Gwybodaeth am Xerte
Datblygwyd Pecynnau Cymorth Ar-lein Xerte ym Mhrifysgol Nottingham ac maent ar gael yn rhad ac am ddim i addysgwyr. Mae’n galluogi unrhyw un sydd â phorwr y we i ddatblygu deunyddiau dysgu rhyngweithiol.
Golygu ffeiliau zip Xerte
Rydym wedi darparu ffeil zip i’w defnyddio ym mhob tiwtorial Xerte sydd ar gael o dan y Drwydded Comin Creu yng Nghronfa Adnoddau Llythrennedd Gwybodaeth.
Os oes Pecynnau Cymorth Ar-lein Xerte (XOT) wedi’u gosod yn eich sefydliad, gallwch fewnforio’r ffeil hon i’ch fersiwn o Xerte er mwyn ei golygu drwy ddilyn y cyfarwyddiadau canlynol:
1. Lawrlwythwch y ffeil zip a ddarparwyd a’i chadw rhywle ar eich cyfrifiadur.
2. Mewngofnodwch i’ch pecyn Xerte (XOT)
3. Cliciwch ar eich ffolder Man Gwaith cyn clicio’r botwm Priodweddau.
4. Yn y ddewislen ar y chwith, cliciwch ar y tab Mewnforio. Wedyn, cliciwch y botwm Dewis Ffeil. Ewch i’r man ar y cyfrifiadur lle gwnaethoch gadw’r ffeil (zip) yn gynharach a chlicio arni ddwywaith.
5. Teipiwch enw ar gyfer y prosiect yr ydych wedi’i fewnforio a chliciwch ar Llwytho i fyny.
6. Bydd y prosiect nawr i’w weld yn eich Man Gwaith eich hun (gyda’r enw yr ydych newydd ei roi iddo) ac mae gennych rwydd hynt i’w olygu.