Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
Beth yw Addysg Gynhwysol?
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod diffiniad Hockings’ (2010, t1) o addysg gynhwysol sy’n ‘cyfeirio at y ffyrdd y mae addysgeg, cwricwla ac asesu yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n cefnogi gweld yr unigolyn a gwahaniaeth unigol yn ffynhonnell amrywiaeth a all gyfoethogi bywydau a dysgu pobl eraill.’
Mae Addysg Gynhwysol yn broses ddeinamig sy’n gofyn am ymrwymiad ar draws y sefydliad i drawsnewid diwylliant, prosesau ac arferion y brifysgol yn systematig, er mwyn goresgyn rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad a phrofiad pob myfyriwr, ac i gyfrif am a dathlu amrywiaeth gyfoethog y gymuned ddysgu.
Mae cynwysoldeb yn ganolog i’n diben fel prifysgol, ac mae ein strategaeth, ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd‘ yn nodi’n glir ein cenhadaeth o gynnig profiad addysgol ardderchog i fyfyrwyr o bob cefndir a phrofiad.
Ein hymagwedd tuag at Addysg Gynhwysol: Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
Rydym wedi datblygu fframwaith ar gyfer y brifysgol gyfan i hwyluso a chefnogi ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg gynhwysol yn ein darpariaeth addysgol.

Egwyddorion Allweddol
Yn ganolog i’n hymagwedd, mae ein hymrwymiad i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy newid addysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chael gwared ar rwystrau systemig a diwylliannol mewn addysg, yn ogystal ag anghydraddoldeb.
Yn aml, hybir addysg uwch i fod yn ffordd o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thegwch mewn cymdeithas. Fodd bynnag, mae ymchwil sylweddol yn awgrymu y gallai addysg uwch hefyd atgyfnerthu annhegwch cymdeithasol drwy ddulliau sefydliadol, ac arferion addysgu a dysgu (Parson ac Ozaki 2020). Gallwn weld hyn yn yr anghydraddoldebau mewn profiadau a chanlyniadau grwpiau gwahanol o fyfyrwyr. Er enghraifft:
- Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (sy’n ddangosydd statws economaidd-gymdeithasol) yn llawer llai tebygol na disgyblion eraill o fynd i addysg uwch, ac yn llawer mwy tebygol o roi’r gorau i’w hastudiaethau cyn dechrau eu hail flwyddyn (Bolton a Lewis, Gorffennaf 2024).
- Mae myfyrwyr gwyn o’r Deyrnas Unedig yn fwy tebygol o gael gradd dosbarth cyntaf neu 2:1 na myfyrwyr o bob ethnigrwydd arall o’r Deyrnas Unedig, hyd yn oed pan reolir am gyrhaeddiad blaenorol (UUK 2022).
- Dim ond 36% o fyfyrwyr sydd wedi cael unrhyw gymorth a gymeradwywyd gan eu prifysgol sydd â’r holl gymorth hwnnw ar waith (Disabled Students UK 2023).
- Dywedodd cyfran uchel (dros 42 y cant) o ymatebwyr eu bod yn cuddio’r ffaith eu bod yn LHDT yn y brifysgol, oherwydd eu bod yn ofni gwahaniaethu (Bachmann a Gooch 2108).
Rydym hefyd yn gweld materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn dod i’r amlwg yn aml mewn straeon yn y cyfryngau.
Mae’n bwysig cydnabod nad ydyn ni’n ddiogel rhag y problemau y mae’r sector yn eu hwynebu, a bod yr anghydraddoldeb hwn yn bodoli yma ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod yr hyn sy’n achosi’r anghydraddoldebau hyn yn gymhleth. Er, yn rhannol, eu bod yn ganlyniad problemau cymdeithasol ehangach, mae’n hanfodol ein bod ni fel Prifysgol, yn unigol ac ar y cyd gydag eraill, yn chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn.
