
Mae ein cyfres o sesiynau tiwtorial EndNote wedi’i diweddaru’n ddiweddar yn unol â fersiwn diweddaraf y feddalwedd (EndNote X8). Mae’r tiwtorialau hyn yn ddelfrydol ar gyfer defnyddwyr sy’n newydd i EndNote, am eu bod yn ymdrin â hanfodion megis gosod a sefydlu llyfrgell a swyddogaeth hanfodol megis mewngludo cyfeiriadau a dyfynnu ar Word.
Mae’r sesiynau tiwtorial hyn ar gael yn Saesneg yn ogystal â Chymraeg.
Gall myfyrwyr gyrchu’r sesiynau tiwtorial drwy gyfrwng y tudalennau Meddalwedd rheoli cyfeiriadau (EndNote) ar y fewnrwyd.