News

Hanfodion ar gyfer arholiadau ac asesiadau

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto i sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfnod adolygu ar gyfer arholiadau. Dyma ein prif Adnoddau Dysgu i helpu myfyrwyr i oroesi (a ffynnu) y gwanwyn hwn.

 

Paratoi ar gyfer arholiadau

  • Cymhelliant a phennu nodau – a yw eich myfyrwyr yn teimlo wedi’u llethu ynghylch ble i ddechrau? A oes angen help arnynt i reoli amser a chynnal momentwm? Bydd y tiwtorial hwn yn eu helpu i ddechr
  • Nodiadau effeithiol – mae’n anochel y bydd myfyrwyr yn adolygu cynnwys ar-lein a chynnwys wedi’i recordio yn wyllt wrth iddynt geisio cofio cymaint o wybodaeth ag y gallant. Bydd y tiwtorial hwn yn rhoi strategaethau iddynt i gefnogi eu hadolygu. – helpwch myfyrwyr i leihau blinder oherwydd arholiadau gyda’r tiwtorial hwn ar sut i wneud y gorau o’u hadolygu ac osgoi gorflinder
  • Adolygu effeithiol – helpwch myfyrwyr i leihau blinder oherwydd arholiadau gyda’r tiwtorial hwn ar sut i wneud y gorau o’u hadolygu ac osgoi gorflinder.
  • Sefyll arholiadau ar-lein – ai dyma’r tro cyntaf iddynt sefyll arholiad ar-lein? Helpwch nhw i baratoi a sicrhau eu bod yn ymddwyn yn briodol.

Ymboeni ynghylch asesiadau?

Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, mae dyddiadau cau ar gyfer asesiadau eraill hefyd ar y gorwel. Dyma rai canllawiau ychwanegol i helpu myfyrwyr cyn iddynt daro’r botwm cyflwyno ofnadwy hwnnw o’r diwedd:

  • Arddull Yesgrifennu Acdemaidd a Datblygu dadleuon birniadol – a fydd eich myfyrwyr yn cael eu hasesu ar gyfer eu hysgrifennu beirniadol? Gallai’r canllawiau hyn, sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr ôl-raddedig, fod yn fan cychwyn da i ganolbwyntio eu hadolygu gyda nodiadau atgoffa defnyddiol ar strwythur, tôn a synthesis.
  • Neu cyfeiriwch nhw at ein canllaw goroesi traethodau cynhwysfawr ar gyfer israddedigion.
  • Cyflwyniadau – a oes ganddynt gyflwyniad terfynol ar y gweill? Mae ein canllaw yn dadansoddi pob cam o ddatblygu, dylunio a rhoi cyflwyniad effeithiol.
  • Ysgrifennu adroddiad – deall, cynllunio a strwythuro adroddiadau.
  • Dewis ffynonellau o safon – ble i ddechrau gyda chanfod a gwerthuso’r ffynonellau mwyaf addas ar gyfer gwaith academaidd, o sut i adnabod newyddion ffug i adnabod y ffynhonnell wreiddiol.
  • Arfarniad beirniadol – a yw eich myfyrwyr o feysydd meddygaeth neu ofal iechyd? Mae’r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn eu hannog i feddwl am wahanol fathau o ragfarn, dyluniad astudiaethau a defnyddio rhestrau gwirio ar gyfer arfarnu’n feirniadol.
  • Sesiynau tiwtorial EndNote – atgoffwch eich myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar EndNote i reoli eu gwybodaeth ac adeiladu eu llyfryddiaeth.

Argymhellion terfynol

Nid yw byth yn amser drwg i atgoffa myfyrwyr cyn i’w gwaith gael ei asesu ar sut i osgoi llên-ladrad a gloywi eu cyfeiriadau

Defnydd

Gellir ailddefnyddio’r rhain i gyd o dan ein Trwydded Creative Commons, felly gallwch naill ai gysylltu’n syth â nhw neu ddefnyddio’r ffeiliau y gellir eu lawrlwytho i addasu’r cynnwys i weddu i anghenion eich myfyrwyr. Gofynnwn i chi ein cydnabod yn rhywle ar eich adnodd.