Skip to main content

Ymgorffori cyflogadwyedd ar lefel rhaglenni

Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau i ymgorffori cyflogadwyedd ar lefel rhaglenni

Nod yr adran hon yw cynnig gwybodaeth a chwestiynau i arweinwyr rhaglenni i’w hystyried wrth adolygu eich darpariaeth o ran cyflogadwyedd o safbwynt rhaglenni. Mae’n cynnwys ystod o adnoddau defnyddiol a all gynorthwyo yn y gwaith o gynllunio a dylunio.

Ystyried pwy rydych chi eisiau i’ch myfyrwyr fod

Wrth i chi fynd ati i lunio eich rhaglen a’i hesblygu’n barhaus, rydym yn eich cynghori i ystyried rhai cwestiynau cychwynnol a allai helpu i lywio eich syniadau ac ymgorffori cyflogadwyedd yn eich rhaglen yn llwyddiannus:

• Pa ‘fath’ o fyfyriwr ydych chi’n gobeithio fydd yn graddio o’ch cwrs?
• Pa wybodaeth, sgiliau a rhinweddau sydd gan fyfyriwr graddedig o’r fath?
• Os mai cynhyrchu myfyrwyr ‘cyflogadwy’ yw’r nod yn y pen draw, beth sydd angen digwydd i wneud yn siŵr bod hyn yn bosibl?
• Pa werth ychwanegol sydd wedi’i gynllunio a’i ddatblygu yn eu haddysg a fydd yn gwella eu profiad, yn cynyddu eu gwybodaeth ac yn eu cefnogi i ddod yn raddedigion cyflogadwy ar ôl cwblhau eich rhaglen?
• Beth mae graddedigion fy rhaglen yn mynd i’w wneud ar ôl graddio?

Globe

Ymgysylltu â myfyrwyr a llais y myfyrwyr, beth ddywedon nhw?

  • Yn ystod y broses o ailddilysu a/neu gymeradwyo eich rhaglen, a ydych chi wedi cynnwys myfyrwyr yn natblygiadau eu hastudiaethau yn y dyfodol?
  • Ydych chi wedi adolygu sylwadau myfyrwyr am gynnwys y modiwlau a’r dulliau dysgu ac asesu?
  • Ydych chi wedi adolygu a myfyrio ar eich sgôr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac adborth myfyrwyr am eu cwrs / rhaglen?
  • A oes gennych chi unrhyw gyn-fyfyrwyr a allai rannu eu profiad a/neu roi sylwadau ar gynllun a datblygiad eich rhaglen i wneud yn siŵr ei bod yn gadarn ac yn adlewyrchu anghenion y diwydiant a’r graddedigion?

Gall gwrando ar lais y myfyrwyr fod yn broses gadarnhaol wrth ddylunio rhaglen a'i datblygu. Mae nodi'r hyn y byddai'r gynulleidfa'n ei hoffi a'i eisiau yn fan cychwyn ar gyfer hel syniadau ac edrych ar gynnwys eich rhaglen o safbwynt gwahanol. Bydd anghenion y myfyrwyr yn wahanol i'ch anghenion chi, felly mae'n dda deall beth ydyn nhw er mwyn hwyluso a rheoli disgwyliadau.

Gan greu rhaglen sy’n manteisio ar sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd cyfunol eich tîm, gyda chymorth Dyfodol Myfyrwyr a’r Academi Dysgu ac Addysgu, byddwch yn dechrau codi lefel eich rhaglen a’i gwneud yn wahanol i’r hyn a gynigir gan brifysgolion sy’n cystadlu yn eich erbyn.

Er mwyn i’ch rhaglen fod yn wahanol, mae angen i chi greu gwerth ychwanegol i fyfyrwyr, drwy’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu a’u profiad fel myfyrwyr. Gellir creu gwerth ychwanegol trwy ddatblygu a dylunio rhaglen sy’n ystyried profiad y defnyddiwr. Mae’n mynd y tu hwnt i drylwyredd a gwybodaeth academaidd drwy integreiddio profiadau gwell a sgiliau trosglwyddadwy sy’n addasu i fyd gwaith

Awgrym o ran Cyflogadwyedd

Defnyddiwch ein cyfatebiaeth Pen, Calon, Dwylo syml i brofi hanfodion cynllun eich rhaglen o safbwynt cyflogadwyedd:

  • Pen – Dysgu – Y wybodaeth a ddysgir
  • Calon – Profiad – Profiad y myfyriwr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt
  • Dwylo – Sgiliau – Gwella dealltwriaeth a'i chymhwyso

Wrth ddatblygu'r hyn a ddysgir a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer eich rhaglen, mae'n bwysig ystyried y diwydiannau, y sectorau a'r gyrfaoedd perthnasol, yn ogystal â'r swyddi sydd ar gael i'ch myfyrwyr ar hyn o bryd a'r rhai fydd ar gael yn y dyfodol.

