Mae’r Ganolfan Adnoddau yn gasgliad o adnoddau digidol a dysgu gwybodaeth llythrennedd byr. Maent wedi eu dylunio ar gyfer addysgwyr a llyfrgellwyr i’w hail-ddefnyddio a’u hintegreiddio yn eu deunyddiau dysgu. Gall myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael sesiynau tiwtorial a rhai adnoddau eraill hefyd ar y wefan drwy’r adran Sgiliau Astudio ar fewnrwyd y myfyrwyr.
I ddefnyddio’r adnoddau ar gyfer eich gwaith dysgu, cysylltwch iddynt yn uniongyrchol drwy’r botwm rhagolwg neu llwythwch y ffeil i lawr i’w osod i mewn i’ch Amgylchedd Dysgu Rhithwir a deunydd addysgu eraill.
Gall yr holl adnoddau gael eu llwytho i lawr neu eu copïo gan aelodau Prifysgol Caerdydd ar gyfer dibenion dysgu, gweinyddu ac ymchwil o fewn y Brifysgol. Mae unrhyw adnoddau sydd wedi’u labelu gyda thrwydded ‘Cyffredin Creadigol’ hefyd ar gael i’r rhai hynny nad ydynt yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Gallwch ddewis pori’r Ganolfan Adnoddau drwy’r adnoddau sydd â thrwydded Cyffredin Creadigol.