
Rydym wedi creu set newydd o diwtorialau yn ddiweddar i helpu defnyddwyr i ddechrau defnyddio EndNote Ar-lein. Mae’r tiwtorialau’n berffaith i ddefnyddwyr sydd eisiau dod i ddeall hanfodion EndNote Ar-Lein. Mae’r testunau dan sylw yn cynnwys cofrestru am gyfrif EndNote Ar-lein, gosod yr ategion angenrheidiol, trefnu cyfeiriadau a dyfynnu yn Microsoft Word.
Hefyd, rydym wedi diweddaru ein tiwtorialau ynghylch EndNote ar y bwrdd gwaith i gyd-fynd â’r fersiwn ddiweddaraf o’r feddalwedd (EndNote X9).
Mae’r holl diwtorialau hyn ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Gall myfyrwyr gyrchu’r tiwtorialau drwy’r tudalennau Meddalwedd rheoli cyfeiriadau (EndNote) ar y fewnrwyd.