Mae Rowan (2018) yn dadlau mai ‘Addysg, mewn gwirionedd, yw ymarfer rhyddid’. Mae hi’n dadlau:
- Gall addysg newid bywydau: mae profiadau a chanlyniadau addysgol yn effeithio’n uniongyrchol ar newidynnau uchel fel cyfraddau a mathau o gyflogaeth/diweithdra; iechyd corfforol a meddyliol; perthnasoedd cymdeithasol ac emosiynol; ymddygiad cymryd risg ac, wrth gwrs, sicrwydd ariannol a chorfforol. Mae patrymau llwyddiant a methiant yn parhau i fod ynghlwm wrth ffactorau gan gynnwys rhyw, cefndir diwylliannol, iaith, gallu, a statws economaidd-gymdeithasol.
- Nid yw addysg erioed wedi bod, ac ni all byth fod, yn weithred niwtral (Giroux, 2010: 719). Nid yw potensial trawsnewidiol addysg bob amser (na hyd yn oed fel arfer) yn cael ei wireddu mewn ffyrdd sy’n fanteisiol i’r boblogaeth lawn. I lawer o bobl ledled y byd, mae addysg wedi gwasanaethu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, fel mecanwaith ar gyfer atgenhedlu cymdeithasol yn hytrach nag ar gyfer unrhyw fath o drawsnewid cymdeithasol. Gwrthodwyd mynediad i rai grwpiau o bobl hyd yn oed yr addysg fwyaf sylfaenol, neu eu haddysgu mewn ffyrdd a geisiodd eu lleoli mewn rolau derbyniol a bennwyd ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau yn ein plith.
- Mae addysgwyr prifysgol yn wynebu her na ellir ei hosgoi, gan eu bod yn wynebu myrdd o ddewisiadau bob dydd, ac mae’r dewisiadau hyn yn arwain at oblygiadau i’n myfyrwyr, ein cydweithwyr a ninnau. Dylai ein penderfyniadau adlewyrchu nid yn unig y galwadau mwyaf uniongyrchol, neu ddybryd ar ein hamser, ond hefyd (ac yn bwysicach fyth) dealltwriaeth o botensial trawsnewidiol addysg uwch, ac ymrwymiad iddo.
Wrth ymdrechu i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac anelu at ddileu rhwystrau strwythurol a diwylliannol mewn addysg, mae ein dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys y canlynol:
- Defnyddio ymchwil ac ysgolheictod addysgegol
- Cynnal data ar bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad a phrofiad myfyrwyr yn gywir
- Monitro, adolygu a mesur effaith datblygiadau mewn addysg gynhwysol.
Rydym wedi datblygu model gwella Addysg Gynhwysol i gefnogi timau rhaglenni a/neu ysgolion i fyfyrio ar eich ymarfer cynhwysol a’i fapio, gyda set o gwestiynau myfyrio i gynorthwyo trafodaeth
Dimensiynau Addysg Gynhwysol
Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd yn nodi’r tri dimensiwn canlynol, a fydd gyda’i gilydd yn sail i’n gwaith i gyflawni ein hymrwymiadau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy newid addysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddant yn cael gwared ar rwystrau ac anghydraddoldebau systemig a diwylliannol mewn addysg.
Meithrin ymdeimlad o berthyn
Mae addysg gynhwysol yn ffynnu mewn diwylliant sy’n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth er mwyn datblygu ymdeimlad o berthyn i’r holl staff a myfyrwyr: “cred bersonol rhywun fod eu bod wedi’u derbyn fel aelod o gymuned academaidd a bod eu presenoldeb a’u cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi” (Good et al. 2012). Ein tri maes ffocws i helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn yw:
- Cydnabod a dathlu cymuned amrywiol y brifysgol, a galluogi myfyrwyr i weld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm
- Herio’r cwricwlwm cudd a darparu ar gyfer myfyrwyr drwy’r daith ddysgu
- Gwrando’n weithredol ac ymateb i bob llais
Grymuso Myfyrwyr i Wireddu eu Potensial
Nod Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw cael ‘cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo eu cefndir neu eu hamgylchiadau’. Bydd addysg gynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cefnogi pob myfyriwr i gyflawni eu potensial drwy dri maes ffocws allweddol sy’n ymwneud ag egwyddorion ac arferion dysgu ac addysgu cynhwysol:
- Darparu dysgu sy’n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol drwy gydnabod anghenion a safbwyntiau pob dysgwr, a dylunio ar gyfer pawb