  • Pa gyfleoedd ydych chi'n eu hwyluso i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu â diwydiant a rhwydweithiau proffesiynol i wella eu gwybodaeth fasnachol? Beth sydd angen iddynt ei wybod am y diwydiant, y proffesiwn, y sector, ac ati a fydd yn gwella eu cyfleoedd wrth chwilio am waith?
  • Sut fyddwch chi'n hwyluso profiadau sy'n gwella ymwybyddiaeth a chraffter proffesiynol y myfyrwyr? Sut byddwch chi'n ymgorffori cyfleoedd dysgu sy'n cynnig profiad o'r 'byd go iawn'?
  • Beth yw'r sgiliau fydd eu hangen arnynt i gystadlu yn erbyn graddedigion eraill sy'n gwneud cais am yr un swyddi? Beth yw sgiliau'r dyfodol fydd yn galluogi eich graddedigion i ffynnu ac addasu?

Gwyliwch y fideo byr hwn a grëwyd gan Fforwm Economaidd y Byd i ddysgu mwy am y chwyldro ailsgilio.

Deall yr hyn y mae eich graddedigion yn mynd ymlaen i’w wneud

Fel yr amlinellwyd yn yr adran flaenorol, mae dulliau mesur Deilliannau Graddedigion yn dod yn fwyfwy pwysig er mwyn denu a recriwtio myfyrwyr yn ogystal â bodloni gofynion cyrff rheoleiddio. Felly, mae’n hanfodol bod gan staff y rhaglenni ddealltwriaeth sylfaenol o Arolwg Hynt Graddedigion.

Mae’r holl ddata ar gael ar Ddangosfwrdd Deilliannau Graddedigion y brifysgol. Mae’r data yn cynnwys cyrchfannau graddedigion, y cyflogwyr recriwtio a’r cyfraddau ymateb i arolygon, wedi’u dadansoddi fesul Ysgol. Agorwch y Dangosfwrdd isod

Dangosfwrdd Canlyniadau Graddedigion

Drwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am batrymau a thueddiadau perthnasol yn y diwydiant, bydd y farchnad lafur i raddedigion a chyrchfannau graddedigion yn gwneud yn siŵr bod cynnwys eich rhaglen yn parhau i fod yn addas a’ch bod yn dylunio ac yn datblygu cwricwlwm sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd a’u cyflogaeth yn y dyfodol.

Globe

Adnoddau gwybodaeth

Mae ystod o ffynonellau gwybodaeth ar gael a allai eich helpu i ddeall cyrchfannau graddedigion ymhellach a sut mae eich rhaglen yn cymharu ar draws y sector.

Rhestrau Tablau Cynghrair

- The Times Good University Guide

- The Complete University Guide 

- The Guardian University Guide

  • Arweiniad Beth mae Graddedigion yn ei wneud? - adroddiad defnyddiol sy’n dadansoddi cyrchfannau graddedigion gradd gyntaf fesul pwnc.
  • Discover Uni – ffynhonnell wybodaeth swyddogol sy’n cynnig ffordd o gymharu cyrsiau israddedig yn y DU.
  • What Uni? – gwefan sy’n cymharu cyrsiau yn y DU ac yn cynnwys adolygiadau gan fyfyrwyr.

Deall y disgwyliadau sefydliadol ynghylch cyflogadwyedd

Testun rhagarweiniol — fel yr amlygwyd yn Fframwaith Dyfodol y Myfyrwyr, dyma grynodeb o disgwyliadau sefydliadol y brifysgol a mesurau llwyddiant sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio The Times Good University Guide (GuG) i feincnodi perfformiad, ac mae dangosydd perfformiad allweddol y Brifysgol yn dynodi y bydd yr holl bynciau a gyflwynir ymhlith y 25% uchaf yn nhablau cynghrair pynciau The Times GuG.

Un o'r metrigau sy'n cyfrannu at ein safle yn GuG yw Rhagolygon Graddedigion sy'n deillio o arolwg 'Hynt Graddedigion' yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae hwn yn mesur nifer y myfyrwyr gradd gyntaf sy'n hanu o'r DU sydd mewn cyflogaeth ar lefel graddedig neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio.

