Chwilio a darganfod

Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch dod o hyd i wybodaeth o ansawdd da ac yn cadw i fyny â chyhoeddiadau newydd. Mae rhai o’r adnoddau ar gael yn Gymraeg.

I ddefnyddio adnodd unigol yn eich deunyddiau addysgu (yn unol â thelerau’r drwydded) cysylltwch ef yn uniongyrchol drwy’r botwm Rhagolwg neu glicio ar fotwm lawrlwytho’r ffeil. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael sesiynau tiwtorial a rhai adnoddau eraill hefyd drwy’r adran Sgiliau Astudio ar y fewnrwyd.

Yn chwilio am wybodaeth

Resource title and description Type
Ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth
Mae'r tiwtorial hwn wedi'i baratoi i gynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw adolygiad llenyddiaeth a sut i fynd ati i ysgrifennu un. Bydd y tiwtorial hwn yn:
  • Rhoi trosolwg o beth yw adolygiadau llenyddiaeth a pham rydyn ni'n eu hysgrifennu
  • Esbonio'r broses o gynnal adolygiad llenyddiaeth gan gynnwys:
    • chwilio am lenyddiaeth
    • dewis papurau
    • dadansoddi’r llenyddiaeth
    • cyfosod y llenyddiaeth
    • strwythuro eich adolygiad llenyddiaeth
Tutorial
Ymchwilio i’ch pwnc drwy ddefnyddio LibrarySearch
Canllaw fideo am sut i ddefnyddio LibrarySearch i ymchwilio i'ch pwnc. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael  i'w lawrlwytho. Gallwch chi ddod o hyd i restr chwarae ar gyfer ein canllawiau LibrarySearch ar YouTube.
Defnyddio hidlyddion yn LibrarySearch
Cyflwyniad fideo ar sut i ddefnyddio hidlwyr yn LibrarySearch. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Mae fideos eraill ar y pwnc hwn i'w gweld ar restr chwarae LibrarySearch ar YouTube.
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio LibrarySearch
Tiwtorial byr ar-lein â'r nod o gyflwyno technegau chwilio allweddol er mwyn ymchwilio i bwnc drwy LibrarySearch.
Tutorial
Defnyddio cronfeydd data: y camau sylfaenol
Cyflwyniad fideo ar sut i lywio gan ddefnyddio cronfeydd data. Mae’r fideo hefyd ar gael ar YouTube, fel y cyntaf mewn cyfres o dri. Y fideos eraill sydd ar gael yw - 'Defnyddio cronfeydd data: cyrchu testun llawn” a 'Defnyddio cronfeydd data: uwch'. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael. Os hoffech chi ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich gweithgareddau addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwyilrb@cardiff.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio cronfeydd data: cyrchu testun llawn
Cyflwyniad fideo ar sut i gyrchu testunau llawn wrth ddefnyddio cronfeydd data. Mae’r fideo hefyd ar gael ar YouTube, fel yr ail mewn cyfres o dri. Y fideos eraill sydd ar gael yw - 'Defnyddio cronfeydd data: sylfaenol a 'Defnyddio cronfeydd data: uwch'. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael. Os hoffech chi ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich gweithgareddau addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwyilrb@cardiff.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio cronfeydd data: uwch
Cyflwyniad fideo ar ddefnyddio nodweddion uwch yng nghyd-destun cronfeydd data. Mae’r fideo hefyd ar gael ar YouTube, fel y drydedd mewn cyfres o dri. Y fideos eraill sydd ar gael yw - 'Defnyddio cronfeydd data: sylfaenol’ a ‘Defnyddio cronfeydd data: cyrchu testun llawn’. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael. Os hoffech chi ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich gweithgareddau addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwyilrb@cardiff.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen defnyddio cronfeydd data cyfnodolion
Bydd y tiwtorial hwn yn eich tywys drwy'r broses o gynllunio chwiliad, datblygu strategaeth chwilio effeithiol a chwilio drwy gyfrwng cronfeydd data priodol.
Chwilio am allweddeiriau yn Ovid Medline
Mae'r fideo hwn yn dangos sut i chwilio drwy gronfeydd data Ovid gan ddefnyddio allweddair.
Chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus
Cyflwyniad fideo ar sut i chwilio gydag allweddeiriau yn Scopus. Mae trawsgrifiad hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Defnyddio Gen AI i gefnogi eich chwiliad llenyddiaeth
Nod yr adnodd hwn yw eich helpu chi i ddeall manteision a chyfyngiadau defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i ddod o hyd i lenyddiaeth i gyfeirio ati yn eich gwaith academaidd. Mae'n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar ofyn y cwestiynau cywir i adnoddau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, i helpu i ddatblygu chwiliadau o gronfeydd data, ac mae’n rhoi trosolwg o rai o'r adnoddau cyfredol.  
Cyrchu British standards online
Cyflwyniad fideo am sut i gael mynediad British standards online. Cewch hyd i'r fideo ar YouTube hefyd. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Gwerthuso’r dystiolaeth: dod o hyd i wybodaeth o safon uchel ar-lein
Mae’r tiwtorial Xerte hwn, ar gyfer disgyblion 6ed dosbarth ac addysg bellach yn bennaf, yn cwmpasu: diffinio cwmpas eich pwnc ymchwil, technegau chwilio i fanteisio’n llawn ar Google ac offer chwilio, a gwefannau i gael gwybodaeth o ansawdd da sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r tiwtorial hwn yn rhan o gyfres Gwerthuso’r Dystiolaeth a grëwyd i gefnogi ysgolion sy’n cefnogi Uwch Fagloriaeth Cymru.
Cyngor hanfodol ynghylch chwilio â Google
Bydd y fideo hwn yn dangos awgrymiadau syml i gael y gorau o Google. Mae'r fideo hefyd ar gael ar YouTube yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae trawsgrifiad ar gael. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Video
Dod o hyd i Ffynonellau Priodol
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Cynllunio eich chwiliad am wybodaeth drwy ddiffinio geiriau allweddol perthnasol ar eich pwnc
  • Nodi’r adnoddau gwybodaeth allweddol ar gyfer eich pwnc drwy’r fewnrwyd i fyfyrwyr
  • Mynd ati i chwilio am lenyddiaeth ar eich pwnc gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau chwilio
  • Cyrchu testun llawn y dogfennau fel erthyglau o gyfnodolion ar-lein
  • Defnyddio cronfeydd data er mwyn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau ar bwnc
Google Scholar – Awgrymiadau hanfodol
Bydd y fideo yma yn dangos y prif awgrymiadau i gael y gorau o Google Scholar. Mae Google Scholar yn gronfa ymchwil i ddarganfod erthyglau, llyfrau, trafodion cynhadledd a gweithiau eraill academaidd.
  • Awgrym 1 - Manylwch wrth chwilio
  • Awgrym 2 - Mynediad i’r testun llawn
  • Awgrym 3 - Crëwch hysbysiad e-bost
  • Awgrym 4 - Defnyddiwch y dolenni "Cited by..."
  • Awgrym 5 - Crëwch ddolenni sefydlu eich meddalwedd rheoli cyfeiriadau
Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Video

Cadw i fyny i'r dydd

Resource title and description Type
Rhybuddion allweddair drwy Google Scholar
Cyflwyniad fideo am sut i set up keyword alerts in Google Scholar. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion dyfynnu Scopus
Cyflwyniad fideo am sut i set up citation alerts on Scopus. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Rhybuddion allweddair SCOPUS
Cyflwyniad fideo am sut i set up Rhybuddion allweddair SCOPUS. Mae trawsgrifiad ar gael hefyd i'w lawrlwytho. Pe hoffech ailbwrpasu’r fideo hwn ar gyfer eich addysgu eich hun, cysylltwch â ni drwy ilrb@caerdydd.ac.uk i wneud cais am becyn o ffeiliau’r fideo ffynhonnell.
Video
Cadw eich ymchwil yn gyfredol
Mae ein tiwtorial am sut i gadw eich ymchwil yn gyfoes yn eich tywys drwy'r gweithdrefnau sylfaenol i wneud y gorau o ymwybyddiaeth gyfredol yn eich maes ymchwil. Mae'n dangos sut i sefydlu gwahanol fathau o rybuddion ac mae'n tynnu sylw at ystod o offer ac adnoddau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn effeithlon ac yn effeithiol.
Tutorial

Cyffredinol

Resource title and description Type
Beth yw erthygl cyfnodolyn?
Bydd y tiwtorial cyflwyniad i erthyglau cyfnodolion; beth ydyn nhw, pam mae eu hangen nhw a sut mae awduron yn cyfrannu. Bydd y tiwtorial hwn yn:
  • Rhoi trosolwg o rywfaint o'r broses ymchwil sy'n ymwneud ag ysgrifennu a chyhoeddi erthyglau cyfnodolion
  • Esbonio sut mae erthyglau cyfnodolion yn cael eu llunio
  • Esbonio pam mae erthyglau cyfnodolion yn cael eu llunio fel hyn
Cylch chwilio am lenyddiaeth
Delwedd yn dangos y cylch chwilio am lenyddiaeth.
Image
Sut i gael mynediad i gyfnodolion oddi ar y campws gan ddefnyddio Google Scholar
Dyma fideo fyr ar weld testun llawn erthyglau i ffwrdd o'r campws gan ddefnyddio Google Scholar.
Video