- Cefnogi pob myfyriwr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu
- Galluogi pob myfyriwr i ddangos eu galluoedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth
Datblygu Meddylfryd Cynhwysol
Mae cymuned gynhwysol yn ystyried yr heriau i berthyn a chyflawniad sy’n gynhenid mewn arferion traddodiadol ac elitaidd ac yn ymdrechu i’w goresgyn trwy nodi rhwystrau a “mynd i’r afael â phryderon ehangach ynghylch hwyluso cyfiawnder cymdeithasol a sicrhau tegwch” (Stentford a Koutsouris 2020), gan gefnogi myfyrwyr i ddod yn asiantau gweithredol wrth ddatblygu cynhwysiant. Rydym yn ceisio datblygu meddylfryd cynhwysol drwy dri maes ffocws allweddol:
- Defnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi’r profiad dysgu
- Mynegi anghydraddoldebau a braint gan gynnwys beirniadu dealltwriaeth o darddiad gwybodaeth bynciol
- Ysbrydoli myfyrwyr i ddod yn hyrwyddwyr cynwysoldeb, gan roi’r sgiliau iddynt feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol
Mae ein fframwaith yn cydnabod nad oes ateb syml nac unigol i faterion yn ymwneud â chynwysoldeb, a bod nifer o feysydd ffocws gwahanol yn dylanwadu arno, fel y canlynol:
Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL).
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gofyn am gynllunio rhagweledol, ac mae canfyddiadau ar gynnwys ymchwil helaeth (gweler adolygiad systematig Lawrie et al. o'r llenyddiaeth), yn awgrymu mai'r ateb yw dylunio'n gyffredinol ar gyfer dysgu, diwallu anghenion mwyafrif y myfyrwyr, a sicrhau eu bod yn cael eu grymuso i gyflawni eu potensial. Mae'r fideo canlynol yn rhoi cyflwyniad i UDL, a gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen UDL ar wahân.
UDL to Change the World - YouTube
Addysgeg sy’n rhoi cynhaliaeth ddiwylliannol
Mae addysgeg sy'n rhoi cynhaliaeth ddiwylliannol yn cydnabod y pwysigrwydd y mae cynrychiolaeth a hunaniaeth yn ei chwarae wrth hwyluso addysgu. Mae ymarfer dysgu ac addysgu yn cael ei wella wrth gydnabod amrywiaeth myfyrwyr, yn ogystal ag ystyried sut y gallai hil, diwylliant ac iaith effeithio ar allu myfyrwyr i ddysgu. Trwy ymgorffori ystod o strategaethau dysgu i fynd i'r afael â sawl safbwynt, gwerthoedd, pwyntiau mynediad, a chyfleoedd i gasglu ac arddangos gwybodaeth, gall addysg hybu manteision amrywiaeth.
Wyth cymhwysedd ar gyfer addysgu sy'n ymatebol yn ddiwylliannol (Kwak 2020)
- Adnabod a gwneud iawn am ragfarn yn y system.
• Manteisio ar ddiwylliant myfyrwyr i lunio'r cwricwlwm a’n ffordd o addysgu.
• Dod â materion byd go iawn i'r ystafell ddosbarth.
• Nodi disgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr.
• Hyrwyddo parch tuag at wahaniaethau myfyrwyr.
• Cydweithio â'r gymuned.
• Cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n ymatebol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.
• Myfyrio ar lens ddiwylliannol
Gwneud y cwricwlwm yn fwy amrywiol
Mae cwricwlwm mwy amrywiol yn caniatáu i bob myfyriwr weld a chael eu gweld mewn arferion dylunio, addysgeg ac asesu. Diffinnir ‘gwneud y cwricwlwm yn fwy amrywiol’ fel y broses o adnabod, herio a diwygio arferion dysgu ac addysgu, gan gynnwys rhestrau darllen, astudiaethau achos, gweithgareddau addysgu, terminoleg, cynrychiolaeth, cwestiynau asesu, deunyddiau addysgu, gwerthuso a strategaethau ymchwil. Wrth sail gwneud y cwricwlwm yn fwy amrywiol mae’r nod o adfer cyfiawnder epistemig, ac mae'n galluogi myfyrwyr i ystyried eu presenoldeb eu hunain yn y cwricwlwm, gan hybu amgylchedd mwy cynhwysol a chydradd. (Prifysgol Aberdeen 2023)
Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm
“Mae dad-drefedigaethu'r cwricwlwm yn cwestiynu effaith barhaus etifeddiaeth gwladychu ac imperialaeth ar gynhyrchu gwybodaeth. Mae dull dad-drefedigaethol yn ymwneud â dadadeiladu hierarchaethau presennol, o blaid defnyddio sawl system/dull gwybodaeth er mwyn integreiddio ystod o safbwyntiau, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymhelaethu ar y lleisiau a dangynrychiolir yn y cwricwlwm ar hyn o bryd” (UAL 2023: 3).
