News, Uncategorized @cy

Defnyddio Gen AI i gefnogi eich chwiliad llenyddiaeth

Artificial Intelligence Image

Croeso i ganllaw’r Llyfrgell i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (Gen AI) i’ch helpu i chwilio am lenyddiaeth. Nod yr adnodd hwn yw eich helpu i ddeall manteision a chyfyngiadau Gen AI i ddod o hyd i lenyddiaeth i gyfeirio ati yn eich gwaith academaidd.

Cyn i chi ddefnyddio unrhyw offeryn AI i helpu eich gwaith a fydd yn cael ei asesu, gwiriwch ganllawiau’ch modiwl neu gwrs a darllen canllawiau’r Brifysgol i fyfyrwyr ar ddefnyddio AI yn rhan o’ch dysgu. 

Gall offer Gen AI cynhyrchiol fel Microsoft Copilot fod yn ddefnyddiol pan fydd angen i chi nodi pwnc i ymchwilio iddo a/neu ddiffinio cwestiwn ymchwil.

Efallai bod gennych chi faes diddordeb yr hoffech chi ymchwilio iddo ond bod angen i chi ei fireinio i gwestiwn neu ddatganiad ymchwil. Neu efallai eich bod eisiau dysgu rhagor am bwnc, i roi syniadau i chi ar gyfer themâu neu bynciau i ymchwilio iddyn nhw mewn mwy o fanylder yn y llenyddiaeth gyhoeddedig.

Gallwch chi greu ceisiadau ysgogi a fydd yn cyfeirio’r offeryn Gen AI i’ch helpu gyda’r tasgau hyn.

I weld y tiwtorial, cliciwch ym