Adnoddau dysgu ac addysgu ynghylch ysgrifennu, cynhyrchu cyfryngau a chyflwyno. Mae adnoddau cysylltiedig ynghylch am onestrwydd academaidd ar gael hefyd.
Astudio
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Darllen effeithiol Ydych chi’n teimlo wedi'ch llethu gan eich rhestr ddarllen, neu faint o ddarllen a ddisgwylir ar gyfer eich gradd neu ymchwil? Mae'r tiwtorial hwn yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor ar 'ddarllen' testunau academaidd yn effeithiol ac yn effeithlon i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Erbyn diwedd yr adnodd hwn byddwch yn:
| Tutorial |
| Meddwl ac ysgrifennu myfyriol Canllaw i'ch helpu i ddatblygu eich arfer myfyriol. Yn y tiwtorial hwn rydym am eich helpu i:
| |
| Creu map meddwl Sleid PowerPoint y gellir ei addasu sy’n cynnwys enghraifft o sut gallwch greu map meddwl er mwyn helpu i chwilio am wybodaeth am bwnc. | Image |
| Nodiadau Effeithiol Strategaethau ar gyfer cymryd a gwneud nodiadau i gefnogi eich astudiaethau. | Tutorial |
| Deall eich tasg asesu Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
|
Ysgrifennu
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Ymchwilio a darllen yn feirniadol Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud gwaith ymchwil a darllen yn gritigol wrth baratoi ar gyfer ysgrifennu traethawd. Mae'n tywys myfyrwyr drwy'r broses o nodi'r hyn y dylent ymchwilio iddo, sut a ble y dylid ymchwilio iddo, a sut i ddarllen yn feirniadol a gwerthuso ansawdd y wybodaeth y byddent yn dod o hyd iddi. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Ysgrifennu Adolygiad Llenyddiaeth Mae'r tiwtorial hwn wedi'i baratoi i gynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw adolygiad llenyddiaeth a sut i fynd ati i ysgrifennu un. Bydd y tiwtorial hwn yn:
| |
| Gweithgaredd crynhoi Cewch ymarfer eich sgiliau crynhoi gyda'r gweithgaredd hwn. | Activity |
| Adolygu ac golygu Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o olygu ac adolygu eu traethawd. Mae'n cynnwys gweithgareddau sy'n eu galluogi i ymarfer adolygu cynnwys a strwythur, yn ogystal â sillafu, atalnodi a gramadeg. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Ysgrifennu’n feirniadol a strwythuro eich traethawd Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn rhoi arweiniad cynhwysfawr ar ysgrifennu drafft cyntaf traethawd ac ysgrifennu mewn arddull academaidd. Mae'n archwilio sut i ysgrifennu'n feirniadol a defnyddio tystiolaeth yn briodol. Mae hefyd yn ystyried strwythur traethawd, strwythur paragraffau, a sut i ysgrifennu brawddegau effeithiol. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Datblygu eich syniadau Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut y gall myfyrwyr ddefnyddio eu gwaith ymchwil i ddatblygu eu syniadau a'u dadleuon eu hunain. Mae'n eu tywys drwy'r broses o gasglu eu syniadau, creu dadl gref, a threfnu a strwythuro eu syniadau i greu amlinelliad o draethawd. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Dehongli’r cwestiwn Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o ddehongli teitl eu traethawd. Mae'n ystyried berfau cyfeiriol a geiriau allweddol, yn ogystal ag archwilio'r meini prawf asesu. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Deall traethodau Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn edrych ar beth yw traethodau, pam rydym yn eu hysgrifennu, a'r hyn sydd angen ei wneud wrth ysgrifennu traethawd. . Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r Canllaw goroesi traethodau, sef cyfres o diwtorialau a ysgrifennir ar gyfer myfyrwyr israddedig. | |
| Cwis deall cyfosod (gwyddorau cymdeithasol) Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir. | Quiz |
| Cwis deall cyfosod (Biowyddorau) Cwis a gweithgaredd i helpu myfyrwyr i ddeall beth mae cyfosod yn ei olygu. Mae hefyd yn dangos sut y gall myfyriwr lunio paragraffau sy’n cyfosod ffynonellau wrth wneud eich dadleuon a’ch safbwyntiau eich hun yn glir. | |
| Gweithgaredd Cyfosod Yn y gweithgaredd hwn, gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu paragraff drwy ddefnyddio gwybodaeth, tystiolaeth, neu safbwyntiau o ddetholiad o wahanol ffynonellau. Y nod yw helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfosod gwybodaeth er mwyn ategu eu dadleuon. | |
| Ymarfer prawfddarllen Mae’r gweithgaredd hwn yn dangos pwysigrwydd prawfddarllen gwaith cyn ei gyflwyno. Rhoddir paragraff o destun i fyfyrwyr a gofynnir iddynt nodi chwe chamgymeriad sy’n cynnwys gwallau sillafu, gwallau teipio a homoffonau. | Activity |
| Arddull academaidd cwis Cwis deg cwestiwn sy'n asesu dealltwriaeth o'r gwahanol agweddau ar sut i ysgrifennu’n dda yn academaidd. | Quiz |
| Datblygu dadleuon beirniadol Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
| Tutorial |
| Arddull ysgrifennu academaidd Tiwtorial Xerte yw hwn sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr lefel ôl-raddedig a addysgir. Mae'n cynnwys:
|
Cyflwyno
| Resource title and description | Type |
|---|---|
| Rhoi eich cyflwyniad Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ymdopi â gorbryder a rhoi cyflwyniad yn hyderus. Mae hefyd yn trafod technegau i siarad yn effeithiol, ynghyd ag iaith y corff.. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau. | |
| Cynllunio ac ysgrifennu eich cyflwyniad Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried sut i ddiffinio pwrpas a negeseuon allweddol cyflwyniad. Mae hefyd yn ystyried sut i strwythuro, ysgrifennu a golygu cynnwys cyflwyniad. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau. | |
| Dylunio eich cyflwyniadau Bydd y tiwtorial rhyngweithiol hwn yn helpu i nodi adnoddau priodol ar gyfer datblygu cymhorthion gweledol, yn ogystal â dangos sut i ddefnyddio testun, delweddau, siartiau ac elfennau amlgyfrwng eraill yn effeithiol. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau. | Tutorial |
| Deall cyflwyniadau Mae'r tiwtorial rhyngweithiol hwn yn ystyried gwahanol fathau o gyflwyniad a'u dibenion. Mae hefyd yn amlinellu'r broses o ysgrifennu a rhoi cyflwyniad. Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r gyfres o diwtorialau Goroesi eich Cyflwyniadau, sy'n tywys myfyrwyr drwy'r broses gyfan o greu a rhoi cyflwyniadau. |