Nid dileu gwybodaeth neu hanesion a ddatblygwyd yn y Gorllewin neu genhedloedd trefedigaethol yw dad-drefedigaethu; yn hytrach mae'n golygu lleoli'r hanesion a'r wybodaeth nad ydynt yn tarddu o'r Gorllewin yng nghyd-destun imperialaeth, gwladychiaeth a phŵer ac ystyried pam mae'r rhain wedi'u gwthio i'r cyrion a'u hanwybyddu (Arshad 2021)
Addysgeg gwrth-hiliol
“Yr unig ffordd i ddadwneud hiliaeth yw ei adnabod a'i ddisgrifio'n gyson - ac yna ei ddatgymalu.” (Kendi 2019)
Defnyddir addysgeg gwrth-hiliol fel term, yn hytrach na chwricwlwm gwrth-hiliol, i gydnabod bod y gwaith hwn yn mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Ei nod yw mynd ati i ymladd a datgymalu hiliaeth o fewn addysg. Nid ymgorffori lleisiau a chynnwys amrywiol yn y cwricwlwm yw’r unig nod, ond beirniadu sut mae rhywun yn dysgu a'r ffordd rydyn ni’n ffurfio gwybodaeth. Mae’n broses o hunan-ystyried, dysgu a gwella beirniadol parhaus. Y bwriad yw ailystyried y ffordd rydym yn meddwl am gwricwla mewn modd gwrth-hiliol, at ddibenion trawsnewid a chreu gofod lle y gall bawb deimlo'n ddiogel.
Cam cyntaf pwysig wrth ystyried dimensiynau addysg gynhwysol ymhellach, yw cydnabod amrywiaeth ein myfyrwyr. Gall deall pwy yw ein dysgwyr ein galluogi i ystyried sut y gallwn eu haddysgu a’u cefnogi orau wrth iddynt astudio gyda ni.
Amrywiaeth ein Myfyrwyr
Mae mwy o amrywiaeth mewn Addysg Uwch nag erioed o’r blaen. Fel y gwelwn yn y graff isod, mae cyfranogiad mewn Addysg Uwch ymhlith pobl sy’n hanu o’r DU wedi codi’n ddramatig ers 1950, pan oedd llai na 5% o’r boblogaeth yn mynd i’r Brifysgol. Mae ehangu’r system addysg uwch i oddeutu 50% o’r rhai sy’n gadael ysgol a cholegau wedi arwain at lawer mwy o amrywiaeth ymhlith myfyrwyr.
Mae hyn, yn rhannol, hefyd wedi cael ei yrru gan gynlluniau ehangu mynediad a chyfranogiad yn holl genhedloedd y DU, a deddfwriaeth cydraddoldeb. Ar yr un pryd, mae cynlluniau i ryngwladoli wedi arwain at fwy o myfyrwyr yn dod i astudio mewn addysg uwch yn y DU, gan godi o 226,270 yn 2012/3 i 314,790 yn 2021/2, ac o ganlyniad i’r cynnydd hwnnw yn 23.8% o boblogaeth myfyrwyr y DU yn y flwyddyn honno (Universities UK, 2023). At ei gilydd, mae’r tueddiadau cymdeithasol hyn wedi arwain at fwy o amrywiaeth yng nghymuned y brifysgol.