Gan fod y metrig Rhagolygon Graddedigion yn cyfrannu 20% at sgôr lefel pwnc cyffredinol GuG, bydd perfformiad cryf yn arolwg Hynt Graddedigion HESA yn cynorthwyo ysgolion i sicrhau safle yn y chwartel uchaf ar gyfer eu pynciau a gyflwynir. Felly, y dangosydd allweddol ar gyfer mesur effaith yw y dylai'r holl bynciau a gyflwynir gael eu rhestru yn y chwartel uchaf ar gyfer Rhagolygon Graddedigion yn y GuG.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod bod profiad a geir drwy ddysgu seiliedig ar waith yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a rhinweddau hanfodol ac addasu'n hyderus i fyd gwaith. Felly, ceir ymrwymiad y bydd o leiaf 50% o fyfyrwyr israddedig yn ymgymryd â lleoliad gwaith yn ystod eu hastudiaethau.

Mae gweithgareddau symudedd yn hollbwysig er mwyn datblygu graddedigion sydd â meddylfryd byd-eang ac sy'n ymwybodol o ddiwylliannau. Felly, mae gan y brifysgol ddangosydd perfformiad allweddol sefydliadol o ran symudedd myfyrwyr, sy’n ymrwymo y bydd o leiaf 20% o’n hisraddedigion cartref yn ymgymryd â gweithgareddau symudedd am o leiaf bythefnos yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd.

Yn rhan o'r broses o gymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni, rhaid i bob rhaglen ddangos sut mae'r hyn a gaiff ei ddysgu, ei haddysgu a'i hasesu yn helpu i ddatblygu chwe Rhinwedd Graddedigion y brifysgol. Mae'n ofynnol i raglenni fapio'r rhinweddau i'w modiwlau drwy gynnal Adolygiad o Gyflogadwyedd a Rhinweddau Graddedigion.

O ystyried bod Rhinweddau Graddedigion yn rhan o gynnig cyffredinol Caerdydd, yn hytrach nag elfen ffurfiol o’r ‘contract myfyriwr’, ein hymrwymiad yw gwarantu y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu’r rhinweddau, yn hytrach na gwarantu y byddan nhw wedi’u caffael pan maen nhw’n graddio. Felly, ni ddisgwylir y bydd pob rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu'r holl rinweddau yn rhan o'u cwricwlwm. Os nad yw'n bosibl neu'n briodol eu hintegreiddio, mae angen i raglenni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at weithgareddau allgyrsiol perthnasol a ddarperir gan y brifysgol ehangach.

Mae Partneriaid Busnes Coleg Dyfodol Myfyrwyr yn cynorthwyo Ysgolion sy'n mynd drwy'r broses gymeradwyo ac ailddilysu. Darllenwch ragor am rôl Dyfodol Myfyrwyr a sut y gall y Partneriaid Busnes eich cynorthwyo.

Dr Angelo Amoroso, Uwch-ddarlithydd Cemeg Anorganig, CHEMY.
Mae Llinos (Partner Busnes PSE) wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda ni yn yr adran CEMEG i ddatblygu ein cwricwlwm, ac mae Nodweddion Graddedigion wedi bod yn hollbwysig yn y broses ailgynllunio. Rydyn ni wedi cynnal ymarferion mapio sydd wedi tynnu sylw at feysydd sy’n gryf a meysydd y mae angen sylw arnyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni wedi ail-ddatblygu modiwl ym mlwyddyn 2 i greu math o symposiwm a fydd yn para 3 diwrnod, a hynny er mwyn cynnig digwyddiad deniadol yn 2024/2025 i’r garfan. Heb ei chyfraniad, ni fydden ni wedi gallu creu rhywbeth mor gyffrous, deniadol a gwerthfawr. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Dyfodol Myfyrwyr ac mae eu helpwedi bod yn allweddol wrth wneud yr hen fodiwl hwn yn newydd, yn ffres, yn berthnasol ac yn effeithiol.
Dr Angelo Amoroso, Uwch-ddarlithydd Cemeg Anorganig, CHEMY.

Dull o ymgorffori cyflogadwyedd

Nid oes un ffordd benodol o ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm ac mae amrywiaeth o fframweithiau a modelau ar gael sy’n gallu cynorthwyo sefydliadau addysgol i wneud hynny. Mae Fframwaith Dyfodol y Myfyrwyr yn nodi sut mae’r sefydliad yn ceisio ymgorffori cyflogadwyedd ym mhrofiad y myfyrwyr drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Er mwyn cynorthwyo timau rhaglenni i ymgorffori cyflogadwyedd yn benodol yn y cwricwlwm, mae Dyfodol Myfyrwyr wedi datblygu cysyniad syml o’r enw Llinynnau Cyflogadwyedd. Mae pedwar llinyn, sy’n crynhoi ystod eang o addysg sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd. Os caiff y rhain eu hintegreiddio ym mhob rhan o’ch cwricwlwm, byddant yn gwella’r profiad dysgu i’ch myfyrwyr ac yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo ym myd gwaith.

