News

Ein dewis gorau ar gyfer addysgu Llythrennedd Gwybodaeth ar-lein

Computer screen displaying a play button icon

Wrth i ni ddechrau paratoi i addysgu llythrennedd gwybodaeth ar-lein yr hydref hwn, rydym i gyd yn ceisio gwneud y gorau o’r adnoddau dysgu sydd eisoes ar gael.

Felly, dyma ein dewis gorau o gasgliad y Banc Adnoddau Llythrennedd Gwybodaeth (ILRB) o adnoddau dysgu gweithredol dwyieithog. Gellir ailddefnyddio’r rhain i gyd, felly gallwch naill ai gysylltu’n syth â nhw neu ddefnyddio’r ffeiliau y gellir eu lawrlwytho i addasu’r cynnwys i weddu i’ch addysgu.

Mae chwilio y tu hwnt i’ch rhestr ddarllen gan ddefnyddio cronfeydd data cyfnodolion yn gyflwyniad i gynllunio a chynnal chwiliad llenyddiaeth gan ddefnyddio cronfeydd data llyfryddol.

Mae dewis ffynonellau o ansawdd da ar gyfer eich gwaith academaidd yn datblygu technegau i gydnabod newyddion ffug a gwerthuso addasrwydd ffynonellau gwybodaeth ar gyfer gwaith academaidd.

Mae arfarnu beirniadol yn diwtorial rhyngweithiol sy’n dysgu myfyrwyr sut i feddwl yn feirniadol am fethodoleg ymchwil ac ymchwil. Anogir myfyrwyr i feddwl am wahanol fathau o ragfarn, dyluniad astudiaethau a defnyddio rhestri gwirio ar gyfer arfarnu’n feirniadol. Mae’r tiwtorial hwn yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n astudio pynciau gofal iechyd.

Osgoi llên-ladrad: Mae dyfynnu a chyfeirnodi yn diffinio llên-ladrad, cydgynllwynio, dyfynnu a chyfeirnodi ac yn egluro sut i ddefnyddio ymchwil pobl eraill yn gywir mewn gwaith academaidd. Mae’r tiwtorial yn cysylltu â’n canllawiau dyfynnu a chyfeirnodi ar gyfer ystod eang o arddulliau.

Mae ein cwisiau a’n gweithgareddau ar lên-ladrad a chyfeirnodi hefyd yn ffordd boblogaidd o alluogi myfyrwyr i ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys y Cwis Dyfynnu a Chyfeirnodi, Cwis – Ai llên-ladrad yw hwn? a’r Gweithgaredd am osgoi llên-ladrad. Mae’r ILRB hefyd yn cynnwys cwisiau a gweithgareddau ar arddulliau cyfeirnodi penodol.

Sesiynau tiwtorial Endnote – cyfres o diwtorialau sy’n arwain myfyrwyr drwy nodweddion allweddol y feddalwedd. Erbyn diwedd y tiwtorialau, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio EndNote i reoli gwybodaeth ac ychwanegu cyfeiriadau at eu gwaith.

Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi cipolwg defnyddiol i chi o’r hyn sydd ar gael i’w ailddefnyddio yn yr ILRB o dan ein Trwydded Creative Commons. Mae croeso i chi eu defnyddio, ond gofynnwn i chi ein cydnabod rywle ar eich adnodd.