Figure 1: Higher Education Participation rates in the UK 1950-2010 (TES 2013)
Mae’n bwysig deall, ymateb i, a dathlu amrywiaeth ein myfyrwyr, ac mae hyn “yn gofyn am roi sylw i’r hunaniaethau cymhleth, deinamig, a chroestoriadol y mae pob dysgwr ac athro yn dod gyda nhw i’r profiad addysgegol” (Lawrie et al. 2017).
Rydym yn defnyddio diffiniad eang wrth ystyried amrywiaeth, sef cysyniadaeth Thomas a May (2010) o bedwar dimensiwn eang o amrywiaeth, lle gall pob myfyriwr (ac aelod o staff) amrywio: yn addysgol, o ran cymeriad, yn ôl eu hamgylchiadau ac yn ddiwylliannol.

Er bod rhai o’r nodweddion hyn yn cael eu cydnabod yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel rhai gwarchodedig, ac y gallai rhai fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gan wasanaethau prifysgol penodol (megis anabledd), maen nhw oll yn gofyn i ni ystyried dyluniad ein haddysgu a’n harferion, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael profiad teg.
Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn ragweledol yn ein darpariaeth addysgol: felly, ddylwn ni ddim aros nes bod myfyriwr yn cyflwyno angen neu nodwedd ddysgu benodol. Yn hytrach, rhaid inni ddylunio ein haddasiadau o’r cychwyn cyntaf, i ddarparu ar gyfer mwyafrif yr anghenion.
Felly sut rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall pwy yw ein dysgwyr, a darparu cyfleoedd dysgu sy’n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol i bawb? Gall deall nodweddion myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fod o gymorth, ac felly, gall astudio’r data ein helpu i fod yn ymwybodol faint o amrywiaeth sydd yn ein dosbarthiadau. Mae data Prifysgol Caerdydd ar amrywiaeth ar gael i staff yma.
Pwy yw ein myfyrwyr
Mae tirwedd newidiol addysg uwch wedi ei gwneud yn fwy arwyddocaol nag erioed i fyfyrio ar ein harferion er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth myfyrwyr amrywiol (Mathesion 2015). Mae gwybodaeth am hunaniaethau amrywiol, croestoriadol ein myfyrwyr yn hanfodol i’r ffordd yr ydym yn cynllunio, addysgu ac asesu ein cwricwlwm. Wrth gydnabod a deall amrywiaeth ein myfyrwyr a rhagweld y rhwystrau y gall myfyrwyr eu hwynebu tra yn y brifysgol, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd dysgu sy’n ddilys, yn berthnasol ac yn ystyrlon i bawb.
Thema sydd wedi bod yn sail i ymchwil yw pwysigrwydd deall nodweddion amrywiol eich corff myfyrwyr drwy ymgysylltu â data perthnasol a chyfredol er mwyn mynd i’r afael â’r gwahaniaethau addysgol sy’n bodoli o fewn y sector addysg uwch.
Mae defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn seiliedig ar nodweddion amrywiol ein myfyrwyr yn sicrhau ein bod yn cael ein llywio gan ddata cywir yn hytrach na thybiaethau hen ffasiwn sydd gennym o bosibl am ein myfyrwyr, eu cefndiroedd, eu diwylliannau a’u profiadau. Pan fyddwn yn gosod y myfyrwyr yng nghanol y dysgu, rydym yn creu cwricwlwm sy’n cynrychioli, yn ymateb i ac yn adlewyrchu amrywiaeth ein holl fyfyrwyr, nid dim ond rhai grwpiau neu nodweddion.
Yn ogystal â deall ac ymateb i bwy yw ein myfyrwyr, mae’n bwysig i ni hefyd ddeall profiadau a chanlyniadau ein corff myfyrwyr amrywiol fel y gallwn gymryd camau i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau sy’n bodoli. Er enghraifft, mae llawer o sylw yn y sector wedi canolbwyntio ar fylchau dyfarnu rhwng gwahanol grwpiau ethnig, gan fod gwahaniaethau parhaus yng nghyfran y myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig sy’n cael graddau cyntaf neu 2:1 o gymharu â myfyrwyr gwyn, ac mae deall y dystiolaeth a dadansoddi’r data yn argymhelliad allweddol o ran cau’r bylchau hyn (UUK, 2019, 2021).
