Ysgrifennu, cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau a chyflwyno

Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch ysgrifennu, cynhyrchu cyfryngau a chyflwyno. Mae adnoddau cysylltiedig ynghylch am onestrwydd academaidd ar gael hefyd.

Astudio

Resource title and description Type
Darllen effeithiol
Ydych chi’n teimlo wedi'ch llethu gan eich rhestr ddarllen, neu faint o ddarllen a ddisgwylir ar gyfer eich gradd neu ymchwil? Mae'r tiwtorial hwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor ar 'ddarllen' testunau academaidd yn effeithiol ac yn effeithlon i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Erbyn diwedd yr adnodd hwn byddwch yn:
  • Myfyrio ar eich strategaethau darllen eich hun ac yn nodi lle gallwch chi wella
  • Archwilio strategaethau ar gyfer darllen effeithiol
  • Adnabod ffyrdd y gall offer digidol gefnogi eich darllen.
Tutorial
Meddwl ac ysgrifennu myfyriol
Canllaw i'ch helpu i ddatblygu eich arfer myfyriol. Yn y tiwtorial hwn rydym am eich helpu i:
  • Ddeall beth yw arfer myfyriol a pham ei fod yn bwysig
  • Nodi pryd y gall arferion myfyriol fod yn ddefnyddiol
  • Rhoi technegau arferion myfyriol ar waith (yn seiliedig ar fodelau a damcaniaeth fyfyriol sefydledig)
  • Datblygu eich sgiliau ysgrifennu myfyriol, ar gyfer eich gwaith academaidd a'ch gyrfa
Creu map meddwl
Sleid PowerPoint y gellir ei addasu sy’n cynnwys enghraifft o sut gallwch greu map meddwl er mwyn helpu i chwilio am wybodaeth am bwnc.
Image
Nodiadau Effeithiol
Strategaethau ar gyfer cymryd a gwneud nodiadau i gefnogi eich astudiaethau.
Tutorial
Deall eich tasg asesu
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Pam mae gennym feini prawf asesu
  • Pa beth y disgwylir gennych pan fyddwch yn cwblhau aseiniad
  • Sut y dylid ymdrin â chwestiwn aseiniad
  • Sut i gynllunio eich ysgrifennu ac ymchwil
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôlraddedig

Ysgrifennu

Resource title and description Type
Ymchwilio a darllen yn feirniadol
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud gwaith ymchwil a darllen yn gritigol wrth baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd. Mae'n tywys myfyrwyr drwy'r broses o nodi'r hyn y dylent ymchwilio iddo, sut a ble y dylid ymchwilio iddo, a sut i ddarllen yn feirniadol a gwerthuso ansawdd y wybodaeth y byddent yn dod o hyd iddi. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Ysgrifennu Adolygiad Llenyddiaeth
Mae'r tiwtorial hwn wedi'i baratoi i gynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw adolygiad llenyddiaeth a sut i fynd ati i ysgrifennu un. Bydd y tiwtorial hwn yn:
  • Rhoi trosolwg o beth yw adolygiadau llenyddiaeth a pham rydyn ni'n eu hysgrifennu
  • Esbonio'r broses o gynnal adolygiad llenyddiaeth gan gynnwys:
    • chwilio am lenyddiaeth
    • dewis papurau
    • dadansoddi’r llenyddiaeth
    • cyfosod y llenyddiaeth
    • strwythuro eich adolygiad llenyddiaeth
Gweithgaredd crynhoi
Cewch ymarfer eich sgiliau crynhoi gyda'r gweithgaredd hwn.
Activity
Adolygu ac golygu
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o olygu ac adolygu eu traethawd. Mae'n cynnwys gweithgareddau sy'n eu galluogi i ymarfer adolygu cynnwys a strwythur, yn ogystal â sillafu, atalnodi a gramadeg. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Ysgrifennu’n feirniadol a strwythuro eich traethawd
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi arweiniad cynhwysfawr ar ysgrifennu drafft cyntaf traethawd ac ysgrifennu mewn arddull academaidd. Mae'n archwilio sut i ysgrifennu'n feirniadol a defnyddio tystiolaeth yn briodol. Mae hefyd yn ystyried strwythur traethawd, strwythur paragraffau, a sut i ysgrifennu brawddegau effeithiol. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Datblygu eich syniadau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut y gall myfyrwyr ddefnyddio eu gwaith ymchwil i ddatblygu eu syniadau a'u dadleuon eu hunain. Mae'n eu tywys drwy'r broses o gasglu eu syniadau, creu dadl gref, a threfnu a strwythuro eu syniadau i greu amlinelliad o draethawd. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Dehongli’r cwestiwn
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o ddehongli teitl eu traethawd. Mae'n ystyried berfau cyfeiriol a geiriau allweddol, yn ogystal ag archwilio'r meini prawf asesu. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Deall traethodau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn edrych ar beth yw traethodau, pam rydym yn eu hysgrifennu, a'r hyn sydd angen ei wneud wrth ysgrifennu traethawd. . Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig.
Cwis deall cyfosod (gwyddorau cymdeithasol)
Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir.
Quiz
Cwis deall cyfosod (Biowyddorau)
Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir.
Gweithgaredd Cyfosod
Yn y gweithgaredd hwn, gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu paragraff drwy ddefnyddio gwybodaeth, tystiolaeth, neu safbwyntiau o ddetholiad o wahanol ffynonellau. Y nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfosod gwybodaeth er mwyn ategu eu dadleuon.
Ymarfer prawfddarllen
Mae’r gweithgaredd hwn yn dangos pwysigrwydd prawfddarllen gwaith cyn ei gyflwyno. Rhoddir paragraff o destun i fyfyrwyr a gofynnir iddynt nodi chwe chamgymeriad sy’n cynnwys gwallau sillafu, gwallau teipio a homoffonau.
Activity
Arddull academaidd cwis
Cwis deg cwestiwn sy'n asesu dealltwriaeth o'r gwahanol agweddau ar sut i ysgrifennu’n dda yn academaidd.
Quiz
Datblygu dadleuon beirniadol
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • gwahaniaethu rhwng ysgrifennu beirniadol a disgrifiadol
  • ystyried pwysigrwydd cyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol
  • edrych ar ffyrdd i gyfuno’r wybodaeth yn effeithiol er mwyn cefnogi eich dadleuon
  • dangos sut i lunio paragraffau sy’n cyfuno ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôlraddedig
Tutorial
Arddull ysgrifennu academaidd
Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
  • Strwythuro eich gwaith
  • Ysgrifennu mewn arddull academaidd
  • Defnyddio iaith academaidd briodol
  • Adolygu, golygu a phrawfddarllen yr hyn yr ydych wedi'i ysgrifennu
Mae'r tiwtorial hwn yn rhan o'r gyfres Ysgrifennu ar Lefel Ôlraddedig

Cyflwyno

Resource title and description Type
Rhoi eich cyflwyniad
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ymdopi â gorbryder a rhoi cyflwyniad yn hyderus. Mae hefyd yn trafod technegau i siarad yn effeithiol, ynghyd ag iaith y corff.. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.
Cynllunio ac ysgrifennu eich cyflwyniad
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ddiffinio pwrpas a negeseuon allweddol cyflwyniad. Mae hefyd yn ystyried sut i strwythuro, ysgrifennu a golygu cynnwys cyflwyniad. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.
Dylunio eich cyflwyniadau
Bydd y tiwtorial rhyngweithiol hwn yn helpu i nodi adnoddau priodol ar gyfer datblygu cymhorthion gweledol, yn ogystal â dangos sut i ddefnyddio testun, delweddau, siartiau ac elfennau amlgyfrwng eraill yn effeithiol. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.
Tutorial
Deall cyflwyniadau
Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried gwahanol fathau o gyflwyniad a'u dibenion. Mae hefyd yn amlinellu'r broses o ysgrifennu a rhoi cyflwyniad. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau.