Mae Gwasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi lansio dau adnodd newydd yn ddiweddar. Eu diben yw helpu myfyrwyr i greu eu hunaniaeth broffesiynol ar-lein a’i rheoli. Bydd y tiwtorialau hyn yn canolbwyntio ar sut i ddatblygu hunaniaeth effeithiol ar-lein at ddibenion gyrfa neu ymchwil:
- Hunaniaeth Ar-lein 1 – Adnabod eich ôl-troed digidol
- Hunaniaeth Ar-lein 2 – Adeiladu eich proffil ar-lein
Gall myfyrwyr gael gafael ar yr adnoddau hyn trwy’r fewnrwyd.