Rydym felly wedi bod yn gweithio i wella ein hadroddiadau data, i’n helpu i ddeall ein myfyrwyr yn well a llywio ein harferion.
I gael gwybod sut i gyrchu a llywio ein data ym Mhrifysgol Caerdydd, cliciwch isod (staff yn unig).
Defnyddio personau i ddatblygu eich dealltwriaeth o fyfyrwyr

Mae personas yn archdeipiau sy’n nodweddu anghenion, nodau, profiad technegol, gofynion hygyrchedd a nodweddion personol eraill grwpiau mwy o bobl (Lilley, Piper ac Attwood 2015). Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml yn flaenorol fel rhan o systemau gwybodaeth a datblygu technoleg dysgu, gall creu proffiliau neu bersonas myfyrwyr cyfoethog, ysbrydoledig, gan staff addysgu roi gwell dealltwriaeth i gydweithwyr o’r boblogaeth myfyrwyr, a nodi nodweddion allweddol i’w hystyried yn ystod cylch bywyd myfyriwr. Sut allech chi a’ch tîm ddefnyddio personas i ystyried sut y gallech chi chwarae eich rhan wrth wneud addysg a phrofiad y myfyrwyr yn fwy cynhwysol?
I gael gwybod mwy am bersonas, cyrchwch yr adnodd dysgu Xerte hwn
Ble nesaf?
Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol
Pecyn cymorth
Gallwch nawr fynd ymlaen i ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol trwy gyrchu’r tudalennau cysylltiedig ar bynciau penodol, a amlinellir yn y map isod, sy’n ymwneud â’r Fframwaith Addysg Gynhwysol. Ar ôl cyrchu’r dudalen hon, rydym yn argymell eich bod yn symud i’r dudalen Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol.
Gweithdai
Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy fynychu sesiynau gweithdy sy’n ymwneud â phob pwnc. Gellir cymryd y gweithdai hyn drwy sesiwn wyneb yn wyneb fyw, os yw’n well gennych ddysgu rhyngweithiol cymdeithasol gyda’ch cyfoedion, neu gellir eu cwblhau yn eich amser eich hun, os yw hynny’n well gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithdai, a’r ddolen i archebu yma.
Darpariaeth Ysgol Bwrpasol
Rydym yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i Ysgolion ar Addysg Gynhwysol, drwy’r gwasanaeth Datblygu Addysg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i fynd i’r afael â phryderon lleol penodol, i uwchsgilio timau cyfan, neu i gefnogi’r broses cymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni. Cysylltwch â Thîm Datblygu Addysg eich Ysgol am ragor o wybodaeth.
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

Rydych chi ar dudalen 2 o 8 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:
1.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
2. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
3. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
4. Datblygu meddylfryd cynhwysol
5. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
6. Hygyrchedd Digidol
Neu beth am thema arall?
Cyflogadwyedd
Cynaliadwyedd
Recordiad o’r dudalen (yn Saesneg yn unig):
Cyfeirnodau
Hinchcliffe, T. 2021 The Hidden curriculum of Higher Education [Online]. Available at : https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/hidden-curriculum-higher-education [Accessed 30/8/22]
Hockings, C. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher Education: A Synthesis of Research. York: Higher Education Academy. Available Online
Lawrie, G., Marquis, E., Fuller, E., Newman, T., Qui, M., Nomikoudis, M., Roelofs, F., & van Dam, L. (2017) Moving towards inclusive learning and teaching: A synthesis of recent literature. Teaching and Learning Inquiry 5 (1)
Parsons, L and Ozaki, C.C. 2020. Teaching and Learning for Social Justice and Equity in Higher Education.Switzerland: Springer Available online [link: https://librarysearch.cardiff.ac.uk/permalink/44WHELF_CAR/b7291a/cdi_askewsholts_vlebooks_9783030449391 ]
Robertson, Susan. (2010). Globalising UK Higher Education. Globalisation, Societies and Education. 8. 191-203. 10.1080/14767721003776320.
TES 2013 Now we are 50. Online: https://www.timeshighereducation.com/features/participation-rates-now-we-are-50/2005873.article
Thomas, L. and May, H. 2010. Inclusive Learning and teaching in Higher education. York: HEA. Available online