Y Llinynnau Cyflogadwyedd yw:

Welsh (Icons for Programme level SF page

Cliciwch ar y llun uchod i’w weld ar ffurf Sgrîn Lawn neu lawrlwythwch gopi yma. Os hoffech chi ddefnyddio’r eiconau Llinynnau Cyflogadwyedd, gallwch lawrlwytho’r ffeil yma.

Er mwyn i fyfyrwyr allu llywio a llwyddo mewn byd gwaith cynyddol newidiol a chymhleth, mae angen cymorth arnyn nhw i gaffael yr wybodaeth, y sgiliau a'r rhinweddau a fydd yn eu galluogi i reoli eu gyrfaoedd yn effeithiol.

Diffinnir dysgu datblygu gyrfa fel:

“Caffael galluoedd sy'n ddefnyddiol er mwyn datblygu eich gyrfa'n barhaus a'i rheoli. Mae'n seiliedig ar broses ddysgu ddilys a pharhaus sy'n meithrin dealltwriaeth o fyd gwaith a chi eich hun. Mae'r broses hon yn datblygu gallu'r dysgwr i wneud synnwyr o'r wybodaeth hon a'i chyfuno fel ei bod yn rhoi'r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol yn ymwneud â dewisiadau gyrfaol, datblygiad proffesiynol a gweithgarwch datblygu gyrfa, gan gynnwys dod o hyd i waith”.
Bridgstock, Grant-Iramu and McAlpine, 2019 

Er mwyn ymgorffori Dysgu Datblygu Gyrfa yn effeithiol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu yn unol â'r amcanion dysgu canlynol:

  • Hunan-ymwybyddiaeth – ystyried sgiliau, rhinweddau, gwerthoedd a chymhellion personol mewn modd beirniadol er mwyn llywio hunaniaeth broffesiynol a datblygu nodau gyrfaol posibl. 
  • Ymwybyddiaeth o gyfleoedd – creu cynlluniau datblygu gyrfa i osod nodau a chamau gweithredu clir, gan ddefnyddio strategaethau rheoli gyrfa i lywio dyfodol cyflogaeth sy'n newid yn barhaus.
  • Gwneud penderfyniadau – dangos dealltwriaeth o'r farchnad lafur i raddedigion a'r opsiynau gyrfaol, gan ddefnyddio sgiliau rhwydweithio a hunan-hyrwyddo i ddenu recriwtwyr.
  • Dysgu pontio – nodi a mynd i’r afael ag ystod o ddulliau recriwtio proffesiynol sy'n adlewyrchu arferion y diwydiant, gan ddangos y gallu i addasu i fyd gwaith.  

I rai myfyrwyr, bydd y newid i fyd gwaith yn golygu cymryd rhan mewn rhaglen fusnes newydd neu fenter gymdeithasol. Mae cyflogwyr yn ystyried meddylfryd entrepreneuraidd hefyd fel un sy'n ychwanegu gwerth at ddatblygiad sefydliad.

Mae QAA (2018) wedi diffinio Mentergarwch fel:

Cynhyrchu a chymhwyso syniadau, sydd wedi’u gosod o fewn sefyllfaoedd ymarferol yn ystod prosiect neu ymgymeriad… Mae’n cyfuno creadigrwydd, gwreiddioldeb, mentergarwch, meddwl am syniadau, meddwl am ddyluniadau, hyblygrwydd ac atblygedd ag adnabod problemau, datrys problemau, arloesedd, mynegiant, cyfathrebu a chymryd camau ymarferol.
QAA, 2018

ac Addysg Entrepreneuriaeth fel:

Diffinnir Addysg Entrepreneuriaeth fel cymhwyso ymddygiadau, rhinweddau a chymwyseddau mentergarwch i greu gwerth diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd. Gall hyn, ond nid bob tro, arwain at greu menter. Mae entrepreneuriaeth yn berthnasol i unigolion a grwpiau (timau neu sefydliadau), ac mae'n cyfeirio at greu gwerth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac mewn unrhyw gyfuniad o'r tri
QAA, 2018

Er mwyn ymgorffori Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth yn effeithiol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu yn unol â’r amcanion dysgu canlynol:

  • Sgiliau a meddylfryd entrepreneuraidd, a meddwl yn greadigol - nodi, datblygu a dadansoddi rhinweddau a sgiliau mentergarwch hanfodol sy'n ofynnol i fod yn entrepreneur, gan ymarfer mewn ffordd greadigol ac arloesol.
  • Proffiliau llawrydd, rhwydweithio a digidol - yn dangos sut i ddechrau fel gweithiwr llawrydd, gan ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol a phroffiliau digidol sy'n cynorthwyo'r gwaith o greu busnes llwyddiannus a chynaliadwy.
  • Sefydlu busnes - nodi a chymhwyso'r agweddau allweddol ar sut i ddatblygu a sefydlu busnes, o syniad neu gysyniad cychwynnol i fodel gweithredol.
  • Cyflwyno a hyrwyddo syniadau - datblygu sgiliau hanfodol i gyflwyno syniad neu gysyniad busnes sy'n cael effaith, gan ddefnyddio ystod eang o offer a thechnegau marchnata sydd ar gael i'w hysbysebu a'i hyrwyddo.

 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i fyfyrwyr weithredu fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu â gwahaniaethau diwylliannol a'u gwerthfawrogi trwy ddysgu ac addysgu â ffocws rhyngwladol a/neu drwy brofiad ymarferol o wledydd eraill.

Mae’r Cenhedloedd Unedig (UNESCO, 2014) yn diffinio Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang fel:

Meithrin parch at bawb, adeiladu ymdeimlad o berthyn i ddynoliaeth gyffredin a helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol a gweithgar. Mae'n fath o ddysgu dinesig lle bydd myfyrwyr yn chwarae rhan amlwg mewn prosiectau sy'n mynd i'r afael â materion byd-eang o natur gymdeithasol, wleidyddol, economaidd neu amgylcheddol.
UNESCO 2014

Er mwyn ymgorffori Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang yn effeithiol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu yn unol â’r amcanion dysgu canlynol:

  • Ymwybyddiaeth fyd-eang a chymhwysedd diwylliannol - nodi a dadansoddi heriau byd-eang allweddol wrth ddod yn fwy ymwybodol o amrywiaeth ddiwylliannol a sut gall gwahaniaethau diwylliannol effeithio ar berthnasoedd rhyngwladol.
  • Gwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chyfrifoldeb cymdeithasol - datblygu a chymhwyso'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â bod yn ddinesydd byd-eang cyfrifol sy'n hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol, gwneud penderfyniadau gwybodus moesegol, a deall y dylanwad cadarnhaol y gall unigolion a sefydliadau ei gael wrth fynd i'r afael â materion byd-eang.
  • Cynaliadwyedd ac arweinyddiaeth amgylcheddol – nodi a dangos arferion cynaliadwy ac arweinyddiaeth amgylcheddol yn lleol, yn rhanbarthol a/neu’n fyd-eang.
  • Ymgysylltu â'r gymuned – cymryd rhan amlwg mewn cyfleoedd a phrosiectau ymgysylltu cymunedol sy'n cyd-fynd ag un neu ragor o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mentrau o'r fath wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Er mwyn i fyfyrwyr allu pontio'r bwlch rhwng gwybodaeth academaidd a'i chymhwyso'n effeithiol yn y byd go iawn, yn ogystal â datblygu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyflogwyr, mae'n hollbwysig eu bod yn dysgu o brofiadau ymarferol yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol.

Mae QAA (2018) yn diffinio Dysgu Seiliedig ar Waith fel:

Dysgu drwy waith, dysgu ar gyfer gwaith a/neu ddysgu yn y gwaith. Mae'n cynnwys cyfleoedd strwythuredig dilys ar gyfer dysgu sy'n cael eu cyflawni mewn lleoliad yn y gweithle neu sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu angen a nodwyd yn y gweithle. Yn nodweddiadol, mae gan y math hwn o ddysgu swyddogaeth ddeuol, sef cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion dysgu’r gweithwyr, datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymddygiad proffesiynol, yn ogystal â diwallu anghenion datblygu gweithlu’r sefydliad
QAA, 2018

Mae integreiddio lleoliadau gwaith yn rhan o'r cwricwlwm yn agwedd bwysig ar Fframwaith Dyfodol y Myfyrwyr hefyd, a disgwylir i hanner y myfyrwyr israddedig gwblhau lleoliad gwaith yn rhan o’u hastudiaethau.

Er mwyn ymgorffori Dysgu Seiliedig ar Waith yn effeithiol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu yn unol â'r amcanion dysgu canlynol:

  • Dysgu cymhwysol – cymhwyso a dangos ymarfer perthnasol, sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwyd yn yr amgylchedd dysgu, sy'n berthnasol i amgylchedd gwaith efelychiadol neu yn y byd go iawn.
  • Gwybodaeth am ddiwydiant – datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o arferion diwydiant-benodol, ymwybyddiaeth fasnachol a heriau sy'n ymwneud â'r sector neu'r pwnc yn benodol.
  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau – nodi a datrys problemau'n annibynnol neu fel rhan o dîm, gan gymhwyso meddwl creadigol a dadansoddol.
  • Proffesiynoldeb – dangos proffesiynoldeb yn y gweithle, gan gynnwys cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, y gallu i addasu a chadw at normau'r gweithle.

Gwyliwch y fideo byr hwn sy’n cyflwyno’r llinynnau ac yn amlygu’r dylanwadau allanol sydd wedi llywio eu datblygiad.

Gweld trawsgrifiad o Cyflwyno’r Llinynnau Cyflogadwyedd

Drwy ymgorffori’r Llinynnau Cyflogadwyedd yn eich cwricwlwm, gallwch fod yn hyderus bod eich rhaglen yn rhoi’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu’r Rhinweddau Graddedigion, sydd i gyd wedi’u mapio i’r llinynnau.

Mae’r ffeithlun isod yn ceisio dangos sut mae ffactorau, dylanwadau ac ysgogwyr cyfrannol wedi llunio ein hymagwedd at Ymgorffori Cyflogadwyedd. Rydym wedi cyfuno ysgogwyr mewnol, dylanwadau allanol a’n rhinweddau graddedigion yn bedwar llinyn cyflogadwyedd hygyrch sydd wedi’u diffinio’n glir.

Student Futures Funnel

Cliciwch ar y llun uchod i’w weld ar ffurf Sgrîn Lawn neu lawrlwythwch gopi yma.

 


Adnoddau defnyddiol i gefnogi’r gwaith o gynllunio a dylunio

Cynnal adolygiad cyfannol

Gallai’r Canllaw Adolygu Rhaglenni isod, sy’n seiliedig ar y Llinynnau Cyflogadwyedd, helpu timau rhaglenni i gynnal adolygiad cyfannol o’ch ymagwedd at gyflogadwyedd ar hyn o bryd (os yw’n rhaglen sy’n bodoli eisoes) neu helpu i strwythuro ymagwedd newydd (os ydych yn creu rhaglen newydd).

Arolwg Hunanasesu Cyflogadwyedd

Sarah O’Dwyer, Arweinydd y Rhaglen Ôl-raddedig, ARCHI.
Fe wnes i fapio'r Deilliant Dysgu Modiwl (MLO) presennol gan ddefnyddio Nodweddion Graddedigion a dim ond ar ôl cwblhau'r broses fe wnes i sylweddoli, er ein bod yn cynnal gwaith grwp/ymarferion ar y cyd a gweithdai nad oedden nhw yn weladwy mewn unrhyw ffordd yn y canlyniadau dysgu. (Fe welais i fylchau tebyg gyda myfyrio a chyfathrebu - ond y bwlch o ran cydweithio oedd y mwyaf annisgwyl). O ganlyniad fe wnaethon ni addasu’r MLO i gyfeirio'n benodol at gydweithio (a myfyrio a chyfathrebu hefyd i raddau llai). Fe wnaethon ni hefyd adolygu a diweddaru'r asesiadau i gynnwys yr elfen gydweithiol/gwaith grŵp, a hynny er mwyn gwneud y cysylltiad rhwng yr MLO, gweithgareddau gwirioneddol ac asesu yn fwy eglur a dilys.
Sarah O’Dwyer, Arweinydd y Rhaglen Ôl-raddedig, ARCHI.

Llwybr ‘delfrydol’ myfyrwyr

Er ein bod yn cydnabod bod pob myfyriwr yn wahanol, a bydd ganddyn nhw ofynion gwahanol ar wahanol gyfnodau yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, rydyn ni wedi creu ffeithluniau am lwybr datblygiad myfyrwyr a’u cynnwys isod. Eu diben yw eich helpu i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol y gallai myfyrwyr ymgymryd â nhw ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Er eu bod yn darlunio llwybr ‘ddelfrydol’ myfyrwyr, dydyn nhw ddim yn ddisgwyliadau, ac a’u bwriad yw dynodi beth a phryd ar y llwybr academaidd y gellid cyflwyno myfyrwyr i gyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd, yn y cwricwlwm a’r tu hwnt iddo.

