerthuso’r dystiolaeth: asesu ansawdd eich ffynonellau Mae’r tiwtorial Xerte hwn, sydd ar gyfer disgyblion chweched dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn canolbwyntio ar dechnegau ar gyfer asesu ansawdd ffynonellau o wybodaeth. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru. | Tutorial |
| Siart llif gwerthuso gwybodaeth Siart llif sy'n arwain gam wrth gam drwy broses o werthuso gwybodaeth o wefannau. | Image |
| Dewis ffynonellau o safon ar gyfer eich gwaith academaidd Cewch wybodaeth am sut i werthuso gwybodaeth, darllen yn feirniadol, a phenderfynu pa mor gredadwy yw'r wybodaeth y daethoch o hyd iddi, er mwyn dewis y ffynonellau mwyaf priodol a dibynadwy ar gyfer eich gwaith academaidd. | |
| Gwerthuso gwybodaeth Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
| Tutorial |
Darllen Beirniadol
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Ymchwilio a darllen yn feirniadol This interactive tutorial gives an overview of how to research and read critically when preparing to write an essay. It guides students through the process of identifying what to search for, how and where to search, and how to critically read and evaluate the quality of the information they find. This resource is part of the Essay survival guide series of tutorials written for undergraduate students. | Tutorial |
| Ysgrifennu Adolygiad llenyddiaeth Mae'r tiwtorial hwn wedi'i baratoi i gynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw adolygiad llenyddiaeth a sut i fynd ati i ysgrifennu un. Bydd y tiwtorial hwn yn:
| |
| Gwerthuso r dystiolaeth: darllen eich ffynonellau’n feirniadol Mae’r tiwtorial Xerte hwn, sydd ar gyfer disgyblion chweched dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn canolbwyntio ar ddarllen gwybodaeth yn feirniadol i bennu hygrededd a dilysrwydd dadleuon. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru. | |
| Darllen a meddwl yn feirniadol Canllaw i'ch helpu i gymhwyso strategaethau darllen a meddwl yn feirniadol i'ch gwaith academaidd. Drwy weithio drwy'r tiwtorial hwn, dylech allu:
|
gwerthusiad critigol
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Gwerthuso’n feirniadol am wrth-hiliaeth Mae'r tiwtorial hwn yn ei ddarparu:
| |
| Arfarnu Beirniadol – Nodi Cynllun Astudiaeth Er mwyn arfarnu ymchwil yn feirniadol, mae angen i fyfyrwyr allu nodi'r math o astudiaeth y maent yn ei gwerthuso. Gall y cwis hwn helpu i brofi dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o gynllun astudiaeth. Mae cynnwys y tiwtorial hwn i fyfyrwyr y gwyddorau meddygol a’r gwyddorau iechyd. | Quiz |
| Arfarnu Beirniadol – Nodi Rhagfarn Er mwyn arfarnu ymchwil yn feirniadol, mae angen i fyfyrwyr allu nodi'r math o astudiaeth y maent yn ei gwerthuso. Gall y cwis hwn helpu i brofi dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o gynllun astudiaeth. Mae cynnwys y tiwtorial hwn i fyfyrwyr y gwyddorau meddygol a’r gwyddorau iechyd. | Quiz |
| Arfarnu beirniadol Cyflwyniad i feddwl yn feirniadol am ymchwil a methodoleg ymchwil Esbonio'r angen am arfarnu beirniadol, mynd i’r afael a pham a phryd y defnyddir arfarnu beirniadol, a dangos sut y gallwch chi ddefnyddio rhestrau gwirio i werthuso ymchwil yn feirniadol. Mae cynnwys y tiwtorial hwn i fyfyrwyr y gwyddorau meddygol a’r gwyddorau iechyd. | Tutorial |

