News

Gwerthuso’r Dystiolaeth – canllaw ar gyfer myfyrwyr Bagloriaeth Cymru

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd wedi datblygu casgliad newydd o diwtorialau o’r enw ‘Gwerthuso’r Dystiolaeth’. Mae’r tiwtorialau’n canolbwyntio ar ddod o hyd i wybodaeth o safon drwy ddefnyddio adnoddau rhad ac am ddim a thrwy ddarllen yn feirniadol, ac maent wedi eu dylunio i helpu myfyrwyr sy’n cwblhau Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Bagloriaeth Uwch Cymru. Lansiwyd y tiwtorialau ar ffurf cynllun peilot, ac rydym wrthi’n casglu adborth ar hyn o bryd. Pan ddaw’r cyfnod peilot i ben, byddwn yn cwblhau’r tiwtorialau ac yn eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae ‘Gwerthuso’r Dystiolaeth’ ar gael dan drwydded Comin Creu, ac mae croeso i chi ei addasu a’i ailddefnyddio yn ôl yr angen.