Y Daith Datblygu Myfyrwyr (Is-raddedigion)

Cliciwch ar y llun uchod i’w weld ar ffurf Sgrîn Lawn neu lawrlwythwch gopi yma 

 

Taith Datblygiad Myfyrwyr Ôl-raddedig

Welsh image of PG-Student-Development-Journey

Cliciwch ar y llun uchod i’w weld ar ffurf Sgrîn Lawn neu lawrlwythwch gopi yma.

 

Matrics Gweithgareddau Cwricwlaidd

Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi rhestru ystod o weithgareddau cwricwlaidd o dan bob un o’r Llinynnau Cyflogadwyedd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu eich rhaglen.


 

Career Development IconDysgu
Datblygu
Gyrfa
Enteprise & Entrepreneurship Education IconAddysg
Menter ac
Entrepreneuriaeth
Global Citizenship Education IconAddysg Dinasyddiaeth
Fyd-eang
Work-based Learning IconDysgu yn y
Gwaith
Gweithgareddau hunanasesu, e.e. asesiad Nodweddion Graddedigion, proffilio personoliaeth​

Prosiectau archwilio gyrfa, gwaith ymchwil penodol i ddiwydiant a dadansoddiad o’r farchnad swyddi

Cynllun Gweithredu Datblygu Gyrfaol / Proffesiynol a / neu Bortffolio Gyrfa​

​Llwybr Gwobrau Caerdydd Integredig (trwy Gyfrif Dyfodol Myfyrwyr)​

Gwaith ymchwil a chymhwyso strategaethau Rheoli Gyrfaoedd

CV, llythyr eglurhaol ac ysgrifennu cais

Cyfweliadau ffug a/neu ganolfannau asesu

Proffiliau cyfryngau cymdeithasol proffesiynol e.e. LinkedIn​

Sgyrsiau a arweinir gan gyflogwyr a digwyddiadau rhwydweithio​

Darlithoedd datblygu sgiliau cyflogadwyedd ​

Cyfnodolion, blogiau a/neu bortffolios adfyfyriol​ ​

Sgiliau, nodweddion a /
neu gymwyseddau proffesiynol fel sy’n
ofynnol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (PSRBs) neu ddiwydiant

Datblygu Cynllun Busnes (grwpiau neu unigolion)

Prosiectau
entrepreneuriaeth gymdeithasol

Cystadlaethau cyflwyno a / neu ymarferion cyflwyno cyflym
(cyflwyniad mewn lifft)

Prosiectau ymchwil i’r farchnad a dadansoddi cystadleuwyr

Llwybr ‘Cychwyn Busnes a Llawrydd’ Integredig (trwy Gyfrif Dyfodol Myfyrwyr)

Efelychiadau cychwyn
busnes

Datblygu prototeip a/neu gynhyrchu arddangosfa/arddangos

Cynfas Model Busnes

Sgyrsiau a arweinir gan entrepreneur a
digwyddiadau rhwydweithio

Cyfnodolion, blogiau a /
neu bortffolios adfyfyriol

Darlithoedd datblygu
sgiliau menter ac entrepreneuriaeth

 

Prosiectau ymwybyddiaeth
fyd-eang yn seiliedig ar
friffiau byw a / neu astudiaethau achos hanesyddolYmarferion chwarae rôl
neu efelychu e.e. cynhadledd
Model y Cenhedloedd Unedig
wedi’i efelychueProsiectau Dysgu Rhyngwladol Cydweithredol Ar-lein (COIL) gyda phartneriaid rhyngwladolRhaglenni Cyfnewid Diwylliannol gyda sefydliadau mewn gwahanol wledyddGweithio neu astudio dramor am flwyddyn \ trwy’r Tîm Cyfleoedd
Byd-eang​Prosiectau symudedd tymor byr dramor e.e. teithiau maes, lleoliadau ymchwil​Prosiectau gwasanaeth cymunedolDadleuon neu
drafodaethau grŵp

Sgyrsiau a arweinir gan gyflogwyr a digwyddiadau rhwydweithio

Cyfnodolion, blogiau a / neu bortffolios adfyfyriol

 

Lleoliadau gwaith
integredig
neu interniaethauBlwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (PPY)

Dysgu seiliedig ar
brosiect, fel briffiau
prosiect byw neu astudiaethau achos hanesyddol​Efelychiadau gweithle
neu chwarae rôlProsiectau ymchwil diwydiantYmweliadau safle,
teithiau maes​Cysgodi swydd, cynlluniau
blas ar fyd gwaith neu
ddiwrnodau blasuRhaglenni mentoraProfiadau trawsddiwylliannol, fel gwaith dramor blwyddyn
neu raglen cyfnewid diwylliannol

Sgyrsiau a arweinir gan
y diwydiant a digwyddiadau rhwydweithio

Cyfnodolion, blogiau a / neu bortffolios adfyfyriol

Hyfforddiant proffesiynol
a / neu gymwysterau
felsy’n ofynnol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (PSRBs) neu ddiwydiant

 

Gallwch chi gael gafael ar PDF o’r Matrics Gweithgareddau Cwricwlaidd a’i lawrlwytho yma.

 


Gweithgareddau Cwricwlaidd fesul Blwyddyn

Mae’r gweithgareddau cwricwlaidd wedi’u mapio yn ôl blynyddoedd astudio. Unwaith eto, nid oes rhaid cadw’n gaeth i’r rhain, gan mai awgrymiadau ydynt i’ch cynorthwyo wrth ddylunio rhaglenni.

Rydym wedi mapio ystod o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd i roi syniad i chi o ble yn y rhaglen astudio y gallai’r rhain gael eu cyflwyno. Efallai y cewch gyfle i gyflwyno gweithgareddau yn gynharach neu’n hwyrach yn yr astudiaeth academaidd. Os yw hyn yn addas i’ch rhaglenni astudio chi, dylech fynd ati i ddilyn eich llwybr eich hun. Enghreifftiau yw’r rhain, nid canllawiau caeth, o sut y dylid cynllunio eich rhaglen gan ein bod yn gwerthfawrogi bod gofynion ac anghenion pob rhaglen yn mynd i amrywio.

Calendr Digwyddiadau Dyfodol Myfyrwyr

Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig llawer o ddigwyddiadau, cystadlaethau a chyfleoedd i fyfyrwyr sy’n eu helpu i ymgysylltu â themâu a phynciau yn ymwneud â chyflogadwyedd. Rydym wedi datblygu’r adnodd hwn fel y gallwch nodi pa gyfleoedd sy’n cyd-fynd â rhaglen eich astudiaethau e.e. 100 o Syniadau Mawr, cyfle mentergarwch a rhyngddisgyblaethol i fyfyrwyr ymgysylltu â phroblemau go iawn, a thrafod a dyfeisio datrysiad ar y cyd.

Gallwch chi ddod o hyd i Galendr Digwyddiadau Dyfodol Myfyrwyr yma.

I lawrlwytho copi o’r cynnwys ysgrifenedig cliciwch yma.


Awgrym o ran Cyflogadwyedd

Wrth baratoi rhaglen sydd am geisio adlewyrchu arferion mewn diwydiant, sut byddwch yn gwireddu hynny ac yn sicrhau ei bod ar gael i bawb?

Gallech chi:

  1. Gyflwyno darlith am y datblygiadau yn sector y diwydiant o dan sylw
  2. Datblygu modiwl sy'n defnyddio efelychiad a/neu fewnbwn y diwydiant i gyfoethogi'r astudiaeth
  3. Trefnu i siaradwr/siaradwyr gwadd ddod yno i drafod y datblygiadau hynny gyda'r myfyrwyr
  4. Trefnu taith berthnasol er mwyn i fyfyrwyr archwilio'r diwydiant a'r amgylchedd drostynt eu hunain
  5. Trafod interniaethau posibl gyda phartneriaid a gwesteion o'r diwydiant i groesawu myfyrwyr sydd wedi cynhyrchu gwaith rhagorol yn ystod y modiwl
  6. Creu interniaeth ar y campws y byddai myfyrwyr perthnasol yn gwneud cais ar ei chyfer
  7. Archwilio a hyrwyddo cyfleoedd posibl i ddatblygu eu haddysg a’u hymwybyddiaeth o’r diwydiant mewn rhan wahanol o’r byd

 

Mae Tîm Adnoddau Dysgu Dyfodol Myfyrwyr wastad yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu adnoddau ymarferol sy’n cynnwys canllawiau, gweithgareddau, cynlluniau gwersi ac astudiaethau achos i helpu staff i ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.   

Os ydych eisoes yn cyflwyno gweithgaredd neu asesiad sy’n cyd-fynd ag un neu fwy o’r llinynnau hyn, a hoffech ei rannu â staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol eraill, llenwch y Ffurflen MS.  

I gael rhagor o wybodaeth, cymorth ac arweiniad, cysylltwch â Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich Coleg:

AHSS                  Jon Forbes                       ForbesJ3@cardiff.ac.uk
BLS                     Joanne Jenkins               JenkinsJ6@cardiff.ac.uk
PSE                     Llinos Carpenter             CarpenterL1@cardiff.ac.uk